John Parry-Jones 'Atgofion CRCC 1983-1996'
RHAGAIR
Wedi gorffen sgrifennu’r atgofion hyn, fe ofynnwyd imi beth oedd y pwynt. Wel does dim llawer o bwynt o gwbl, i fod yn onest. I’m cof i, fe chwaraeais dros y Clwb efo dros 150 o chwaraewyr. O’r rheini, efallai bod treian yn ddi-Gymraeg, ac felly’n methu deall yr hyn sy’ wedi’i ‘sgrifennu. Mae sawl un arall yn chwaraewyr na fu efo ni am amser hir ac sy’ wedi colli cysylltiad yn llwyr efo’r Clwb. Mae hyn yn gadael cnewyllyn bach o chwaraewyr sydd, efallai, a mymryn bach o ddiddordeb yn rhai o atgofion yr ugain mlynedd diwethaf.
Ond nid dyna’r pwynt. Rwy’n cofio siarad â fy nhad unwaith, a gofyn yr un cwestiwn, sef pam ysgrifennu llyfr sydd yn debyg o fod â diddordeb i leiafrif o bobl. Yr ateb syml a roddodd, oedd bod y pwnc o ddiddordeb iddo fe, ac roedd hynny’n ddigon. A dyna fel oedd yr atgofion hyn imi. Am ryw reswm trist, roedd atgofion di-ri wedi aros yn y cof oddi ar imi ymuno â’r Clwb, a ro’n i’n teimlo’i bod hi’n hen bryd dod â’r atgofion at ei gilydd fel hyn. Roedd y Clwb yn, ac yn dal yn, meddwl lot fawr imi, a bûm yn ffodus i wneud nifer o ffrindiau da dros y blynyddoedd. Felly, er nad oes pwynt i’r hyn sy’n dilyn, fel y cyfryw, rwy’n gobeithio y bydd hi efallai yn dod ag un neu ddau atgof melys, am ryw gymeriad, neu ryw achlysur oedd wedi mynd o’r cof. Pryn iawn yw’r achlysuron inni fel Clwb ddod at ein gilydd i drafod hen ddyddiau, a gobeithio felly fod hyn yn ffordd arall o ddod â’r atgofion nôl.
Gobeithio nad wyf wedi creu embaras i neb yn ystod hyn. Bûm yn ofalus iawn i gadw rhai pethau dan glo, yn enwedig wrth gofio’r hen ddywediad, “what goes on tour, stays on tour”, ond roedd rhaid ail-adrodd rhai o’r storïau da. Hefyd, mae yna sawl stori sy’n anodd iawn eu disgrifio, yn enwedig trwy’r Gymraeg. Er enghraifft mae hanes Stumpy yn sgwâr Leuven yn glir i’r cof, ond yn anodd rhoi mewn geiriau. Os oeddech yno, gobeithio bydd yr atgof yn dod yn ôl. Os nad oeddech yn ddigon ffodus i fod yno, defnyddiwch eich dychymyg.
1. Yn y Dechreuad…
Daeth Hydref 1983 yn ddigon o sioc i’r system. Wedi gorffen arholiadau lefel A, ac wedi penderfynu ail eistedd, a symud i fyw yn Colum Rd. gyda dau ffrind ysgol oedd yn aros yng Nghaerdydd, roedd pethau wedi newid yn fawr. Wedi setlo fewn i’r tŷ, y cwestiwn mawr oedd sut i dreulio’r amser hamdden ac i gadw’n ffit ar yr un pryd. Roedd y ddau arall yn y tŷ yn aelodau selog o dîm pêl-droed y Cymric, ac roedd yna demtasiwn mawr i ymuno â nhw yno. Byddai hynny wedi bod yn benderfyniad syml i fachgen deunaw mlwydd oed, oedd ddim yn siŵr sut dderbyn y byddai’n cael oddi wrth grŵp o ddynion nad oedd yn eu ‘adnabod. Yr adeg hynny, doedd dim CRICC ar gael, ac felly doedd gen i ddim cysylltiad ag unrhyw glwb. Roeddwn wedi clywed am Clwb Rygbi, ond doedd yna ddim cysylltiad na ffrind, hyd y gwyddwn i ar y pryd, oedd yn chwarae yno. Felly, pêl-droed efo’r Cymric fyddai’r dewis hawsaf imi.
Wedi ystyried hyn am ychydig, newidiais fy meddwl. Roeddwn wedi chwarae rygbi ers blynyddoedd, ac roedd hi wastad wedi dod a mwy o fwynhad a boddhad imi. Roedd ein blwyddyn olaf yn Llanhari wedi dod a llawer o lwyddiant, ac roedd y ffrindiau hynny wedi dod yn rhai clos. Fe wyddwn i’n iawn y byddwn yn difaru peidio â chwarae rygbi, heb reswm gwell nag oherwydd bod gen i ffrindiau oedd yn chwarae pêldroed.
Felly, un nos Lun ym Mis Hydref 1983, daliais fws i ysgol Glantaf gyda’r ddau arall, ond wrth iddi’n nhw fynd i ‘ystafelloedd newid y peldroedwyr, fe es i mewn i ystafelloedd newid y dynion.
Er mawr syndod, roedd yna wynebau cyfarwydd yno. Roedd Huw “Atlantic” wedi gadael Llanhari flwyddyn neu ddwy o ‘mlaen i ond o leiaf ro’n ni’n ei nabod e, ac roedd e’n nabod fi. Yno hefyd roedd Huw Bristol, a oedd wedi bod yn athro imi yn Llanhari . Roedd gweld y ddau yma yn ddigon i wneud imi deimlo ‘chydig yn fwy cyfforddus, a ro’n i’n ymwybodol, ac yn ddiolchgar i’r ddau ohonynt am gadw llygad arna’i drwy’r misoedd cyntaf.
Yr ofn mwyaf oedd na fyddai neb yn siarad neu’n cynnwys fi yn ystod yr ymarfer. Fe ddylwn fod wedi gwybod yn well. Un o’r wynebau cyfarwydd oedd wyneb Dafydd Hywel, yr hyfforddwr ar y pryd. Roedd y croeso ganddo fel petai’n croesawu un o’i deulu. ‘Dw’i ddim yn meddwl y cafodd unrhyw unigolyn gymaint o effaith bositif ar y clwb nes i Neil Cole gyrraedd dros ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Yn ogystal â DH, cefais groeso gwresog gan Butchie, capten y Clwb ar y pryd, un arall y byddwn yn parchu’n fwyfwy dros y blynyddoedd am ei ymrwymiad i’r Clwb. Yr unig aelod arall imi gofio ar y noson cynta’ hynny oedd Charlie, a gafodd ei gyflwyno gan DH fel Charles, ac y bues am fisoedd yn cymryd mai dyna oedd ei enw cyntaf.
Ac felly ‘roedd hi. Y noson cynta’ o ymarfer wedi’i gyflawni, a rhai ffrindiau newydd wedi datblygi, a minnau wedi derbyn y ffugenw ‘young pup’. Yn anffodus, fi oedd young pup y clwb am sawl tymor i ddod. Wyddwn i ddim y noson honno ‘mod i wedi dechrau ar berthynas efo’r Clwb y byddai’n ymestyn fewn i’r ganrif nesa.
2. “We could be heroes…”
Trwy gydol y pymtheg tymor nesa, bu rhai cymeriadau yn cyfrannu ac yn amlygu ei hunain ym mhob ffordd. Roedd yna rai oedd yno bob ddydd Sadwrn, roedd rhai fyddai yno bob ddydd Llun a Sadwrn, ac wrth gwrs roedd yna rai oedd yn fwy bodlon nac eraill i gyfrannu oddi ar y maes. Roedd cyfraniad y cymeriadau hyn yn holl bwysig i barhad y clwb. I raddau, gellir dweud yr un peth am y rhai hynny a drodd allan unwaith yn unig i helpu mas, ond mae 'na rai unigolion oedd yn sefyll allan o un tymor i’r nesa’.
Erbyn hyn, mae bwrdd capteiniaid ar wal clwb y Cameo. ‘Rydw i, fel y gweddill sydd â’i enwau ar y bwrdd, yn falch iawn o hynny. Mae rhedeg y Clwb fel capten wedi datblygu yn waith caled sy’n cymryd mwy a mwy o amser i drefnu â phob tymor. Mae’r capteiniaid presennol yn para am ddau dymor ar y mwya’, sy’n ddigon teg wrth gofio faint o waith mae hyn yn golygu. Fe fues i’n lwcus tra’n gapten bod Butchie yn hyfforddwr am ddau dymor, ac felly roedd gen i help wrth law - un oedd yn deall yr hyn sy’ raid ei gyfrannu fel capten. Roedd trydydd tymor imi felly yn ddigon syml. Wrth edrych ar fwrdd y capteiniaid felly, mae’r llygaid yn cael ei dynnu tuag at enw Wyn Lewis, a fu’n gapten am bedwar tymor nôl ar ddiwedd y saithdegau.
Pan ymunais i a’r clwb, roedd gyrfa Wyn i’w weld yn agosáu at ei ddiwedd, ond er hyn, roedd e dal wrthi ryw bum tymor yn hwyrach. Roedd dewis y tîm yr adeg hon yn ddigon hawdd - roedd Frankie, Brian a Wyn ar gael bob ddydd Sadwrn ac felly ei enwau nhw oedd yn mynd ar bapur bob wythnos. I’r rhai oedd yn chwarae ar y pryd, roedd Frankie, Brian, Wyn mor gyffredin â Marks and Spencer neu Morecambe and Wise. Roedd y tri yn ffrindie da, yn chwaraewyr da, ond yn fwy na dim, yn uned dda efo’i gilydd yn y rheng flaen. Yn anaml iawn fyddwn ni’n colli tir yn y pac, ac wrth ystyried cyn lleied o bwysau oedd yn dod o’r tu ôl, mae’n arwydd o safon y tri ohonynt.
Roedd y tri yn wahanol yn ei ffyrdd bach ei hunain. Roedd Frank yn chwarae a gwên ar ei wyneb drwy’r amser. Roedd ei bresenoldeb e yn y clwb ar y pryd yn esiampl fawr i bawb arall, gan ei fod yn byw yng Nghrughywel, ond roedd e’n ymarfer yn reit gyson, ac yn chwarae bob wythnos.
Roedd Brian yn gwbl wahanol. Anaml iawn gwelwyd gwen ar ei wyneb yn ystod gêm. Roedd e’n chwarae er mwyn ennill, a doedd e ddim am weld unrhyw beth yn rhwystro hyn. Ar ôl cael ei anfon o’r cae tra’n chwarae yn erbyn Baglan, am gwyno a gweiddi ar y dyfarnwr, rwy’n ei gofio’n cadw ‘mlaen o’r ystlys yn gweiddi’n ddi-baid. Roedd ganddo safonau uchel fel chwaraewr, a gwau unrhyw un, boed yn chwaraewr neu’n ddyfarnwr oedd yn methu cadw lan a’r safonau hynny.
Wedi imi gael fy newis i’r tîm cyntaf, ro’n ni’n gwybod bod 'na rai oedd yn tybio mod yn rhy ifanc i fod yn chwarae drostynt, a galla’i ddychmygu mai dyna oedd barn Brian ar y pryd. Rwy’n cofio codi o un sgrym lle ro’n ni dan bwysau, a Brian yn troi ataf yn gwaeddi “Do you know which way you’re supposed to be pushing”. Dyna fel oedd e, yn gystadleuol, ac yn benderfynol o ennill ar bob achlysur.
Ond roedd Wyn yn wahanol eto. Roedd yn chwaraewr arbennig. Doedd dim dwywaith am hynny ac fe ddysgais lot oddi wrtho. Oherwydd cryfder traddodiadol y clwb yn y rheng ôl, daeth fy nghyfle cyntaf yn yr ail reng, tu ôl i Wyn. Eto, mae’n hawdd dychmygu ei feddwl e wrth weld bachgen deunaw oed, yn pwyso rhyw 11 stôn y tu ôl iddo, tra bod Frankie yn mwynhau techneg, pwysau a phŵer gormesol Dafydd Idris y tu ôl iddo. Ond roedd Wyn yn ddigon amyneddgar, a byddai’n gyson yn trafod gêm efo fi yn awgrymu be ddylwn a beth ddylwn i ddim ei wneud.
Fel chwaraewr, roedd Wyn yn dod o ryw oes wahanol. Roedd y gêm wedi dechrau newid hyd nes bod chwaraewyr rheng blaen yn gorfod rhedeg a thrafod y bel. Roedd hyn yn ddigon naturiol i Frankie a Brian, ond roedd Wyn yn wahanol. Wrth ymarfer ar nos Lun, byddem yn cael ein danfon ar ryw daith redeg trwy Gabalfa, a byddai Wyn yn sefyll yng Nglantaf yn gofyn be oedd y pwynt o fynd i redeg- “If I ever get the ball, all I’m going to do is hit the deck and set up a ruck”, yn yr acen Orllewinol, a gwên ar ei wyneb. Beth oedd yn ddoniol oedd bod pawb yn gwybod petai e yn dal y bel mewn gem am unrhyw reswm, dyna yn union be fydde fe yn ei wneud. Roedd y gêm i Wyn yn cael ei ennill a’i cholli yn y rheng flaen.
Wedi’r gêm, byddai’r cyfle i ymlacio yn y bar a chael peint o “brown and bitter mix”. Wyddwn i ddim am unrhyw un arall oedd yn yfed hyn.
Bu Wyn yn gyfrifol am redeg y Clwb amsawl tymor, naill ai fel chwaraewr, capten neu ar y pwyllgor. Tra’n gadeirydd ar y Clwb, cyrhaeddwyd trydedd rownd Cwpan y Bragwyr, a thaith i chwarae lawr yn Nhregaron. Oherwydd safle rhai o gyn-chwaraewyr y clwb yn y BBC, cytunwyd i ffilmio’r gêm, a’i ail-ddangos y pnawn Sul wedyn. Fel rhan o’r darllediad hyn, fe ofynnwyd rhai cwestiynau iddo, fel cadeirydd y Clwb, cyn i’r gêm ddechrau. Gan ystyried Cymraeg ‘naturiol’ Wyn, mae’n bosib y dylid fod wedi dewis siaradwr arall. Fel canlyniad, yr ymateb syml i’r cwestiwn o beth oeddem yn disgwyl y prynhawn hwnnw, daeth y lein gofiadwy, “Wel, ry’n ni’n gwbod mae’n mynd i fod yn twff”.
Estynnodd ei gyfraniad i’r Clwb fel un o’r grŵp fu’n gyfrifol am gychwyn tîm criced y clwb. Roedd yna sawl gricedwr o safon uchel yn gysylltiedig yno ar y pryd, ac yn eu plith, mwy nag un wicedwr amlwg. Roedd Gareth Charles er enghraifft, yn cadw wiced fel chwaraewr proffesiynol - roedd yn amlwg iddo chwarae’n gyson yn y gorffennol. Ond ar brydiau, wrth gwrs, doedd Charlie ddim ar gael, ac yn ei absenoldeb, byddai’r menig yn cael eu rhoi ar ddwylo Wyn. Nawr, peidiwch â chamddeall, doedd Wyn ddim yn ffôl, ond roedd yna fôr o wahaniaeth rhyngddo fe a rhywun fel Charlie. Roedd Charlie’n dal y bêl yn daclus, ac yn cymryd y beils i ffwrdd pob nawr ac yn y man. Roedd Wyn yn wahanol. Roedd ganddo lygad da, ac roedd e yn dal y bel gan amla’, ond weithiau byddai’r daliad yn dod ar yr ail dro, neu wedi i’r bêl ddod oddi ar ei frest neu’i goesau. Yn hytrach na “whipio’r” beils ffwrdd, byddai Wyn yn fwy tebygol o ddinistrio’r tair wiced wrth geisio stympio rhywun, a fydden ni’n gwario pum munud arall yn ceisio ail adeiladu’r wiced ar gaeau gwarthus Llandaf.
I’r rhai bu’n chwarae gydag e ar yr adeg hynny, efallai mai’r atgof mwyaf amlwg yw yn syml sut roedd Wyn yn edrych ar gae criced. Roedd y rhan fwyaf o’r bechgyn yr adeg hynny yn chwarae’n gyson, ac felly yn gwisgo gwisg criced arbennig a drud. Byddai Wyn ar y llaw arall y sefyll ar y cae mewn jeans gwyn, efo flares mawr ar y gwaelod. Am ryw reswm, wrth ei fod yn gwisgo pads criced, byddai’r flares yn dod yn rhydd ac yn ysgwyd yn y gwynt neu wrth iddo redeg.
Trwy gydol y pump neu chwe thymor cynta’ y cefais i efo’r Clwb, roedd Wyn yn un o’r cymeriadau mwyaf amlwg, ac imi yn un o’r rhai pwysicaf. Fe ddysgais gymaint oddi wrtho, boed hynny yn bethau yn gysylltiedig â rygbi neu’n bethau’n gysylltiedig â’r ffyddlondeb sy’n angenrheidiol i fod yn aelod o glwb fel hyn.
Erbyn imi orffen chwarae ym 1996, roeddwn o bell ffordd yn un o’r rhai a’r cysylltiad hiraf efo’r clwb. Roedd un neu ddau o chwaraewyr wedi bod wrthi gyhyd, fel Paul Thomas ac Eryl Jones, ond roedd y ddau yna wedi cael sbel oddi wrth y clwb am ryw reswm neu'i gilydd. Ond roedd un person wedi bod yn gysylltiedig â’r clwb cyn imi ymuno a oedd dal i fod yn gwylio’r diwrnod hwnnw pan orffennais i chwarae, sef Steve Lloyd. Mae’n cliché i raddau, ond mae’n wir bod angen rhywun fel Steve ar bob clwb.
Doeddwn i ddim yn gwerthfawrogi ei gyfraniad yn y dyddiau cynnar. Y tro cyntaf imi gwrdd â Steve oedd pan drefnodd gwis chwaraeon yn y gyfnewidfa lo, ein clwb ni ar y pryd. Yr unig atgof a ddaeth o’r noson honno oedd bod Steve yn gwybod unrhyw beth a phopeth oedd yn gysylltiedig â chwaraeon. Daeth hwn yn fyw amlwg blwyddyn neu ddwy yn ddiweddarach pan gynrychiolodd Steve y Clwb yn ddigon llwyddiannus ar gwis chwaraeon ar S4C.
Ond dros y blynyddoedd, daeth sgiliau trefnu Steve i’r amlwg o un tymor i’r nesa’. Fe dderbyniodd gyfrifoldeb o weithio ar y pwyllgor, a daliodd ‘mlaen trwy gyfnod newidiol ar ddechrau’r nawdegau pan gollodd y rhan fwyaf o’i gyfoeswyr o’r pwyllgor. Pan oedd angen hen ben i drafod problemau, roedd Steve ar gael. Rwy’n cofio Steve hyd yn oed ym 1995 yn teithio lan i Bwllheli ar ei ben ei hun ar fore Sadwrn cyn Nadolig i gadw golwg a chysylltiad â’r clwb, ac wedyn yn cael ei berswadio i aros y nos yn Aberystwyth gyda gweddill y chwaraewyr.
Ond mae’n siŵr mai’r brif atgof sy’ gan y rhan fwyaf ohonom oedd ei lwyddiant mewn trefnu’r daith flynyddol. Roedd y rhan fwyaf ohono’ ni’n ddigon hapus i fynd ar daith ar ddiwedd tymor, ond petai hynny yn golygu gorfod trefnu’r daith hefyd, byddai’r rhan fwyaf wedi cymryd cam yn ôl. Roedd bod yn gyfrifol am grŵp o ugain a mwy o ddynion ar daith yn rhywbeth na fyddwn yn dymuno ar y gelyn mwyaf. Sgwn i sawl gwaith y bu’n rhaid i Steve egluro ac ymddiheuro i bobl ar y fferi am yr ymddygiad neu’r iaith, neu sawl gwaith bu’n trafod y camymddygiad efo’r heddlu neu efo perchnogion y gwesty.
Yn fwy na hynny, sawl gwaith, sgwn i, bu’n rhaid iddo sefyll ar ei draed mewn bar yn Ffrainc yn mynnu bod pawb yn mynd nôl i’r bws oherwydd bod y gyrrwr yn barod i fynd. A beth oedd yr ymateb? Byddai rhai yn mynd yn syth nôl i’r bws, a’r gweddill yn benderfynol o orffen eu diodydd. Wedyn byddai un o’r rhai hynny yn penderfynu mynd i’r siop cyn mynd nôl i’r bws. Erbyn i’r rhai oedd yn gorffen ei diodydd gyrraedd y bws, roedd y rhai aeth nôl i’r bws cyntaf wedi dechrau gêm o bêldroed yn y maes parcio, a byddai’r amser yn mynd heibio ‘to. Ar ôl blwyddyn neu ddwy o brofiad, mae’n siwr fod Steve wedi dysgu bod angen o leia’ awr o rybudd cyn y byddai’n siwr fod pawb ar y bws.
Rhinwedd mwya’ Steve oedd ei amynedd. Rhaid ei fod yn paratoi yn feddyliol am wythnosau cyn teithio i wneud yn siwr y byddai’n barod am y sarhad cyfeillgar y byddai’n derbyn dros y tri neu bedwar diwrnod. Unwaith, a dim ond unwaith i’r cof ydw i’n cofio gweld Steve yn dechrau colli amynedd ag unrhyw un ar daith, sef y noson gofiadwy honno yn y bar yn Limoges. Roedd Martin Grundy ar ei orau ac yn arwain y ffordd gyda’r gwin a’r Pastis, a thra bod rhywun yn canmol Steve am ei waith trefnu ar y daith, dyma Martin yn dechrau canu “Lloydy Lloydy,Lloydy Lloydy, does neb yn waith na Lloydy; Lloydy Lloydy, Lloydy Lloydy does neb yn waith na Lloydy”(i gerddoriaeth Milgi-Milgi, dwi’n meddwl). Yn anffodus, gan i bawb syrthio mewn ‘hysterics’ penderfynodd Martin ail-ganu’r gan, ac yna am drydydd tro, erbyn hyn a phawb arall wedi ymuno, ac yn dal i fod mewn hysterics.
Roedd y sefyllfa yn dal i fod yn ddoniol pan aeth Martin ati am y pumed tro, ac efallai am y degfed hefyd, ond wrth iddo gadw ‘mlaen a ‘mlaen, ro’n ni’n gweld o wyneb Steve ei fod wedi cael digon. “OK Martin that’s enough” oedd y cwbl y dwedodd e ond roedd hynny’n ddigon i’r gweddill ohono’ ni wybod nad oedd Steve yn hapus â’r sefyllfa. Yn anffodus, roedd Martin yn fwy na hapus hyd nes iddo gael ei gario mas o’r bar ac, yn ôl pob sôn, cwympo i gysgu ar ben car. I’r rhan fwyaf ohonom ni, byddai hynny wedi bod yn hen ddigon inni, ond i fod yn deg, roedd Martin ar daith, ac yn benderfynol o beidio gwastraffu’r un funud, ac o fewn ychydig, agorodd y drws, a daeth llais Grundy eto “Lloydy Lloydy, Lloydy Lloydy...”
Bûm yn ddigon ffodus i chwarae gyda sawl chwaraewr o safon uchel yn ystod y pymtheg tymor. Bu rhai o’r rhain efo ni am amser hir, a rhai eraill am dymor neu lai wrth iddynt aros i symud mlaen i glwb arall. Roedden ni wrth gwrs yn ddiolchgar i gael unrhyw chwaraewr yn gysylltiedig â’r clwb.
Wedyn, wrth gwrs, roedd lot mawr o chwaraewyr da iawn oedd efo ni am sbel ac oedd yn gwbl ffyddlon i’r clwb. Yn wir dyma oedd cnewyllyn y clwb ar y cae - dim llawer o sêr, ond sawl chwaraewr da oedd yn fodlon bod yno bob Sadwrn. Dim ond nifer fach iawn yn fy amser i efo’r clwb, gallai fod wedi cael eu cynnwys yn y ddau grŵp uchod- chwaraewyr oedd o safon uchel iawn a oedd yn gwbl ffyddlon i’r clwb a oedd yn fodlon bod wrthi bob pnawn Sadwrn os yn iach. O fewn y grŵp bach hwn, roedd un chwaraewr yn sefyll mas trwy gydol fy hanes a’r clwb.
