President's History 1 of 2

1. Cymraeg/ Welsh version


RHAGAIR

Wedi gorffen sgrifennu’r atgofion hyn, fe ofynnwyd imi beth oedd y pwynt. Wel does dim llawer o bwynt o gwbl, i fod yn onest. I’m cof i, fe chwaraeais dros y Clwb efo dros 150 o chwaraewyr. O’r rheini, efallai bod treian yn ddi-Gymraeg, ac felly’n methu deall yr hyn sy’ wedi’i ‘sgrifennu. Mae sawl un arall yn chwaraewyr na fu efo ni am amser hir ac sy’wedi colli cysylltiad yn llwyr efo’r Clwb. Mae hyn yn gadael cnewyllyn bach o chwaraewyr sydd, efallai, a mymryn bach o ddiddordeb yn rhai o atgofion yr ugain mlynedd diwethaf.
Ond nid dyna’r pwynt. Rwy’n cofio siarad â fy nhad unwaith, a gofyn yr un cwestiwn, sef pam ysgrifennu llyfr sydd yn debyg o fod â diddordeb i leiafrif o bobl. Yr ateb syml a roddodd, oedd bod y pwnc o ddiddordeb iddo fe, ac roedd hynny’n ddigon. A dyna fel oedd yr atgofion hyn imi. Am ryw reswm trist, roedd atgofion di-ri wedi aros yn y cof oddi ar imi ymuno â’r Clwb, a ro’n i’n teimlo’i bod hi’n hen bryd dod â’r atgofion at ei gilydd fel hyn. Roedd y Clwb yn, ac yn dal yn, meddwl lot fawr imi, a bûm yn ffodus i wneud nifer o ffrindiau da dros y blynyddoedd. Felly, er nad oes pwynt i’r hyn sy’n dilyn fel y cyfryw, rwy’n gobeithio y bydd hi efallai yn dod ag un neu ddau atgof melys, am ryw gymeriad, neu ryw achlysur oedd wedi mynd o’r cof. Pryn iawn yw’r achlysuron inni fel Clwb ddod at ein gilydd i drafod hen ddyddiau, a gobeithio felly fod hyn yn ffordd arall o ddod â’r atgofion nôl.
Gobeithio nad wyf wedi creu embaras i neb yn ystod hyn. Bûm yn ofalus iawn i gadw rhai pethau dan glo, yn enwedig wrth gofio’r hen ddywediad, “what goes on tour, stays on tour”, ond roedd rhaid ail-adrodd rhai o’r storïau da. Hefyd, mae yna sawl stori sy’n anodd iawn eu disgrifio, yn enwedig trwy’r Gymraeg. Er enghraifft mae hanes Stumpy yn sgwâr Leuven yn glir i’r cof, ond yn anodd rhoi mewn geiriau. Os oeddech yno, gobeithio bydd yr atgof yn dod yn ôl. Os nad oeddech yn ddigon ffodus i fod yno, defnyddiwch eich dychymyg.

1. Yn y Dechreuad…
Daeth Hydref 1983 yn ddigon o sioc i’r system. Wedi gorffen arholiadau lefel A, ac wedi penderfynu ail eistedd, a symud i fyw yn Colum Rd. gyda dau ffrind ysgol oedd yn aros yng Nghaerdydd, roedd pethau wedi newid yn fawr. Wedi setlo fewn i’r tŷ, y cwestiwn mawr oedd sut i dreulio’r amser hamdden ac i gadw’n ffit ar yr un pryd. Roedd y ddau arall yn y tŷ yn aelodau selog o dîm pêl-droed y Cymric, ac roedd yna demtasiwn mawr i ymuno â nhw yno. Byddai hynny wedi bod yn benderfyniad syml i fachgen deunaw mlwydd oed, oedd ddim yn siŵr sut dderbyn y byddai’n cael oddi wrth grŵp o ddynion nad oedd yn eu ‘adnabod. Yr adeg hynny, doedd dim CRICC ar gael, ac felly doedd gen i ddim cysylltiad ag unrhyw glwb. Roeddwn wedi clywed am Clwb Rygbi, ond doedd yna ddim cysylltiad na ffrind, hyd y gwyddwn i ar y pryd, oedd yn chwarae yno. Felly, pêl-droed efo’r Cymric fyddai’r dewis hawsaf imi.

Wedi ystyried hyn am ychydig, newidiais fy meddwl. Roeddwn wedi chwarae rygbi ers blynyddoedd, ac roedd hi wastad wedi dod a mwy o fwynhad a boddhad imi. Roedd ein blwyddyn olaf yn Llanhari wedi dod a llawer o lwyddiant, ac roedd y ffrindiau hynny wedi dod yn rhai clos. Fe wyddwn i’n iawn y byddwn yn difaru peidio â chwarae rygbi, heb reswm gwell nag oherwydd bod gen i ffrindiau oedd yn chwarae pêl droed.

Felly, un nos Lun ym Mis Hydref 1983, daliais fws i ysgol Glantaf gyda’r ddau arall, ond wrth iddi’n nhw fynd i ‘ystafelloedd newid y peldroedwyr, fe es i mewn i ystafelloedd newid y dynion.
Er mawr syndod, roedd yna wynebau cyfarwydd yno. Roedd Huw “Atlantic” wedi gadael Llanhari flwyddyn neu ddwy o ‘mlaen i ond o leiaf ro’n i’n ei nabod e, ac roedd e’n nabod fi. Yno hefyd roedd Huw Bristol, a oedd wedi bod yn athro imi yn Llanhari . Roedd gweld y ddau yma yn ddigon i wneud imi deimlo ‘chydig yn fwy cyfforddus, a ro’n i’n ymwybodol, ac yn ddiolchgar i’r ddau ohonynt am gadw llygad arna’i drwy’r misoedd cyntaf.
Yr ofn mwyaf oedd na fyddai neb yn siarad neu’n cynnwys fi yn ystod yr ymarfer. Fe ddylwn fod wedi gwybod yn well. Un o’r wynebau cyfarwydd oedd wyneb Dafydd Hywel, yr hyfforddwr ar y pryd. Roedd y croeso ganddo fel petai’n croesawu un o’i deulu. ‘Dw’i ddim yn meddwl y cafodd unrhyw unigolyn gymaint o effaith bositif ar y clwb nes i Neil Cole gyrraedd dros ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Yn ogystal â DH, cefais groeso gwresog gan Butchie, capten y Clwb ar y pryd, un arall y byddwn yn parchu’n fwyfwy dros y blynyddoedd am ei ymrwymiad i’r Clwb. Yr unig aelod arall imi gofio ar y noson cynta’ hynny oedd Charlie, a gafodd ei gyflwyno gan DH fel Charles, ac y bues am fisoedd yn cymryd mai dyna oedd ei enw cyntaf.
Ac felly ‘roedd hi. Y noson cynta’ o ymarfer wedi’i gyflawni, a rhai ffrindiau newydd wedi datblygi, a minnau wedi derbyn y ffugenw ‘young pup’. Yn anffodus, fi oedd young pup y clwb am sawl tymor i ddod. Wyddwn i ddim y noson honno ‘mod i wedi dechrau ar berthynas efo’r Clwb y byddai’n ymestyn fewn i’r ganrif nesa.