Nol yng nghanol y Nawdegau, aeth Alun Coch ati i drefnu cystadleuaeth Ffantasi Rygbi’r clwb. Rhoddwyd “gwerth” ar bob chwaraewr a rhaid oedd dewis tîm gyda swm o arian yn yr un modd ag y gwelir yn y papurau dyddiol. Daeth rhai o’r chwaraewyr gyda ffugenwau (Fingers, Dai Sebon etc), ac i John Hayes, rhoddwyd yr enw “brenin”. Dyna oedd barn a theimlad ei gydchwaraewyr tuag ato.
Roeddwn i’n gapten pan ymunodd John a’r Clwb. Fel canlyniad, chefais i fawr o gyfle i gadw golwg arno wrth iddo ddechrau’i yrfa yn yr ail dîm, gan na fedrwn i weld ymhellach na’r tîm cynta’. Y drafodaeth cynta’ dwi’n ei gofio oedd efo Butchie, diwrnod neu ddwy wedi i John dderbyn ei anaf cynta’ lan ym Mryncethin. Roedd Butchie wedi gweld John yn chwarae, ac roedd yn amlwg wrth wrando arno ei fod e’n sylweddoli bod anaf John yn mynd i fod yn golled mawr inni fel clwb.
Bu John nôl efo ni’r tymor wedyn, a chyn pen dim, roedd hi’n amlwg ei fod yn chwaraewr dawnus tu hwnt. Ar y pryd, roedd yn flaenasgellwr, ac roedd ganddo’r cyflymdra, weledigaeth, dewrder a’r hyder i sefyll mas yn rheolaidd. Yn ddiweddarach, symudodd i fod yn wythwr, a chafodd gyfle i arddangos ei sgiliau trafod hefyd. Petai wedi dewis, mae’n siwr y gallai fod wedi symud i chwarae a chlwb o safon uwch, ond yn ffodus inni, roedd John yn hapus. Roedd gwybod ei fod e ar gael ar bnawn Sadwrn yn hwb i weddill y clwb, yn yr un modd ac oedd y dyddiau pryn hynny pan nad oedd John ar gael yn cael effaith negyddol arnom.
Pan oeddwn yn dal i fod yn gapten, daeth John i gael gair efo fi ar gaeau Llandaf rhyw nos Lun tra’n bo ni wrthi’n ymarfer cyn dechrau tymor. Ro’n ni, fel arfer, wedi bod yn ceisio perswadio pawb i ymarfer yn gyson, trwy ddweud na fyddai’r rhai nad oedd yn ymarfer yn chwarae i’r tîm cyntaf y Sadwrn canlynol. Daeth John ataf ac ymddiheuro fod ganddo newyddion drwg. Mewn eiliad, aeth popeth trwy’r meddwl - roedd yn mynd i adael Caerdydd, roedd e’n bwriadu ymuno â chlwb arall, roedd am orffen chwarae...? Na, dim byd o’r fath. Roedd am egluro’i fod yn dechrau dosbarth nos ym mis Medi fyddai’n ei atal rhag ymarfer bob nos Lun, ond er hyn, doedd ddim am beidio â chwarae rygbi, felly fyddai’n ddigon bodlon chware i’r ail dîm bob wythnos. Gallwch ddychmygu’r rhyddhad imi, a’r penderfyniad sydyn bod y rheol o “no train no play” yn un twp beth bynnag a “rules are made to be broken..” ac yn y blaen. Fe chwaraeodd John yn gyson i’r tîm cyntaf y tymor hwnnw fel arfer.
Wrth i’r tymhorau fynd heibio, daeth John yn fwy ac yn fwy amlwg oddi ar y cae hefyd, a chwblhau ei “ddyletswydd” o dymor neu ddau ar y pwyllgor. Ond ei chwarae bydd yn aros yn y cof. Galla’i ond dychmygu’r effaith byddai torri coes yn cael ar ddyn. Ond mae gwneud hyn ddwywaith, a chadw mlaen i chwarae wedi hyn yn rhywbeth na alla’i ddechrau amgyffred. Roeddwn yno’r tro cyntaf, lawr yn Morganstown, pan gymrodd John y bel o gic cosb ar bwys ei lein nhw a rhuthro tuag at y gwrthwynebwyr. Gododd e ddim, ac wedi chydig o sylw gan un o’r doctoriaid, fe gerddodd i ffwrdd gyda help un o’r cefnogwyr.
Tymor neu ddwy yn ddiweddarach, sefyllfa debyg, gyda John yn derbyn y bêl ac yn rhuthro tuag at chwaraewyr Blaenafon, ac eto, clywyd crac, ac arhosodd John ar lawr. Do’n ni ddim yno’r tro hyn. Ro’n ni yn CRI yn barod, ac roedd hi’n od clywed y doctor yn dweud wrthyf, a gwên ar ei wyneb “ you’ll never believe this, but there’s another of your boys just arrived upstairs with a broken leg”. Na, doedd hynny ddim yn bosib. Mae’n siwr taw chwaraewr o ryw glwb arall oedd yno, yn gwisgo crys coch tebyg. Ond na, dyna lle’r oedd John druan, yn paratoi am stint arall mewn plaster. Byddai unrhyw ddyn cyffredin erbyn hyn, yn chwarae rygbi ar y lefel hyn, yn penderfynu rhoi’r ffidil yn y to, ond nid John. Mae’n deyrnged iddo fe ei fod wedi llwyddo dod nôl unwaith yn rhagor, ac wedi llwyddo chwarae’r gêm yn yr un ffordd roedd wedi gwneud am dymhorau cynt.
Yn debyg iawn i Steve Lloyd, mae Darran Phillips wedi bod yn wyneb cyson dros y blynyddoedd diweddar yma, heb iddo fod yn aelod cyson o’r tîm cyntaf. Byddai neb cyffredin yn teithio nôl o Lundain yn gyson fel Darran ar fore Sadwrn er mwyn chwarae gem, ac mae e’n dal i wneud hyn er gwaetha’r ffaith fod gemau wedi cael ei gohirio’n gyson unwaith iddo gyrraedd nôl. Yn fwy na hyn, tymor neu ddwy yn ôl, roedd e wedi bod yn y Dwyrain Canol yn gweithio, a thra’n aros i ddal yr awyren adre, daith neges bod yr awyren yn orlawn, a chafodd gynnig arian i aros yn y maes awyr am rai oriau nes bod yr awyren nesa’n teithio. Eglurodd Darran ei fod wedi trefnu rhywbeth adre ac felly roedd yn rhaid iddo fynd ar yr awyren cyntaf. A beth oedd wedi’i drefnu? Taith y clwb.
Dyna sut mae Darran wedi bod erioed. Un sy’n chwilio am gêm bod Ddydd Sadwrn. Mae’n ffilosoffi da. “You’re a long time retired”, medde nhw. Yr atgof cyntaf sy’ gen i ohono dra gyda’r Clwb, oedd ar fore gêm ryngwladol nôl ar ddiwedd yr wythdegau. Roedd hi wedi bod yn bwrw eira’n drwm ar y nos Wener ac felly, pan gyrhaeddais gae Cardiff HSOB, fel un oedd yn casáu gemau ar fore Sadwrn beth bynnag, roeddwn i wedi penderfynu na fyddai’n bosib chwarae. Roedden ni gyd yn y maes parcio yno yn siarad ac yn trafod lle i wylio’r gêm y prynhawn hwnnw, pan ddaeth Darran draw yn dweud fod y cae yn iawn i’w chwarae arni. Edrychodd pawb yn syn arno, a dywedodd y dyfarnwr ei fod yn hapus i’r ddau gapten dewis chwarae neu beidio. Roedd Darran fel ci sy’ am fynd am dro, yn mynnu mod i’n cerdded i ganol cae oedd yn gwbl wyn gyda’r eira, ac o’r diwedd fe gytunais i er mwyn ei gadw’n dawel. Unwaith i ni fynd i ganol y cae, roedd hi’n amlwg fod y cae yn berffaith. Yn lle rhewi, roedd yr eira’n hanner meddalu, ac roedd y cae fel carped. Cafwyd gem agored, mwynhaol na fyddai wedi digwydd o gwbl heblaw am ddyfalbarhad Darran.
Mae Darran wedi diodde’ ddigon dan hiwmor sawl un o aelodau’r clwb, ond gellir bod yn siwr ei fod e’n derbyn popeth a gwên ar ei wyneb. Fel chwaraewr, roedd e’n anffodus braidd ei fod yn asgellwr, lle roedden yn draddodiadol gryf. Fel arfer, felly roedd yn gynrychiolydd yr ail dîm. Fe gafodd gyfle i’r tîm cyntaf un pnawn Sadwrn mewn gem gynghrair yn Blackweir yn erbyn St. Josephs. Efallai ei fod yn symboleiddio lwc Darran iddo anafu’r diwrnod hwnnw, a chafodd fawr o gyfle eto i gadarnhau ei le yn y tîm cyntaf. Ond eto, dw’i ddim yn meddwl ei fod yn poeni rhyw lawer - chwarae oedd ei fwriad, a’r argraff oedd nad oedd yn poeni os oedd efo’r tîm cyntaf neu’r ail.
Yr atgof cliria sy gen i amdano, yw pan oedd wedi derbyn swydd i reportio ar gyfer y BBC ar gemau pêldroed. Roedden ni wedi bod yn chwarae yn erbyn Morganstown, ac yn eistedd yn eu clwb nhw yn gwylio’r teledu, pan daith llais Alan Wilkins, neu rywun tebyg, yn dweud:
“It’s been a bad day for Swansea City today. A five-nil home defeat at the hands of ...At the ground for us today is Darran Phillips”
Daith bloedd fawr o chwaraewyr y Clwb yn mynnu bod pawb yn dawel gan fod y gohebydd hwn yn aelod o’r Clwb. Wrth gofio fod Abertawe wedi colli o bump i ddim ar eu cae ei hunain, agorodd Darren a’r llinell;
“This was a game that Swansea didn’t deserve to lose!”
Yn ffodus i Darran, fe benderfynodd ganolbwyntio ar faterion ariannol wedi hyn. Efallai ein bod ni fel Clwb wedi bod yn lwcus hefyd bod hyn wedi’i rhyddhâi i’n cynrychioli ar brynhawn Sadwrn yn lle.
3. “…Just for one day…”
Wrth gwrs, efo pob clwb mae 'na chwaraewyr sy’n ffyddlon am dymhorau maith, boed hynny efo’r tîm cynta neu’r ail. Ar y llaw arall, bu yna nifer fawr o chwaraewyr bu gyda ni am amseroedd byr. Roedd hynny hyd y gwyddwn i oherwydd natur y Clwb, a’r ffaith bod lawer o bobl yn dod i weithio i Gaerdydd am flwyddyn neu rai oedd yn y coleg cyn mynd nôl adre to.
Yn ogystal â hyn, bu yna nifer fawr o chwaraewyr bu’n gysylltiedig â ni am amser byr, a sawl un o’r rhai hynny wnaeth chwarae ‘mond gem neu ddwy yn ein plith. Mae llawer o’r rhain yn gymeriadau cofiadwy, a chafodd sawl un diwrnod i’w gofio tra’n gwisgo’r crys coch.
Nol yng nghanol yr wythdegau, Y CIACS oedd tîm gorau Caerdydd o bell ffordd, ac roeddynt yn un o dimoedd cryfa’r wlad, yn ennill cwpan y Bragwyr o leia’ dwywaith. Oherwydd hyn, yn anaml iawn y byddem yn eu gwrthwynebu. Ond fe ddaeth un bore Sadwrn pan dderbyniwyd gem pŵl yn eu herbyn gan yr ysgrifennydd gemau, Gareth Harries o bosib, ac yn ôl y disgwyl, fe ddechreuodd sawl aelod tynnu nôl ac egluro nad oeddynt ar gael y Sadwrn hwnnw wedi’r cwbl. Wrth i’r penwythnos agosáu roedden ni’n fyr o ddau neu dri chwaraewr, ac fe drafodwyd p’un ai gohirio’r gêm neu beidio. Er mwyn sicrhau bod y gêm yn mynd yn ei flaen, cynigiodd Terry Bach ddod a dau o’i ffrindiau lawr i gael gem.
Nawr, mae’n siwr gen i na ofynnwyd i Terry pwy oedd yn dod lawr i chwarae. O gofio fod Terry wedi bod yn y coleg yng Nghyncoed, efallai y gallwn ni fod wedi disgwyl y byddai’u ffrindiau’n debyg o fod yn chwaraewyr o safon. Ond dyna lle’r oedd e’r bore Sadwrn hwnnw, gydag un blaenwr cryf, a’i glustiau’n amlwg wedi bod mewn sgrym neu ddwy yn y gorffennol, ac asgellwr tal a chyflym. Ar y pryd, fe’u cyflwynwyd i ni fel Marc a John, ac fe aethon ni mas i’r cae.
Mae’n syndod cymaint o wahaniaeth mae dau chwaraewr yn gallu gwneud i glwb. Roedd John yn chwarae yn yr ail reng er mwyn imi chwarae fel wythwr, ac roedd yn amlwg ei fod wedi arfer chwarae safon llawer yn uwch na hyn. Fe fyddai’n ennill y bel yn y leiniau, ac yn cyfrannu’i bwysau yn y sgrym, ac yna, fe oedd yn cyrraedd y bel yn gyntaf i sicrhau bod y meddiant yn cael ei gadw. Os oedden ni dan bwysau, byddai’r bel yn cael ei ‘sgubo draw i Marc, a byddai fe’n osgoi tacl neu ddwy cyn ennill tir a rhyddhâi’r pwysau, cyn chwilio am John a fyddai wrth ei ysgwydd, ac yn ddigon cryf i ddal mlaen i’r bel hyd nes i’r gweddill ohonom ni gyrraedd. Mae nhw’n dweud bod un neu ddau chwaraewr da yn gallu codi safon gweddill y tîm, ac roedd hynny’n wir y diwrnod hwnnw.
Erbyn i’r gêm orffen, roedden ni wedi ennill o ryw 43 pwynt yn erbyn tua 15. Doedd chwaraewyr y Ciacs yn methu’n lân a chredu beth oedd wedi digwydd - yn wir, roedd 'na rai ohono’ ni oedd yn ei gweld hi’n anodd credu. Doedd fawr o syndod yn hwyrach y diwrnod hwnnw pan eglurodd Terry mai John Morgan, blaenasgellwr, ac yn ddiweddarach, capten tîm Penybont, a Marc Batten, asgellwr Casnewydd a (dwi’n meddwl) Cymru B oedd y ddau westai. Rhyw fis yn ddiweddarach, y Ciacs a ni oedd y ddau glwb yn y pŵl eto ar gyfer rhyw fore Sadwrn, a chafwyd cyfle i ailchwarae’r gêm gofiadwy honno, ond y tro hwn i ni, heb y ddau chwaraewr dosbarth cyntaf. Gorffennwyd y gêm gyda’r sgôr yn reit debyg i’r gêm cynta hwnnw, ond bydd neb yn synnu mai’r CIACS oedd yn fuddugol y tro hwn.
Mae 'na rai sy’ heb fod mor llwyddiannus â hyn. Wrth imi ddechrau ‘ngyrfa efo’r clwb, daith chwaraewr newydd i’n plith, doctor mae’n siwr. Doedd e ddim yn dod o Gaerdydd, yn wir doedd e ddim yn dod o Gymru, ond mi roedd 'na sôn ei fod wedi cynrychioli ei wlad yn y gorffennol. Roedd e’n digwydd dod o Kenya, ac felly’n ddigon syml, ymunodd ‘Dai Kenya’ efo ni. Roedd Dai yn asgellwr ac mae’n siwr petai wedi cael ‘chydig o bêl y byddai wedi datblygu’n chwaraewr da inni. Roedd wedi ymuno yn ystod mis Awst 1984 ac felly’r gobaith oedd y byddai’n chwarae rhywfaint cyn i’r Gaeaf ddod, a’r tywydd gwaethygu.
Yn anffodus i Dai, daith ei gyfle mawr mewn gem gwpan yn ystod ail wythnos mis Medi yn erbyn ail dîm Illtydians lan ar gaeau’r ganolfan hamdden yn Rumney. Er mawr siom inni gyd, bu’n glawio trwy’r dydd, ac erbyn i’r gêm gychwyn, roedd hi’n amlwg ei bod hi’n mynd i fod yn gêm i’r blaenwyr yn hytrach na’r cefnwyr. Wrth edrych nôl, efallai bod hyn wedi bod yn beth da. Y rheswm am hyn oedd nad oedd neb wedi gofyn i Dai os oedd ganddo bâr o fŵts rygbi. Dim ond wrth inni redeg i’r cae yr amlygodd hi fod Dai yn bwriadu chwarae ar noson wlyb, brwnt mewn pâr o trainers. Eto, er mawr syndod i neb, yr unig dro iddo gael ei ddwylo ar y bel, fe syrthiodd i’r llawr o fewn dim. Yn siomedig inni fel clwb, fe gollwyd y gêm o 8-6 ac roedd cyfle arall yn y Mallet wedi mynd.
Yn symud nôl at ddyddiau positif o’r math yma, mae yna atgof clir iawn i’r rhai hynny ohonom ni oedd yno, o’r diwrnod y chwaraeom yn erbyn Barry Plastics mewn gem i ddatgan pwy fyddai’n dyrchafu i adran gynta’r Cardiff and District. Yn ôl y cof, roedd y tîm yn weddol gryf, dan gapteiniaeth Meurig Phillips. Roedd hi wedi bod yn dymor llwyddiannus, ond roedd angen un fuddigoliaith arall i sicrhau mynd lan.
Oherwydd ei bod hi mor hwyr yn y tymor, chawsom ni ddim caniatâd chwarae yn Llandaf, ac felly rhaid oedd teithio lawr i’r caeau ar bwys Parc Ninian. Heblaw am hynny, roedd pethau o’n plaid gan ei bod hi’n heulog a sych. Wedi i ni gyrraedd y cae, fe arhoso’n ni’n amyneddgar am rywun i agor y ‘stafelloedd newid. Erbyn tri o’r gloch roedd hi’n amlwg fod gennym broblem. Aeth Meurig ati i geisio dod o hyd i unrhyw un oedd ag allwedd, ond roedd y dyfarnwr yn fryn ei amynedd, a buon ni’n bron a chytuno i symud y gêm i chwarae yn Sully ar gae croesawgar y Plastics. Diolch i’r drefn, trodd y gofalwr lan jyst mewn pryd, a llwyddwyd chwarae rhyw hanner awr yn hwyr.
Ond roedd un broblem arall wedi bod hefo ni. Fel arfer, roedden ni wedi bod yn fryn o chwaraewyr rheng blaen. Roedd Dai Owen ar gael, ond roedd Dai yn ifanc ar y pryd. Roedd Tony ar gael i fachu, ond doedd neb arall ar gael. Gyda rhai gwrthwynebwyr, doedd hyn ddim yn ormod o broblem, a byddai rhywun fel Geraint Roberts (Skip) yn cael ei drafftio i’r tîm cyntaf. Ond yn erbyn Barry Plastics, doedd hyn ddim yn opsiwn oherwydd bod ei blaenwyr yn rhy gryf ac yn rhy gâs. Fe fydden nhw wedi bod yn ddigon hapus petai un o’n chwaraewyr wedi anafu, felly roedd yn rhaid ceisio dod o hyd i rywun er mwyn diogelwch ein chwaraewyr. Yn ogystal â hyn, roedden ni am ennill y gêm, a’r ffordd gorau o wneud hyn oedd trwy ddod o hyd i brop arall.
Nid am y tro cyntaf, na’r olaf, Andy Thomas, Stumpy, ddaeth i’n achub ni. Roedd e’n nabod rhywun fyddai’n fodlon helpu mas am un gêm. A dyna sut ddaeth Ioan inni am 80 munud. Roedd e wedi bod yn chwarae dros Oakdale, ac roedd e’n brop heb ei ail. Galla’ i ond dychmygu beth oedd yn mynd trwy’i feddwl wrth wylio’r shambles cyn y gêm, ond i fod yn deg, unwaith i’r gêm ddechrau, dim ond un peth oedd ar ei feddwl, sef ennill brwydr y blaenwyr. Yn sgil hynny, fe aeddfedodd Dai yn sydyn fel chwaraewr, ac am unwaith, ni oedd yn curo’r Plastics ymysg y blaenwyr. Doedd hynny ddim wedi digwydd yn aml yn y gorffennol, a byddai ddim yn digwydd eto ryw lawer chwaith. Er gwaetha pob ymdrech ein gwrthwynebwyr, fe enillwyd y gêm a’r dyrchafiad. Unwaith yn rhagor, roedd angen inni fod yn ddiolchgar i rywun oedd yn fodlon troi mas ar fyr rybudd. Er inni ofyn iddo, dim ond unwaith yn rhagor fyddai Ioan yn rhydd i’n cynrychioli, a hwnnw hefyd mewn gem o bwys, sef yr un yn erbyn y Welsh Academicals flwyddyn yn ddiweddarach.
Un arall a ddaeth am un gêm unig dan berswâd un o’n ffyddloniaid oedd Iolo ap Dafydd. Roedd Iolo’n perthyn i Siôn Clwyd, ac ar y pryd, yn chwarae’n reit gyson dros Benybont. Ro’n i ar y pryd, ac yn dal i fod i raddau, yn ansicr iawn o chwaraewyr oedd wedi bod yn, neu oedd yn dal i fod yn chwarae safon uwch o rygbi. Roedd yr awr a hanner cyn dechrau gem yn gallu bod yn shambles llwyr, wrth inni aros am chwaraewyr, ffonio i berswadio bois i chwarae, danfon rhywun i nôl y cit, rhoi awyr yn y peli, chwilio am fflags ac yn y blaen. Roedd hyn oll yn rhan o natur y Clwb na fyddai’n newid tra bod y chwaraewyr yn rhedeg y clwb fel pwyllgor - doedd neb arall o gwmpas i gyfrannu.
Felly, y teimlad imi oedd bod unrhyw un oedd wedi gweld safon uwch yn disgwyl rhywbeth gwell a threfnus. Fydden nhw ddim yn disgwyl bod y cit yn dal i fod yn wlyb, neu waith fyth, heb ei olchi o gwbl, neu’r tîm cynta’n troi lan efo cit yr ail dîm, neu troi fyny yn Llandaf a ffeindio nad oedd dyfarnwr i gael, neu dim cae. Dyma rygbi fel y dylai bod, a ro’n i wastad yn synnu ar glybiau mwy o faint oedd yn cwyno nad oedd arian ganddynt ac yn y blaen. Fe ddylen nhw fod wedi gweld beth sy’n digwydd efo clybiau fel ni.
Fodd bynnag, er mod i’n awyddus i weld Iolo’n cynrychioli’r clwb, do’n ni ddim yn siwr be’ fyddai’i ymateb. Yn anffodus iddo fe, roedd y gêm i fod yn erbyn St. Albans lan ar eu cae nhw. I fod yn deg, roedd Iolo yno i ennill y gêm, ac fe ddaeth yn amlwg iawn pa mor rhwystredig roedd e’n mynd wrth inni’r blaenwyr methu â rhoi unrhyw fath o bêl iddo fe fel canolwr. Roedd gweddill y cefnwyr yn gwybod beth i’w ddisgwyl wrth deithio i Splott. Rhywfaint fewn i’r ail hanner, daith Iolo wyneb wrth wyneb a’i wrthwynebydd, a dechreuodd ffeit bach rhwng y ddau. Y peth nesa’ rwy’n cofio yw ei weld yn edrych ar y llawr i geisio dod o hyd i’w ddant, oedd wedi ei daro mas!
Fe gafodd Iolo’r ‘air diwetha' wrth sgorio cais cyn diwedd y gêm, ond erbyn hynny, roedden ni rhyw drideg pwynt ar ei hol hi. Eto, er mawr syndod i neb, ni welwyd Iolo yng nghrys y clwb eto. I fod yn deg iddo fe, wrth drafod gydag e’n ddiweddarach, dwi’n meddwl nad oedd y syniadau oedd gen i ynglŷn â chwaraewyr safon uwch yn berthnasol i Iolo. Roedd e’n gystadleuol iawn, ac rwy’n meddwl mai’r unig beth ar ei feddwl oedd ennill y gêm. Dyna oedd achos ei rwystredigaeth. Roedd yn anffodus i ni fel clwb na chafodd e gyfle i’n cynrychioli ar ddiwrnod lle’r oedden ni ar ein gorau, a phan fyddai wedi derbyn digon o bêl i gael gweld gwir safon y clwb.
Wrth edrych nôl ar rai sy’ wedi chwarae dros y clwb, mae pawb yn gofiadwy am ryw reswm neu'i gilydd. Ond mae un chwaraewr sydd yn aros yn fy nghof yn eglur iawn, er iddo chwarae ‘mond un gêm i’r clwb, a welais i mohono naill ai cyn, neu wedi’r gêm honno.
Fel yr oedd hi yn gyson, roedden ni’n fyr o chwaraewyr rheng blaen. Am ryw reswm roedd gem wedi’i drefnu ar fore Sadwrn( gem ryngwladol arall, mae’n siwr) yn erbyn Morganstown. Doeddwn i ddim yn un oedd yn mwynhau gemau ar fore Sadwrn ar unrhyw adeg, ac roedd chwarae Morganstown yn sicr ddim ar unrhyw restr o bethau i’w fwynhau. Yn ogystal â hyn, doedd ddim props ar gael, ac roedd y tywydd yn ofnadwy. Ond ro’n i’n gapten ar y pryd, felly rhaid oedd mynd ati i geisio trefnu tîm. Yn y diwedd, fe gysylltodd Steve Lloyd a fi i ddweud fod ganddo ffrind oedd yn brop fyddai’n fodlon chwarae’r bore hwnnw. Wel o leia’ fyddai tîm ‘da ni.
Wrth gyrraedd y cae, roedd y glaw yn tywallt lawr, wrth imi chwilio am ein prop newydd. I fod yn deg, roedd e ‘na’n disgwyl, ac eto i fod yn deg, roedd e’n edrych fel prop-‘chydig yn fach, ond y siâp iawn o leia’. Aethon fewn i’r stafelloedd newid, ac roedd pethau’n edrych yn well na’r arfer wrth imi weld fod tîm cyfan efo ni i ddechrau’r gêm. Daeth y dyfarnwr fewn i drafod y gêm a gofyn inni fod ar y cae mewn rhyw bum munud. Fe gofiais nad oeddwn wedi trafod ‘lineout signals’ gyda’r prop newydd (Jon dwi’n meddwl) ac felly fe es i gael gair byr gydag e. Wrth siarad, fe ddechreuodd e roi maneg golchi llestri (Marigold) melyn ar ei law chwith. Edrychais arno’n syn, ac fe eglurodd fod ganddo bwythau yn un o’i fysedd, ac roedd y faneg yn ffordd ddoeth o gadw’r bys yn sych. Roedd hyn yn wir, ond ‘sbosib nad oedd angen y faneg gyfan yn mynd hanner ffordd lan ei fraich. Dechreuais feddwl efallai’i fod yn bwriadu rhoi rhimyn neu dâp drosti, ac fe gerddais i ffwrdd gan groesi bysedd nad oedd yn bwriadu mynd i’r cae gyda hwn ar ei law.
Yn anffodus, dyna’n union beth wnaeth e. Doedd e ddim yn poeni dim fod pawb ar ochr y cae yn ei alw’n Marigold Man. Ro’n i’n gobeithio y byddai’n cadw ei law allan o’r golwg lle’n bosib, ond na, roedd e’n benderfynol o wneud y gwrthwyneb. Pob tro fyddai’r bel yn croesi’r ystlys, byddai Jon ar flaen y lein yn gwaeddi “here’s the mark,lads” yn dal y llaw felen hon i’r awyr i bawb cael gweld.
Collwyd y gêm honno, a gwelwyd Jon byth eto. Roedd gan hyn rywbeth i wneud hefyd a’r ffaith i flaenasgellwr Morganstown twrio bys fewn i lygaid Jon wrth inni fynd lawr i gael sgrym. Fe gododd e fel petai rhywun wedi ei saethu, ond yn anffodus, chafodd fawr o sylw gan nad oedd neb yn fodlon ei gymryd o ddifri oherwydd y faneg.
Roedd y diwrnod hwnnw yn gofiadwy imi hefyd am ryw reswm am un achlysur arall. Ar yr asgell chwith y diwrnod hwnnw roedd Dafydd Levi. Roedd Daf gyda’r asgellwyr cyflyma bu efo ni trwy gydol fy amser yno, ac unwaith i’r bel gyrraedd ei ddwylo, roedd e’n gallu bod yn dwyllodrus iawn. Dangoswyd hyn pan enillodd wobr chwaraewr mwyaf gwerthfawr yn ystod cystadleuaeth ffantasi’r clwb. Na, problem fwyaf Dafydd oedd sicrhau bod y bel yn aros yn ei ddwylo’n ddigon hir iddo gael effaith. Yr enw a gafodd gan Alun Coch, oedd ag enwau i bawb, oedd Dai Sebon.
Felly ar ddiwrnod gwlyb a gwyntog, doeddwn i ddim yn disgwyl i Dafydd gynnig cyfraniad mawr inni. Felly ‘roedd hi pan enillodd Morganstown y bel a chodwyd up-and-under anferth gan eu maswr. Rwy’n cofio rhedeg nôl i edrych i weld lle’r oedd ein cefnwr ni i gael dal y bel a’i chlirio. Yn sydyn, daith llais isel i’r clust. “Pêl fi”(a bod yn onest, wrth ystyried Cymraeg cywir Dafydd, efallai taw “fy mhêl” glywais i). Ta beth, doedd clywed llais Dafydd ddim yn ein llenwi a hyder. Roedd y bel yn uchel, roedd hi’n wlyb ac yn wyntog, ac roedd pob un o chwaraewyr Morganstown yn paratoi i lanio ar yr asgellwr unwaith iddo gymryd y bel.
Ond roedd hyn i fod yn ddiwrnod, neu’n foment i’w gofio. Estynnodd Dafydd ei freichiau, a dalodd y bel ar flaen ei fysedd. Wedi cyflawni hyn, fe gododd ei ben a dechrau rhedeg fel Forest Gump, gan ennill tir a churo gwrthwynebwyr. Fe’i taclwyd yn y diwedd, ond dim ond wedi iddo redeg y bel o’n dwy-ar-hugain ni i’w dwy-ar-hugain nhw. Oedd, roedd hi’n fore i’w chofio’n wir .
4. Y tîm poblogaidd
Am ryw reswm, doedd y Clwb ddim yn dîm poblogaidd iawn. Dyma’r unig reswm sy’n dod i’r meddwl, paham roedd y rhan fwyaf o’n gwrthwynebwyr yn ein croesawu a dyrnau a chicio lle bo angen. Mewn ffordd arall, mae’n bosib ein bod ni yn un o’r timoedd mwyaf poblogaidd, gan fod ein gwrthwynebwyr wastad yn disgwyl cael gwared â bob rhwystredigaeth bywyd yn ystod 80 munud yn ein herbyn. Roedd 'na ddyddiau pan oedd yr ymladd yn werth chweil, gan ei fod yn dangos ein bod ni wedi ennill goruchafiaeth drostyn nhw. Ond ar ddyddiau eraill, roedd hi’n amlwg fod y trais wedi ei rhagfwriadu fel modd o’n brawychu. Rhaid bod yn onest, fe weithiodd hyn ar sawl achlysur. Roedden ni gyd yn gorfod mynd i’r gwaith ar fore Dydd Llun wedi’r cyfan.
Roeddwn i’n edmygu sawl tîm yn yr ardal oedd yn amlwg a thuedd i fod yn frwnt, ond a oedd yn hytrach yn canolbwyntio ar eu rygbi, oherwydd eu bod nhw’n gallu chwarae rygbi da. Roedd St.Albans, Fairwater a Caerau Ely erbyn y diwedd yn eu plith ar y pryd. Ar y llaw arall roedd yna glybiau nad oeddent yn chwarae rygbi cystal, ond oedd yn chwarae er mwyn mwynhau. Byddai’r CIACs, neu Sully a’r rhan fwyaf o ail dimoedd y clybiau mwy yn dod o dan y faner hon.
Ac wedyn roedd y clybiau eraill. Roedden ni gyd yn edrych yn fanwl ar y rhestr gemau ar ddechrau’r tymor i weld pa benwythnos fyddai’n ddoeth i fynd ar wyliau efo’r wraig. Mae 'na sawl gem sy’n dod i’r cof, lle fyddai wedi bod yn well gen i fod unrhyw le arall ar y blaned.
Roedd pob trip lawr i Barri Plastics yn antur reit arbennig. Roedd popeth yn gweithio yn ein herbyn ni lawr ‘na. Roedd blaenwyr mawr ‘da nhw, roedden nhw’n chwarae gêm dyn, roedd y gwynt wastad yn chwythu’n gryf, roedd hi fel arfer yn glawio, roedden ni fel arfer yn cael dyfarnwr gwan, ac yn fwy na hyn, roedden nhw yn ein casáu ni. Rwy’n cofio un o’u chwaraewyr yn siarad hefo John Hayes un diwrnod. Roedd John wedi dod oddi ar y cae gydag anaf. Roedd ei chwaraewr nhw wedi ei anfon o’r maes. Eglurodd ei chwaraewr nhw nad oedd ganddyn nhw unrhyw beth yn ein herbyn ni fel unigolion, ond roedd pethau wedi digwydd yn y gorffennol. Roedden ni gyd yn teimlo lot yn well wedi clywed hyn. Mae’n anodd dychmygu be’ oedd wedi digwydd yn y gorffennol i greu'r fath yma o gasineb.
Fe gyrhaeddo’n ni yno un pnawn Sadwrn dan gapteiniaeth Meurig Phillips. Roedd y glaw wedi bod yn syrthio drwy’r wythnos, ac unwaith yn rhagor, roedd cytuno i chwarae’r gêm yn nwylo’r ddau gapten a’r dyfarnwr. Roedd pymtheg ohonom ni yno yn croesi’n bysedd mai gohiriad fyddai’r canlyniad - stay of execution, efallai. O’r ‘stafelloedd newid, doedd hi ddim yn bosib gweld y cae, felly’r meddwl oedd y byddai’n rhaid canslo, sbosib. Ond wrth i Meurig ddod nôl o’r “pitch inspection” roedd yn amlwg o’i wyneb ei fod wedi colli, a bod y gêm mlaen.
Aethom fewn i’r stafell oer a bach, a dechrau newid a cheisio meddwl am y gêm. Roedd hyn bron a bod yn amhosib oherwydd y sŵn oedd yn dod o’r stafell arall. Roedden nhw yn curo’r waliau ac yn gwaeddi rhywbeth croesawgar, pleserus, “Kill the Welshies” neu rywbeth tebyg. Roedd y gêm wedi’i golli cyn i ni adael yr ystafell honno.
Ar y cae, roedd casineb y chwaraewyr a’r gwylwyr yn ddi-baid. Wrth ddilyn y bel, roedd yn rhaid cadw golwg y tu nôl, er mwyn sicrhau nad oedd dwrn neu gic yn dod tuag atom - hunan-cadwraith oedd y peth cyntaf ar ein meddyliau. Ar un adeg, cefais afael ar y bel wedi tafliad. Roedd eu mewnwr nhw a’i ddwylo ar y bel hefyd, ac roedd ei geg yn erbyn fy mraich dde. Yn sydyn, sylweddolais nad oedd wedi cael brecwast y bore hwnnw, gan ei fod yn cnoi ar fy mraich yn ffyrnig. Wedi’r gêm, roedd gen i farciau clir lle’r roedd ei ddannedd wedi bod, ac mae’r graith yno o hyd. Wyddwn i ddim be fyddai wedi digwydd pe na bawn wedi bod yn gwisgo crys trwchus, neu petai wedi cael ei ddannedd ar fy nghlust.
Yn hwyrach yn yr un gêm, roeddwn ar fy mhen ôl yn codi o sgarmes gyda’r bel wedi hen ddiflannu. Roedd un o chwaraewyr y Plastics ar ei ben gluniau, efo’i ben glun yn erbyn fy mhen glun i. Fe geisiodd wedyn i dynnu rhan isa’ nghoes tuag ato er mwyn iddo dorri’r coes efo’i ddwylo, yn yr un ffordd, efallai, ag y byddai’n torri darn o bren dros ei ben glun. Lwyddodd e ddim wrth gwrs, ond roedd e’n anodd credu y gallai dyn geisio gwneud rhywbeth mor farbaraidd â’i ddwylo.
Dyna fel yr oedd hi lawr yno. Roedd pawb yn falch i gael gorffen y gêm a gadael yno am dymor arall. Yn anffodus, roedd eu tactegau nhw yn gweithio’n aml, gyda’r clwb yn colli gemau y dylen fod wedi ei hennill. Roedden ni’n falch iawn, sawl tymor wedi imi orffen chwarae, i’r Clwb fynd lawr ‘na i chwarae gem gwpan, gyda nifer o chwaraewyr nad oedd wedi bod lawr yno o’r blaen. Heb yr hanes roeddwn i a’m cydchwaraewyr yn ei gofio, aeth y bois newydd yno, a chwarae gem agored a llwyddo ennill y gêm yn y modd a ddisgwylir gan y Clwb.
Blwyddyn neu ddau ynghynt roedd y Clwb wedi chwarae gem cynghrair yn erbyn ail dim Rumney. Roedd John Hayes a finnau wedi ein hanafu bythefnos cyn y gêm, a Martin Grundy wedi derbyn niwed i’w wyneb yr wythnos cynt. Roedd hi’n mynd i fod yn galed i weddill y pac wedi colli tri o’u cydchwaraewyr, ond roedd yr ysbryd yn uchel petawn ni’n gallu ennill digon o feddiant. Fe gyrhaeddais innau, a sylweddoli nad oedd neb arall o’r Clwb yno heblaw amdana i-dim subs, dim gwylwyr, neb. Felly fi ddaeth yn gyfrifol am roi’r fflags mas, rhoi pads y pyst mlaen, rhedeg y lein, cario’r bag meddygol, cario’r dŵr ac yn y blaen.
Roedd pethau’n datblygu’n dda ar y dechrau gyda’r cefnwyr yn rhedeg yn dda ac yn ennill tir. Wedi tua chwarter awr, sgoriwyd cais i’n rhoi ni ar y blaen, ac fe es i y tu ôl i’r pyst wylio’r trosiad. Wrth sefyll yno, cefais gyfle i wrando ar eiriau ysbrydoledig capten Rumney yn dymuno mwy oddi wrth ei chwaraewyr, rhywbeth tebyg i
“I doesn’t care wot we ‘as to do, I doesn’t care if we ‘as to kick ‘em, punch ‘em, stamp on ‘em, gouge ‘em or bite’em. We just got to do somein’, OK”
Wel roedd hynny’n ddigon i ddechrau rhyfel byd arall, a daeth eu chwaraewyr mas yn chwilio am drwbl. Dechreuodd y dyrnau hedfan a chael effaith ar ein pac ifanc. Ond ymhlith ein blaenwyr y diwrnod hwnnw, roedd Llyr Williams, un nad oedd yn derbyn cymryd cam yn ôl, ac roedd e’n ddigon bodlon dosbarthu cymaint ag yr oedd yn derbyn. Yn anffodus, rwy’n cofio’n eglur gweld dwrn un o chwaraewyr Rumney yn dod nôl wrth ei ysgwydd, ac yna yn taro un o’n chwaraewyr fel bwled. Er mawr syndod i neb, Llyr oedd yr un anlwcus, ac fe ddechreuodd gerdded tuag ataf, a gwaed yn dod o’i foch, a chwt dwfn islaw ei lygad chwith. Mewn gem gyffredin, byddai Llyr wedi gadael y cae ac un o’r eilyddion yn dod ‘mlaen. Ond wrth gwrs, doedd dim eilydd ‘da ni, felly fe benderfynodd Stumpy gosod pwythau yn ei foch ar ochr y cae.
Mewn theori, byddai hyn wedi bod yn iawn. Parhaodd y gêm gyda’r clwb yn chwarae gyda 13 dyn, ac fe estynnais i fy nghyfraniad am y diwrnod i fod yn nyrs tra bod Stumpy’n pwytho. Roedd hyd yn oed hynny’n anodd. Dwn i ddim am faint roedd y pethau meddygol wedi bod yn y bag, ond fydden ni ddim yn synnu petai wedi cael ei phrynu gan Frankie rhyw ddegawd ynghynt. Fe geisiodd Stumpy dorri trwy groen Llyr gyda’r nodwydd, neu beth bynnag mae’n nhw yn ei defnyddio, yn gwbl “blunt”, a bu’n rhaid gwthio fe trwyddo. Wedyn fe ofynnodd imi dorri’r pwyth, sy’n swnio’n ddigon syml, nes sylweddoli mod i’n defnyddio siswrn oedd yr un pa mor “blunt” a’r nodwydd. Roedden nhw fel y fath o siswrn ro’n ni’n defnyddio yn yr ysgol gynradd, rhyw 25 mlynedd yn ôl, gyda hanner cylch ar y pen. Fe dynnwyd wyneb Llyr ymhob cyfeiriad ac mae’n siwr gen i fod y graith sy yno nawr yn gwbl igam-ogam.
Wrth gwrs, roedd chwaraewyr Rumney yn gwbl cyd-ymdeimledig. Aeth y bel dros yr ystlys, a chan fy mod yn gweithio fel Florence Nightingale ar y pryd, doedd hi ddim yn bosib imi redeg y lein i arwyddo lle’r oedd y bel wedi croesi. Dyna gyd a glywyd o’u chwaraewyr nhw oedd “C’mon ref, they’ve gorra have a linesman...tell ‘im”. Doedd y gêm ddim yn llawer o sbort ac fe’i collwyd.
Ar y cyfan, roedd timau Caerdydd lot yn waith na thimoedd y cymoedd. Roedden nhw (timoedd y cymoedd) gan amla’ yn gwerthfawrogi ein bod ni yn fodlon teithio tu fas i’r brifddinas, ac roedden nhw’n gwybod y bydden ni yn ceisio chwarae rygbi da. Wrth gwrs, rwy’n cofio teithio lan i Abercwmboi, gyda Richard Williams yn ceisio’i lwc fel bachwr am y tro cynta’. Er ei bod hi ar y cyfan yn gêm deg, rhywsut neu'i gilydd, roedd Rich wedi cael ei denu fewn i rai o gemau preifat y rheng flaen, ac wrth gwrs roedd ei wrthwynebwyr aeddfed wedi sortio fe mas. Roedd ei wyneb yn ddu a glas wrth inni orffen, a doedd neb arall yn gallu deall be oedd wedi digwydd, gan ei bod hi wedi bod yn gêm lan i’r gweddill ohono’ ni.
Fe aeth ambell gêm yn erbyn Old Tylerians o chwith hefyd. Roedd perthynas da wedi bod rhwng y ddau glwb am flynyddoedd hyd nes iddyn nhw ddod i Gaerdydd i’n chwarae ni ar Gaedelyn. Cafodd un o’u chwaraewyr ei ddanfon o’r cae am ryw stampio digon diniwed i gymharu â beth oedd yn gyffredin inni. Aethom lan yna yn hwyrach yn y tymor â phac gwan, ac fe’n trechwyd ymhob ffordd wrth iddynt ddial am y cam yn ei herbyn yn gynharach yn y tymor. Efallai inni golli’n ffordd rhywfaint y diwrnod hwnnw wrth inni yn y tîm cyntaf sylweddoli fod un o chwaraewyr yr ail dîm wedi cael anaf difrifol ar y cae nesa ato ni. Daeth si ei fod wedi torri ei gefn, ac fe’i gosodwyd ar fanc ar ochr y cae iddo gael gwylio diwedd y gêm!! Fe’i gadawyd ar lawr yr ystafell newid i geisio gwella, a does gen i ddim syniad sut yr aeth adre. Diolch i’r drefn, doedd e heb dorri’i gefn.
Ond y croeso mwyaf gwresog rwy’n ei gofio yn y cymoedd oedd hynny yn Nhroedyrhiw, ger Merthyr. Fe gwrddo’n ni yn Penarth Rd, ac fe amlygodd hi’n gyflym nad oedd Gavin yn mynd i allu codi ail dim. Roedd chwaraewyr yn tynnu mas, ac roedd y tîm cyntaf yn dwyn mwy ar ben hynny. Felly, fe benderfynwyd ffonio Troedyrhiw tua un o’r gloch i egluro nad oedd pwynt i’w ail dim nhw ddod lawr gan nad oedd tîm gennym. Roedd y tîm cyntaf i deithio i Droedyrhiw i chwarae’i tîm cynta nhw. Yn ffodus, roedd hi’n ddiwrnod sych, twym oedd yn ein siwtio ni. Yn anffodus, roedd ei ail dim nhw wedi penderfynu mynychu’r bar gan nad oedd gem ganddynt, ac erbyn i’r gêm ddechrau, roedden nhw fel banshîs ar yr ystlys yn dymuno gwaed. Roedd hi’n amlwg bod bois y tîm cynta am foddhau’u cydchwaraewyr.
Roedd hi’n un o’r gemau hynny pan oeddem yn difaru cwympo ar y bel ar y llawr. Os bu erioed ddiwrnod pan dderbyniodd sawl un ohonom “a good shoeing”, hon oedd hi. Rwy’n cofio gweld cefn Andy Long yn yr ystafell newid a dychmygu y gallem fod wedi chwarae noughts and crosses arni. Dim ond wrth gymryd cawod daith y boen wrth sylweddoli faint o niwed oedd wedi’i wneud i’r cefn.
Am unwaith, enillwyd y gêm. Roedd hi’n ddigon sych i’r cefnwyr redeg yn bert, a rhaid ein bod ni wedi ennill digon o bêl rhywsut. Roedd un o’n ceisiadau yn gofiadwy. Roedden ni yn ein hanner ein hunain, ac wrth-ymosododd y cefnwyr. Llwyddodd Iants fylchu a chroesi hanner ffordd. Doedd neb yn agos iddo, a dim ond cefnwr Troedyrhiw rhyngddo fe a’r lein, er bod rhyw 40m i fynd. Penderfynodd Ianto gicio’r bel, ac fe wnaeth hyn yn berffaith, gyda’r bel yn dod i aros ar ei llinell cais nhw. Daeth ein hasgellwr chwith, dwi ddim yn cofio pwy, trwyddo yn gyflym a chyrraedd y bel cynta’ i sgorio. Ond beth am Ianto? Ryw eiliad ar ôl iddo gicio’r bel, fe hyrddiodd cefnwr Troedyrhiw ato a’i ddal yn ei wyneb. “Thou shallt not pass”. Dwi ddim yn meddwl i Ianto gofio dim wrth inni ei godi ar ei draed a’i longyfarch am fesur ei gic yn berffaith inni sgorio.
Ond timoedd Caerdydd yw’r rhai mwyaf pleserus, ac roedd yna ddwy gêm gofiadwy iawn sy’n dod i’r cof. Roedd popeth oedd yn gysylltiedig â gem oddi-cartref yng Ngabalfa yn werth osgoi. Roedd hi’n un arall o’r gemau hynny lle byddai pawb yn ceisio dychmygu pob math o esgusodion. Roeddwn i wedi chwarae yno sbel yn ôl cyn inni orfod dod yn eu herbyn mewn gem gynghrair. Doedd ein ‘stafelloedd newid ni yn Llandaf ddim yn arbennig o bell ffordd, ond roedd y twll hwnnw yng Ngabalfa yn waith fyth-“pokey” fyddwn i wedi dweud yn Saesneg. Am ryw reswm, ro’n i wastad yn dychmygu y byddai ei chwaraewyr wedi rhoi gwydr neu hoelion ar y llawr inni gerdded arnynt. Dyna’r fath o syniadau byddai’r lle’n creu yn y dychymyg. Wedi’r gêm roedd rhaid gwario hanner awr bleserus yn y Master Gunner. I fod yn deg, doedd yna byth trwbl yno, ond roedden ni wastad yn cadw golwg dros ein hysgwyddau. Yr unig le ddaeth yn agos i hwnnw ar ôl gem, oedd wedi inni chwarae gêm yn erbyn Caerau Ely.
Roedd hi wedi bod yn gêm dda, ond wrth inni gyrraedd y dafarn yno yng nghanol Trelai, ro’n ni’n falch nad oeddwn i wedi dod â’r car. Rwy’n cofio larwm car un o’r bois, Kevin dwi’n meddwl, yn mynd off yn sydyn ar ôl inni gyrraedd yno ac yntau’n penderfynu’n ddoeth i fynd yn syth adre. Yna tra’r oedden ni wrthi'n bwyta’ daith rhywun fewn a dweud wrth Stumpy fod rhywun yn ceisio dwyn ei gar. Er y croeso yno, fe benderfynodd bawb yn sydyn iawn ei bod hi’n amser i fynd adre heb oedi.