2. “We can be heroes…”
Trwy gydol y pymtheg tymor nesa, bu rhai cymeriadau yn cyfrannu ac yn amlygu ei hunain ym mhob ffordd. Roedd yna rai oedd yno bob ddydd Sadwrn, roedd rhai fyddai yno bob ddydd Llun a Sadwrn, ac wrth gwrs roedd yna rai oedd yn fwy bodlon nac eraill i gyfrannu oddi ar y maes. Roedd cyfraniad y cymeriadau hyn yn holl bwysig i barhad y clwb. I raddau, gellir dweud yr un peth am y rhai hynny a drodd allan unwaith yn unig i helpu mas, ond wrth edrych nôl, mae 'na rai unigolion oedd yn sefyll allan o un tymor i’r nesa’.
Erbyn hyn, mae bwrdd capteiniaid ar wal clwb y Cameo. ‘Rydw i, fel y gweddill sydd â’i enwau ar y bwrdd, yn falch iawn o hynny. Mae rhedeg y Clwb fel capten wedi datblygu yn waith caled sy’n cymryd mwy a mwy o amser i drefnu â phob tymor. Mae’r capteiniaid presennol yn para am ddau dymor ar y mwya’, sy’n ddigon teg wrth gofio faint o waith mae hyn yn golygu. Fe fues i’n lwcus tra’n gapten bod Butchie yn hyfforddwr am ddau dymor, ac felly roedd gen i help wrth law - un oedd yn deall yr hyn sy’ raid ei gyfrannu fel capten. Roedd trydydd tymor imi felly yn ddigon syml. Wrth edrych ar fwrdd y capteiniaid felly, mae’r llygaid yn cael ei dynnu tuag at enw Wyn Lewis, a fu’n gapten am bedwar tymor nôl ar ddiwedd y saithdegau.
Pan ymunais i a’r clwb, roedd gyrfa Wyn i’w weld yn agosáu at ei ddiwedd, ond er hyn, roedd e dal wrthi ryw bum tymor yn hwyrach. Roedd dewis y tîm yr adeg hon yn ddigon hawdd - roedd Frankie, Brian a Wyn ar gael bob ddydd Sadwrn ac felly ei enwau nhw oedd yn mynd ar bapur bob wythnos. I’r rhai oedd yn chwarae ar y pryd, roedd Frankie, Brian, Wyn mor gyffredin â Marks and Spencer neu Morecambe and Wise. Roedd y tri yn ffrindie da, yn chwaraewyr da, ond yn fwy na dim, yn uned dda efo’i gilydd yn y rheng flaen. Yn anaml iawn fydden ni’n colli tir yn y pac, ac wrth ystyried cyn lleied o bwysau oedd yn dod o’r tu ôl, mae’n arwydd o safon y tri ohonynt.
Roedd y tri yn wahanol yn ei ffyrdd bach ei hunain. Roedd Frank yn chwarae a gwên ar ei wyneb drwy’r amser. Roedd ei bresenoldeb e yn y clwb ar y pryd yn esiampl fawr i bawb arall, gan ei fod yn byw yng Nghrughywel, ond roedd e’n ymarfer yn reit gyson, ac yn chwarae bob wythnos.
Roedd Brian yn gwbl wahanol. Anaml iawn gwelwyd gwen ar ei wyneb yn ystod gêm. Roedd e’n chwarae er mwyn ennill, a doedd e ddim am weld unrhyw beth yn rhwystro hyn. Ar ôl cael ei anfon o’r cae tra’n chwarae yn erbyn Baglan, am gwyno a gweiddi ar y dyfarnwr, rwy’n ei gofio’n cadw ‘mlaen o’r ystlys yn gweiddi’n ddi-baid. Roedd ganddo safonau uchel fel chwaraewr, a gwau unrhyw un, boed yn chwaraewr neu’n ddyfarnwr oedd yn methu cadw lan a’r safonau hynny.
Wedi imi gael fy newis i’r tîm cyntaf, ro’n ni’n gwybod bod 'na rai oedd yn tybio mod yn rhy ifanc i fod yn chwarae drostynt, a galla’i ddychmygu mai dyna oedd barn Brian ar y pryd. Rwy’n cofio codi o un sgrym lle ro’n ni dan bwysau, a Brian yn troi ataf yn gwaeddi “Do you know which way you’re supposed to be pushing”. Dyna fel oedd e, yn gystadleuol, ac yn benderfynol o ennill ar bob achlysur.
Ond roedd Wyn yn wahanol eto. Roedd yn chwaraewr arbennig. Doedd dim dwywaith am hynny ac fe ddysgais lot oddi wrtho. Oherwydd cryfder traddodiadol y clwb yn y rheng ôl, daeth fy nghyfle cyntaf yn yr ail reng, tu ôl i Wyn. Eto, mae’n hawdd dychmygu ei feddwl e wrth weld bachgen deunaw oed, yn pwyso rhyw 11 stôn y tu ôl iddo, tra bod Frankie yn mwynhau techneg, pwysau a phŵer gormesol Dafydd Idris y tu ôl iddo. Ond roedd Wyn yn ddigon amyneddgar, a byddai’n gyson yn trafod gêm efo fi yn awgrymu be ddylwn a beth ddylwn i ddim ei wneud.
Fel chwaraewr, roedd Wyn yn dod o ryw oes wahanol. Roedd y gêm wedi dechrau newid hyd nes bod chwaraewyr rheng blaen yn gorfod rhedeg a thrafod y bel. Roedd hyn yn ddigon naturiol i Frankie a Brian, ond roedd Wyn yn wahanol. Wrth ymarfer ar nos Lun, byddem yn cael ein danfon ar ryw daith redeg trwy Gabalfa, a byddai Wyn yn sefyll yng Nglantaf yn gofyn be oedd y pwynt o fynd i redeg - “If I ever get the ball, all I’m going to do is hit the deck and set up a ruck”, yn yr acen Orllewinol, a gwên ar ei wyneb. Beth oedd yn ddoniol oedd bod pawb yn gwybod petai e yn dal y bel mewn gem am unrhyw reswm, dyna yn union be fydde fe yn ei wneud. Roedd y gêm i Wyn yn cael ei ennill a’i cholli yn y rheng flaen.
Wedi’r gêm, byddai’r cyfle i ymlacio yn y bar a chael peint o “brown and bitter mix”. Wyddwn i ddim am unrhyw un arall oedd yn yfed hyn.
Bu Wyn yn gyfrifol am redeg y Clwb am sawl tymor, naill ai fel chwaraewr, capten neu ar y pwyllgor. Tra’n gadeirydd ar y Clwb, cyrhaeddwyd trydedd rownd Cwpan y Bragwyr, a thaith i chwarae lawr yn Nhregaron. Oherwydd safle rhai o gyn-chwaraewyr y clwb yn y BBC, cytunwyd i ffilmio’r gêm, a’i ail-ddangos ar y teledu y pnawn Sul wedyn. Fel rhan o’r darllediad hyn, cafodd Wyn ei gyfweld, fel cadeirydd y Clwb, cyn i’r gêm ddechrau. Gan ystyried Cymraeg ‘naturiol’ Wyn, mae’n bosib y dylid fod wedi dewis siaradwr arall. Fel canlyniad, yr ymateb syml i’r cwestiwn o beth oeddem yn disgwyl y prynhawn hwnnw, daeth y lein gofiadwy, “Wel, ry’n ni’n gwbod mae’n mynd i fod yn twff”.
Estynnodd ei gyfraniad i’r Clwb fel un o’r grŵp fu’n gyfrifol am gychwyn tîm criced y clwb. Roedd yna sawl gricedwr o safon uchel yn gysylltiedig yno ar y pryd, ac yn eu plith, mwy nag un wicedwr amlwg. Roedd Gareth Charles er enghraifft, yn cadw wiced fel chwaraewr proffesiynol - roedd yn amlwg iddo chwarae’n gyson yn y gorffennol. Ond ar brydiau, wrth gwrs, doedd Charlie ddim ar gael, ac yn ei absenoldeb, byddai’r menig yn cael eu rhoi ar ddwylo Wyn. Nawr, peidiwch â chamddeall, doedd Wyn ddim yn ffôl, ond roedd yna fôr o wahaniaeth rhyngddo fe a rhywun fel Charlie. Roedd Charlie’n dal y bêl yn daclus, ac yn cymryd y beils i ffwrdd pob nawr ac yn y man. Roedd Wyn yn wahanol. Roedd ganddo lygad da, ac roedd e yn dal y bel gan amla’, ond weithiau byddai’r daliad yn dod ar yr ail dro, neu wedi i’r bêl ddod oddi ar ei frest neu’i goesau. Yn hytrach na “whipio’r” beils ffwrdd, byddai Wyn yn fwy tebygol o ddinistrio’r tair wiced wrth geisio stympio rhywun, a fydden ni’n gwario pum munud arall yn ceisio ail adeiladu’r wiced ar gaeau gwarthus Llandaf.
I’r rhai bu’n chwarae gydag e ar yr adeg hynny, efallai mai’r atgof mwyaf amlwg yw yn syml sut roedd Wyn yn edrych ar gae criced. Roedd y rhan fwyaf o’r bechgyn yr adeg hynny yn chwarae’n gyson, ac felly yn gwisgo gwisg criced arbennig a drud. Byddai Wyn ar y llaw arall y sefyll ar y cae mewn jeans gwyn, efo flares mawr ar y gwaelod. Am ryw reswm, wrth ei fod yn gwisgo pads criced, byddai’r flares yn dod yn rhydd ac yn ysgwyd yn y gwynt neu wrth iddo redeg.
Trwy gydol y pump neu chwe thymor cynta’ y cefais i efo’r Clwb, roedd Wyn yn un o’r cymeriadau mwyaf amlwg, ac imi yn un o’r rhai pwysicaf. Fe ddysgais gymaint oddi wrtho, boed hynny yn bethau yn gysylltiedig â rygbi neu’n bethau’n gysylltiedig â’r ffyddlondeb sy’n angenrheidiol i fod yn aelod o glwb fel hyn.

Erbyn imi orffen chwarae ym 1996, roeddwn o bell ffordd yn un o’r rhai a’r cysylltiad hiraf efo’r clwb. Roedd un neu ddau o chwaraewyr wedi bod wrthi gyhyd, fel Paul Thomas ac Eryl Jones, ond roedd y ddau yna wedi cael sbel oddi wrth y clwb am ryw reswm neu'i gilydd. Ond roedd un person wedi bod yn gysylltiedig â’r clwb cyn imi ymuno a oedd dal i fod yn gwylio’r diwrnod hwnnw pan orffennais i chwarae, sef Steve Lloyd. Mae’n cliché i raddau, ond mae’n wir bod angen rhywun fel Steve ar bob clwb.
Doeddwn i ddim yn gwerthfawrogi ei gyfraniad yn y dyddiau cynnar. Y tro cyntaf imi gwrdd â Steve oedd pan drefnodd gwis chwaraeon yn y gyfnewidfa lo, ein clwb ni ar y pryd. Yr unig atgof a ddaeth o’r noson honno oedd bod Steve yn gwybod unrhyw beth a phopeth oedd yn gysylltiedig â chwaraeon. Daeth hwn yn fyw amlwg blwyddyn neu ddwy yn ddiweddarach pan gynrychiolodd Steve y Clwb yn ddigon llwyddiannus ar gwis chwaraeon ar S4C.
Ond dros y blynyddoedd, daeth sgiliau trefnu Steve i’r amlwg o un tymor i’r nesa’. Fe dderbyniodd gyfrifoldeb o weithio ar y pwyllgor, a daliodd ‘mlaen trwy gyfnod newidiol ar ddechrau’r nawdegau pan gollodd y rhan fwyaf o’i gyfoeswyr o’r pwyllgor. Pan oedd angen hen ben i drafod problemau, roedd Steve ar gael. Rwy’n cofio Steve hyd yn oed ym 1995 yn teithio lan i Bwllheli ar ei ben ei hun ar fore Sadwrn cyn Nadolig i gadw golwg a chysylltiad â’r clwb, ac wedyn yn cael ei berswadio i aros y nos yn Aberystwyth gyda gweddill y chwaraewyr.
Ond mae’n siŵr mai’r brif atgof sy’ gan y rhan fwyaf ohonom oedd ei lwyddiant mewn trefnu’r daith flynyddol. Roedd y rhan fwyaf ohono’ ni’n ddigon hapus i fynd ar daith ar ddiwedd tymor, ond petai hynny yn golygu gorfod trefnu’r daith hefyd, byddai’r rhan fwyaf wedi cymryd cam yn ôl. Roedd bod yn gyfrifol am grŵp o ugain a mwy o ddynion ar daith yn rhywbeth na fyddwn yn dymuno ar y gelyn mwyaf. Sgwn i sawl gwaith y bu’n rhaid i Steve egluro ac ymddiheuro i bobl ar y fferi am yr ymddygiad neu’r iaith, neu sawl gwaith bu’n trafod y camymddygiad efo’r heddlu neu efo perchnogion y gwesty.
Yn fwy na hynny, sawl gwaith, sgwn i, bu’n rhaid iddo sefyll ar ei draed mewn bar yn Ffrainc yn mynnu bod pawb yn mynd nôl i’r bws oherwydd bod y gyrrwr yn barod i fynd. A beth oedd yr ymateb? Byddai rhai yn mynd yn syth nôl i’r bws, a’r gweddill yn benderfynol o orffen eu diodydd. Wedyn byddai un o’r rhai hynny yn penderfynu mynd i’r siop cyn mynd nôl i’r bws. Erbyn i’r rhai oedd yn gorffen ei diodydd gyrraedd y bws, roedd y rhai aeth nôl i’r bws cyntaf wedi dechrau gêm o bêl droed yn y maes parcio, a byddai’r amser yn mynd heibio ‘to. Ar ôl blwyddyn neu ddwy o brofiad, mae’n siwr fod Steve wedi dysgu bod angen o leia’ awr o rybudd cyn y byddai’n siwr fod pawb ar y bws.
Rhinwedd mwya’ Steve oedd ei amynedd. Rhaid ei fod yn paratoi yn feddyliol am wythnosau cyn teithio i wneud yn siwr y byddai’n barod am y sarhad cyfeillgar y byddai’n derbyn dros y tri neu bedwar diwrnod. Unwaith, a dim ond unwaith, ydw i’n cofio gweld Steve yn dechrau colli amynedd ag unrhyw un ar daith, sef y noson gofiadwy honno yn y bar yn Limoges. Roedd Martin Grundy ar ei orau ac yn arwain y ffordd gyda’r gwin a’r Pastis, a thra bod rhywun yn canmol Steve am ei waith trefnu ar y daith, dyma Martin yn dechrau canu “Lloydy Lloydy,Lloydy Lloydy, does neb yn waith na Lloydy; Lloydy Lloydy, Lloydy Lloydy does neb yn waith na Lloydy”(i gerddoriaeth Milgi-Milgi, dwi’n meddwl). Yn anffodus, gan i bawb syrthio mewn ‘hysterics’ penderfynodd Martin ail-ganu’r gan, ac yna am drydydd tro, erbyn hyn a phawb arall wedi ymuno, ac yn dal i fod mewn hysterics.
Roedd y sefyllfa yn dal i fod yn ddoniol pan aeth Martin ati am y pumed tro, ac efallai am y degfed hefyd, ond wrth iddo gadw ‘mlaen a ‘mlaen, ro’n ni’n gweld o wyneb Steve ei fod wedi cael digon. “OK Martin that’s enough” oedd y cwbl y dwedodd e ond roedd hynny’n ddigon i’r gweddill ohono’ ni wybod nad oedd Steve yn hapus â’r sefyllfa. Yn anffodus, roedd Martin yn fwy na hapus hyd nes iddo gael ei gario mas o’r bar ac, yn ôl pob sôn, cwympo i gysgu ar ben car. I’r rhan fwyaf ohonom ni, byddai hynny wedi bod yn hen ddigon inni, ond i fod yn deg, roedd Martin ar daith, ac yn benderfynol o beidio gwastraffu’r un funud, ac o fewn ychydig, agorodd y drws, a daeth llais Grundy eto “Lloydy Lloydy, Lloydy Lloydy...”