Ond yn ôl i Gabalfa. Roedd hi’n gêm gynghrair, ac felly’n gem bwysig. Ond eto, roedd pawb yn gwybod yn iawn y gallai bethau troi’n gas. A dyna ddigwyddodd. Roedd y cae o dan y fflats gweladwy yng Ngabalfa, ac roedd torf weddol o bobl wedi dod allan i weld eu tîm yn ennill, heb boeni sut y byddai’r fuddugoliaeth yn dod. Roedd hi’n un o’r gemau mwyaf brwnt y bûm yn rhan ohono, ac roedd digon o gemau’n cystadlu am yr anrhydedd yna! O’r dechrau byddai pob sgarmes yn datblygu’n ymladd rhwng nifer o chwaraewyr. Fel oedd yn digwydd yn rhy gyson mewn gemau fel hyn, roedd dyfarnwr gwan wrth y llyw, ac roedd e wedi llwyr golli reolaeth o’r gêm. Fe ddaeth yn beryg ar adegau inni fod ar y cae, ac nid dim ond y chwaraewyr oedd wrthi. Ar un achlysur, torrodd mewnwr Gabalfa rownd ochr dywyll sgrym a chicio’r bel yn ddwfn i’n tir ni. Roeddwn i wedi torri o gefn y sgrym, ac fe geisiais “charge-down” o’r gic. Fe fethais a hynny, ac aeth fy momentwm a fi fewn i’r gwylwyr. Er mawr syndod, derbyniais ben-elyn i ngwyneb gan un ohonynt, a brysiais nôl mlaen i’r cae er mwyn bod yn ddiogel. Roedd hi’n ddigon eironig ar ddiwrnod cas fel hwnnw ei bod hi’n saffach i fod ar y cae nag oddi-arni.
Roedd hi’n od.
Dechreuais i dderbyn fod gemau fel hyn yn rhan o chwarae rygbi, ac nad oedd modd osgoi hyn. Bûm yn siarad â ffrind yn ddiweddarach oedd wedi chwarae rygbi yn Llundain, a doedd e’n methu â chredu beth roedd e’n ei weld pan fyddai’n dod i weld gemau pob nawr ag yn y man yn Llandaf. Roedd y gêm yn Llundain yn gwbl wahanol, medde fe, gyda phawb yn chwarae rygbi caled a dim mwy. Roeddwn i wastad yn ddiolchgar mod i’n gallu mynd i’r gwaith ar ddydd Llun ac anghofio am gemau fel hwnnw yn Gabalfa. Erbyn y Sadwrn canlynol, roedd yr atgofion cas wedi mynd.
Ond roedden i yn gwylltio i sylweddoli pa effaith roedd gemau fel hyn yn cael ar chwaraewyr eraill. Roedd Phil Thomas yn flaenasgellwr gweithgar, ac yn un oedd yn siwtio gem agored y Clwb. Roedd e hefyd yn ddoctor, ac felly yn gydwybodol iawn o’r pwysigrwydd ei fod yn iach i fynychu’r gwaith ar ddiwedd y penwythnos. Rwy’n cofio gweld Phil yn dod nôl tuag ataf ar ôl sgarmes oedd eto wedi datblygu’n ffeit, yn ysgwyd ei ben o un ochr i’r llall. Dw’i ddim yn meddwl ei fod wedi gweld y fath beth yn ei fywyd. Y peth gwaethaf i ni fel clwb oedd yn fyr o chwaraewyr, ac yn fyrrach fyth o chwaraewyr da, oedd na welwyd Phil eto yn cynrychioli’r clwb. Pwy allai roi bai arno?
Doedd dim pob gem yn erbyn Gabalfa cynddrwg a’r un yma, ond doedd hi byth yn bleser mynd yno. I roi halen yn y briw, ar ôl y gêm, ac ar ôl defnyddio’r cawodydd pleserus, roedd yn rhaid mynd i’r Master Gunner i fwyta. Doedd dim ryw lawer i ddweud am hynny chwaith.
Gemau fel hyn berswadiodd y clwb nad oedd hi’n werth parhau yng nghynghrair Caerdydd. I bob gem dda yn erbyn gwrthwynebwyr teilwng, roedd yna ddwy neu dair gêm yn erbyn timoedd fel hyn. Daeth y sefyllfa i’w derfyn wedi gem gwpan yn erbyn Llanedeyrn. Roedden nhw yn yr ail adran ar y pryd, a ninnau yn yr adran gyntaf. Roedden nhw yn reit gryf ac roedd hi’n edrych yn ddigon tebygol y byddent yn ymuno â ni'r flwyddyn ganlynol. Erbyn hynny, roedd tîm aeddfed gennym, ac roedden ni gyd yn gwybod beth oedd i’w ddisgwyl y prynhawn hwnnw. O leia’ roedd y gêm i’w chwarae yn Llandaf. Oedden, roedden ni gyd yn disgwyl y dyrnau, ac roedden ni gyd yn gwybod nad oedd unrhyw bwynt gadael iddyn nhw’n profocio ni. Roedd hi’n bwysig inni adael i bopeth fynd uwch ein pennau ni. Roedd pawb yn deall hynny. Wel, pawb heblaw am un.
Roedd Aled Arch yn chwaraewr anffodus mewn ffordd. Mewn clwb cyffredin, byddai wedi cael cyfleuon di-ri i chwarae’n gyson yn y tîm cyntaf. Ond efo ni, roedd Gareth, John, Llyr, Grundy, Rhidian ac yn y blaen. Felly dim ond gemau nawr ac yn y man byddai’n chwarae. Ond wrth chwarae, dim ond cant-y-cant byddai’n cyfrannu. Roedd e’n un o’r chwaraewyr cyson hynny, un nad oedd byth yn debyg o sgorio o’i hanner ei hun, ond eto nad oedd byth yn cael gem sâl. Yn ogystal â hyn, roedd ganddo dymer a ffiws byr, ac yn erbyn Llanedeyrn y Sadwrn hwnnw, fe welwyd y canlyniad.
Fe gododd y sefyllfa cymaint o weithiau, mae’n anodd cofio. Byddai’r ddau bac yn mynd lawr i gael sgrym, byddai’r bel yn dod allan ar ein hochr ni, a byddai saith o’n blaenwyr ni yn dilyn y bel fel yr arfer. Wedi ail-gylchi’r bel ryw hanner can metr i ffwrdd, bydden yn sylweddoli nad oedd pac i gael gan Llanedeyrn. Wrth edrych nôl, dyna lle’r oedd pac Llanedeyrn yn dyrnu ac yn cicio, gyda gwallt golau Aled yn dangos ar y gwaelod. Byddai’r dyfarnwr yn torri pethau lan, a byddai Aled yn dod nôl i’n plith a’i wallt yn yr awyr, ei grys mas, a’i wyneb yn goch. “I’ll ‘ave em next time” byddai’n dweud, ac er inni gyd awgrymu nad oedd llawer o bwynt, be fyddai’n digwydd? Sgrym nesa’, y bel yn mynd, pac Clwb yn dilyn, edrych nôl, Aled yn ei chanol nhw eto. Petai gwobr wedi bod i rywun oedd yn fodlon dal ati, byddai Aled wedi ennill yn glir. Roeddwn i wastad am wybod beth oedden nhw’n dweud oedd yn llwyddo’i brofocio fe cymaint. Ar un adeg, fe ddechreuodd un o’u dilynwyr nhw gwyno nad oedden ni yn rhoi unrhyw gymorth i Aled. Dw’i ddim yn gwybod beth ‘odd e’n gobeithio gweld.
Am unwaith, enillwyd y gêm honno. Ar ddiwrnodau fel hyn pan oeddem yn chwarae oddi-cartref, roedd hi’n ddigon syml cael chydig o fwyd a pheint yng nghlwb y gwrthwynebwyr, cyn symud o na gan ddweud bod parti efo ni’r noson honno, ac felly roedd rhaid gadael yn gynnar. Ond wedi’r gêm yn erbyn Llanedeyrn, roedden nhw yn y Cameo. Wedi ‘chydig, fe amlygodd hi fod rhai ohonynt allan am y noson. Wedi sylweddoli hyn, fe ddiflannodd y rhan helaeth o’n chwaraewyr ni nad oedd am siarad â’i chwaraewyr nhw. Roedd hi’n sefyllfa od, mod i’n un o ddau chwaraewr y Clwb ar ôl yno, gyda thua saith o’u chwaraewyr nhw. Fe fydden nhw wedi aros yno trwy’r nos dwi’n meddwl, oni bai fod Babs wedi diflasu efo nhw, a gofyn iddyn nhw adael. Dim ond ni alla’n cael ein hachub gan reolwr benywaidd y clwb.
5. Ar Daith
Mae pob taith yn gofiadwy am ryw reswm neu'i gilydd, ac mae pob un yn gofiadwy i bobl am resymau gwahanol. Fe fûm i’n ddigon ffodus i deithio ar bum achlysur, pob tro yn teithio draw i’r cyfandir. Roeddwn i’n siomedig i fethu â mynd draw i’r Iwerddon, gan fod pob taith yno wedi bod yn arbennig mewn un ffordd neu’r llall. Dwn i ddim faint o weithiau glywais sôn am y daith i Tullamore - yn ôl pob sôn, hwnnw oedd y daith i fod yn gysylltiedig â hi. Ond na, roedd pob taith yn gofiadwy imi, ac mewn ffordd fe wellodd pob taith wrth i’r blynyddoedd mynd yn eu blaen.
Roedd y daith gyntaf imi yn un od iawn. Roedd hi’n 1984, ac roedd hi wedi trefnu i fynd i Luxembourg. Ro’n ni wedi cytuno i fynd, er mod i lawer yn ifancach na’r gweddill ac er na wyddwn i beth i’w ddisgwyl. Y noson cyn inni adael, doedd neb wedi cadarnhau bod y daith ymlaen o hyd, nes i Butchie ffonio i ofyn a o’n ni dal yn bwriadu mynd. Diolch i’r drefn mod i wedi cytuno fel oedd hi’n digwydd, gan mai dim ond 16 ohono’ ni oedd ar y bws wrth inni adael, ac roedd gan un o’r rhai hynny gout, ac roedd hi’n amlwg nad oedd Gareth Mainwaring yn bwriadu chwarae.
Roedd hi’n daith hir imi. Doedden i ddim wedi arfer ag yfed fel y bechgyn hun, ac wedi stopio ryw bedwar neu bum gwaith ar y ffordd, erbyn cyrraedd Dover ro’n i’n barod i droi nôl. Ond draw a ni, a chael yr anrhydedd o siario ‘stafell wely efo Wyn Lewis a Mainwaring. Gallai fod wedi bod yn waith - roedd Iants wedi rhoi love-bite imi ar fy nghoes ar y ffordd draw, a pwy a ŵyr lle fyddai wedi fy nghnoi petawn i yn yr un’ stafell.
Fel yr oedd hi, nid Luxembourg oedd y lle gorau i fod yn ystod 1984 i unrhyw Brydeiniwr. Yn anffodus, roedd dilynwyr pêl-droed Lloegr wedi gwneud llanast o’r wlad rhai misoedd ynghynt, ac yn anffodus, i’r bobl leol, ‘ro’n ni yr un fath a’r Saeson. Fe ddangoswyd eu diflaster â ni ar ddiwedd yr ail noson.
Roedd y diwrnod wedi dechrau’n dda inni. Fe gyrhaeddon ni’r cae a 15 ohonom yn barod i chwarae, hyd yn oed Dai Gutsy oedd yn diodde’ a gout. Roedd hi’n gwbl groes i’r arfer, gyda gormod o flaenwyr ar gael, ac felly fe ges i’r cyfle o chwarae ar yr asgell ac fe chwaraeodd Keith Thomas fel blaenasgellwr. Ond arwr y gêm oedd Huw Charles wrth iddo sgorio unig gais y gêm ag ennill chwaraewr y gêm wrth i’r Clwb ennill o 24-0. Aethom ‘mlaen i ddathlu yng nghlwb tîm Luxembourg a daw’r atgofion nôl o Butchie a Frankie ein diddanu ni ar y piano.
Wrth i’r noson fynd yn ei flaen, fe ddechreuodd rai o’r bechgyn grwydro i dafarnau’r ddinas, a rhai oriau’n hwyrach daith y newyddion bod rhai ohonynt wedi ei ymosod arnynt gan fechgyn lleol. Roedd yr anafiadau i Keith a Dafydd Idris yn rhai cas iawn, ond diolch i’r drefn, roedd doctoriaid di-ri yn ein plith. Wel, diolch i’r drefn…ish. Roedd Frankie yn ddoctor, ond roedd hi wedi hanner nos erbyn hyn, ac roedd hi wedi bod yn noson hir. Roedd Dafydd wedi derbyn cwt i’w geg, ac rwy’n cofio’r bore wedyn bod Frankie wedi rhoi pwyth yn ei geg, ond wedi methu’r cwt yn gyfan gwbl. Roedd gan Keith gwt anferth ar ei ben, ac i fod yn deg, fe aeth pob un o’r pwythau i’r man cywir. Beth oedd yn peri ofn oedd y ffaith fod Frankie yn sefyll uwchben Keith i roi’r pwythau fewn gyda sigâr fawr yn ei geg, gyda’r tobacco’n syrthio fewn i’r cwt agored. Mae’n syndod na aeth y cwt yn septig y diwrnod hwnnw.
Wedi hynny, fe aeth y daith yn ddigon tawel. Roedd y croeso gan y tîm lleol wedi bod yn dda, ond roedden ni gyd yn falch i fynd adref, yn enwedig y bachgen ifanc hwn nad oedd wedi cyffwrdd cymaint o alcohol yn ei fywyd o’r blaen.
Aeth sawl tymor heibio cyn imi fentro ar daith eto. Erbyn hyn, roedd cnewyllyn o deithwyr ffyddlon wedi datblygu dan arweiniaeth Gavin Rees. Roedd y pedwar neu bum tymor yn yr adeg hon fel “Golden Era” i deithio’r Clwb. Byddai Gavin yn cael ei godi yn Chepstow fel Siôn Corn gyda llond sach o bethau i’w ddefnyddio ar y daith, gan gynnwys ei lyfr bach coch i gael sgrifennu dyfyniadau cofiadwy. Gareth Wilkins oedd yn gyfrifol am ddod â’r wheel of fortune fyddai’n dod allan ar y llong, Pembers oedd yn gyfrifol am ffeinio pobl am unrhyw drosedd, a byddai’r canu’n cael ei arwain gan Steve, gydag ambell gyfraniad gan Mogs neu rywun tebyg. Byddai Gareth Hall yn dweud yn ddiweddarach bod taith ar y llong yn angenrheidiol tra’n teithio er mwyn datblygu’r teimlad o fod ar daith. Er bod pawb ar y cyfan yn bihafio ar y llong, roedd hi yn sefyllfa lle’r oedden ni yn agored iawn i deuluoedd a phlant ifanc, ac erbyn diwedd taith hir, byddai’r iaith yn gwaethygu’n sydyn. Ond, fel arfer, wrth inni sylweddoli ein bod ni wedi croesi’r ffin honno, byddai Steve yn dechrau cytgan arall o Haleliwia, a byddai gwen yn dod nôl i wynebau pawb.
Y daith nesa’ imi oedd hwnnw i San Renan yn Llydaw. Wrth inni gyrraedd Plymouth, roedden ni fel grŵp o ddynion tan, a phawb yn gwisgo helmed Sam Tan. Roedd hi’n grasboeth ar y daith draw, a buon ni’n ddigon annoeth i eistedd yn yr heulwen am awr neu ddwy a’n cegau’n sychu. Wedi hynny, yn syth i’r bar a chael lager neu ddwy gyflym, a chyn pen dim, roedd pawb wedi ymlacio’n hapus. Wedi chydig, byddai’r emynau yn troi’n Mogs yn canu “… I told the landlady my money was spent…” ac yn y blaen am ryw 6 neu 7 pennill. Yna Iants yn cael ei berswadio i ganu trên bach yr Wyddfa, cyn i grŵp o Saeson ddechrau canu. Diolch i’r drefn, roedd hyn cyn dyfodiad y Sweet chariot, neu mae’n siwr y byddem wedi ei glywed trwy’r prynhawn.
Ar ddiwedd y daith draw, nol i’r bws i fynd i’r gwesty. Byddai’r gyrrwr hwnnw, Clive(the drive) gyda ni’r flwyddyn wedyn hefyd(gyda Russ(the bus), a fyddai’n chwarae drosto’n ni ar y daith honno), a ro’n ni wastad yn teimlo’i fod yn adlewyrchiad ohonom ni fel clwb ei fod yn fodlon dod efo ni eto. Wrth inni gyrraedd y gwesty, roedd hen fenyw yna i’n croesawu. Gallai ‘mond dychmygu ei meddyliau hi wrth inni syrthio, yn llythrennol, trwy’r drws. Roedden ni wedi cael gormod o gwrw a gormod o haul.
Mae’n anodd meddwl bod y gwesty hwnnw wedi gwneud ceiniog o elw dros y diwrnod neu ddau buon ni yno. Ro’n ni’n siario ‘stafell a Pembers, ac ar y noson cynta’ honno fe aethon ni i gael cip olwg yn y gegin i weld os oedd chydig o fwyd i’w gael yno. Doedd dim bwyd ar gael, ond roedd yna win, ac fel un oedd yn adnabod gwin da, fe wnaeth Dave benderfyniad gofalus, a chafwyd “midnight feast” bach cofiadwy. Ac nid ni oedd yr unig rai yno. Roedd hanner y bois yn gwneud yr un peth a ni. Mae’n siwr ein bod ni wedi talu amdanyn nhw rywsut neu'i gilydd.
Mae gweddill yr atgofion wedi dechrau diflannu o’r cof. Mae’n bosib bod gan hyn rywbeth i wneud a’r ffaith mod i wedi gorfod canu Sloop John B ar gadair gyda photel o gwrw lan fy mhen ôl, wedi ei osod yno gan Gareth Hall. Honno oedd y noson gyntaf imi weld y gêm bleserus hynny gyda darn hir o bapur tŷ bach rhwng dau ben-ôl yn cael ei berfformio o flaen fy llygaid, ac roedd hynny’n ddigon o reswm i roi’r gore i’r gêm am byth.
Ar y cae, fel arfer, roedd hi’n fuddugoliaeth ddigon cyfforddus. Pryn yw’r atgofion, heblaw am Robin Ogwen yn derbyn cwt cas i’w lygad a Gavin yn cymryd ei le. Roedd Gavin yn chwaraewr da, na chafodd lawer o gyfle yn y tîm cynta’ oherwydd presenoldeb Brian. Roedd e’n fachwr oedd yn ffansio’i hyn fel blaenasgellwr. Yn ddiweddarach, fe siaradais a’i frawd Gareth, a oedd dim ond just yn gorffen ysgol pan oedd Gavin yn gapten ar yr ail dîm. Pan yn brin, fel oedd yn arferol, byddai Gavin yn ffonio Gareth i’w berswadio i chwarae'r prynhawn Sadwrn hwnnw. Bob tro byddai Gareth yn cytuno ar yr amod nad oedd yn chwarae yn y rheng flaen. Byddai Gavin, wrth gwrs, yn cytuno, a byddai Gareth yn troi lan yn ddiniwed ar y Sadwrn. Wrth gwrs, wrth i’r teamsheet gael ei ddosbarthu yn y clwb, byddai rhif 7 yn dweud Gavin Rees, ac wrth gwrs, rhif 2, Gareth Rees.
Wrth gyrraedd hanner amser yn San Renan, roedd y Clwb ar y blaen, ond heb ein bod ni wedi chwarae’n dda iawn. Dw’i ddim yn cofio pwy oedd yn gapten, ond fe benderfynodd y cefnwyr, Meurig a Llyr yn eu plith bod angen lledu’r bel lot yn fwy. Mae’n siwr mai hyn oedd yr asesiad cywir, ond roedd hi fel “red rag” i Gavin. Y tro cynta’ inni ennill y bel yn yr ail hanner, ffurfiwyd sgarmes, ac fe fynnodd Gavin dderbyn y bel yn safle’r mewnwr. Yn ôl y disgwyl, yn lle taflu’r bel allan, fe aeth Gavin ar ei ben ei hun am bum llath. Wrth i weddill y pac ail-ennill y bel, rywsut roedd Gavin nôl yn safle’r mewnwr, ac eto, a gwen bach cyfrwys ar ei wyneb, fe aeth ar ei ben ei hun. Roedd e’n gwybod yn iawn y byddai cadw’r bel ymysg y blaenwyr fel hyn yn gwylltio’r cefnwyr, a dyna oedd y pwrpas. Dyna fel oedd e - gwen ar ei wyneb, ac yn gymeriad i’w gael ar daith.
Enillwyd y gêm, a chafwyd noson arall i’w gofio yn y dre, yn gofiadwy diolch i ddau o’r criw cael ei harestio. Roedd hi’n od nad oedd neb fel ei bod nhw’n poeni rhyw lawer wedi i’r newyddion hyn ddod trwyddo. Galla’i ond dychmygu fod pawb wedi cymryd y byddai Steve yn delio efo’r mater. Dyna oedd yr arfer.
Roedd y rhan fwyaf o deithwyr y clwb yn chwaraewyr cyson, fyddai’n edrych mlaen trwy’r tymor at y penwythnos yn Ebrill i deithio. Ond, wrth gwrs, roedd yna rai fyddai dim ond yn dod ar y daith. Ymhlith y rhain roedd Neil, Martin Kitchener a Dai Morris. Roedd Dai wedi gadael y Clwb i ymuno a St. Peters, ond roedd yna groeso iddo bob tro ar daith, ac roedd e’n handi iawn gan ei fod yn siarad yr iaith. Wedi ail gyffwrdd a bod ar daith yn San Renan, ro’n ni’n barod ac yn edrych mlaen at y daith nesa’ i Limoges. Roedd hi’n daith bell inni draw yno, ac roedd dod nôl yn anoddach fyth. Roedd y fideos, rhyw hanner dwsin ohonynt yn eitha’ diddanol ar y ffordd allan, ond wrth inni’i gwylio nhw am yr ail a’r trydydd tro, roedd y brwdfrydedd wedi mynd.
Fe ddechreuodd un o atgofion orau’r daith cyn inni adael y Cameo. Fel teithiwr da, roedd Dave Pemberton wedi bod yn paratoi yn brysur iawn â bathodynnau unigol inni gyd. Roedd pob bathodyn â llun un o gymeriadau Viz, ac roedd hi’n bleser gwrando ar Dave wrth iddo’u dosbarthu. Roedd rhai o’r cymeriadau yn ddigon amlwg, ond roedd rhai eraill yn berlau o ddychymig Dave. Roedd Dave yn galw Meurig yn Roger Mellie beth bynnag, felly roedd hynny’n hawdd, a daeth Darren yn Daley Starr gan ei fod yn gweithio yn y wasg ar y pryd. Bedyddiwyd gyrrwr y bws yn Nobby’s Piles, Phil James yn Specky Twat, a Huw Morgan yn Captain Morgan and his Hammond Organ. Am ryw reswm, fe ddes i yn Morris Day, Sexual Pervert! Wyddwn i ddim pam. Eto mae’r atgof o Dave ar ei draed ar y bws gyda’r microphone yn ei law yn un cofiadwy iawn.
Roedd hwn i fod yn daith wahanol, gan ein bod ni’n aros gyda theuluoedd mas ‘na. Mae’n anodd credu bod rhyw ddeg o deuluoedd wedi cytuno i adael i grŵp fel ni i aros yn eu tai nhw, yn enwedig wedi’n gweld ni wrth inni gyrraedd eu clwb. Cefais yr anrhydedd o siario stafell efo Huw Morgan, ac roedd ein sgwrs yn y car o’r clwb i’r tŷ yn dra gwahanol. “Etes-vous le president de ce club” medde fi yn ceisio cofio fy ngramadeg Ffrengig, ac yn ceisio gwneud rhyw smalltalk pleserus. Roedd cyfraniad Huw yn debycach i “Nice motor, butt. Is there a kebab ‘ouse anywhere here?”. Erbyn inni adael y teulu, roedden nhw wedi gwresu at Huw, ac roedd y croeso yno yn dda.
Roedd y croeso’r un fath yn eu clwb nhw yn Limoges hefyd. Roedd yr ail noson yno yn un o’r rhai mwyaf cofiadwy imi, gyda Grundy ar ei orau, ac yna dychymyg Pembers yn dechrau gweithio i ddyfeisio’r Luge. Dim ond hambwrdd oedd y Luge, wedi’i roi ar lawr y bar, oedd a chwrw drosti. Sylweddolodd Dave y gallai eistedd ar yr hambwrdd a llithro yn y cwrw. Fe ddatblygodd hyn rhywfaint, ac mae gen i ryw atgof o Grundy, druan, yn cael ei daflu trwy ddrws ffrynt y dafarn tra’n eistedd ar yr hambwrdd.
Does gen i fawr o atgof o’r gêm a chwaraewyd yn Limoges, ond rwy’n gwybod ein bod ni wedi ennill, ac o gofio bod gyrrwr y bws wedi chwarae, mae’n rhaid ein bod ni wedi ennill yn ddigon cyfforddus. Yn anffodus, dim ots faint o fwynhad oedd bod yn Limoges, roedd y daith adre yn un hir iawn. Roedd hi’n rhyw saith awr trwy Ffrainc, ac wedyn roedd y trip nôl o Dover. Eto, doedd dim rhyw lawer i’w gynnig ar y ffordd nôl, heblaw am eistedd trwy fideo ar ôl fideo. Fel arfer, roedden ni’n hwyr yn cyrraedd y fferi, a ro’n ni’n ddigon anffodus i fod ar y bws tra roedd Russ yn ceisio’i parcio ar y fferi, ac yn methu, a bu bron i’r bws orfod symud nôl oddi ar y fferi ac aros am y nesa. Byddai hynny wedi achosi inni orfod dod o hyd i bawb, a oedd ar y fferi erbyn hyn, a’i rhoi nôl ar y bws. Yn ffodus, wedi chydig o waith, fe lwyddwyd i fforsio’r bws reit yng nghefn y llong.
Roedd hi’n daith hir nôl i Gaerdydd wedi hyn. Wrth inni fynd trwy’r customs ar y ffordd nôl, daith Wilkins allan ag un o’r dyfyniadau mwyaf cofiadwy imi glywed ar daith. “If customs stop me now, they’ll find i’m 50% sperm and 50% pastis!” Roedd y rhan ola’ hynny o’r daith hefyd yn gofiadwy am Pembers a Stumpy yn rhoi gwers beioleg inni wrth wylio un fideo ola’. Cafwyd eglurhad explicit iawn o gyrff menywod!!
Roedd pob taith wedi gwella wrth i’r blynyddoedd fynd heibio. Byddai hyn yn cyrraedd pinacl ar y daith i Leuven, ac wedyn y tymor canlynol nôl yn Llydaw. Roedd Caron Iolo a chysylltiadau yng Ngwlad Belg, a dyna sut y trefnwyd y daith yno. Roedd y ffaith mai Caron oedd yn gyfrifol yn sicrhau y byddai bechgyn Tregaron yn mynychu’r daith ac roedd presenoldeb Archie yn rhan bwysig o lwyddiant y daith. Rhan bwysig arall o drefniant y daith oedd bod Grundy wedi derbyn cyfrifoldeb casglu’r arian, ac felly erbyn mis Medi roedd rhyw 25 ohonom ni wedi dechrau talu. Wrth gwrs, roedd techneg Martin o gasglu arian ychydig allan o’r cyffredin. Yn hytrach na’r “if you remember, could you bring some money next week as a deposit for the end of season tour” oedd i’w glywed fel arfer, be glywyd oedd, “John, how much money have you got in your pocket now…give it to me”. Roedd hyn yn ffordd effeithiol iawn, gan nad oedd gan unrhyw un yr hyder i wrthod.
‘Dwi ddim yn cofio gadael y Cameo'r noson honno, ond rwy’n cofio’n bod ni wedi treulio amser yno cyn cychwyn ar ein ffordd. Roedd hi’n angenrheidiol felly fod ty-bach gyda ni ar y bws, ac fel arfer, doedd y ciwbicl hynny ddim yn le pleserus wedi chydig o amser - yn ddrewllyd iawn, a llawer o hylif ar y llawr. Roedd gwraig Caron wedi derbyn cynnig lifft ar y bws ar y ffordd draw, ac rwy’n cofio teimlo mor flin drosti yng nghanol y nos wrth inni deithio. Roedd y rhan fwyaf o’r bechgyn yn cysgu, ac roedd fideo mlaen(eto), ac roedd y ty-bach yn ffiaidd yn barod. Mae’n rhaid ei bod hi wedi ceisio am oriau i beidio gorfod mynd, a galla’i ond dychmygu ei theimladau hi wrth fynd lawr y grisiau i dy-bach tywyll a brwnt.
Mae’n drueni bod pob taith ar y fferi yn debyg iawn i’w gilydd ac mae’n anodd ceisio cofio un o’r llall.
Erbyn taith Leuven, yn sicr doedd dim Wheel of Fortune, ond ai dyma’r daith pan aeth cleddyf y consirwr ar goll, ac a ailymddangosodd rywsut ar ein taith nôl i Loegr? Neu ai hwn oedd y daith pan fu Gareth Hall yn chwarae Song for Guy, ac wedyn eto, ac wedyn unwaith eto gan nad oedd yn gwybod sut i chwarae unrhyw beth arall? Gareth oedd wedi sefydlu safon o ryw fath ar gyfer taith. Yn ei farn e, roedd unrhyw daith dda yn mynd i gynnwys trip ar fferi, ac i raddau, roedd e’n iawn. Roedd y pump neu chwe awr yng nghwmni ein gilydd yn gosod sail ar gyfer y penwythnos, ac roedd y canu a’r gemau yn rhan bwysig o osod y sail honno. Sgwn i, ai hwn oedd y daith pan gollwyd Angus wrth inni ddod oddi ar y fferi, a gorfod aros am ryw awr hyd nes dod o hyd iddo?
Wedi cyrraedd Leuven, fe sylweddolo’n ni ein bod ni wedi cyrraedd rhyw baradwys fach. Do’n i ddim yn gwybod ar y pryd fod Stella Artois yn cael ei bragu yn Leuven. Doedd dim opsiwn at beth i’w yfed, felly. Roedd Stella ym mhobman ac wrth gwrs roedd y Stella’n dda iawn. Fe sefydlo’n ni’n hunain y noson honno ym mhrif sgwâr y dre. Er bod yna ryw atgofion o ffieidd-dra rai o fechgyn Tregaron, yr un cliria’ yw hynny o Stumpy’n ceisio peidio â mynd i gysgu. Roedd e’n eistedd ar gadair, a phob nawr ac yn y man, bydda’i ben yn dechrau syrthio lawr o’i flaen a’i lygaid ar gau. Yna, byddai’n dihuno a chodi ei ben yn sydyn. Wrth wylio hyn, dechreuwyd gwaedd o “whoaaa…..” ac yn wrth i’w ben godi eto “….hehhhhhh” gyda phawb yn clapio. Doedd gan Andy’r un syniad ein bod ni yn ei wylio fe, ac wrth iddo godi’i ben, byddai fe hefyd yn clapio ac edrych o gwmpas i weld pwy oedd yn gyfrifol am yr holl firi, heb sylweddoli mai tuag ato fe ro’n ni gyd yn edrych. You had to be there…
Roedd hi’n ddechrau addawol i’r daith felly, ond fe fyddai’n gwella a phob dydd. Y bore wedyn, roedd trip i fragdy Stella Artois wedi’i drefnu, ac er ei fod yn rhywfaint o “busman’s holiday” imi, roedd gweld maint yr adeiladau yno yn gofiadwy. Beth oedd yn fwy trawiadol oedd y croeso a gynigwyd gan y bobl yno. Efallai ei bod nhw wedi sylweddoli ein bod ni’n debyg o wario digon o arian ar gwrw dros y diwrnodau nesa’ ac mai croeso da oedd y peth lleia’ y gallent ei gynnig. Daeth poteli neu cans o gwrw i bob un ohonom, ac wedyn, chydig yn llai disgwyliedig efallai, sawl cerdyn post(gyda photel o Stella ar eu blaen, wrth gwrs) inni ei hysgrifennu iddyn nhw gael postio nôl adre inni. Fe aeth pawb ati felly yn ddigon synhwyrol i ‘sgrifennu carden i’w ddanfon adre a gwerthfawrogi’r cyfle i awgrymu ein bod ni wedi meddwl am ein teuluoedd tra’i ffwrdd. Ond wrth gwrs, cafodd rywun y syniad o ddanfon cerdyn yr un at rywun oedd wedi methu â dod ar y daith. Dw’i ddim yn cofio at bwy y danfonwyd y cardiau - Tony Vobe efallai- ond fe fyddwn ni wedi talu i weld ei wyneb wrth i ryw 25 cerdyn ddod trwy ei ddrws a phob un a photel o Stella ar y blaen.
Wedi’r daith rownd y bragdy, bu’n rhaid chwarae gem o rygbi. Roedd y tywydd yn braf, ac yn ein siwtio ni, a doedd hi ddim yn syndod inni ennill y gêm yn reit gyfforddus. Roedd rhai o’r bechgyn wedi bod wrthi yn y bar trwy gydol y gêm, ac fe ymunodd y gweddill ohono’ ni yn syth wedi’r chwiban ola’. Eto, roedd hon i fod yn un o’r nosweithiau lle fyddai Archie ar ei orau. Fe ddechreuodd pethau’n reit synhwyrol. Yna, am ryw reswm, dyma Archie’n sefyll ar ei draed ac egluro’i fod yn dwym iawn, a gofyn a fyddai pawb mor garedig ag ymuno gyda fe a thynnu’i ‘sgidiau a sanne bant. Dim problem, a bant a nhw. ‘Chydig yn ddiweddarach, cododd ar ei draed eto a gofyn a fyddai pawb yn fodlon tynnu’u crysau bant hefyd. Erbyn hyn, roedd hi’n amlwg bod rhywbeth ar y gweill. Wrth gwrs, cyn pen dim, daith y cwestiwn nesa’, “A fyddai pawb yn tynnu’u trywsus gyda fe”. Eto, doedd hyn ddim yn broblem - wel doedd hi ddim yn broblem i’r rhan fwyaf ohono’ ni. Mae’n rhaid bod Archie wedi sylweddoli nad oedd Kev wedi gwisgo dim byd dan ei drywsus wedi’r gêm, ac wedi tynnu ei drywsus, roedd e’n eistedd yno a’i wyneb yn goch, a gwen mawr ar ei wyneb. Fe aeth pethau mlaen yn yr un modd am ryw awr fach, gyda gem neu ddwy yn cael ei chwarae. Roedd hi’n ddigon diogel inni fwynhau yno gan fod y bar wrth ochr y cae, a doedd neb arall o’n cwmpas.
Sut ddechreuodd y gamp nesa’, dwi ddim yn siwr, ond yn sydyn, dyma Pembers a Dai Morris yn codi ar eu traed a chytuno i gael sumo wrestle wrth ymyl y bar. Diflannodd dillad y ddau, heblaw am bâr o bants yr un, a dynnwyd yn dynn ac yn uchel ar eu cyrff. Gallai’r chwarter awr nesa’ fod wedi dod o ryw ffilm du a gwyn o’r 30au, wrth iddynt strytio o gwmpas, yn taflu tywod ar y llawr o flaen ei gilydd a gwaeddi ar ei gilydd mewn rhyw acen Siapaneaidd. Roedd hi’n foment gofiadwy iawn, a ro’n ni’n falch mod i wedi dod â chamera ‘da fi i gael tynnu lluniau cofiadwy. Ond eto, ar y daith honno, roedd yna fwy o firi cofiadwy i ddod.
Roedd y noson eto’n gofiadwy, gyda’r rhan helaeth o’r bois yn cwrdd ym mhlas Leuven, a chyn diwedd y nos, dau o’r bechgyn yn cael eu harestio am ail greu’r Sumo yng nghanol y plas agored.
Rhywsut, roedd diwrnod sbâr i’w gael cyn ail gêm y daith, ac fe benderfynwyd i deithio i Frwsel am y diwrnod. Am ryw reswm, fe aethon ni ar y trên yn hytrach na’r bws, efallai er mwyn rhoi cyfle i’r gyrrwr ymuno â’r sbri. Pwy a ŵyr beth aeth trwy’i feddwl wrth wylio ni trwy’r prynhawn hwnnw. Fe ddechreuodd pethau’n ddigon tawel. Ar y trên, dim ond Stumpy gafodd rhywle i eistedd, a hynny mae’n siwr oherwydd bod rhywun wedi meddwl ei fod rhyw ddeng mlynedd yn hun nag yr oedd mewn gwirionedd. Ond wedi eistedd, doedd dim modd stopio Stumpy wrth iddo ddechrau siarad yn ddi-baid a dwy nun am y daith gyfan. Ro’n ni wedi amau na fyddai’n dod oddi ar y trên efo’r gweddill ohono' ni ym Mrwsel. Ond, wrth inni gyrraedd, roedd Stumpy efo ni wrth inni ddechrau ar brynhawn cofiadwy arall.
Roedd Meurig Phillips yn un o deithwyr selog y Clwb, a ro’n ni gyd yn gallu dibynnu arno i’n diddanu. Ond ychydig wedi inni gyrraedd Brwsel, roedd e wedi rhoi ei ddwylo ar rywbeth fyddai’n dod â gwen i’n wynebau. Dwi ddim yn siwr o le y daith e ( skip neu bin, yn bosib) ond fe ymddangosodd Meurig rownd rhyw gornel yn cario jiráff melyn, tua phum troedfedd o daldra a gwen hurt ar ei wyneb. Mae gen i lun ohono jyst wrth iddo ddod yn agos gyda “Gerald” dan ei fraich a gwen mawr ar ei wyneb. O’i gwmpas mae Dai Morris, Grundy a Scott yn chwerthin yn ddi-reolaidd wrth ei wylio. Fe fyddai’r jiráff hwnnw yn fascot inni am y 24 awr nesa.
Ro’n ni’n digwydd bod yng nghanol ardal golau coch Brwsel ar y pryd, ac anghofia’i fyth gweld Meurig yn cerdded at rai o’r ffenestri yno yn gofyn faint fyddai’n costio i’r jiráff am awr fach gydag un o’r menywod. Roedd yr ymateb yno yn ddigon syn. Wedi chydig o gerdded, deuthum o hyd i far reit yng nghanol y ddinas, gyda digonedd o le i eistedd tu fas. Rwy’n falch imi fynd â chamera ar y daith, gan fod yna ddigon o luniau o’r prynhawn hwnnw, gan gynnwys rhai o’r jiráff a gwelltyn yn ei geg yn ceisio yfed cwrw. Fe waethygodd y tywydd dros yr awr nesa, ac felly mewn a ni i eistedd lan llofft, a chael prynhawn cofiadwy arall dan arweiniaeth Archie. Roedd rhai o’r stalwarts wedi aros tu fas yn y glaw, a doedd hi ddim yn syndod i neb i weld mai Grundy oedd yr ola’ i ddod fewn ar ôl iddo siario’i beint gyda’r jiráff. Mae’n rhaid bod y bar hwnnw wedi gwneud ffortiwn drwy’r prynhawn wrth i bawb fwynhau a chwarae gemau. Erbyn hyn, ro’n ni wedi cwrdd â dau foi o Fiji ac fe benderfynodd y ddau ymuno â ni am y noson a’n dilyn ni nol i Leuven.
Ond fe fyddai gadael y bar chydig yn anoddach. Ro’n ni nawr reit yng nghanol Brwsel, ac wedi bod yn yfed am sawl awr, ac roedd yna rai o’r bois chydig yn waeth na’r arfer. Felly, wrth adael y bar, fe benderfynodd rhywun y byddai’n rhaid codi Chris Coch a’i gario nôl i’r orsaf, fel rhyw funeral procession. Yn sydyn, fe ymddangosodd heddlu’r ddinas, ond i fod yn deg, doedden nhw ddim am wneud dim ond sicrhau ein bod ni’n cyrraedd yr orsaf ac yn gadael y ddinas. Fe glywais sôn ei bod nhw wedi defnyddio’r gwersi a ddysgwyd y diwrnod hwnnw fel rhai o’u paratawiadau tuag at Euro 2000.
Rhywsut, fe gyrhaeddo’n ni nol yn Leuven ac ail ddechrau ar y sbort. Roedd y jiráff yn dal i fod yn ein plith, ond roedd e wedi dechrau dioddef erbyn hyn yn nwylo Pembers, a benderfynodd wneud rhyw rectal lobotomy gan agor ei ben-ôl gyda chyllell. O’r eiliad hwnnw, fe ddechreuodd Gerald golli pwysau’n sydyn iawn, wrth i’w stwffin ddod allan yn raddol o’i ben-ôl. Fe barhaodd y noson yn hapus mewn bar ar bwys y gwesty, gyda’r ddau o Fiji yn dal i fod yn ein plith. Dw’i ddim yn gwybod lle’r arhoso’n nhw’r noson honno, neu sut y llwyddo’n nhw i deithio nôl i Frwsel.
Fe allai hynny wedi bod yn ddigon ar gyfer un daith, ond roedd un gêm yn weddill, yn erbyn Aarendonk. Y sôn oedd na fyddai’n nhw yn rhoi rhyw lawer o gêm inni, a rhaid dweud fod hynny yn beth da. Fe aeth y gêm heibio yn ddigon digyffro, gyda buddugoliaeth arall, a phawb yn cael gem. Fel yr arfer, ro’n ni wedi cyflawni taith yn ddiguro. Chwarae teg i Aarendonk, ro’n nhw wedi paratoi pryd anferth o fwyd wedi’r gêm. Roedd byrddau wedi cael eu lleoli wrth ymyl y cae, ac eto felly, roedd ardal breifat gyda ni i fwynhau. Roedd hynny eto yn beth da, gan fod rhai o’r perfformiadau’r noson honno yn fythgofiadwy - fyddai’n ddiddorol gwybod beth oedd barn Aarendonk am y noson, ond gallai feddwl eu bod nhw wedi’n gwylio ni’n syn.
Am yr ail dro, cefais weld darn o bapur tŷ bach yn cael ei losgi rhwng dau ben ôl gyda Meurig yn arwain y gad os yw’r cof yn iawn. Dwi ddim yn siwr pwy oedd yn cymryd rhan, ond yn sicr rwy’n cofio Archie’n dioddef, a hefyd Steve Lloyd yn cael ei hiwmilieiddo rhywfaint. Diflannodd Chris Coch i ben rhyw ffens oedd yn digwydd bod yno, ac aros rhyw 20 medr yn yr awyr am y rhan fwyaf o’r noson, ac yna’r piece de resistance, Caron yn gwneud rhyw “disappearing act”(fydd pwy bynnag oedd yno’n deall!!) gyda rhyw 50 darn o arian. Gwaeth na hyn oll yw cofio fod pawb wedi hyn wedi gorffen ei diodydd gyda Daf Iolo wedi rhoi un o’r darnau o arian yng ngwydr pob un ohonom. Mae pethau’n teimlo fel sbort ar y pryd, ond wedi aeddfedu, ac wrth edrych nôl ar bethau fel hyn….
Wedi hyn, mae’r atgofion wedi diflannu hyd nes inni gyrraedd Lloegr eto. Wrth inni gyd ddechrau edrych ‘mlaen at fod adre ‘to, fe dorrodd y bws lawr rhywle tua Llundain. Fe ddiflannodd y gyrrwr gydag un o’r bechgyn i ddefnyddio’r ffon, ac fe eisteddodd y gweddill ohono’ ni tu fas i’r bws yn dawel ac yn ddiflas, a phawb wedi blino. Nid am y tro cyntaf ar y daith, daeth Archie i godi’r ysbryd eto. Fe safodd o’n blaenau, gyda phawb yn eistedd fel plant ysgol a’n coesau wedi croesi, yn darllen magazine oedd rhywsut wedi ymddangos ar y bws. Fe ddarllenodd fel athro ysgol, yn araf, ac yn bendant, ac yn dweud pob gair yn araf ac yn eglur iawn. Fe aeth ton ei lais i fyny a lawr wrth iddo ddisgrifio’r stori mor lliwgar ac oedd yn bosib. I unrhyw un oedd yn mynd heibio, mae’n rhaid ei bod hi wedi bod yn olygfa od, gyda rhyw 25 ohono’ ni’n eistedd ac yn gwrando’n astud ar bob gair oedd yn dod o geg yr athro. Roedd hi’n ddiweddglo cofiadwy iawn i daith gofiadwy iawn.
Y daith nesa’ imi fyddai’r daith ola’ hefyd. Roedd hi’n gofiadwy am resymau gwahanol, gan nad oedd cymaint o gymeriadau yno, ond roedd tîm cryf iawn, ac am unwaith, daith y tîm yn agosach at ei gilydd wedi chwarae, a bod yn fuddugol, yn y gêm gyntaf. Roedd y croeso ym Mrest yn arbennig, ond dwi ddim yn meddwl y byddai rhyw lawer o groeso eto yn yr ail dref y buon ni. Ro’n nhw’n ddigon hapus i gael ein gwared ni.
Am unwaith, roedd y vets wedi ymuno â’r clwb ar y daith. Roedd tîm digon cryf efo nhw, ond yn anffodus, oherwydd prinder lle ar y fferi, bu’n rhaid i rai ohonynt deithio diwrnod yn gynnar, ac fe aeth pob gobaith o ennill ei gem allan trwy’r ffenest wedi’r diwrnod ychwanegol hwnnw. Wrth inni gyrraedd Brest, roedd yn amlwg fod yr advanced party wedi bod wrthi drwy’r dydd, ac fe gadarnhawyd hynny wedi iddynt fynd allan i’r cae. I fod yn deg, roedd tîm vets Brest yn gryf ac fe gollodd ein vets ni yn drwm. Roedd hyn wrth gwrs yn sbardun mawr inni oedd yn chwarae yn erbyn tîm cynta’ Brest. Wrth inni newid, roedd ein hagwedd tuag at y gêm wedi newid yn gyfan gwbl. Yn sydyn, roedd hi’n bwysig iawn ein bod ni’n ennill y gêm, ac yn hytrach na phenderfynu taflu’r bel o gwmpas i fwynhau, fe benderfynwyd chwarae’n fwy pwrpasol nag erioed o’r blaen ar daith.
Allan ar y cae, lle’r oedd sgarmesu a thaclo’n ddibwys fel arfer ar daith, fe daclodd pawb fel petai’i bywydau’n dibynnu arni. Doedd dim un achlysur yn y gorffennol lle bu’n rhaid i’r Clwb chwarae cystal ar daith. Ar hanner amser, doedd dim sgôr, ond ychydig fewn i’r ail hanner, bylchodd Llyr Roberts a sgorio cais a’i droswyd. Wedi rhyw ugain munud arall o daclo ac amddiffyn, daith y gêm i ben a’r sgôr yn 7-0 i ni. Dyna pryd y dechreuodd y daith o ddifri i’r rhan fwyaf ohono’ ni. Cafwyd noson dda gyda chwaraewyr Brest y noson honno, cyn teithio i dref arall ar gyfer ein hail gêm. Fe aeth yr ail gêm hynny’n ddigon tawel, gyda buddugoliaeth gyfforddus inni. Yr unig beth cofiadwy oedd y bws yn methu symud allan o’r cae gwlyb ar ôl y gêm.
Roedd y noson yn gofiadwy diolch i Rhidian, Grundy a Llyr Williams. Dechreuodd Llyr drwy egluro ei fod yn gallu gwaeddi “Red Army” trwy gydol gem wrth wylio Wrecsam yn chwarae. Er na ofynnwyd iddo, fe benderfynodd brofi’r pwynt a dechrau. “Red Army…Red Army…Red Army…” Ro’n ni gyd wedi cael digon wedi munud neu ddwy, ond ymlaen a fe “…Red Army…” . Roedd rhyw chwaraeon yn cael ei ddangos ar sgrin fawr, a phenderfynodd Grundy a Rhidian perfformio yn erbyn y sgrin. Roedd Grundy’n arbennig. Roedd paffio ar y sgrin, a safodd Martin ar ei draed a dechrau paffio yn erbyn un o’r dynion ar y teledu-shadow boxing o ryw fath. Wrth i un o’r bocswyr daflu dwrn, byddai Martin yn plygu, ac yna codi ‘to a thaflu jab neu ddwy. I’r rhai hynny ohono’ ni oedd yno, roedd hi’n gyfraniad cofiadwy arall. Wrth gwrs, drwy hyn oll, roedd un llais cryf yn y cefndir “…Red Army…Red Army…” Fe aeth Llyr ‘mlaen am ryw awr, er nad oedd neb yn gwrando arno.