Bûm yn ddigon ffodus i chwarae gyda sawl chwaraewr o safon uchel yn ystod y pymtheg tymor. Bu rhai o’r rhain efo ni am amser hir, a rhai eraill am dymor neu lai wrth iddynt aros i symud mlaen i glwb arall. Roedden ni wrth gwrs yn ddiolchgar i gael unrhyw chwaraewr yn gysylltiedig â’r clwb.
Wedyn, wrth gwrs, roedd lot mawr o chwaraewyr da iawn oedd efo ni am sbel ac oedd yn gwbl ffyddlon i’r clwb. Yn wir dyma oedd cnewyllyn y clwb ar y cae - dim llawer o sêr, ond sawl chwaraewr da oedd yn fodlon bod yno bob Sadwrn. Dim ond nifer fach iawn yn fy amser i efo’r clwb, gallai fod wedi cael eu cynnwys yn y ddau grŵp uchod - chwaraewyr oedd o safon uchel iawn a oedd yn gwbl ffyddlon i’r clwb a oedd yn fodlon bod wrthi bob pnawn Sadwrn os yn iach. O fewn y grŵp bach hwn, roedd un chwaraewr yn sefyll mas trwy gydol fy hanes a’r clwb.
Nol yng nghanol y Nawdegau, aeth Alun Coch ati i drefnu cystadleuaeth Ffantasi Rygbi’r clwb. Rhoddwyd “gwerth” ar bob chwaraewr a rhaid oedd dewis tîm gyda swm o arian yn yr un modd ag y gwelir yn y papurau dyddiol. Daeth rhai o’r chwaraewyr gyda ffugenwau (Fingers, Dai Sebon etc), ac i John Hayes, rhoddwyd yr enw “brenin”. Dyna oedd barn a theimlad ei gydchwaraewyr tuag ato.
Roeddwn i’n gapten pan ymunodd John a’r Clwb. Fel canlyniad, chefais i fawr o gyfle i gadw golwg arno wrth iddo ddechrau’i yrfa yn yr ail dîm, gan nad oedd diddordeb gen i ymhellach na’r tîm cynta’. Y drafodaeth cynta’ dwi’n ei gofio oedd efo Butchie, diwrnod neu ddwy wedi i John dderbyn ei anaf cynta’ lan ym Mryncethin. Roedd Butchie wedi gweld John yn chwarae, ac roedd yn amlwg wrth wrando arno ei fod e’n sylweddoli bod anaf John yn mynd i fod yn golled mawr inni fel clwb.
Bu John nôl efo ni’r tymor wedyn, a chyn pen dim, roedd hi’n amlwg ei fod yn chwaraewr dawnus tu hwnt. Ar y pryd, roedd yn flaenasgellwr, ac roedd ganddo’r cyflymdra, weledigaeth, dewrder a’r hyder i sefyll mas yn rheolaidd. Yn ddiweddarach, symudodd i fod yn wythwr, a chafodd gyfle i arddangos ei sgiliau trafod hefyd. Petai wedi dewis, mae’n siwr y gallai fod wedi symud i chwarae a chlwb o safon uwch, ond yn ffodus inni, roedd John yn hapus. Roedd gwybod ei fod e ar gael ar bnawn Sadwrn yn hwb i weddill y clwb, yn yr un modd ac oedd y dyddiau pryn hynny pan nad oedd John ar gael yn cael effaith negyddol arnom.
Pan oeddwn yn dal i fod yn gapten, daeth John i gael gair efo fi ar gaeau Llandaf rhyw nos Lun tra’n bo ni wrthi’n ymarfer cyn dechrau tymor. Ro’n ni, fel arfer, wedi bod yn ceisio perswadio pawb i ymarfer yn gyson, trwy ddweud na fyddai’r rhai nad oedd yn ymarfer yn chwarae i’r tîm cyntaf y Sadwrn canlynol. Daeth John ataf ac ymddiheuro fod ganddo newyddion drwg. Mewn eiliad, aeth popeth trwy’r meddwl - roedd yn mynd i adael Caerdydd, roedd e’n bwriadu ymuno â chlwb arall, roedd am orffen chwarae...? Na, dim byd o’r fath. Roedd am egluro’i fod yn dechrau dosbarth nos ym mis Medi fyddai’n ei atal rhag ymarfer bob nos Lun, ond er hyn, doedd ddim am beidio â chwarae rygbi, felly fyddai’n ddigon bodlon chware i’r ail dîm bob wythnos. Gallwch ddychmygu’r rhyddhad imi, a’r penderfyniad sydyn bod y rheol o “no train no play” yn un twp beth bynnag a “rules are made to be broken..” ac yn y blaen. Fe chwaraeodd John yn gyson i’r tîm cyntaf y tymor hwnnw fel arfer.
Wrth i’r tymhorau fynd heibio, daeth John yn fwy ac yn fwy amlwg oddi ar y cae hefyd, a chwblhau ei “ddyletswydd” o dymor neu ddau ar y pwyllgor. Ond ei chwarae bydd yn aros yn y cof. Galla’i ond dychmygu’r effaith byddai torri coes yn cael ar ddyn. Ond mae gwneud hyn ddwywaith, a chadw mlaen i chwarae wedi hyn yn rhywbeth na alla’i ddechrau amgyffred. Roeddwn yno’r tro cyntaf, lawr yn Morganstown, pan gymrodd John y bel o gic cosb ar bwys ei lein nhw a rhuthro tuag at y gwrthwynebwyr. Gododd e ddim, ac wedi chydig o sylw gan un o’r doctoriaid, fe gerddodd i ffwrdd gyda help un o’r cefnogwyr.
Tymor neu ddwy yn ddiweddarach, sefyllfa debyg, gyda John yn derbyn y bêl ac yn rhuthro tuag at chwaraewyr Blaenafon, ac eto, clywyd crac, ac arhosodd John ar lawr. Do’n ni ddim yno’r tro hyn. Ro’n ni yn CRI yn barod, ac roedd hi’n od clywed y doctor yn dweud wrtha i, a gwên ar ei wyneb, “ you’ll never believe this, but there’s another of your boys just arrived upstairs with a broken leg”. Na, doedd hynny ddim yn bosib. Mae’n siwr taw chwaraewr o ryw glwb arall oedd yno, yn gwisgo crys coch tebyg. Ond na, dyna lle’r oedd John druan, yn paratoi am stint arall mewn plaster. Byddai unrhyw ddyn cyffredin erbyn hyn, yn chwarae rygbi ar y lefel hyn, yn penderfynu rhoi’r ffidil yn y to, ond nid John. Mae’n deyrnged iddo fe ei fod wedi llwyddo dod nôl unwaith yn rhagor, ac wedi llwyddo chwarae’r gêm yn yr un ffordd roedd wedi gwneud am dymhorau cynt.

Yn debyg iawn i Steve Lloyd, mae Darran Phillips wedi bod yn wyneb cyson dros y blynyddoedd diweddar yma, heb iddo fod yn aelod cyson o’r tîm cyntaf. Byddai neb cyffredin yn teithio nôl o Lundain yn gyson fel Darran ar fore Sadwrn er mwyn chwarae gem, ac mae e’n dal i wneud hyn er gwaetha’r ffaith fod gemau wedi cael ei gohirio’n gyson unwaith iddo gyrraedd nôl. Yn fwy na hyn, tymor neu ddwy yn ôl, roedd e wedi bod yn y Dwyrain Canol yn gweithio, a thra’n aros i ddal yr awyren adre, daith neges bod yr awyren yn orlawn, a chafodd gynnig arian i aros yn y maes awyr am rai oriau nes bod yr awyren nesa’n teithio. Eglurodd Darran ei fod wedi trefnu rhywbeth adre ac felly roedd yn rhaid iddo fynd ar yr awyren cyntaf. A beth oedd wedi’i drefnu? Taith y clwb.
Dyna sut mae Darran wedi bod erioed. Un sy’n chwilio am gêm bod Ddydd Sadwrn. Mae’n ffilosoffi da. “You’re a long time retired”, medde nhw. Yr atgof cyntaf sy’ gen i ohono dra gyda’r Clwb, oedd ar fore gêm ryngwladol nôl ar ddiwedd yr wythdegau. Roedd hi wedi bod yn bwrw eira’n drwm ar y nos Wener ac felly, pan gyrhaeddais gae Cardiff HSOB, fel un oedd yn casáu gemau ar fore Sadwrn beth bynnag, roeddwn i wedi penderfynu na fyddai’n bosib chwarae. Roedden ni gyd yn y maes parcio yno yn siarad ac yn trafod lle i wylio’r gêm y prynhawn hwnnw, pan ddaeth Darran draw yn dweud fod y cae yn iawn i’w chwarae arni. Edrychodd pawb yn syn arno, a dywedodd y dyfarnwr ei fod yn hapus i’r ddau gapten dewis chwarae neu beidio. Roedd Darran fel ci sy’ am fynd am dro, yn mynnu mod i’n cerdded i ganol cae oedd yn gwbl wyn gyda’r eira, ac o’r diwedd fe gytunais i er mwyn ei gadw’n dawel. Unwaith i ni fynd i ganol y cae, roedd hi’n amlwg fod y cae yn berffaith. Yn lle rhewi, roedd yr eira’n hanner meddalu, ac roedd y cae fel carped. Cafwyd gem agored, mwynhaol na fyddai wedi digwydd o gwbl heblaw am ddyfalbarhad Darran.
Mae Darran wedi diodde’ ddigon dan hiwmor sawl un o aelodau’r clwb, ond gellir bod yn siwr ei fod e’n derbyn popeth a gwên ar ei wyneb. Fel chwaraewr, roedd e’n anffodus braidd ei fod yn asgellwr, lle roedden yn draddodiadol gryf. Fel arfer, felly roedd yn gynrychiolydd yr ail dîm. Fe gafodd gyfle i’r tîm cyntaf un pnawn Sadwrn mewn gem gynghrair yn Blackweir yn erbyn St. Josephs. Efallai ei fod yn symboleiddio lwc Darran iddo anafu’r diwrnod hwnnw, a chafodd fawr o gyfle eto i gadarnhau ei le yn y tîm cyntaf. Ond eto, dw’i ddim yn meddwl ei fod yn poeni rhyw lawer - chwarae oedd ei fwriad, a’r argraff oedd nad oedd yn poeni os oedd efo’r tîm cyntaf neu’r ail.
Yr atgof cliria sy gen i amdano, yw pan oedd wedi derbyn swydd i reportio ar gyfer y BBC ar gemau pêl droed. Roedden ni wedi bod yn chwarae yn erbyn Morganstown, ac yn eistedd yn eu clwb nhw yn gwylio’r teledu, pan daith llais Alan Wilkins, neu rywun tebyg, yn dweud:
“It’s been a bad day for Swansea City today. A six-one home defeat at the hands of Wigan. At the ground for us today is Darran Phillips”
Daith bloedd fawr o chwaraewyr y Clwb yn mynnu bod pawb yn dawel gan fod y gohebydd hwn yn aelod o’r Clwb. Wrth gofio fod Abertawe wedi colli o chwech i un ar eu cae ei hunain, agorodd Darran a’r llinell;
“This was a game that Swansea didn’t deserve to lose!”