Roedd y diwrnod ola’ yn un sbâr, gyda’r fferi yn gadael yn hwyr y noson honno. Cafwyd diwrnod bach anghyffredin yn chwarae pool mewn bar, ac yna gwylio Rhys Angell ac Angus yn cael eu perswadio i fynd i nofio mewn afon leol. Fe’n perswadiwyd i adael am y fferi yn reit gynnar, a gan ein bod ni wedi ennill amser da, fe lwyddo’n ni berswadio gyrrwr y bws i aros mewn bar bach arall i gael Guinness ddiwetha’ cyn cyrraedd y fferi. Roedd amser ar gyfer un sefyllfa od arall cyn inni gyrraedd y fferi, pan stopiodd y gyrrwr i godi dwy ferch oedd yn ceisio cyrraedd y porthladd. Pwy a ŵyr beth oedd ar eu meddyliau nhw wrth sefyll ar flaen y bws, o dan y sgrin deledu, gyda sŵn fideo addysgol reit uwch eu pennau.
Am unwaith roedd ‘stafelloedd gyda ni, ac fe glôdd un neu ddau ohonom ni’r drws i gael noson dda o gwsg. Roedd ‘stafelloedd wedi bod gyda ni unwaith yn y gorffennol, ond wrth gwrs fe glowyd rhai o’r drysau cyn bod y stafelloedd yn llawn, ac fel canlyniad, bu’n rhaid i rai o’r bois gysgu lan lofft. Dyna’r flwyddyn pan fu Pembers yn chwilio’n hir am ‘stafell, pan ddaeth ar draws un lle’r oedd Steve Lloyd ar ei ben ei hun. Diolchodd Dave ei lwc wrth orwedd lawr yn gysurus i gysgu. Ond awr neu ddwy yn ddiweddarach, fe ddihunodd yn sydyn, gyda swn fyddarol yn ei glustiau. “I thought i must have fallen asleep in the engine room” oedd ei atgof, cyn iddo sylweddoli ei fod yn gwrando ar Steve yn chwyrnu! Pan gyrhaeddo’n ni nol ym Mhrydain, roedd pawb yn awyddus i gyrraedd adre, pawb heblaw am un. Rwy’n cofio’n glir gwylio Rhys Angell yn cerdded trwy customs gyda chan o lager cryf yn ei law a gwen mawr ar ei wyneb.
6. Y GWPAN
Hyd nes i’r cynghreiriau ddechrau, dim ond y ddau gwpan a rhai cystadlaethau 7 pob ochr oedd yn creu unrhyw gemau cystadleuol i ni. Roedd pwysigrwydd y gemau hyn yn fawr felly, ac er nad oedd neb o ddifri yn meddwl y gallem ennill y Brewers, er enghraifft, roedd hi yn rhoi targed i ni anelu tuag at - efallai rhywbeth syml fel sicrhau ein bod ni’n dal i gystadlu yn y cwpan erbyn y Nadolig. Roedd hyn hefyd yn help i gadw diddordeb y chwaraewyr cadw ei ymroddiad tuag at ymarfer. Nol ym 1988, fe gollo’n ni yn rownd gyntaf y Mallett a’r rownd cyn-gyntaf(preliminary) yn y Brewers, ac felly roedd y diddordeb wedi mynd cyn diwedd mis Medi. Ac felly y bu trwy gydol fy ngyrfa. Gobeithio am gêm adre, yn erbyn tîm gwan, gan obeithio llwyddo mynd trwy’r grŵp a chael gem yn erbyn tîm oedd wedi trechu mewn grŵp gwan. Roedden ni wastad mewn grŵp efo Fairwater neu’r Buns, ac roedd felly yn anodd iawn i barhau.
Nol yn fy nhymor cyntaf, 1983-4, ro’n ni’n chwarae dros yr ail dîm pan gollodd y tîm ym Medlinog o 13-7. Roedd hi’n gêm agos yn ôl pob sôn, ac fe aeth Bedlinog ‘mlaen i gyrraedd y rownd gynderfynol. Byddai hyn( colli i un o’r timoedd llwyddiannus) yn digwydd yn gyson dros y blynyddoedd i ddod.
Blwyddyn yn ddiweddarach, ro’n i’n rhan o’r tîm cyntaf, wrth inni ddechrau’n cwest efo gem oddi-cartref yn y Tyllgoed. Heddiw, fe fyddai’n amhosib ennill yno, ond ar y pryd, doedden nhw ddim cystal, ac fe deithio’n ni i’r cae ar bwys y ganolfan hamdden fel ffefrynnau. Roedd hi’n ddiwrnod gwlyb nad oedd yn siwtio’n dull ni o chwarae, ond wrth agosáu at funudau ola’r gêm, ro’n ni rhyw ddeg pwynt ar y blaen yn amddiffyn am ein bywydau. Mae’r atgof yn glir o weld cefnwyr y Tyllgoed yn lledu’r bel yn ein dwy-ar-hugain, ag Eryl yn rhyng-gipio ac yn mynd fel trên( cymhariaeth dda wrth ystyried ei swydd nawr!!) i groesi dan eu pyst. Rhyw 6 tymor yn ddiweddarach, byddai Llyr Roberts yn cael cyfle tebyg, ond gyda diweddglo gwahanol...
Felly rownd cynta’ buddugol, a chael ein tynnu mas o’r het i deithio i Glyncorrwg am yr ail rownd. Roedd pethau’n ddigon difrifol y dyddiau hynny, ac fe aeth DH i’w gweld yn chwarae ymlaen llaw. I fod yn deg iddo fe, roedd e flynyddoedd o flaen ei amser. Fe sylweddolodd fod gan Glyncorrwg bac mawr, a chefais orchymyn ganddo i gymryd unrhyw gic cosb yn gyflym-tap and run-er mwyn eu troi nhw a’i blino. Erbyn y nawdegau, byddai pawb yn defnyddio’r dacteg hyn i gyflymu gêm.
Yr unig beth arall oedd i wybod am Glyncorrwg oedd bod un ffordd yn mynd fewn i’r pentre’, ac mai hwnnw oedd yr unig ffordd allan hefyd. Ond doedd neb wedi egluro wrth yrrwr y bws pa mor anodd byddai cyrraedd yno, ac wrth i’r bws fethu â chroesi pont fach ar y ffordd fewn, gwnaed y penderfyniad o newid yn y bws. Wrth gofio hyn, does dim syndod na llwyddo’n ni godi’n gem a’i hennill. Fel oedd hi, fe chwaraeon ni’n dda a sgorio cais, Emyr Jones dwi’n meddwl, yn ystod yr hanner cyntaf. Fe fethais i a chic gosb o flaen y pyst yn yr ail hanner, ac rwy’n cofio bod yn ddiolchgar iawn i Ieu Walters wrth iddo gicio cic adlam munudau’n ddiweddarach. Roedd hi’n dal i fod yn dyn ar y diwedd, ond ro’n nhw ‘chydig yn rhy gryf ymysg y blaenwyr, ac fe gollo’n ni o 20-12. Roedd hi’n drueni, ond cafwyd croeso arbennig yn eu clwb nhw wedyn a noson i’w gofio. Roedd Vodka’n cael ei ddosbarthu’n rhad iawn yno, ac rwy’n cofio teimlo fel oedolyn wrth siario rownd efo Huw Bristol a’i wraig Helen oedd wedi bod yn athrawon imi ryw flwyddyn ynghynt. Ond roedd breuddwydion y cwpan wedi mynd am dymor arall, ac wrth gwrs, fe aeth Glyncorrwg ‘mlaen i godi’r cwpan.
Y tymor canlynol, fe dynnwyd Llanrumney o’r het i’n chwarae ni ar gaeau Llandaf. Eto, pryd hynny, doedden nhw ddim cystal tîm ag maen nhw dyddiau hyn, ond roedden nhw yn dechrau datblygu. Fel yr oedd hi, y flwyddyn honno roedden ni wedi eu croesawu nhw i Landaf ar gyfer gêm yng nghwpan y Mallett rhyw bythefnos ynghynt. Roedd hwnnw wedi bod yn gêm glos iawn, gyda ni ar y blaen am y rhan fwyaf o’r gêm gydag Archie, Huw Hall a Iants yn sgorio, Iants yn croesi wedi iddo ryng-gipio ar hanner ffordd. Ond roedd pethau’n dal i fod yn dynn, ac roedden ni dal yn colli wrth i’r diwedd nesáu. Roedd y dyfarnwr yn digwydd siarad Cymraeg, a phan gawsom dair cic gosb yn y munudau ola’, roedd digon o swn yn dod o ymyl y cae. Aeth y ddwy gic cosb cynta’ heibio’r pyst, ond reit ar ddiwedd y gêm, aeth y trydydd trwy’r canol, ac enillwyd y gêm o 32-31.
Doedd chwaraewyr Llanrumney ddim yn hapus o gwbl, yn enwedig pan aeth darn i’r Echo ar y nos Fercher canlynol yn sôn am y gic fuddugol “in the face of vociferous barracking”! Felly pan ddaeth gem y Brewers, roedd ganddyn nhw ddigon i’w brofi, ac roedden ni falle’n meddwl na allwn ni chwarae mor sâl eto. Fel y trodd hi allan, roedd Llanrumney yn haeddiannol o’u buddugoliaeth wrth inni golli o 21-9 a chafwyd digonedd o eiriau caredig oddi wrth ei chwaraewyr wrth inni ddychwelyd i’r Gyfnewidfa Lo y pnawn hwnnw.
Erbyn y tymor canlynol, roedd y tîm wedi cryfhau rhywfaint, a’r gobaith oedd i gael ‘chydig o lwc yn y gemau cwpan. Cafwyd gem adre yn y rownd gyntaf yn erbyn Crughywel, tîm nad oedd neb yn gwybod rhyw lawer am, er bod Frankie’n byw yn yr ardal. Dydy’r gêm ddim yn gofiadwy iawn, er imi gofio’i bod hi’n sych ac yn siwtio’n ffordd ni o chwarae, ac fe fuon ni’n fuddugol o 52-0. Roedd hynny wedi bod yn reit gyffyrddus, o’n fe dynnwyd ein henw mas o’r het i deithio i Gwm Rhymni yn yr ail rownd i gwrdd â Phontlottyn. Y disgwyl oedd y byddai unrhyw glwb o’r cymoedd yn debyg i fod yn gryf, yn enwedig ar eu tir ei hunain. Fe ohiriwyd y gêm ar y Sadwrn oedd wedi ei benodi ar ei gyfer, ac fe’i chwaraewyd hi yn y pen draw bythefnos yn ddiweddarach. Fe roddodd hyn ongl ‘chydig yn ychwanegol i’r gêm, gan inni dynnu Tregaron yn y rownd nesa’. Roedd cysylltiad mawr efo’r Clwb a Thregaron ar y pryd, ac fe ddaeth hi’n amlwg imi fod y gêm yn erbyn Pontlottyn yn un oedd yn rhaid ei ennill.
Roedd y tywydd wedi bod yn gas, a doedd y cae ddim yn ein siwtio ni o gwbl. Roedd hi’n wlyb, ac roedd niwl isel dros y cae. Yr atgof arall oedd lliw tywyll y tir. Ro’n ni yn ardal y glo, ac roedd y pridd yn ddu. Ond roedd hi un o’r diwrnodau hynny pan chwaraeodd y clwb yn gryf iawn. Roedd y daith i Dregaron yn un deniadol iawn ac fe ddangosodd hynny yn ein chwarae. Sgoriwyd cais cynnar, ac wedi hynny roedd y canlyniad yn ein dwylo ni ein hunain, ac fe aethom ni ‘mlaen i sgorio pum cais arall, ac ennill o 24-0. Troswyd ddim yr un o’r ceisiau, ac felly rwy’n siwr ei bod hi wedi bod yn ddiwrnod anodd iawn i bwy bynnag oedd yn cicio’r adeg hynny!!
Unwaith eto, cafwyd noson a chroeso da yno. Roedd Wilkins wedi ei magu yn yr ardal, ac roedd hi’n amlwg ei fod e’n mynd i ennill yr “yard of ale”. Roedd hynny’n ddigon teg wrth gwrs, ond roedd yn anffodus braidd i Gareth gan ei fod wedi ei ddal yng nghlwb Whitchurch yr wythnos flaenorol. Roedd hi’n syndod faint o’r tîm adawodd Whitchurch yn gyflym wedi’r gêm y diwrnod hwnnw, nes mai dim ond Iants, Gareth a fi oedd yn weddill. Daith un o’u chwaraewyr nhw draw efo’r “yard”. Cododd Iants allweddu ei gar yn reit sydyn, ac rhywffordd, fe ddewiswyd rhwng Gareth a fi. Yn ffodus imi, “enillodd” Gareth. Felly, ro’n ni yn teimlo drosto ‘chydig wrth iddo gael yr ail un lan ym Mhontlottyn, ond dim ond ‘chydig. O leia’ roedd e’n gallu yfed ei gwrw, a’i chadw lawr, ddim fel Rhys Bala yn y Clwb hwnnw wrth City Rd, pan ddiflannodd ei “yard” ac yna ail-ddangos, ac wedyn diflannu eto. Ond roedd hynny’n stori arall. Ac felly mlaen a ni i Dregaron ar Ragfyr 20fed 1986.
Ro’n i ar y pwyllgor dewis ar y pryd, ac rwy’n cofio pa mor anodd oedd dewis tîm cyfan ar gyfer y gêm. Roedd y rhan fwyaf yn ddigon syml. Roedd y rheng flaen o Frankie, Brian a Wyn yn dewis ei hunain, ac roedd Dafydd Idris a Pembers yn gwneud cyfuniad da yn yr ail reng. Roedd Butchie heb ei ail fel mewnwr, ac roedd Huw Jones yn dod â’r elfen greadigol y tu fas iddo. Eto, roedd cyfuniad da yn y canol rhwng Beuno a Wyn Thomas, ac roedd Wyn yn cyfrannu efo’i droed dde hefyd. Ar y ddwy asgell roedd Tudor Young ac Emyr Jones, y naill yn gryf a phwerus, a’r llall yn gyflym ac yn dwyllodrus. Y tu cefn inni gyd, roedd Llyr Roberts, ar y pryd yn ifanc, cyflym ac yn gryf o dan y bel uchel. Roedd hi’n dîm da, doedd dim dwywaith am hynny, ond roedd angen digon o drafod cyn inni gytuno ar y rheng ôl.
Ro’n ni’n ymarfer ar y pryd ar, neu yn llythrennol, o dan Barc yr Arfau. Roedd digon o le i’r cefnwyr taflu’r bel o gwmpas, ac roedd pit tywod i ni’r blaenwyr ymarfer sgrymio cymaint ag oedd yn bosib.
Roedd caniatâd inni ddefnyddio’r trac rhedeg hefyd, ac er nad oedd hi’n berffaith, roedd hi’n deimlad da i fod yno. Felly, ar ôl ymarfer, y lle doethaf i gwrdd a dewis tîm oedd Clwb Ifor. Rwy’n cofio eistedd yno gyda Huw Jones ac un neu ddau o’r chwaraewyr eraill-Huw Hall a Wyn Lewis mwy na thebyg. Roedd Huw Hall yn mynd i fod yn un o’r blaenasgellwyr, a ro’n i’n gobeithio fod yn Wythwr. Roedd hi’n ddewis syml felly am y safle ola’ rhwng Wilkins a Dai Lewis. Fe fuon ni’n pendrymu am amser hir, a dw’i ddim yn siwr ein bod ni wedi cytuno, ond erbyn y diwedd roedd rhaid dewis un o’r ddau, ac felly at Gareth y tro’n ni, gan obeithio am gêm gyflym agored i fanteisio ar ei ieuengctud i gymharu â Dai. Wrth edrych nôl, fe drodd hi allan i fod yn un o’r gemau hynny fyddai wedi siwtio Dai i’r dim.
Mae’r diwrnod ei hunan wedi diflannu rhywfaint o’r cof. Fe arhoso’n ni ym Mhont Abram ar y ffordd lawr, ond er hynny, roedden ni dal yno mewn amser da. Doedd hyn ddim yn beth da, gan iddi roi fwy o amser i sylweddoli pwysigrwydd y gêm ac i sylweddoli bod camerâu BBC yn mynd i fod yn gwylio. Doedd hi ddim i fod yn brynhawn cyffredin. Wedi cyrraedd y cae, fe amlygodd hi na fyddai chwarae gem agored gyflym yn debyg iawn, gan fod y cae mor drwm. Roedd hi’n ddigon sych, ond roedd hi’n un o’r diwrnodau hynny lle fyddai rhedeg yn gyflym yn anodd. Wrth gwrs, byddai hyn yn siwtio Tregaron oedd a phac mawr, ac fe fyddai wedi siwtio Dai Lews i’r dim hefyd, fel un oedd yn mwynhau’r ymosodiadau tyn. Ond dyna fel oedd hi. Roedden ni wedi dewis ein tîm a doedd dim modd ei newid hi nawr. Erbyn heddiw, fe fyddai wedi bod yn haws gyda’r opsiwn o newid y tîm ar yr hanner.
Ac felly, fe gollwyd y gêm gan inni fethu â dal ein tir ymysg y blaenwyr. Cafwyd un eiliad i’w gofio, wrth i Butchie dorri lawr yr ochr dde, yn debyg i Matt Dawson yn Ne Affrica, a sgorio cais unigol cofiadwy. Ond roedd Tregaron yn rhy gryf ac fe’n trechwyd o 12-4. Cafwyd noson go dda lawr yn y Gorllewin, ond eto roedd y siom yn gryf, ac efallai bod hyn wedi effeithio ar fwynhad y noson.
Unwaith yn rhagor, fe gurwyd Tregaron gan y CIACS, a fyddai’n mynd ‘mlaen i ennill y cwpan y flwyddyn honno.
Am ryw reswm, mae tymor 87-88 wedi mynd o’r cof yn gyfan gwbl. Mae hanes yn dweud ein bod ni wedi colli gem adre yn erbyn Cwmbran Saracens o 24-6, ond does gen i’r un atgof o’r gêm o gwbl. Mae’n rhaid ei bod hi wedi bod yn gêm dda!
Erbyn 88-89, ro’n ni wedi derbyn capteiniaeth y Clwb. Hwn oedd y tymor lle fydden ni allan o’r ddau gwpan pwysig cyn diwedd mis Medi, ac roedd hynny’n beth anodd iawn i’w dderbyn. Byddai chwarae 8 mis o gemau cyfeillgar yn ddigon anodd, ond roedd bod yn gapten yn ei gwneud hi’n anoddach fyth.
Yn y Brewers, doedd dim esgus. Roedden ni wedi bod yn ddigon anffodus i gael ein tynnu i chwarae gem yn y rownd ragarweiniol ond o leia’ roedd y gêm i fod adre ac yn erbyn Howardians. Roedd hynny’n ddigon agos at fod yn Bye. Fe ddigwyddodd rhywbeth y diwrnod hwnnw na fyddai’n digwydd eto ar ddiwrnod tebyg am sbel. Fe chwaraeodd yr ail dîm. Fel arfer ar ddiwrnod gem gwpan, byddai’r ail dîm yn osgoi chwarae er mwyn sicrhau sgwad gryf. Ond y diwrnod hwn, efallai gan ystyried safon ein gwrthwynebwyr, fe aeth yr ail dîm lan i Drelai ar gyfer gem, gan adael pymtheg ohono ni yn y Cameo i chwarae yn Llandaf. Wel, nid pymtheg, on pedwar ar ddeg. Pan aeth yr ail dîm, doedd dim golwg o Wyn Thomas, ond gan ei fod wedi bod yn aelod selog a ffyddlon am ddau neu dri thymor, doedd dim rheswm i feddwl na fyddai’n ymddangos.
Felly draw a ni i’r cae, a hyd yn oed yn yr ystafelloedd newid, ro’n ni’n dal i ddisgwyl iddo ymddangos wrth y drws. Dim ond wrth inni redeg i’r cae, fe benderfynodd rhywun y byddai’n ddoeth danfon rhywun i Drelai i nôl Nigel Harrington. Ymddangosodd Nige ddim nes bo wedi hanner amser, ac erbyn hynny, roedden ni ar ei hol hi, ac yn isel, ac roedd ei hysbryd nhw wedi codi. Hyd yn oed â phymtheg dyn, roedd hi’n rhy hwyr i achub y gêm ac fe gollo’n ni o 18-15. Roedd bai arnom ni fel chwaraewyr ac fel pwyllgor ac fe fyddem yn difaru am weddill y tymor, yn enwedig wedi i’r Howardians golli yn y rownd nesa’ i Cardiff Civil Service, tîm na fyddem wedi disgwyl i guro’n ail dim ni.
Y sôn oedd bod Wyn wedi cael cynnig gem nôl lawr yn y Gorllewin ac wedi penderfynu mynd ar y funud ola’. Efallai nad yw hynny’n wir, ond ni chafwyd y cyfle i ofyn gan iddo ddiflannu o’r diwrnod hynny ‘mlaen. Efallai ei fod wedi bod yn ddoeth. Ro’n ni’n grac ar y pryd, ac roedd yna rai yn y clwb oedd yn llai elusengar na fi, gydag enw Brian yn dod yn syth i’r meddwl!!
Os oedd y tymor hwnnw i fod yn un o’r mwya’ siomedig a byr o safbwynt y cwpan, byddai’r nesa’ yn siomedig am resymau gwahanol. Er na wyddwn i ar y pryd, ro’n ni wedi tynnu at ein gilydd un o’r timau cryfa’ y byddai gyda ni fel clwb trwy gydol fy amser i yno. Roedd rheng flaen cryf, rheng ôl cystal ag unrhyw dim arall o’r un safon a ni, a chefnwyr oedd yn gallu trafod y bel, ymosod ac amddiffyn, ac roedd ysbryd da i’w gael hefyd. Byddai’r cwpan y tymor hwnnw yn un o’r mwyaf cofiadwy imi.
Y peth cyntaf i’n ffafrio ni oedd inni dynnu Brackla o’r het yn y rownd gyntaf yn Llandaf. Y gobaith oedd i beidio gadael ein hunain lawr fel yr oedden ni flwyddyn ynghynt. Wrth baratoi at y gêm, roedd pawb ar gael heblaw am Brian Sullivan. Roedd Brian yn un o’r rhai mwyaf cyson yn y Clwb, a rhaid bod ganddo esgus da dros beidio â bod yno. Roedd bachwr yn mynd i fod yn safle anodd i ddod o hyd i eilydd, gan ein bod yn fyr o chwaraewyr yno. Felly gwnaed y penderfyniad o ofyn i fab rheolwyr yr Halfway ar y pryd, Richard, a oedd a chysylltiadau gyda Ffynnon Taf, os fyddai’n fodlon chwarae un gêm drosto' ni. Fe gytunodd e, er bod ganddo wendid yn ei wddf, a allai fod yn broblem wrth ystyried ein bod ni’n gofyn iddo chwarae yn y rheng flaen. Ac felly, rwy’n cofio eistedd yn y Cameo gyda Rich Halfway ar fy mwys i yn disgwyl i bawb gyrraedd cyn cerdded i Landaf i chwarae yn erbyn Brackla, o Benybont. Eisteddodd Rich yno’n anghyfforddus iawn wrth i’r drws agor bob tro, wrth iddo ddisgwyl am brop deche i gyrraedd. Byddai’n gofyn y cwestiwn bob tro-“Is this one of the props?”. “No, Rich” oedd yr ateb bob tro er rhyddhad mawr iddo fe wrth iddo weld un arall o’r cefnwyr yn cyrraedd. Wedi ‘chydig, roedd 13 o’r tîm wedi cyrraedd y Cameo, a dim ond y ddau brop oedd yn weddill. Roedd Rich ar bigau drain yn disgwyl. Roedd e’n ddigon cyfarwydd â’r clwb i wybod ei bod hi’n ddigon posib y byddai gennym ni ddau brop ysgafn a gwan, nad oedd wedi chwarae yn y rheng flaen o’r blaen. O’r diwedd, agorodd y drws eto a dyma’r ddau ddoctor, Colin Dent ac Andy Long yn cerdded trwy’r drws. Yn sydyn iawn, fe ddiflannodd holl bryderon Rich wrth i’r ddau gawr eistedd lawr.