Yn ffodus i Darran, fe benderfynodd ganolbwyntio ar faterion ariannol wedi hyn. Efallai ein bod ni fel Clwb wedi bod yn lwcus hefyd bod hyn wedi’i rhyddhâi i’n cynrychioli ar brynhawn Sadwrn yn lle.

3. “…Just for one day…”

Wrth gwrs, efo pob clwb mae 'na chwaraewyr sy’n ffyddlon am dymhorau maith, boed hynny efo’r tîm cynta neu’r ail. Ar y llaw arall, bu yna nifer fawr o chwaraewyr gyda ni am amseroedd byr. Roedd hynny hyd y gwyddwn i oherwydd natur y Clwb, a’r ffaith bod lawer o bobl yn dod i weithio i Gaerdydd am flwyddyn neu rai oedd yn y coleg cyn mynd nôl adre 'to.
Yn ogystal â hyn, bu yna nifer fawr o chwaraewyr bu’n gysylltiedig â ni am amser byrach fyth, a sawl un o’r rhai hynny wnaeth chwarae ‘mond gem neu ddwy yn ein plith. Mae llawer o’r rhain yn gymeriadau cofiadwy, a chafodd sawl un diwrnod i’w gofio tra’n gwisgo’r crys coch.
Nôl yng nghanol yr wythdegau, Y CIACS oedd tîm gorau Caerdydd o bell ffordd, ac roeddynt yn un o dimoedd cryfa’r wlad, yn ennill cwpan y Bragwyr o leia’ dwywaith. Oherwydd hyn, yn anaml iawn y byddem yn eu gwrthwynebu. Ond fe ddaeth un bore Sadwrn pan dderbyniwyd gem pŵl yn eu herbyn gan yr ysgrifennydd gemau, Gareth Harries o bosib, ac yn ôl y arfer, fe ddechreuodd sawl aelod tynnu mâs ac egluro nad oeddynt ar gael y Sadwrn hwnnw wedi’r cwbl. Wrth i’r penwythnos agosáu roedden ni’n fyr o ddau neu dri chwaraewr, ac fe drafodwyd p’un ai gohirio’r gêm neu beidio. Er mwyn sicrhau bod y gêm yn mynd yn ei flaen, cynigiodd Terry Bach ddod a dau o’i ffrindiau lawr i gael gem.
Nawr, mae’n siwr gen i na ofynnwyd i Terry pwy oedd yn dod lawr i chwarae. O gofio fod Terry wedi bod yn y coleg yng Nghyncoed, efallai y gallwn ni fod wedi disgwyl y byddai’u ffrindiau’n debyg o fod yn chwaraewyr o safon. Felly dyna lle’r oedd e’r bore Sadwrn hwnnw, gydag un blaenwr cryf, a’i glustiau’n amlwg wedi bod mewn sgrym neu ddwy yn y gorffennol, ac asgellwr tal a chyflym. Ar y pryd, fe’u cyflwynwyd i ni fel Marc a John, ac fe aethon ni mas i’r cae.
Mae’n syndod cymaint o wahaniaeth mae dau chwaraewr yn gallu gwneud i glwb. Roedd John yn chwarae yn yr ail reng er mwyn imi chwarae fel wythwr, ac roedd yn amlwg ei fod wedi arfer chwarae safon llawer yn uwch na hyn. Fe fyddai’n ennill y bel yn y leiniau, ac yn cyfrannu’i bwysau yn y sgrym, ac yna, fe oedd yn cyrraedd y bel yn gyntaf i sicrhau bod y meddiant yn cael ei gadw. Os oedden ni dan bwysau, byddai’r bel yn cael ei ‘sgubo draw i Marc, a byddai fe’n osgoi tacl neu ddwy cyn ennill tir a rhyddhâi’r pwysau, cyn chwilio am John a fyddai wrth ei ysgwydd, ac yn ddigon cryf i ddal mlaen i’r bel hyd nes i’r gweddill ohonom ni gyrraedd. Do, fe godo'n nhw safon y tîm y bore hwnnw, heb os.
Erbyn i’r gêm orffen, roedden ni wedi ennill o ryw 43 pwynt yn erbyn tua 15. Doedd chwaraewyr y Ciacs yn methu’n lân a chredu beth oedd wedi digwydd - yn wir, roedd 'na rai ohono’ ni oedd yn ei gweld hi’n anodd credu. Doedd fawr o syndod yn hwyrach y diwrnod hwnnw pan eglurodd Terry mai John Morgan, blaenasgellwr, ac yn ddiweddarach, capten tîm Penybont, a Marc Batten, asgellwr Casnewydd a (dwi’n meddwl) Cymru B oedd y ddau westai. Rhyw fis yn ddiweddarach, y Ciacs a ni oedd y ddau glwb yn y pŵl eto ar gyfer rhyw fore Sadwrn, a chafwyd cyfle i ailchwarae’r gêm gofiadwy honno, ond y tro hwn i ni, heb y ddau chwaraewr dosbarth cyntaf. Gorffennwyd y gêm gyda’r sgôr yn reit debyg i’r gêm cynta hwnnw, ond bydd neb yn synnu mai’r CIACS oedd yn fuddugol y tro hwn.
Mae 'na rai sy’ heb fod mor llwyddiannus â hyn. Wrth imi ddechrau ‘ngyrfa efo’r clwb, daith chwaraewr newydd i’n plith, doctor mae’n siwr. Doedd e ddim yn dod o Gaerdydd, yn wir doedd e ddim yn dod o Gymru, ond mi roedd 'na sôn ei fod wedi cynrychioli ei wlad yn y gorffennol. Roedd e’n digwydd dod o Kenya, ac felly’n ddigon syml, ymunodd ‘Dai Kenya’ efo ni. Roedd Dai yn asgellwr ac mae’n siwr petai wedi cael ‘chydig o bêl y byddai wedi datblygu’n chwaraewr da inni. Roedd wedi ymuno yn ystod mis Awst 1984 ac felly’r gobaith oedd y byddai’n chwarae rhywfaint cyn i’r Gaeaf ddod, a’r tywydd gwaethygu.
Yn anffodus i Dai, daith ei gyfle mawr mewn gem gwpan yn ystod ail wythnos mis Medi yn erbyn ail dîm Illtydians lan ar gaeau’r ganolfan hamdden yn Rumney. Er mawr siom inni gyd, bu’n glawio trwy’r dydd, ac erbyn i’r gêm gychwyn, roedd hi’n amlwg ei bod hi’n mynd i fod yn gêm i’r blaenwyr yn hytrach na’r cefnwyr. Wrth edrych nôl, efallai bod hyn wedi bod yn beth da. Y rheswm am hyn oedd nad oedd neb wedi gofyn i Dai os oedd ganddo bâr o fŵts rygbi. Dim ond wrth inni redeg i’r cae yr amlygodd hi fod Dai yn bwriadu chwarae ar noson wlyb, brwnt mewn pâr o trainers. Eto, er mawr syndod i neb, yr unig dro iddo gael ei ddwylo ar y bel, fe syrthiodd i’r llawr o fewn dim. Yn siomedig inni fel clwb, fe gollwyd y gêm o 8-6 ac roedd cyfle arall yn y Mallet wedi mynd.
Yn symud nôl at ddyddiau positif o’r math yma, mae yna atgof clir iawn i’r rhai hynny ohonom ni oedd yno, o’r diwrnod y chwaraeom yn erbyn Barry Plastics mewn gem i ddatgan pwy fyddai’n dyrchafu i adran gynta’r Cardiff and District. Yn ôl y cof, roedd y tîm yn weddol gryf, dan gapteiniaeth Meurig Phillips. Roedd hi wedi bod yn dymor llwyddiannus, ond roedd angen un fuddigoliaith arall i sicrhau mynd lan.
Oherwydd ei bod hi mor hwyr yn y tymor, chawsom ni ddim caniatâd chwarae yn Llandaf, ac felly rhaid oedd teithio lawr i’r caeau ar bwys Parc Ninian. Heblaw am hynny, roedd pethau o’n plaid gan ei bod hi’n heulog a sych. Wedi i ni gyrraedd y cae, fe arhoso’n ni’n amyneddgar am rywun i agor y ‘stafelloedd newid. Erbyn tri o’r gloch roedd hi’n amlwg fod gennym broblem. Aeth Meurig ati i geisio dod o hyd i unrhyw un oedd ag allwedd, ond roedd y dyfarnwr yn fryn ei amynedd, a buon ni’n bron a chytuno i symud y gêm i chwarae yn Sully ar gae croesawgar y Plastics. Diolch i’r drefn, trodd y gofalwr lan jyst mewn pryd, a llwyddwyd chwarae rhyw hanner awr yn hwyr.
Ond roedd un broblem arall wedi bod hefo ni. Yn ôl yr arfer, roedden ni wedi bod yn fryn o chwaraewyr rheng blaen. Roedd Dai Owen ar gael, ond roedd Dai yn ifanc ar y pryd. Roedd Tony ar gael i fachu, ond doedd neb arall ar gael. Gyda rhai gwrthwynebwyr, doedd hyn ddim yn ormod o broblem, a byddai rhywun fel Geraint Roberts (Skip) yn cael ei drafftio i’r tîm cyntaf. Ond yn erbyn Barry Plastics, doedd hyn ddim yn opsiwn oherwydd bod ei blaenwyr yn rhy gryf ac yn rhy ymosodol. Fe fydden nhw wedi bod yn ddigon hapus petai un o’n chwaraewyr wedi anafu, felly roedd yn rhaid ceisio dod o hyd i rywun er mwyn diogelwch ein chwaraewyr. Yn ogystal â hyn, roedden ni am ennill y gêm, a’r ffordd gorau o wneud hyn oedd trwy ddod o hyd i brop arall.
Nid am y tro cyntaf, na’r olaf, Andy Thomas, Stumpy, ddaeth i’n achub ni. Roedd e’n nabod rhywun fyddai’n fodlon helpu mas am un gêm. A dyna sut ddaeth Ioan inni am 80 munud. Roedd e wedi bod yn chwarae dros Oakdale, ac roedd e’n brop heb ei ail. Galla’ i ond dychmygu beth oedd yn mynd trwy’i feddwl wrth wylio’r shambles cyn y gêm, ond i fod yn deg, unwaith i’r gêm ddechrau, dim ond un peth oedd ar ei feddwl, sef ennill brwydr y blaenwyr. Yn sgil hynny, fe aeddfedodd Dai yn sydyn fel chwaraewr, ac am unwaith, ni oedd yn curo’r Plastics ymysg y blaenwyr. Doedd hynny ddim wedi digwydd yn aml yn y gorffennol, a byddai ddim yn digwydd eto ryw lawer chwaith. Er gwaetha pob ymdrech ein gwrthwynebwyr, fe enillwyd y gêm a’r dyrchafiad. Unwaith yn rhagor, roedd angen inni fod yn ddiolchgar i rywun oedd yn fodlon troi mas ar fyr rybudd. Er inni ofyn iddo, dim ond unwaith yn rhagor fyddai Ioan yn rhydd i’n cynrychioli, a hwnnw hefyd mewn gem o bwys, sef yr un yn erbyn y Welsh Academicals flwyddyn yn ddiweddarach.
Un arall a ddaeth am un gêm unig dan berswâd un o’n ffyddloniaid oedd Iolo ap Dafydd. Roedd Iolo’n perthyn i Siôn Clwyd, ac ar y pryd, yn chwarae’n reit gyson dros Benybont. Ro’n i ar y pryd, ac yn dal i fod i raddau, yn ansicr iawn o chwaraewyr oedd wedi bod yn, neu oedd yn dal i fod yn chwarae safon uwch o rygbi. Roedd yr awr a hanner cyn dechrau gem yn gallu bod yn shambles llwyr, wrth inni aros am chwaraewyr, ffonio i berswadio bois i chwarae, danfon rhywun i nôl y cit, rhoi awyr yn y peli, chwilio am fflags ac yn y blaen. Roedd hyn oll yn rhan o natur y Clwb na fyddai’n newid tra bod y chwaraewyr yn rhedeg y clwb fel pwyllgor - doedd neb arall o gwmpas i gyfrannu.
Felly, y teimlad imi oedd bod unrhyw un oedd wedi gweld safon uwch yn disgwyl rhywbeth gwell a threfnus. Fydden nhw ddim yn disgwyl bod y cit yn dal i fod yn wlyb, neu waith fyth, heb ei olchi o gwbl, neu’r tîm cynta’n troi lan efo cit yr ail dîm, neu troi fyny yn Llandaf a ffeindio nad oedd dyfarnwr i gael, neu dim cae. Dyma rygbi fel y dylai bod, a ro’n i wastad yn synnu ar glybiau mwy o faint oedd yn cwyno nad oedd arian ganddynt ac yn y blaen. Fe ddylen nhw fod wedi gweld beth sy’n digwydd efo clybiau fel ni.
Fodd bynnag, er mod i’n awyddus i weld Iolo’n cynrychioli’r clwb, do’n ni ddim yn siwr be’ fyddai’i ymateb. Yn anffodus iddo fe, roedd y gêm i fod yn erbyn St. Albans lan ar eu cae nhw. I fod yn deg, roedd Iolo yno i ennill y gêm, ac fe ddaeth yn amlwg iawn pa mor rhwystredig roedd e’n mynd wrth inni’r blaenwyr methu â rhoi unrhyw fath o bêl iddo fe fel canolwr. Roedd gweddill y cefnwyr yn gwybod beth i’w ddisgwyl wrth deithio i Splott. Ychydig fewn i’r ail hanner, daith Iolo wyneb wrth wyneb a’i wrthwynebydd, a dechreuodd ffeit bach rhwng y ddau. Y peth nesa’ rwy’n cofio yw ei weld yn edrych ar y llawr i geisio dod o hyd i’w ddant, oedd wedi ei daro mas!
Cafodd Iolo’r ‘air diwetha' wrth sgorio cais cyn diwedd y gêm, ond erbyn hynny, roedden ni rhyw drideg pwynt ar ei hol hi. Eto, er mawr syndod i neb, ni welwyd Iolo yng nghrys y clwb eto. I fod yn deg iddo fe, wrth drafod gydag e’n ddiweddarach, dwi’n meddwl nad oedd y rhagdybiaeth oedd gen i ynglŷn â chwaraewyr safon uwch yn berthnasol i Iolo. Roedd e’n gystadleuol iawn, ac rwy’n meddwl mai’r unig beth ar ei feddwl oedd ennill y gêm. Dyna oedd achos ei rwystredigaeth. Roedd yn anffodus i ni fel clwb na chafodd e gyfle i’n cynrychioli ar ddiwrnod lle’r oedden ni ar ein gorau, a phan fyddai wedi derbyn digon o bêl i gael gweld gwir safon y clwb.
Wrth edrych nôl ar rai sy’ wedi chwarae dros y clwb, mae pawb yn gofiadwy am ryw reswm neu'i gilydd. Ond mae un chwaraewr sydd yn aros yn fy nghof yn eglur iawn, er iddo chwarae ‘mond un gêm i’r clwb, a welais i mohono naill ai cyn, neu wedi’r gêm honno.
Fel yr oedd hi yn gyson, roedden ni’n fyr o chwaraewyr rheng blaen. Am ryw reswm roedd gem wedi’i drefnu ar fore Sadwrn(gem ryngwladol arall, mae’n siwr) yn erbyn Morganstown. Doeddwn i ddim yn un oedd yn mwynhau gemau ar fore Sadwrn ar unrhyw adeg, ac roedd chwarae Morganstown yn sicr ddim ar unrhyw restr o bethau i’w fwynhau. Yn ogystal â hyn, doedd ddim props ar gael, ac roedd y tywydd yn ofnadwy. Ond ro’n i’n gapten ar y pryd, felly rhaid oedd mynd ati i geisio trefnu tîm. Yn y diwedd, fe gysylltodd Steve Lloyd a fi i ddweud fod ganddo ffrind oedd yn brop fyddai’n fodlon chwarae’r bore hwnnw. Wel o leia’ fyddai tîm ‘da ni.
Wrth gyrraedd y cae, roedd y glaw yn tywallt lawr, wrth imi chwilio am ein prop newydd. I fod yn deg, roedd e ‘na’n disgwyl, ac eto i fod yn deg, roedd e’n edrych fel prop -‘chydig yn fach, ond y siâp iawn o leia’. Aethon fewn i’r stafelloedd newid, ac roedd pethau’n edrych yn well na’r arfer wrth imi weld fod tîm cyfan efo ni i ddechrau’r gêm. Daeth y dyfarnwr fewn i drafod y gêm a gofyn inni fod ar y cae mewn rhyw bum munud. Fe gofiais nad oeddwn wedi trafod ‘lineout signals’ gyda’r prop newydd (Jon dwi’n meddwl) ac felly fe es i gael gair byr gydag e. Wrth siarad, fe ddechreuodd e roi maneg golchi llestri (Marigold) melyn ar ei law chwith. Edrychais arno’n syn, ac fe eglurodd fod ganddo bwythau yn un o’i fysedd, ac roedd y faneg yn ffordd ddoeth o gadw’r bys yn sych. Roedd hyn yn wir, ond ‘sbosib nad oedd angen y faneg gyfan yn mynd hanner ffordd lan ei fraich. Dechreuais feddwl efallai’i fod yn bwriadu rhoi rhimyn neu dâp drosti, ac fe gerddais i ffwrdd gan groesi bysedd nad oedd yn bwriadu mynd i’r cae gyda hwn ar ei law.

Yn anffodus, dyna’n union beth wnaeth e. Doedd e ddim yn poeni dim fod pawb ar ochr y cae yn ei alw’n Marigold Man. Ro’n i’n gobeithio y byddai’n cadw ei law allan o’r golwg lle’n bosib, ond na, roedd e’n benderfynol o wneud y gwrthwyneb. Pob tro fyddai’r bel yn croesi’r ystlys, byddai Jon ar flaen y lein yn gwaeddi “here’s the mark,lads” yn dal y llaw felen hon i’r awyr i bawb cael gweld.
Collwyd y gêm honno, a gwelwyd Jon byth eto. Roedd gan hyn rywbeth i wneud hefyd a’r ffaith i flaenasgellwr Morganstown twrio bys fewn i lygaid Jon wrth inni fynd lawr i gael sgrym. Fe waeddodd e fel petai rhywun wedi ei saethu, ond yn anffodus, chafodd fawr o sylw gan nad oedd neb yn fodlon ei gymryd o ddifri oherwydd y faneg.
Roedd y diwrnod hwnnw yn gofiadwy imi hefyd am ryw reswm am un achlysur arall. Ar yr asgell chwith y diwrnod hwnnw roedd Dafydd Levi. Roedd Daf gyda’r asgellwyr cyflyma bu efo ni trwy gydol fy amser yno, ac unwaith i’r bel gyrraedd ei ddwylo, roedd e’n gallu bod yn dwyllodrus iawn. Dangoswyd hyn pan enillodd wobr chwaraewr mwyaf gwerthfawr yn ystod cystadleuaeth ffantasi’r clwb. Na, problem fwyaf Dafydd oedd sicrhau bod y bel yn aros yn ei ddwylo’n ddigon hir iddo gael effaith. Yr enw a gafodd gan Alun Coch, oedd ag enwau i bawb, oedd Dai Sebon.
Felly ar ddiwrnod gwlyb a gwyntog, doeddwn i ddim yn disgwyl i Dafydd gynnig cyfraniad mawr inni. Felly ‘roedd hi pan enillodd Morganstown y bel a chodwyd up-and-under anferth gan eu maswr. Rwy’n cofio rhedeg nôl i edrych i weld lle’r oedd ein cefnwr ni i gael dal y bel a’i chlirio. Yn sydyn, daith llais isel i’r clust. “Pêl fi”(a bod yn onest, wrth ystyried Cymraeg cywir Dafydd, efallai taw “fy mhêl” glywais i). Ta beth, doedd clywed llais Dafydd ddim yn ein llenwi a hyder. Roedd y bel yn uchel, roedd hi’n wlyb ac yn wyntog, ac roedd pob un o chwaraewyr Morganstown yn paratoi i lanio ar yr asgellwr unwaith iddo gymryd y bel.
Ond roedd hyn i fod yn ddiwrnod, neu’n foment i’w gofio. Estynnodd Dafydd ei freichiau, a dalodd y bel ar flaen ei fysedd. Wedi cyflawni hyn, fe gododd ei ben a dechrau rhedeg fel Forest Gump, gan ennill tir a churo gwrthwynebwyr. Fe’i taclwyd yn y diwedd, ond dim ond wedi iddo redeg y bel o’n dwy-ar-hugain ni i’w dwy-ar-hugain nhw. Oedd, roedd hi’n fore i’w chofio’n wir .