Ac felly draw at Landaf ar gyfer gem y dylid fod wedi ei hennill yn reit gyfforddus mae’n siwr. Fel yr oedd hi, am ryw reswm yn chwarae ar hen gae Llandaf nesa’ at y pàth i’r stafelloedd newid, roedd pethau’n dyn iawn, ond erbyn y diwedd, ni oedd yn fuddugol, o 13-7. Yr unig eiliad cofiadwy o’r gêm oedd Andy Long yn cael galwad ar ei “pager” oedd yn cael ei ddal gan rywun ar y ffin, ac yn gorfod rhedeg i wneud galwad o’r ffôn oedd yn arfer bod ar bwys tŷ y gofalwr.
Wedi cael gem adre gymharol hawdd, fe fydden ni wedi disgwyl gem anoddach yn yr ail rownd. Ond, ar bapur, fe fuon ni’n ffodus iawn yn tynnu St. Julians, Casnewydd, er bod hynny oddi cartref. Roedd y tîm yn llawn hyder, ac rwy’n cofio’n bod ni nol a phawb ar gael wrth i’r paratawiadau fynd yn dda yn ystod yr wythnos. Ond fe aeth pethau chydig bach yn anghysurus i mi ar y pnawn Sadwrn hwnnw. Ro’n ni wedi bod yn gweithio’r bore hwnnw, ac fe ddaeth hi’n amlwg erbyn tua hanner dydd nad oeddwn i’n mynd i gyrraedd y Cameo erbyn hanner awr wedi. Erbyn 1.00, ro’n ni’n dechrau poeni’n fawr, yn enwedig gan fod y gêm i’w ddechrau am 2.00. Daeth y lori ddiwethaf nôl fewn i’r gwaith i’m rhyddhau erbyn tua 1.30, a rhywffordd, fe lwyddais gyrraedd canol Casnewydd â rhyw bum munud yn weddill. Efallai bod hyn wedi effeithio arnai yn bersonol, ac efallai rhywfaint ar y tîm wrth inni dreulio ar yr hanner o 6-0, a ro’n ni wedi chwarae’n sâl iawn. Ond fe ddechreuo’ ni’r ail hanner yn well, ac fe groesodd Llyr Roberts am gais na’i throswyd. Ychydig yn ddiweddarach, enillwyd cig gosb allan ar yr ochr dde, a llwyddodd Dafydd Emyr a’r triphwynt. Wedi hynny, roedd hi’n fater o ddal ein tir, ac fe lwyddo’n ni wneud hynny yn reit gyfforddus heb sgorio rhagor o bwyntiau. Ond doedd hynny ddim yn bwysig. Enillwyd y gêm o 7-6 ac roedd y drydedd rownd yn ein disgwyl ni.
Roedd dewis Dafydd wedi bod yn fater caled, ychydig yn debyg i’r hynny oedd wedi bod efo ni cyn teithio i Dregaron. Ro’n ni yn ‘nabod Dafydd oddi ar ein dyddiau ysgol, a ro’n ni’n gwybod ei fod yn chwaraewr arbennig. Ond roedd e wedi bod yn chwarae rygbi o safon uwch, ac fe fu ar gael i gynrychioli’r clwb dim ond ar yr achlysuron mawr, fel y gemau cwpan hyn. Steve Lewis oedd wedi bod yn chwarae fel maswr ar bob ‘pnawn Sadwrn arall, ac er nad oedd gan Steve pŵer corfforol Dafydd, ac er nad oedd yn cicio mor bell, roedd e yn dod â’r gorau allan o Llyr a Ianto yn y canol. Wrth edrych nôl, fel penderfyniad moralaidd, rwy’n difaru peidio â dewis Steve ar gyfer y gemau pwysig. Ond roedd Daf yn cynnig ‘chydig yn fwy, ac fe aeth pob teimlad moralaidd allan o’r ffenest wrth inni feddwl am rediad yn y cwpan. Rhaid dweud, fe dderbyniodd Steve y sefyllfa yn arbennig. Chefais i ‘rioed gair o gŵyn oddi wrtho, a byddai’n ddigon hapus mynd nôl i’w le yn y tîm cyntaf unwaith i Dafydd fynd eto.
Erbyn y drydedd rownd, rhyw wythnos cyn y Nadolig, roedden ni wedi derbyn gem adre yn erbyn cyn-enillwyr y cwpan, Caerleon. Eto, wrth baratoi ar gyfer y gêm, roedd pethau’n siapio’n addawol, a chafwyd sesiwn ymarfer arbennig yng Ngerddi Soffia. Roedd tîm cryf gyda ni, a phawb ar gael, ac roedd y tywydd yn edrych fel y byddai’n ein siwtio ni. Erbyn hyn, am ryw reswm, roedden ni wedi trefnu cwrdd yn y clwb trydan. Efallai bod y Cameo ar gau ar y pryd. Oedd, roedd popeth yn ein ffafrio ni, gan gynnwys y tywydd. Roedd hi’n sych dan droed, digon o heulwen a dim gwynt. Byddai dim esgus gyda ni heddiw. Yna, gyrhaeddodd Butchie’r clwb, gyda’r newyddion drwg fod John Hayes yn sâl ac na fyddai yn chwarae.
Fe allai hyn fod wedi bod yn ergyd fawr inni fel tîm a hefyd yn ergyd seicolegol fawr inni fel unigolion. Ond diolch i’r drefn, fe ddewisodd Gareth Hall i gael un o’r diwrnodau hynny lle fyddai’n ymddangos ym mhobman, a gyda rhiw bum munud yn weddill, roedden ni’n dal i fod ar y blaen o 17-16. Gyda Caerleon yn ymosod yn gryf, fe lwyddo’n ni rhyngipio, ac ennill tir yn gyflym o fewn ei 22 nhw, cyn i’r dyfarnwr chwibanu am gic cosb i ni. Roeddwn i yn dal i geisio dal lan a’r chwarae, ac o bell fe ddechreuais waeddi mod i am inni gicio at y pyst. Byddai’n rhaid iddyn nhw sgorio cais i’w hennill hi wedyn. Ond wrth imi waeddi, fe welodd Gareth(a oedd wrth gwrs wedi bod ar flaen y gad wrth inni wrthymosod) gyfle i redeg y gic gosb ac i fynd am gais. Ro’n ni’n dal i waeddi’n wyllt arno wrth weld ei fraich yn ymestyn dros y lein am gais a fyddai, gyda’r trosiad i ddod, yn gwneud y gêm yn ddiogel inni. Am y tro cyntaf, roedden ni wedi croesi’r ffin seicolegol hynny oedd yn meddwl ein bod ni dal yn y Brewers ar ôl y Nadolig. Roedd y noson honno, ac yn wir y Nadolig cyfan imi’n bersonol, yn rhai melys iawn wrth ystyried ein bod ni yn yr 16 ddiwetha’ yn y cwpan, a byddai un fuddugoliaeth arall yn dod â chwpan Schweppes neu Swalec neu beth bynnag oedd hi ar y pryd, a chyfle i ddod ag un o’r clybiau mawr i gaeau Llandaf. Roedd hi’n deimlad da, ac un na fyddwn yn ei theimlo eto tra’n chwarae.
Un o’r ffactorau pwysig ar y pryd oedd y ffaith fod pawb oedd yn gysylltiedig â’r clwb yn benderfynol o fynd allan o’u ffordd i sicrhau’r llwyddiant ro’n ni’n ei fwynhau. Roedd pawb yn ymarfer, ac roedd pawb yn gwneud ymdrech i fod ar gael ar bob Ddydd Sadwrn, yn enwedig doctoriaid y clwb, Colin, Andy a Pembers oedd yn gorfod tynnu pob ffafr bosib er mwyn rhyddhau ei hunain. Roedd yr ymroddiad hwn yn ymestyn, neu efallai yn dechrau, gyda Butchie, fel hyfforddwr. Byddai’r dyletswyddau hyfforddi wedi syrthio i’m hysgwyddau i fel capten yn absenoldeb Butchie, a doedd hynny ddim yn apelio ata’i rhyw lawer. Ond doedd dim angen imi baratoi o gwbl wrth iddo droi lan wythnos ar ôl wythnos. Roedd Butchie’n hyfforddwr am ddau dymor pan o’n ni’n gapten, dwi’n meddwl, ac yn yr amser hynny, dim ond un pythefnos rwy’n cofio iddo fethu ymarfer, ac i fod yn deg, roedd chicken pox neu measles ganddo ar y pryd. Roedd yr ysbryd yn dda. Rwy’n cofio trafod gyda John Hayes yn ddiweddarach ei deimladau ar golli’r gêm yn erbyn Caerleon. Fe gadarnhaodd ei fod wedi bod ar bigau draen, ac roedd balchder mawr ganddo pan glywodd y canlyniad ar Radio Cymru o bobman. Roedd yr ysbryd yn y clwb cyfan.
Ffactor bwysig arall oedd safon y chwaraewyr. Doedden ni ddim yn wan mewn unrhyw safle. Dw’i ddim yn cofio pwy ddaeth fewn i’r tîm yn erbyn Caerleon pan gollwyd John, ond rwy yn cofio na theimlwyd ei absenoldeb gymaint ag y byddwn wedi disgwyl. Roedd y rownd nesa’ i’w chwarae yn y Drenewydd. Roedd hi’n drueni nad oedd y gêm i’w chwarae yng Nghaerdydd, ond ro’n ni’n falch nad oedden ni wedi tynnu tîm o Gaerdydd, neu dîm fydden ni yn ei adnabod, a lle byddai efallai rhyw elfen seicolegol yn ein herbyn ni. Ro’n ni gyd yn gwybod pa mor anodd fyddai chwarae Fairwater, CIACS neu’r Buns, ond roedd y Drenewydd chydig yn wahanol, “an unknown quantity”, efallai ac felly roedd yna rywfaint o hyder. Roedd y tywydd hefyd yn ein siwtio ni. Roedd hi wedi bod yn dda cyn y Nadolig, ac er bod y gêm yn y Drenewydd i’w chwarae ar Ionawr 13eg, llwyddwyd chwarae gem gyfeillgar lawr yn erbyn Sully yr wythnos flaenorol. Roedd hyn yn berffaith. Doedd hi ddim yn debyg o fod yn gêm rhy gorfforol, a doedd dim peryg unrhyw nonsens, ac roedd hi’n gyfle i ymarfer yr holl symudiadau.
Ac felly, daeth y 13eg, a thaith gofiadwy i’r Drenewydd. Codi Dafydd Emyr wrth North Road, stopio i gael paned ar y ffordd, a ro’n ni’n dal i fod yno mewn amser da. Fel yn y rownd ddiwetha’, ar bapur roedden ni mor gryf ag oedd yn bosib. Andy Long, Brian Sullivan a Colin Dent yn creu rheng flaen a digon o bwysau, ond a digon o gyflymder. Pembers a finnau yn yr ail reng. Dim cweit cymaint o bwysau, ond yn cynnig digon o waith rownd y cau, ac yn hyderus o ennill ein pêl yn y leiniau. Rheng ôl o John a Gareth, gyda chryfder a phrofiad Wilkins rhyngddynt. Cyflymder, ac yn arbennig, cyflymder pàs Gwydion Lewis a phŵer a chic Dafydd Emyr y tu fas iddo. Yn y canol, “thou shallt not pass” Ianto a Llyr Roberts, gyda thwyll a chyflymder Sion Clwyd a Richard Williams ar y ddwy asgell. Fel cefnwr, Meurig Phillips, yn cynnig maint a chryfder dan y bel uchel, ac wrth gwrs yn cynnig troed dde cystal â neb. Roedd hyd yn oed y fainc yn gryf. Fel blaenwyr, Illtyd James a Gary Davies(Gonc), ac ymysg y cefnwyr, Butchie a Steve Lewis, ac yna Dyfrig Parri a Geraint Jenkin(AKA Henry Ramsey ar y pryd). Roedd hi’n sgwad gref, er na allai weithio mas erbyn hyn pwy fyddai wedi dod ‘mlaen petai un o’r ail reng neu’r rheng ôl wedi dod bant. Efallai byddai Dyfrig wedi ymuno â’r blaenwyr rhai tymhorau ‘ynghynt nag y bu.
Cafwyd digon o amser i dwymo ar y cae, a pharatoi yn yr ystafell newid, ac fe weithiodd hyn o’n plaid ni wrth i’r gêm ddechrau, gyda’r Clwb ar dan. Am y chwarter awr gyntaf, enillwyd pob lein, ac enillwyd digonedd o dir gyda Dafydd yn cicio’n hir. Mae’n siwr y byddai’r chwarae hyn yn cael ei ystyried gyda’r sbel gorau y gallai’i gofio, ond fe fetho’n ni a sgorio. Wedi tua chwarter awr, fe newidiodd y gêm ar ei phen. Ro’n ni ar lein y Drenewydd ac roeddwn i yn aros am sgrym neu dafliad. Dywedodd rhywun bod anaf ar un o’n chwaraewyr ni, ond roedd fy meddwl ar bethau eraill, a gwnes i ddim sylweddoli rhyw lawer ar Gwydion yn gadael y cae, a Butchie’n dod ‘mlaen. Wyddwn i ddim ar y pryd faint fyddai hyn yn newid y gêm. Roedd Butchie’n chwaraewr da, ond i fod yn deg, doedd e ddim o safon Gwydion, ac yn naturiol, fe gollwyd yr egni cynnar oedd wedi datblygu.
Fe fûm i am amser hir yn teimlo’n euog iawn tuag at Gwydion. Ar y cae, do’n i ddim wedi sylweddoli cymaint o golled y byddai inni, ond yn fwy na hynny, chefais i fyth gyfle i wneud yn siwr ei fod yn iawn y diwrnod hwnnw. Dyna lle’r oedden ni, yng Nghanolbarth Cymru, ac roedd chwaraewr ifanc wedi torri ei ên, neu’i foch, ac ar ei ffordd i’r ysbyty ymhell oddi cartref, a’r noson honno, fel capten y clwb, yr unig beth oedd ar fy meddwl i oedd y rygbi a mwynhau’r noson. Fe ddaeth y teimlad o euogrwydd yn gryfach rhyw ddegawd yn ddiweddarach pan dorrais i ‘moch, ac yn eistedd yn ddigon trist yn yr ysbyty, yn reit siwr bod fy ‘ngyrfa rygbi ar ben hefyd. Ro’n i’n fwy ffodus ‘mod i yng Nghaerdydd, gyda’r teulu yn agos, ac fe ddaeth Rhidian Lloyd, fel capten y Clwb i sicrhau fod popeth yn iawn, ac i gynnig ei help. Roedd Gwydion ymhell o’i gartref, ac yn sicr, ni welodd ei gapten y noson honno. Rwy’n gobeithio bod rhywrai eraill ar y pwyllgor bryd hynny wedi cynnig eu help iddo.
Ac felly roedd y rhediad yn y cwpan yn mynd i ddod i ben. Roedd hi’n ddigon agos, a ro’n ni ar ei hol hi ar yr hanner dim ond o ryw 3-0. Fe lwyddodd Meurig a chic gosb yn ystod yr ail hanner, ond caewyd y drws arnom pan sgoriodd y Drenewydd gais ar ôl sgrym yn agos i’n lein ni. Collwyd y gêm o 12-3. Er nad oedd ganddynt gawodydd twym, llwyddwyd i fwynhau’r noson yno, yn ei Clwb nhw ac yna yn un o dafarndai’r dre. Roedd hi’n drip hir adre, gyda’r canlyniad a’r siom yn dechrau suddo fewn, a doedd ddim hyd yn oed Cyrri yn Whitchurch Rd yn ddigon i godi’r ysbryd. Y bore wedyn ac am rai wythnosau diweddarach, byddai’r canlyniad yn un ddigon anodd ei dderbyn. Fe allai hi fod wedi bod yn dymor gwbl gofiadwy. Ond fel yr oedd, ro’n ni nol at chwarae timoedd Caerdydd, ac roedd y freuddwyd ar ben eto. Ac wrth gwrs, doedd hi ddim yn llawer o help i weld y Drenewydd yn curo’r CIACS yn y rownd nesa’ ac yn mynd mlaen i gyrraedd y rownd derfynol.
Byddai’r tymhorau nesa’ yn rhai digon siomedig o safbwynt y cwpan. Roedd y tîm wedi newid rhywfaint, ac fe gollwyd y tri aelod o’r rheng flaen. Roedd hyn yn golled mawr. Roedden ni hefyd wastad mewn grŵp cystadleuol iawn. Weithiau fydden ni’n ddigon ffodus i gael gem weddol hawdd yn y rownd gyntaf, ond roedd hi’n reit debygol y bydden ni’n tynnu un o’r heavyweights yn y rownd nesa. Ro’n i wastad yn genfigennus o rai o’r grwpiau, a fyddai wedi bod lot yn haws i gael mynd trwyddo i’r drydedd rownd. Yn y tymor 1990-1, cafwyd rownd gyntaf reit gyfforddus yn erbyn Aberbeeg, a’r gobaith eto oedd am gêm adre yn yr ail rownd. Ond fe’n tynnwyd ni i deithio lan i’r Tyllgoed, lle’r roedd Fairwater yn gryfach nag y buon nhw ar unrhyw adeg cyn hyn ac efallai ers hynny hefyd.
Roedd dau neu dri chwaraewr yn sefyll mas, ond yr un sy’n dod i’r cof oedd Wayne Peckham, blaenasgellwr cryf, oedd yn rhedeg yn isel i’r ddaear ac felly’n anodd iawn i dynnu lawr. Dw’i ddim yn gwybod sawl gwaith iddo fe ai gydchwaraewyr yn y rheng ôl yn rhedeg ato' ni ac yn cadw’r gêm mor dyn. I fod yn deg, doedd dim hyder ‘da ni’n mynd fewn i’r gêm - ro’n ni gyd yn gwybod ein bod ni’n mynd i golli, ac roedd hi’n fater o falchder i gadw’r sgôr terfynol lawr at 27-3. Ro’n ni wedi cadw pethau’n eitha’ tyn yn yr hanner cynta, ond yn bennaf oherwydd bod y gwynt yn ein ffafrio. Ar ddechrau’r ail hanner, a ninne’n colli o ryw un sgôr, fe ryng-gipiodd Llyr Roberts yn ein hanner ni, ac ar ddiwrnod sych fe fyddwn i wedi’i cefni i sgorio. Ond roedd hi’n wlyb a’r tir yn drwm, a chafodd Llyr ei ddal yn gyfforddus ymhell o’i lein nhw. Hwnnw oedd ein cyfle diwetha', a gwariwyd y rhan fwyaf o’r ail hanner yn amddiffyn yn ddwfn yn ein 22 ein hunain. Wrth gwrs, fe aeth Fairwater ‘mlaen i gipio’r cwpan eto’r tymor hwnnw.
Erbyn 1991-2, roedd y lwc yn ein herbyn ni yn gyfan gwbl. Fe’n tynnwyd ni o’r het am gêm oddi cartref yn erbyn Cwmtillery. Mae Cwmtillery i’w ganfod chydig ymhellach nag Abertillery, ac fel Glyncorrwg sawl tymor ynghynt, roedd un ffordd fewn a’r un ffordd allan eto. Fel y gêm yn erbyn Y Tyllgoed y flwyddyn cynt, fe deithio’n ni yno heb fawr o obaith ennill y gêm. Roedden ni’n gwybod fod pac cryf ‘da nhw, ac yn y rheng flaen roedd ganddyn nhw gwr o’r enw Brandon Cripps, oedd wedi chwarae rygbi o safon uwch i bob clwb dosbarth cynta’ yng Ngwent. Roedd Rob Thomas a Kevin yn y rheng flaen, a minne a Pembers yn yr ail reng yn gwybod y byddai’n cymryd gwyrth inni ddal ein tir ymysg y blaenwyr. Gwnaeth y wyrth ddim digwydd.
Wrth inni agosâi at Gwmtillery, fe waethygodd y tywydd yn ofnadwy arnom ni. Fel ym mlynyddoedd cynt, ein hunig obaith oedd chwarae ar ddiwrnod sych, heb unrhyw fath o wynt. Unwaith inni fynd allan i’r cae, roedd y glaw a’r gwynt cynddrwg a ro’n ni erioed wedi gweld neu chwarae ynddi ar gae rygbi. Roedd y gwynt mor gryf, roedd hi fel bod y glaw ddim yn dod lawr o gwbl, yn hytrach roedd hi’n mynd ar draws. Anghofia fyth gweld Archie yn sefyll mewn rhyw fath o gysgod ar ochr y cae yn ceisio cuddio rhag y tywydd. Galla’i ond dychmygu beth oedd ar feddwl yr eilyddion wrth iddynt cynsidro gorfod dod ‘mlaen i’r cae. Roedd pethau wedi edrych yn dywyll unwaith inni gyrraedd yr ystafelloedd newid(yn hwyr, wedi mynd ar goll eto), wrth sylweddoli nad oedd tebygrwydd cael cawod dda gan nad oedd dwr twym, a doedd hi ddim yn rhyw lawer o lawenydd i glywed fod yna un tap dwr twym oedd yn gweithio. Nid dyna beth oedd i’w obeithio am ar ddiwrnod fel yr oedd hi, yn enwedig gyda noson mas wedi’i drefnu.
Fe enillodd ein capten(Phil James dwi’n meddwl) y toss, ac fe chwaraeon ni efo’r gwynt yn ystod yr hanner cyntaf. Yr unig obaith erbyn hyn oedd sgorio unwaith neu ddwy, ac wedyn gobeithio am ryw Zulu siege defence yn yr ail hanner i ddiogelu’r fantais. Ond fel oedd hi, fe fetho’n ni a sgorio gyda’r gwynt, ac fe sgorio’n nhw ddwy gais. Gallai ddychmygu fod Phil wedi ennill ei arian y diwrnod hwnnw wrth drafod dros hanner amser. Dyna lle’r oedden ni yn rownd agoriadol y cwpan, yn ei dymor cyntaf fel capten, yn chwarae mewn monsŵn, ac wedi llwyddo gwastraffu ein cyfleoedd yn ystod yr hanner cyntaf. Dyna lle’r oedden ni fel lambs to the slaughter yn mynd fewn i’r ail hanner, ac er nad wyf yn cofio’n iawn, mae’n siwr fod Phil wedi dod allan a rhai o’r geiriau positif hynny, “we’re still in it, boys” a “C’mon, next score will be important” ac yn y blaen. Dyna bwrpas capten, mae’n siwr, ond yr unig beth ar ein meddyliau ni oedd pa mor fuan fyddai’r chwiban ola’n dod.
Roedd ein pryderon efo Cripps wedi cael eu cadarnhau. Fe allai fod wedi gwrthsefyll grym ein pac ni ar ei ben ei hun, ac mae’n siwr fod Kev a Rob wedi cael mwy nag un “aerial view of the Gwent valleys”. Cafwyd un sgrym ar ein lein ni, ac rwy’n cofio edrych ar Rob yn gwybod ei bod nhw yn mynd i’n gyrru ni dros y lein. Hanner munud wedyn, roedd ein pac ni mewn rhyw crumpled heap tu ôl i’n lein ni, ac roedd eu pac nhw yn struttio nol wedi profi pwynt unwaith yn rhagor. Fe chwaraewyd rhyw hanner awr o’r ail hanner hwnnw, cyn i’r dyfarnwr cymryd piti arnom a chloi’r gêm, a cholled o 36-0. Roedd hi’n drueni am y tywydd gan na chawsom ni gyfle i ddangos ein sgiliau. Er colli, byddai’r Clwb yn dangos gwell esiampl rhyw ddau dymor yn ddiweddarach yn erbyn yr un gwrthwynebwyr.
Er colli’n drwm, ac er y gawod siomedig, cafwyd croeso a noson arbennig y noson honno. Roedd Archie ar ei orau, ac roedd y canu’n gofiadwy. Fe fues i’n gweithio yn ardal Cwmtillery flwyddyn neu ddau yn ddiweddarach, ac roedd atgofion y diwrnod hwnnw, er gwaetha’r grasfa ar y cae, yn rhai melys iawn.