4. Y tîm poblogaidd
Am ryw reswm, doedd y Clwb ddim yn dîm poblogaidd iawn. Dyma’r unig reswm sy’n dod i’r meddwl, sy'n egluro paham roedd y rhan fwyaf o’n gwrthwynebwyr yn ein croesawu a dyrnau a chicio ar bob cyfle. Mewn ffordd arall, mae’n bosib ein bod ni yn un o’r timoedd mwyaf poblogaidd, gan fod ein gwrthwynebwyr wastad yn disgwyl cael gwared â bob rhwystredigaeth bywyd yn ystod 80 munud yn ein herbyn. Roedd 'na ddyddiau pan oedd yr ymladd yn werth chweil, gan ei fod yn dangos ein bod ni wedi ennill goruchafiaeth drostyn nhw. Ond ar ddyddiau eraill, roedd hi’n amlwg fod y trais wedi ei rhagfwriadu fel modd o’n brawychu. Rhaid bod yn onest, fe weithiodd hyn ar sawl achlysur. Roedden ni gyd yn gorfod mynd i’r gwaith ar fore Dydd Llun wedi’r cyfan.
Roeddwn i’n edmygu sawl tîm yn yr ardal oedd yn amlwg a thuedd i fod yn frwnt, ond a oedd yn hytrach yn canolbwyntio ar eu rygbi, oherwydd eu bod nhw’n gallu chwarae rygbi da. Roedd St.Albans, Fairwater a Caerau Ely erbyn y diwedd yn eu plith ar y pryd. Ar y llaw arall roedd yna glybiau nad oeddent yn chwarae rygbi cystal, ond oedd yn chwarae er mwyn mwynhau. Byddai’r CIACs, neu Sully a’r rhan fwyaf o ail dimoedd y clybiau mwy yn dod o dan y faner hon.
Ac wedyn roedd y clybiau eraill. Roedden ni gyd yn edrych yn fanwl ar y rhestr gemau ar ddechrau’r tymor i weld pa benwythnos fyddai’n ddoeth i fynd ar wyliau efo’r wraig. Mae 'na sawl gem sy’n dod i’r cof, lle fyddai wedi bod yn well gen i fod unrhyw le arall ar y blaned.
Roedd pob trip lawr i Barri Plastics yn antur reit arbennig. Roedd popeth yn gweithio yn ein herbyn ni lawr ‘na. Roedd blaenwyr mawr ‘da nhw, roedden nhw’n chwarae gêm dynn, roedd y gwynt wastad yn chwythu’n gryf, roedd hi fel arfer yn glawio, roedden ni fel arfer yn cael dyfarnwr gwan, ac yn fwy na hyn, roedden nhw yn ein casáu ni. Rwy’n cofio un o’u chwaraewyr yn siarad hefo John Hayes un diwrnod. Roedd John wedi dod oddi ar y cae gydag anaf. Roedd ei chwaraewr nhw wedi ei anfon o’r maes. Eglurodd ei chwaraewr nhw nad oedd ganddyn nhw unrhyw beth yn ein herbyn ni fel unigolion, ond roedd pethau wedi digwydd yn y gorffennol rhwng y ddau glwb. Roedden ni gyd yn teimlo lot yn well wedi clywed hyn. Mae’n anodd dychmygu be’ oedd wedi digwydd yn y gorffennol i greu'r fath yma o gasineb.
Fe gyrhaeddo’n ni yno un pnawn Sadwrn dan gapteiniaeth Meurig Phillips. Roedd y glaw wedi bod yn syrthio drwy’r wythnos, ac unwaith yn rhagor, roedd cytuno i chwarae’r gêm yn nwylo’r ddau gapten a’r dyfarnwr. Roedd pymtheg ohonom ni yno yn croesi’n bysedd mai gohiriad fyddai’r canlyniad - stay of execution, efallai. O’r ‘stafelloedd newid, doedd hi ddim yn bosib gweld y cae, felly’r meddwl oedd y byddai’n rhaid canslo, sbosib. Ond wrth i Meurig ddod nôl o’r “pitch inspection” roedd yn amlwg o’i wyneb ei fod wedi colli'r ddadl am gyflwr y cae, a bod y gêm mlaen.
Aethom fewn i’r stafell oer, bach, a dechrau newid a cheisio meddwl am y gêm. Roedd hyn bron a bod yn amhosib oherwydd y sŵn fyddarol oedd yn dod o’r stafell newid arall. Roedden nhw yn curo’r waliau ac yn gwaeddi rhywbeth croesawgar, pleserus, “Kill the Welshies” neu rywbeth tebyg. Roedd y gêm wedi’i golli cyn i ni adael yr ystafell honno.
Ar y cae, roedd casineb y chwaraewyr a’r gwylwyr yn ddi-baid. Wrth ddilyn y bel, roedd yn rhaid cadw golwg y tu nôl, er mwyn sicrhau nad oedd dwrn neu gic yn dod tuag atom - hunan-cadwraith oedd y peth cyntaf ar ein meddyliau. Ar un adeg, cefais afael ar y bel wedi tafliad. Roedd eu mewnwr nhw a’i ddwylo ar y bel hefyd, ac roedd ei geg yn erbyn fy mraich dde. Yn sydyn, sylweddolais nad oedd wedi cael brecwast y bore hwnnw, gan ei fod yn cnoi ar fy mraich yn ffyrnig. Wedi’r gêm, roedd gen i farciau clir lle’r roedd ei ddannedd wedi bod, ac mae’r graith yno o hyd. Wyddwn i ddim be fyddai wedi digwydd pe na bawn wedi bod yn gwisgo crys trwchus, neu petai wedi cael ei ddannedd ar fy nghlust.
Yn hwyrach yn yr un gêm, roeddwn ar fy mhen ôl yn codi o sgarmes gyda’r bel wedi hen ddiflannu. Roedd un o chwaraewyr y Plastics ar ei ben gluniau, efo’i ben glun yn erbyn fy mhen glun i. Fe geisiodd wedyn i dynnu rhan isa’ nghoes tuag ato er mwyn iddo dorri’r coes efo’i ddwylo, yn yr un ffordd, efallai, ag y byddai’n torri darn o bren dros ei ben glun. Lwyddodd e ddim wrth gwrs, ond roedd e’n anodd credu y gallai dyn geisio gwneud rhywbeth mor farbaraidd â’i ddwylo.
Dyna fel yr oedd hi lawr yno. Roedd pawb yn falch i gael gorffen y gêm a gadael yno am dymor arall. Yn anffodus, roedd eu tactegau nhw yn gweithio’n aml, gyda’r clwb yn colli gemau y dylen fod wedi ei hennill. Roedden ni’n falch iawn, sawl tymor wedi imi orffen chwarae, i’r Clwb fynd lawr ‘na i chwarae gem gwpan, gyda nifer o chwaraewyr nad oedd wedi bod lawr yno o’r blaen. Heb yr hanes roeddwn i a’m cydchwaraewyr yn ei gofio, aeth y bois newydd yno, a chwarae gem agored a llwyddo ennill y gêm yn y modd a ddisgwylir gan y Clwb.

Blwyddyn neu ddau ynghynt roedd y Clwb wedi chwarae gem cynghrair yn erbyn ail dim Rumney. Roedd John Hayes a finnau wedi ein hanafu bythefnos cyn y gêm, a Martin Grundy wedi derbyn niwed i’w wyneb yr wythnos cynt. Roedd hi’n mynd i fod yn galed i weddill y pac wedi colli tri o’u cydchwaraewyr, ond roedd yr ysbryd yn uchel petawn ni’n gallu ennill digon o feddiant. Fe gyrhaeddais innau, a sylweddoli nad oedd neb arall o’r Clwb yno heblaw amdana i -dim subs, dim gwylwyr, neb. Felly fi ddaeth yn gyfrifol am roi’r fflags mas, rhoi pads y pyst mlaen, rhedeg y lein, cario’r bag meddygol, cario’r dŵr ac yn y blaen.
Roedd pethau’n datblygu’n dda ar y dechrau gyda’r cefnwyr yn rhedeg yn dda ac yn ennill tir. Wedi tua chwarter awr, sgoriwyd cais i’n rhoi ni ar y blaen, ac fe es i y tu ôl i’r pyst i wylio’r trosiad. Wrth sefyll yno, cefais gyfle i wrando ar eiriau ysbrydoledig capten Rumney yn dymuno mwy oddi wrth ei chwaraewyr, rhywbeth tebyg i:
“I doesn’t care wot we ‘as to do, I doesn’t care if we ‘as to kick ‘em, punch ‘em, stamp on ‘em, gouge ‘em or bite’em. We just got to do somein’, OK?”
Wel roedd hynny’n ddigon i ddechrau rhyfel byd arall, a daeth eu chwaraewyr mas yn chwilio am drwbl. Dechreuodd y dyrnau hedfan a chael effaith ar ein pac ifanc. Ond ymhlith ein blaenwyr y diwrnod hwnnw, roedd Llyr Williams, un nad oedd yn derbyn cymryd cam yn ôl, ac roedd e’n ddigon bodlon dosbarthu cymaint ag yr oedd yn derbyn. Yn anffodus, rwy’n cofio’n eglur gweld dwrn un o chwaraewyr Rumney yn dod nôl wrth ei ysgwydd, ac yna yn taro un o’n chwaraewyr fel bwled. Er mawr syndod i neb, Llyr oedd yr un anlwcus, ac fe ddechreuodd gerdded tuag ataf, a gwaed yn dod o’i foch, a chwt dwfn islaw ei lygad chwith. Mewn gem gyffredin, byddai Llyr wedi gadael y cae ac un o’r eilyddion yn dod ‘mlaen. Ond wrth gwrs, doedd dim eilydd ‘da ni, felly fe benderfynodd Stumpy gosod pwythau yn ei foch ar ochr y cae.
Mewn theori, byddai hyn wedi bod yn iawn. Parhaodd y gêm gyda’r clwb yn chwarae gyda 13 dyn, ac fe estynnais i fy nghyfraniad am y diwrnod i fod yn nyrs tra bod Stumpy’n pwytho. Roedd hyd yn oed hynny’n anodd. Dwn i ddim am faint roedd y pethau meddygol wedi bod yn y bag, ond fydden ni ddim yn synnu petai wedi cael ei caglu gan Frankie rhyw ddegawd ynghynt. Fe geisiodd Stumpy dorri trwy groen Llyr gyda’r nodwydd, neu beth bynnag mae’n nhw yn ei defnyddio, yn gwbl “blunt”, a bu’n rhaid gwthio fe trwy'r croen. Wedyn fe ofynnodd imi dorri’r pwyth, sy’n swnio’n ddigon syml, nes sylweddoli mod i’n defnyddio siswrn oedd yr un faint mor “blunt” a’r nodwydd. Roedden nhw fel y fath o siswrn ro’n ni’n defnyddio yn yr ysgol gynradd, rhyw 25 mlynedd yn ôl, gyda hanner cylch ar y pen. Fe dynnwyd wyneb Llyr ymhob cyfeiriad ac mae’n siwr gen i fod y graith sy yno nawr yn gwbl igam-ogam.
Wrth gwrs, roedd chwaraewyr Rumney yn gwbl cyd-ymdeimledig. Aeth y bel dros yr ystlys, a chan fy mod yn gweithio fel Florence Nightingale ar y pryd, doedd hi ddim yn bosib imi redeg y lein i arwyddo lle’r oedd y bel wedi croesi. Dyna gyd a glywyd o’u chwaraewyr nhw oedd “C’mon ref, they’ve gorra have a linesman...tell ‘im”. Doedd y gêm ddim yn llawer o sbort ac fe’i collwyd.

Ar y cyfan, roedd timau Caerdydd lot yn waith na thimoedd y cymoedd. Roedden nhw (timoedd y cymoedd) gan amla’ yn gwerthfawrogi ein bod ni yn fodlon teithio tu fas i’r brifddinas, ac roedden nhw’n gwybod y bydden ni yn ceisio chwarae rygbi da. Wrth gwrs, rwy’n cofio teithio lan i Abercwmboi, gyda Richard Williams yn ceisio’i lwc fel bachwr am y tro cynta’. Er ei bod hi ar y cyfan yn gêm deg, rhywsut neu'i gilydd, roedd Rich wedi cael ei denu fewn i rai o gemau preifat y rheng flaen, ac wrth gwrs roedd ei wrthwynebwyr aeddfed wedi sortio fe mas. Roedd ei wyneb yn ddu a glas wrth inni orffen, a doedd neb arall yn gallu deall be oedd wedi digwydd, gan ei bod hi wedi bod yn gêm lan i’r gweddill ohono’ ni.
Fe aeth ambell gêm yn erbyn Old Tylerians o chwith hefyd. Roedd perthynas da wedi bod rhwng y ddau glwb am flynyddoedd hyd nes iddyn nhw ddod i Gaerdydd i’n chwarae ni ar Gaedelyn. Cafodd un o’u chwaraewyr ei ddanfon o’r cae am ryw stampio digon diniwed i gymharu â beth oedd yn gyffredin inni. Aethom lan yna yn hwyrach yn y tymor â phac gwan, ac fe’n trechwyd ymhob ffordd wrth iddynt ddial am y cam yn ei herbyn yn gynharach yn y tymor. Efallai inni golli’n ffordd rhywfaint y diwrnod hwnnw wrth inni yn y tîm cyntaf sylweddoli fod un o chwaraewyr yr ail dîm wedi cael anaf difrifol ar y cae nesa ato ni. Daeth si ei fod wedi torri ei gefn, ac fe’i gosodwyd ar fanc ar ochr y cae iddo gael gwylio diwedd y gêm!! Fe’i gadawyd ar lawr yr ystafell newid i geisio gwella, a does gen i ddim syniad sut yr aeth adre. Diolch i’r drefn, doedd e heb dorri’i gefn.

Ond y croeso mwyaf gwresog rwy’n ei gofio yn y cymoedd oedd hynny yn Nhroedyrhiw, ger Merthyr. Fe gwrddo’n ni yn Penarth Rd, ac fe amlygodd hi’n gyflym nad oedd Gavin yn mynd i allu codi ail dim. Roedd chwaraewyr yn tynnu mas, ac roedd y tîm cyntaf yn dwyn mwy ar ben hynny. Felly, fe benderfynwyd ffonio Troedyrhiw tua un o’r gloch i egluro nad oedd pwynt i’w ail dim nhw ddod lawr gan nad oedd tîm gennym. Roedd y tîm cyntaf i deithio i Droedyrhiw i chwarae’i tîm cynta nhw. Yn ffodus, roedd hi’n ddiwrnod sych, twym oedd yn ein siwtio ni. Yn anffodus, roedd ei ail dim nhw wedi penderfynu mynychu’r bar gan nad oedd gem ganddynt, ac erbyn i’r gêm ddechrau, roedden nhw fel banshîs ar yr ystlys yn dymuno gwaed. Roedd hi’n amlwg bod bois y tîm cynta am foddhau’u cydchwaraewyr.
Roedd hi’n un o’r gemau hynny pan oeddem yn difaru cwympo ar y bel ar y llawr. Os bu erioed ddiwrnod pan dderbyniodd sawl un ohonom “a good shoeing”, hon oedd hi. Rwy’n cofio gweld cefn Andy Long yn yr ystafell newid a dychmygu y gallem fod wedi chwarae noughts and crosses arni. Dim ond wrth gymryd cawod daith y boen wrth sylweddoli faint o niwed oedd wedi’i wneud i’r cefn.
Am unwaith, enillwyd y gêm. Roedd hi’n ddigon sych i’r cefnwyr redeg yn bert, a rhaid ein bod ni wedi ennill digon o bêl rhywsut. Roedd un o’n ceisiadau yn gofiadwy. Roedden ni yn ein hanner ein hunain, ac wrth-ymosododd y cefnwyr. Llwyddodd Iants fylchu a chroesi hanner ffordd. Doedd neb yn agos iddo, a dim ond cefnwr Troedyrhiw rhyngddo fe a’r lein, er bod rhyw 40m i fynd. Penderfynodd Ianto gicio’r bel, ac fe wnaeth hyn yn berffaith, gyda’r bel yn dod i aros ar ei llinell cais nhw. Daeth ein hasgellwr chwith, dwi ddim yn cofio pwy, trwyddo yn gyflym a chyrraedd y bel cynta’ i sgorio. Ond beth am Ianto? Ryw eiliad ar ôl iddo gicio’r bel, fe hyrddiodd cefnwr Troedyrhiw ato a’i ddal yn ei wyneb. “Thou shallt not pass”. Dwi ddim yn meddwl i Ianto gofio dim wrth inni ei godi ar ei draed a’i longyfarch am fesur ei gic yn berffaith inni sgorio.

Ond timoedd Caerdydd yw’r rhai mwyaf pleserus, ac roedd yna ddwy gêm gofiadwy iawn sy’n dod i’r cof. Roedd popeth oedd yn gysylltiedig â gem oddi-cartref yng Ngabalfa yn werth osgoi. Roedd hi’n un arall o’r gemau hynny lle byddai pawb yn ceisio dychmygu pob math o esgusodion. Roeddwn i wedi chwarae yno sbel yn ôl cyn inni orfod dod yn eu herbyn mewn gem gynghrair. Doedd ein ‘stafelloedd newid ni yn Llandaf ddim yn arbennig o bell ffordd, ond roedd y twll hwnnw yng Ngabalfa yn waith fyth -“pokey” fyddwn i wedi dweud yn Saesneg. Am ryw reswm, ro’n i wastad yn dychmygu y byddai ei chwaraewyr wedi rhoi gwydr neu hoelion ar y llawr inni gerdded arnynt. Dyna’r fath o syniadau byddai’r lle’n creu yn y dychymyg. Wedi’r gêm roedd rhaid gwario hanner awr bleserus yn y Master Gunner. I fod yn deg, doedd yna byth trwbl yno, ond roedden ni wastad yn cadw golwg dros ein hysgwyddau. Yr unig le ddaeth yn agos i hwnnw ar ôl gem, oedd wedi inni chwarae gêm yn erbyn Caerau Ely. Roedd hi wedi bod yn gêm dda, ond wrth inni gyrraedd y dafarn yno yng nghanol Trelai, ro’n ni’n falch nad oeddwn i wedi dod â’r car. Rwy’n cofio larwm car un o’r bois, Kevin dwi’n meddwl, yn mynd off yn sydyn ar ôl inni gyrraedd yno ac yntau’n penderfynu’n ddoeth i fynd yn syth adre. Yna tra’r oedden ni wrthi'n bwyta’ daith rhywun fewn a dweud wrth Stumpy fod rhywun yn ceisio dwyn ei gar. Er y croeso yno, fe benderfynodd bawb yn sydyn iawn ei bod hi’n amser i fynd adre heb oedi.

Ond yn ôl i Gabalfa. Roedd hi’n gêm gynghrair, ac felly’n gem bwysig. Ond eto, roedd pawb yn gwybod yn iawn y gallai bethau troi’n gas. A dyna ddigwyddodd. Roedd y cae o dan y fflats gweladwy yng Ngabalfa, ac roedd torf weddol o bobl wedi dod allan i weld eu tîm yn ennill, heb boeni sut y byddai’r fuddugoliaeth yn dod. Roedd hi’n un o’r gemau mwyaf brwnt y bûm yn rhan ohono, ac roedd digon o gemau’n cystadlu am yr anrhydedd yna! O’r dechrau byddai pob sgarmes yn datblygu’n ymladd rhwng nifer o chwaraewyr. Fel oedd yn digwydd yn rhy gyson mewn gemau fel hyn, roedd dyfarnwr gwan wrth y llyw, ac roedd e wedi llwyr golli reolaeth o’r gêm. Fe ddaeth yn beryg ar adegau inni fod ar y cae, ac nid dim ond y chwaraewyr oedd wrthi. Ar un achlysur, torrodd mewnwr Gabalfa rownd ochr dywyll sgrym a chicio’r bel yn ddwfn i’n tir ni. Roeddwn i wedi torri o gefn y sgrym, ac fe geisiais “charge-down” o’r gic. Fe fethais a hynny, ac aeth fy momentwm a fi fewn i’r gwylwyr. Er mawr syndod, derbyniais ben-elyn i ngwyneb gan un ohonynt, a brysiais nôl mlaen i’r cae er mwyn bod yn ddiogel. Roedd hi’n ddigon eironig ar ddiwrnod cas fel hwnnw ei bod hi’n saffach i fod ar y cae nag oddi-arni.
Roedd hi’n od. Dechreuais i dderbyn fod gemau fel hyn yn rhan o chwarae rygbi, ac nad oedd modd osgoi hyn. Bûm yn siarad â ffrind yn ddiweddarach oedd wedi chwarae rygbi yn Llundain, a doedd e’n methu â chredu beth roedd e’n ei weld pan fyddai’n dod i weld gemau pob nawr ag yn y man yn Llandaf. Roedd y gêm yn Llundain yn gwbl wahanol, medde fe, gyda phawb yn chwarae rygbi caled a dim mwy. Roeddwn i wastad yn ddiolchgar mod i’n gallu mynd i’r gwaith ar ddydd Llun ac anghofio am gemau fel hwnnw yn Gabalfa. Erbyn y Sadwrn canlynol, roedd yr atgofion cas wedi mynd.

Ond roedden i yn gwylltio i sylweddoli pa effaith roedd gemau fel hyn yn cael ar chwaraewyr eraill. Roedd Phil Thomas yn flaenasgellwr gweithgar, ac yn un oedd yn siwtio gem agored y Clwb. Roedd e hefyd yn ddoctor, ac felly yn gydwybodol iawn o’r pwysigrwydd ei fod yn iach i fynychu’r gwaith ar ddiwedd y penwythnos. Rwy’n cofio gweld Phil yn dod nôl tuag ataf ar ôl sgarmes oedd eto wedi datblygu’n ffeit, yn ysgwyd ei ben o un ochr i’r llall. Dw’i ddim yn meddwl ei fod wedi gweld y fath beth yn ei fywyd. Y peth gwaethaf i ni fel clwb oedd yn fyr o chwaraewyr, ac yn fyrrach fyth o chwaraewyr da, oedd na welwyd Phil byth eto yn cynrychioli’r clwb. Pwy allai roi bai arno?
Doedd dim pob gem yn erbyn Gabalfa cynddrwg a’r un yma, ond doedd hi byth yn bleser mynd yno. I roi halen yn y briw, ar ôl y gêm, ac ar ôl defnyddio’r cawodydd pleserus, roedd yn rhaid mynd i’r Master Gunner i fwyta. Doedd dim ryw lawer i ddweud am hynny chwaith.

Gemau fel hyn berswadiodd y clwb nad oedd hi’n werth parhau yng nghynghrair Caerdydd. I bob gem dda yn erbyn gwrthwynebwyr teilwng, roedd yna ddwy neu dair gêm yn erbyn timoedd fel hyn. Daeth y sefyllfa i’w derfyn wedi gem gwpan yn erbyn Llanedeyrn. Roedden nhw yn yr ail adran ar y pryd, a ninnau yn yr adran gyntaf. Roedden nhw yn reit gryf ac roedd hi’n edrych yn ddigon tebygol y byddent yn ymuno â ni'r flwyddyn ganlynol. Erbyn hynny, roedd tîm aeddfed gennym, ac roedden ni gyd yn gwybod beth oedd i’w ddisgwyl y prynhawn hwnnw. O leia’ roedd y gêm i’w chwarae yn Llandaf. Oedden, roedden ni gyd yn disgwyl y dyrnau, ac roedden ni gyd yn gwybod nad oedd unrhyw bwynt gadael iddyn nhw’n profocio ni. Roedd hi’n bwysig inni adael i bopeth fynd uwch ein pennau ni. Roedd pawb yn deall hynny. Wel, pawb heblaw am un.
Roedd Aled Arch yn chwaraewr anffodus mewn ffordd. Mewn clwb cyffredin, byddai wedi cael cyfleuon di-ri i chwarae’n gyson yn y tîm cyntaf. Ond efo ni, roedd Gareth, John, Llyr, Grundy, Rhydian ymhlith eraill. Felly dim ond gemau nawr ac yn y man byddai’n chwarae. Ond wrth chwarae, dim ond cant-y-cant byddai’n cyfrannu. Roedd e’n un o’r chwaraewyr cyson hynny, un nad oedd byth yn debyg o sgorio o’i hanner ei hun, ond eto nad oedd byth yn cael gem sâl. Yn ogystal â hyn, roedd ganddo dymer a ffiws byr, ac yn erbyn Llanedeyrn y Sadwrn hwnnw, fe welwyd y canlyniad.
Dilynnodd y gem batrwm cyson o'r dechrau hyd y diwedd. Byddai’r ddau bac yn mynd lawr i gael sgrym, byddai’r bel yn dod allan ar ein hochr ni, a byddai saith o’n blaenwyr ni yn dilyn y bel fel yr arfer. Wedi ail-gylchi’r bel ryw hanner can metr i ffwrdd, bydden yn sylweddoli nad oedd pac i gael gan Llanedeyrn. Wrth edrych nôl, dyna lle’r oedd pac Llanedeyrn yn dyrnu ac yn cicio, gyda gwallt golau Aled yn dangos ar y gwaelod. Byddai’r dyfarnwr yn torri pethau lan, a byddai Aled yn dod nôl i’n plith a’i wallt yn yr awyr, ei grys mas, a’i wyneb yn goch. “I’ll ‘ave em next time” byddai’n dweud, ac er inni gyd awgrymu nad oedd llawer o bwynt, be fyddai’n digwydd? Sgrym nesa’, y bel yn mynd, pac Clwb yn dilyn, edrych nôl, Aled yn ei chanol nhw eto. Petai gwobr wedi bod i rywun oedd yn fodlon dal ati, byddai Aled wedi ennill yn glir. Roeddwn i wastad am wybod beth oedden nhw’n dweud oedd yn llwyddo’i brofocio fe cymaint. Ar un adeg, fe ddechreuodd un o’u dilynwyr nhw gwyno nad oedden ni, gweddill y pac, yn rhoi unrhyw gymorth i Aled. Dw’i ddim yn gwybod beth ‘odd e’n gobeithio gweld.
Am unwaith, enillwyd y gêm honno. Ar ddiwrnodau fel hyn pan oeddem yn chwarae oddi-cartref, roedd hi’n ddigon syml cael chydig o fwyd a pheint yng nghlwb y gwrthwynebwyr, cyn symud o na gan ddweud bod parti efo ni’r noson honno, ac felly roedd rhaid gadael yn gynnar. Ond wedi’r gêm yn erbyn Llanedeyrn, roedden nhw yn y Cameo. Wedi ‘chydig, fe amlygodd hi fod rhai ohonynt allan am y noson. Wedi sylweddoli hyn, fe ddiflannodd y rhan helaeth o’n chwaraewyr ni nad oedd am siarad neu gymysgu â’i chwaraewyr nhw. Roedd hi’n sefyllfa od, mod i’n un o ddau chwaraewr y Clwb ar ôl yno, gyda thua saith o’u chwaraewyr nhw. Fe fydden nhw wedi aros yno trwy’r nos dwi’n meddwl, oni bai fod Babs wedi diflasu efo nhw, a gofyn iddyn nhw adael. Dim ond ni alla’n cael ein hachub gan reolwr benywaidd y clwb.

5. Ar Daith

Mae pob taith yn gofiadwy am ryw reswm neu'i gilydd, ac mae pob un yn gofiadwy i bobl am resymau gwahanol. Fe fûm i’n ddigon ffodus i deithio ar bum achlysur, pob tro yn teithio draw i’r cyfandir. Roeddwn i’n siomedig i fethu â mynd draw i’r Iwerddon, gan fod pob taith yno wedi bod yn arbennig mewn un ffordd neu’r llall. Dwn i ddim faint o weithiau glywais sôn am y daith i Tullamore - yn ôl pob sôn, hwnnw oedd y daith i fod yn gysylltiedig â hi. Ond na, roedd pob taith yn gofiadwy imi, ac mewn ffordd fe wellodd pob taith wrth i’r blynyddoedd mynd yn eu blaen.
Roedd y daith gyntaf imi yn un od iawn. Roedd hi’n 1984, ac roedd hi wedi trefnu i fynd i Luxembourg. Ro’n ni wedi cytuno i fynd, er mod i lawer yn ifancach na’r gweddill ac er na wyddwn i beth i’w ddisgwyl. Y noson cyn inni adael, doedd neb wedi cadarnhau bod y daith ymlaen o hyd, nes i Butchie ffonio i ofyn a o’n ni dal yn bwriadu mynd. Diolch i’r drefn mod i wedi cytuno fel oedd hi’n digwydd, gan mai dim ond 16 ohono’ ni oedd ar y bws wrth inni adael, ac roedd gan un o’r rhai hynny gout, ac roedd hi’n amlwg nad oedd Gareth Mainwaring yn bwriadu chwarae.
Roedd hi’n daith hir imi. Doedden i ddim wedi arfer ag yfed fel y bechgyn hun, ac wedi stopio ryw bedwar neu bum gwaith am beint ar y ffordd, erbyn cyrraedd Dover ro’n i’n barod i droi nôl. Ond draw a ni, a chael yr anrhydedd o rannu ‘stafell wely efo Wyn Lewis a Mainwaring. Gallai fod wedi bod yn waith - roedd Iants wedi rhoi love-bite imi ar fy nghoes ar y ffordd draw, a pwy a ŵyr lle fyddai wedi fy nghnoi petawn i yn yr un’ stafell.
Fel yr oedd hi, nid Luxembourg oedd y lle gorau i fod yn ystod 1984 i unrhyw Brydeiniwr. Yn anffodus, roedd dilynwyr pêl-droed Lloegr wedi gwneud llanast o’r wlad rhai misoedd ynghynt, ac yn anffodus, i’r bobl leol, ‘ro’n ni yr un fath a’r Saeson. Fe ddangoswyd eu diflaster â ni ar ddiwedd yr ail noson.
Roedd y diwrnod wedi dechrau’n dda inni. Fe gyrhaeddon ni’r cae a 15 ohonom yn barod i chwarae, hyd yn oed Dai Gutsy oedd yn diodde’ a gout. Roedd hi’n gwbl groes i’r arfer, gyda gormod o flaenwyr ar gael, ac felly fe ges i’r cyfle o chwarae ar yr asgell ac fe chwaraeodd Keith Thomas fel blaenasgellwr. Ond arwr y gêm oedd Huw Charles wrth iddo sgorio unig gais y gêm ag ennill chwaraewr y gêm wrth i’r Clwb ennill o 24-0. Aethom ‘mlaen i ddathlu yng nghlwb tîm Luxembourg a daw’r atgofion nôl o Butchie a Frankie'n ein diddanu ni ar y piano.

Wrth i’r noson fynd yn ei flaen, fe ddechreuodd rai o’r bechgyn grwydro i dafarnau’r ddinas, a rhai oriau’n hwyrach daith y newyddion bod rhai ohonynt wedi ei ymosod arnynt gan fechgyn lleol. Roedd yr anafiadau i Keith a Dafydd Idris yn rhai cas iawn, ond diolch i’r drefn, roedd doctoriaid di-ri yn ein plith. Wel, diolch i’r drefn…ish. Roedd Frankie yn ddoctor, ond roedd hi'n oriau mân y bore erbyn hyn, ac roedd hi wedi bod yn noson hir. Roedd Dafydd wedi derbyn cwt i’w geg, ac rwy’n cofio’r bore wedyn bod Frankie wedi rhoi pwyth yn ei geg, ond wedi methu’r cwt yn gyfan gwbl. Roedd gan Keith gwt anferth ar ei ben, ac i fod yn deg, fe aeth pob un o’r pwythau i’r man cywir. Beth oedd yn peri ofn oedd y ffaith fod Frankie yn sefyll uwchben Keith i roi’r pwythau fewn gyda sigâr fawr yn ei geg, gyda’r tobacco’n syrthio fewn i’r cwt agored. Mae’n syndod na aeth y cwt yn septig y diwrnod hwnnw.
Wedi hynny, fe aeth y daith yn ddigon tawel. Roedd y croeso gan y tîm lleol wedi bod yn dda, ond roedden ni gyd yn falch i fynd adref, yn enwedig y bachgen ifanc hwn nad oedd wedi cyffwrdd cymaint o alcohol yn ei fywyd o’r blaen.
Aeth sawl tymor heibio cyn imi fentro ar daith eto. Erbyn hyn, roedd cnewyllyn o deithwyr ffyddlon wedi datblygu dan arweiniaeth Gavin Rees. Roedd y pedwar neu bum tymor yn yr adeg hon fel “Golden Era” i deithio’r Clwb. Byddai Gavin yn cael ei godi yn Chepstow fel Siôn Corn gyda llond sach o bethau i’w ddefnyddio ar y daith, gan gynnwys ei lyfr bach coch i gael sgrifennu dyfyniadau cofiadwy. Gareth Wilkins oedd yn gyfrifol am ddod â’r wheel of fortune fyddai’n dod allan ar y llong, Pembers oedd yn gyfrifol am ffeinio pobl am unrhyw drosedd, a byddai’r canu’n cael ei arwain gan Steve, gydag ambell gyfraniad gan Mogs neu rywun tebyg. Byddai Gareth Hall yn dweud yn ddiweddarach bod taith ar y llong yn angenrheidiol tra’n teithio er mwyn datblygu’r teimlad o fod ar daith. Er bod pawb ar y cyfan yn bihafio ar y llong, roedd hi yn sefyllfa lle’r oedden ni yn agored iawn i deuluoedd a phlant ifanc, ac erbyn diwedd taith hir, byddai’r iaith yn gwaethygu’n sydyn. Ond, fel arfer, wrth inni sylweddoli ein bod ni wedi croesi’r ffin honno, byddai Steve yn dechrau cytgan arall o Haleliwia, a byddai gwen yn dod nôl i wynebau pawb.
Y daith nesa’ imi oedd hwnnw i San Renan yn Llydaw. Wrth inni gyrraedd Plymouth, roedden ni fel grŵp o ddynion tan, a phawb yn gwisgo helmed Sam Tan. Roedd hi’n grasboeth ar y daith draw, a buon ni’n ddigon annoeth i eistedd yn yr heulwen am awr neu ddwy a’n cegau’n sychu. Wedi hynny, yn syth i’r bar a chael lager neu ddwy gyflym, a chyn pen dim, roedd pawb wedi ymlacio’n hapus. Wedi chydig, byddai’r emynau yn troi’n Mogs yn canu “… I told the landlady my money was spent…” ac yn y blaen am ryw 6 neu 7 pennill. Yna Iants yn cael ei berswadio i ganu trên bach yr Wyddfa, cyn i grŵp o Saeson ddechrau canu. Diolch i’r drefn, roedd hyn cyn dyfodiad y Sweet chariot, neu mae’n siwr y byddem wedi ei glywed trwy’r prynhawn.
Ar ddiwedd y daith draw, nol i’r bws i fynd i’r gwesty. Byddai gyrrwr hwnnw, Clive(th