Byddai’r tymor canlynol, 1992-3, yn un cofiadwy am bob math o resymau, yn bennaf oherwydd i’r Clwb gyrraedd tudalennau chwaraeon yr Western Mail a Steve Lloyd yn cael ei ffonio i gyfrannu dyfyniadau iddynt. Fe ddylai hi wedi bod yn gêm ddigon cyffredin rhwng dau o glybiau ardal Caerdydd. Roedd hi’n gêm bwysig inni hefyd i brofi’n hunain yn yr ardal. Roedd yr Cardiff and District League wedi dechrau tua’r adeg hynny, ac rwy’n cofio’r siom inni gael ein rhoi yn y drydedd adran. Roedd yr adrannau ar y cyfan yn ddigon teg, gyda Fairwater a’r Buns ac yn y blaen yn yr adran gyntaf a rhai timoedd da yn yr ail. Ond roedd Caerau Ely hefyd wedi cael ei lleoli yn yr ail adran, a do’n i ddim cweit yn deall y rhesymeg tu cefn i hynny. Ond ar y cae oedd y cyfle i brofi ein pwynt.
Fe ddilynodd y gêm yr un patrwm a’r rhan fwyaf o’n gemau ni - y blaenwyr dan bwysau i ddal eu tir, ac yn dibynnu ar ddewiniaeth y cefnwyr i’n cadw ni yn y gêm. Roedd y gêm yn gofiadwy am ddau o geisiadau orau’r Clwb, y ddau yn gwbl wahanol ei math. Yn gyntaf, cododd John Hayes y bel o gefn sgrym ar hanner ffordd, a thorri i’r ochr dywyll. Gyda neb yn gymorth, fe aeth ar ei ben ei hun a chroesi heb i neb rhoi bys ar ei gefn. Yna ‘chydig yn hwyrach, fe lwyddo’n ni ennill bel rhydd dan ein pyst ein hunain. Y peth doeth fyddai i glirio’r bel, ond fe benderfynodd rhywun i redeg, ac fe aeth y bel ar hyd y lein. Fe enillodd Dafydd Iolo chydig o dir cyn dod o hyd i gymorth y tu fewn iddo, ac yna, ail gasglodd y bel ar linell deng medr Caerau a chroesi dan y pyst. Roedd y ddau ohonynt yn geisiau cofiadwy ac yn gwbl typical o’r math o chwarae sydd wedi bod yn gysylltiedig â’r clwb erioed. Doedd ddim un tîm arall yn y brifddinas fyddai wedi mentro rhedeg y bel dan ein pyst ein hunain cyn sgorio’r ail gais hwnnw.
Ond er gwaetha’r ddau gais cofiadwy, erbyn i’r dyfarnwr chwythu’r chwiban am y tro ola'(y diwrnod hwnnw o leia’) roedd pethau’n gwbl gyfartal yn 20 pwynt yr un. A dyna pryd yr aeth pethau o le. Fe benderfynodd y dyfarnwr fod Caerau yn fuddugol oherwydd ei bod nhw yn chwarae oddi cartref. Roedd chwaraewyr Caerau’n ddigon hapus a hyn a doedd dim gair o gŵyn ganddynt. Ond fe es i a Meurig a Butchie i ddadle gyda’r dyfarnwr a cheisio egluro mai amser ychwanegol oedd y peth lleiaf y gallwn ni fod wedi disgwyl. Ond na, wedi rhyw bum munud, a gyda bechgyn Caerau yn y cawodydd, roedd e’n benderfynol o hyd o’r canlyniad. Rhyw bythefnos wedyn, fe fyddai’n difaru’n fawr.
Y dydd Llun canlynol, bu Steve Lloyd mewn cysylltiad efo’r District, ac wrth iddynt dynnu’r enwau o’r het ar gyfer yr ail rownd, fe gytunodd pwyllgor y cwpan y byddai’n rhaid ail chwarae...yr amser ychwanegol. Dyma pryd aeth pethau i’r wasg. Fe ddyfynnwyd Steve yn poeni ar ba bryd y byddai’n bosib chwarae’r ugain munud oherwydd ein gemau cynghrair. Wedi chydig o drafod rhwng y ddau glwb, fe gytunwyd chwarae ar y dydd Sul, pymtheg diwrnod wedi’r 80 munud cyntaf. Er mawr oedd pwysigrwydd y gêm, roedden ni gyd yn gydwybodol y byddai’r enillwyr yn chwarae St. Albans, deiliaid y cwpan, yn y rownd nesa’ a byddai hynny’n siwr o ddod â’n gobeithion i ben am dymor arall. Ond roedd y busnes gyda Caerau wedi’n cythruddo ni, a ro’n ni gyd yn benderfynol o brofi pwynt ar y bore Sul hwnnw.
A dyna fel yr oedd hi. Wedi cael gem ar y pnawn Sadwrn fe gwrddo’n ni eto’r diwrnod wedyn, i wynebu Caerau. Roedd y tîm yn union fel y bu bythefnos ynghynt, heblaw bod Kevin i ffwrdd, a daeth Ryan fewn yn ei le. Trodd y dyfarnwr fyny munudau cyn y gêm, ac fe ddiflannodd yn syth wedi iddo chwythu am ddiwedd y gêm, wedi derbyn llond ceg oddi wrth bawb ar ymyl y cae. Sgoriodd Meurig gic gosb ychydig fewn i’r deng munud cyntaf, ac yna ciciodd un arall yn ystod yr ail. Wedi ugain munud o’r rygbi mwya’ rhyfedd posib, ro’n ni’n fuddugol o 26-20, ond efo pawb yn mynd nôl i’r gwaith y diwrnod canlynol, cafwyd mawr o ddathlu. Ond o leia’ roedd proffil y Clwb wedi ei godi eto gydag ymddangosiad yn y papur.
Wythnos neu ddwy yn ddiweddarach, daith y gêm yn erbyn St.Albans. Roedd y gêm i’w chwarae yn Llandaf, ac felly roedd rhywfaint o hyder, ond doedd dim cwestiwn nad ni oedd y ffefrynnau. Y gobaith oedd na fyddai’r Buns yn ein cymryd o ddifri, ac y bydden ni yn cael 80 munud ysbrydoledig. Wel, fe ddigwyddodd hynny i radde, wrth inni chwarae ar ein gorau am y rhan fwyaf o’r gêm. Roedden ni’n chwarae tuag at cow corner yn yr hanner cyntaf, a byddai cais wedi bod yn fuddiol. Ond wrth droi, dim ond un gic gosb gan Meurig oedd wedi’i sgorio, ond o leia’ ro’n ni ar y blaen. Yn anffodus, fe gododd St Albans ei gem ychydig yn ystod yr ail hanner, a sgorio cais a chic gosb, i fynd ar y blaen o 10-3. Am unwaith fe arhosodd ein pennau’n uchel, ac roedd gobaith hyd yn oed yn yr eiliadau ola’ y gallwn ni ryng-gipio a sgorio i ddod â’r gêm yn gyfartal. Ond reit yn yr eiliad ola, gyda symudiad ddiwetha’r gêm, fe groesodd un o’u chwaraewyr am ail gais. Roedd hi’n sefyllfa od, gydag un o’u chwaraewyr nhw yn cael ei ddanfon o’r cae am gicio wrth i’r cais gael ei sgorio, ond heb iddo golli dim o’r gêm gan iddi orffen wedi’r trosiad llwyddiannus. Roedd hi’n siomedig. Ro’n ni wedi bod yn y gêm lan at y symudiad ola’, ond mae’n siwr fod 17-3 wedi edrych fel buddugoliaeth gyffyrddus i unrhyw un fyddai’n darllen y canlyniadau ym mhapurau dydd Llun. Byddai 10-3 wedi bod yn fwy teg. Y flwyddyn honno, wrth gwrs, fe aeth y Buns at y 4 ola’ cyn iddyn nhw golli.
Byddai’r cwpan y flwyddyn ganlynol, 1993-4, eto yn un cofiadwy imi, ac eto fe fyddai’r hanes yn cyrraedd tudalennau’r Western Mail, ond am y rhesymau anghywir y tymor hwn. Roedd y clwb wedi tynnu gem cartref eto, y tro hwn yn erbyn Blaenafon Quins o ‘Ogledd Gwent. Doedd dim hanes rhwng y ddau glwb hyd y gwyddwn i. Nol ar ddechrau’r wythdegau, roedd y clwb wedi teithio i chwarae yn erbyn Blaenafon Forgeside i golli gem oedd yn gofiadwy imi oherwydd sgiliau godidog Huw Jones, maswr nad oedd gwŷr Gwent wedi gweld ‘rioed o’r blaen, ac oherwydd inni gael ein cosbi ar un adeg o leia’ 50 llath oherwydd backchat yn erbyn y dyfarnwr, gyda doctoriaid y rheng flaen, Frankie a Brian yn benna’ gyfrifol. Ond roedd y Quins yn dîm gwbl wahanol, ac fe benderfynwyd chwarae’r gêm ar hen gae Canton, oherwydd ei fod ‘chydig yn fwy llydan. Y bwriad fel arfer yn erbyn tîm o Went oedd i drafod y bel am 80 munud. Roedd y tywydd yn berffaith.
Roedd y tîm yn reit gryf, gyda Rob Thomas yn eilio ar un o’i Sadyrnau diwethaf cyn dychwelid i’r Gorllewin. Ro’n ni’n ffodus fod gyda ni digon o brofiad ar y fainc. Roedd hi hefyd yn noson stag Meurig Phillips, ac felly roedd mwy nag un rheswm i gael buddugoliaeth dda er mwyn codi’r hwyliau ar gyfer y noson. Yn anffodus, byddai dau ohonom yn methu ar y noson.
Roedd y 'sgrifen ar y wal yn gynnar, gyda Dave Jones yn derbyn gwaelod bŵt yn ei gefn, ac wedyn, derbyniodd Gareth Hall ergyd, a wnaeth i John Hayes, o bawb, i golli’i dymer yn llwyr wrth iddo amddiffyn ei gyd-athro. Wedi rhyw chwarter awr, ro’n i ar fy ffordd i’r ‘sbyty yng nghar Sion Clwyd, wedi derbyn bŵt i ngwyneb, a heb sylweddoli nes inni gyrraedd y car cynddrwg oedd yr anaf. Cefais gwmni Sion wrth aros am ddoctor ac am yr x-rays, ac yn y blaen. Roedd hi’n sefyllfa gwbl surreal yn eistedd tu fas i ystafell x-ray, pan ddaeth un o’r doctoriaid ata’i gan ddweud, “You’ll never believe this mate, but there’s another of your guys upstairs”. Feddyliais i ei fod wedi gwneud camgymeriad. Rhaid bod dwsinau o chwaraewyr rygbi yn ymddangos yn CRI ar bnawn Sadwrn, a rhaid bod nifer o’r rhai hynny yn gwisgo crysau coch. Doedd hi ddim yn bosib bod un arall ohonom wedi cael niwed. “No, definitely, mate, ‘e’s in the same shirt as you”. Wrth imi fynd lan lofft eto, daeth Sion a’r newyddion fod John Hayes wedi dod i gadw cwmni imi, a’i goes wedi torri. Roedd y teimlad yn un od - mewn ffordd, ro’n i’n teimlo ‘mod i wedi bod yn lwcus. O leia’ fe fyddwn i yn mynd adre’r noson honno, ac o leia’ fyddwn i’n gallu mynd i’r gwaith ar ddydd Llun.
Wrth i’r doctor orffen pwytho ngwyneb, dros awr yn ddiweddarach, fe ddechreuodd rhai o’r chwaraewyr droi lan i’n gweld ni. Rwy’n cofio Gareth Hall yn cyrraedd, a’r golwg trist yn ymddangos ar ei wyneb wrth iddo sylweddoli natur yr anafiadau. Cefais air byr efo John, a chydymdeimlo gydag e cyn cael lifft nôl i’r Cameo efo Sion.
Roedd y Clwb wedi bod yn fuddugol y diwrnod hwnnw, ac er yr anafiadau, roedd yna, wrth reswm, digon o hwyliau da yno. Chefais i ddim gwybod pwy oedd wedi sgorio, ond roedd y canlyniad yn un da wrth gofio beth oedd wedi digwydd yn ystod y prynhawn. Roedd John wedi’i anafu mewn chwarae agored, ac nid o ganlyniad chwarae brwnt, ond roedd pawb yn gwybod y byddwn ni yn gweld ei golled am weddill y tymor, neu yn fwy. Gallai torri ei goes am yr ail dro wedi dod â’i yrfa i ben, a byddai hynny wedi bod yn golled anferth inni. Fe ddywedais wrth Meurig y byddwn i yn ystyried gorffen chwarae wedi’r prynhawn hwnnw. Fedrwn i ddim gweld pwrpas chwarae ar lefel o rygbi lle’r oedd pethau fel hyn yn digwydd. I fod yn deg iddo, fe fynnodd ‘mod i’n pwyllo cyn gwneud penderfyniad cadarn. Mae’n amlwg ei fod yn fy ‘nabod i’n well nag o’n i’n sylweddoli. Ro’n i nôl yn chwarae erbyn dechrau mis Rhagfyr. Y tymor nesa’, wrth gwrs, fe fyddai John nôl yn ein plith ni hefyd. Wrth edrych ‘nol ar y prynhawn hwnnw yn erbyn Blaenavon Quins, mae un peth sy’n fy ngwneud yn reit ddiolchgar, a hynny yw nad Meurig oedd wedi derbyn anaf cas wythnos cyn ei briodas. Ond wedi ystyried ‘chydig ymhellach, gan nad wyf yn cofio Meurig byth yn ymddangos ar waelod sgarmes, roedd y posibilrwydd o anaf iddo’n annhebyg iawn!
Erbyn ail rownd y cwpan y flwyddyn honno, roedd pethau’n anodd iawn i’r tîm. Roedd John a finne’n dal i fod yn absennol, ac roedd Grundy wedi derbyn cwt cas iawn i’w dalcen wrth chwarae’n erbyn Gogledd Llandaf. Roedd y pac felly wedi’i gwanhau, ac roedd Meurig wrth gwrs yn dal i fod i ffwrdd. Nid dyna’r ffordd orau i baratoi i chwarae gem yn erbyn Cwmtillery, ond o leia’, yn groes i’n gem flwyddyn neu ddwy ynghynt, roedd y gêm i’w chwarae yn Llandaf. Yn anffodus, doedd hynny ddim i fod yn ddigon inni ennill y gêm. Er nad oedd Cwmtillery mor bwrpasol â’r gêm cynt, roedden nhw’n dal i fod lot yn rhy gryf ymysg y blaenwyr. Er hyn, y Clwb aeth ar y blaen, gyda Llyr Williams yn sgorio cais na fyddai neb wedi disgwyl. Fe dorrodd lawr yr ochr dywyll ar lein ddwy-ar-hugain y gwrthwynebwyr, cyn cicio’r bel heibio i’w cefnwr, ac yna ennill y ras at y bel i’w dirio. ‘Dw’i ddim yn siwr pwy gafodd y sioc fwyaf, Llyr neu ni oedd yn gwylio. Ond dyma oedd uchel bwynt y gêm inni, ac fe gollwyd y gêm yn reit gyfforddus o 19-5.
Roedd tymor 1994-5 yn un siomedig arall inni. Roedd ein grŵp yn gryf pob tymor, ond y flwyddyn honno, ein cymdogion oedd Hartridge, Deri, Canton, New Tredegar, Cefn Forest, Girling, Rogerstone a Wick. Doedd yr un o’r timoedd hynny yn apelio ataf - naill ai Canton neu drip i Went oedd o’n blaenau, yn enwedig gan i Wick gael gem rydd yn gyntaf. Roedd hi’n rheswm i fod yn ddiolchgar felly pan daith trip i Rogerstone allan o’r het. ‘Sbosib mai dyna oedd y gêm hawsa’ y gallwn fod wedi ei ddisgwyl.
A dyna fel y bu. Roedd tîm cryf efo ni, ac ar ddiwrnod sych, twym, erbyn diwedd y gêm ro’n ni wedi rhedeg y tîm cartref oddi ar y cae. Roedd un cais tua diwedd y gêm yn gofiadwy iawn, gyda’r bel yn cael ei drafod gan sawl unigolyn hyd y cae, cyn i’r bel symud ar hyd y lein at yr asgell chwith ar gyfer cais arbennig, i Angus am wn i. Roedd y canlyniad o 40-17 yn un boddhaol iawn, ac fe aeth ein meddyliau tuag at bwy fyddai’n ein disgwyl ni yn yr ail rownd. Y gobaith oedd, wedi ystyried y timoedd eraill yn y grŵp, y gallwn groesawu Wick i Landaf.
Daeth hanner ein gobeithion yn wir. Wick oedd o’n blaenau, ond oddi cartref. Doedd hynny ddim yn peri llawer o ofid. Pentre’ bach yn y fro oedd Wick. Doedden nhw ddim yn debygol o fod yn gryf, ac roedd ein cefnwyr ni ar dan, a do’n i ddim yn disgwyl i neb ei rhwystro nhw. Roedd yr ymarfer yn Morganstown yn mynd yn dda, ac roedden ni wedi dechrau codi yn y leiniau - byddai hyn yn sicr yn caniatáu inni ennill ein pêl ein hunain.
Cafodd y gêm ei ganslo ar y Sadwrn penodol, ac erbyn inni deithio lawr yna bythefnos yn hwyrach, roedd hi’n amlwg na fyddai’n backs ni yn cael unrhyw effaith ar y gêm. Roedd y gwynt yr un pa mor gryf, os nad yn gryfach nad oedd hi wedi bod lan yng Nghwmtillery, er nad oedd y glaw cynddrwg. Roedd hyn yn ddigon i wneud pob lein yn lottery, ac felly fe aeth ein hymarfer diwyd i wastraff. Yn ogystal, fe ddaeth hi’n amlwg iawn fod blaenwyr Wick yn fechgyn cryf iawn. Ro’n i wedi bod yn yr ysgol ag un ohonynt, a ro’n i’n gwybod ei fod wedi bod ar y fainc i Benybont yn rownd derfynol cwpan Schweppes ar Barc yr Arfau ar ddechrau’r degawd. Roedd e’n debyg i fod yn brop cryf felly.
Roedd y ‘sgrifen ar y wal yn gynnar. Cafodd Garmon ei gosbi a’i rybuddio yn y funud cynta’ ac fe roliodd Wick hyd y cae. Yn ystod yr hanner cynta’ hyn, roedden nhw’n chwarae gyda’r gwynt wrth eu cefnau, a ro’n ni’n gwybod pa mor bwysig oedd hi i’w cadw o fewn cysylltiad. Roedd pawb yn ddigon hapus felly i gyrraedd yr hanner rhyw 12 pwynt ar ei hol hi. Byddai’n rhaid parcio’n hunain yn eu dwy-ar-hugain am yr ail hanner cyfan. Ond wrth inni wrando ar Meurig ar yr hanner, fe ddigwyddodd rhywbeth rhyfeddol. Fe ostegodd y gwynt. Bron a bod yn gyfan gwbl. Yn wir, yr unig dro i’r gwynt godi eto oedd pan oedd Meurig yn ystyried cicio at y pyst o ongl fach anodd. Mewn rhyw ddeg tymor o chwarae gyda Meurig, hon oedd yr unig dro iddo fod yn fyr o hyder wrth anelu at y pyst. Rwy’n cofio dweud wrtho i anelu rhyw ddeg llath at ochr y pyst, a disgwyl i’r gwynt ei dynnu drosto, a dyna beth ddigwyddodd. Ond heblaw am hynny, roedd y gwynt wedi mynd, a bu Wick yn ein hanner ni cymaint ag y buon ni yn ei hanner nhw. Mae’r sgôr terfynol yn dangos ein bod ni wedi colli o 18-9, er mod i’n siwr mod i’n cofio Rhodri yn sgorio cais inni. Ta beth, roedd hi’n ddiwedd siomedig yn y cwpan inni eto. Er nad o’n i yno, mae’n debyg y cafwyd noson arbennig, a rhad yng nghwmni chwaraewyr Wick yn rhai o dafarnau’r fro.
Daeth y flwyddyn ganlynol a chystal lwc a’r flwyddyn flaenorol o safbwynt ein gwrthwynebwyr. Yn y rownd gyntaf, derbyniwyd taith i Went eto, i chwarae yn erbyn Pontyfelin. Doedd dim hanes cystadlu rhwng y ddau glwb, ac felly doedd neb yn gwybod yn union beth i’w ddisgwyl. Ond yn ogystal â hyn, roedden ni gyd yn ymwybodol o’r ffaith fod yna sawl tîm yn yr ardal, ac yng Ngwent yn arbennig, lle fyddai’n gobeithion lawer llai nad oedden nhw ym Mhontyfelin. Roedd y gêm, i’r cof, yn ddigon cystadleuol, ond eto does dim llawer yn aros yn y cof. Roedd criw da o’r ail dîm wedi teithio gyda ni, ac fe dystio’n nhw fuddugoliaeth o 24-10. Doeddwn i ddim yn gallu aros gyda’r bois y noson honno, ac rwy’n cofio gadael clwb Pontyfelin gyda Rhidian ar ei draed yn canu Lleucu Llwyd. Roedd noson dda arall ar y gweill, roedd hynny’n sicr.
Beth oedd ei angen nawr oedd gem gyfforddus yn yr ail rownd, neu o leia’ gem adre. Cafwyd dim gem yn Llandaf, ond gallwn ni ddim bod wedi gofyn am wrthwynebwyr gwell o safbwynt ein gobeithion o symud ‘mlaen. Roedd Nash fel arfer yn chwarae yn erbyn ein hail dim, ac felly roedd y gobeithion yn uchel iawn wrth deithio ar y bws i Gasnewydd. Fe drodd y gobeithion hynny i fod yn rhai teg inni, wrth i’r Clwb ennill o 29-3. Roedd hi’n reit gyfforddus, a dim ond ein or-hyder ni oedd yn debyg o’n baglu ni. Eto, dydy’r gêm ei hunan ddim yn aros yn y cof rhyw lawer, heblaw am y ffaith fod Llyr Williams, a oedd i fod yn deg, dan bwysau yn y rheng ôl oherwydd safon ein chwaraewyr yno, wedi cael un o’r diwrnodau hynny pan fyddai’r bel yn ei ddilyn fel magned. Dim ots pwy fyddai’n cymryd y bel fewn i sgarmes, Llyr oedd a’i ddwylo ar y bel wrth iddi ddod allan eto.
Roedd bywyd cymdeithasol y clwb ar ei orau ar y pryd, a chafwyd peint neu ddwy yn Nash, cyn i’r bws stopio yn un o dafarnau St. Mellons ar y ffordd adre a chafwyd awr neu ddwy arall i’w gofio dan arweiniaeth Neil Cole. Roedd hi’n noson i’w fwynhau. Dim ond am y trydydd tro mewn 12 tymor imi, ro’n ni wedi llwyddo mynd heibio’n grŵp ac i mewn i ran agored y gystadleuaeth. Eto’r noson honno, bu digon o drafod ynglŷn â phwy fyddai’n gwrthwynebwyr perffaith, a’r canlyniad oedd, naill ai gem adre lle byddai gobaith mynd trwyddo, neu os gem oddi-cartref, taith i’r Gogledd i gael noson lawn ohoni. Y gwrthwynebwyr gwaetha’! Fairwater oddi-cartref, neu rywbeth tebyg. Wedi diwrnod neu ddau o ddisgwyl, daeth y canlyniad. Taith i Borthmadog. Perffaith. Trip hir, aros dros nos, ond eto nid un o dimoedd cryfa’r Gogledd ac felly gobaith o lwyddiant.
O safbwynt personol, byddai’r daith yn un siomedig iawn. Fe fuon ni’n ddigon anffodus i chwarae gem gynghrair lawr yn erbyn Barry Plastics yr wythnos cyn y gêm fawr, a derbyniais ergyd i ‘nghefn wedi i’r chwiban fynd, a fyddai’n ddigon i wneud imi golli’r gêm gwpan. Roedd y gemau cwpan hyn yn bwysig iawn imi, ac roedd colli’r gêm fawr hon, yn fater o rwystredigaeth fawr imi. Ond fe ymunais i a’r gweddill y tu fas i’r Cameo ar y Sadwrn hwnnw am y daith hir i Borthmadog gyda Gareth Hall yn gyrru’r bws mini. Roedd Rhidian yn y Gogledd yn barod, ac fe yrrodd Dyfrig i fyny hefyd. Heblaw am hynny, roedd tua 14 ohono’ ni yn y bws - y sgwad gyfan. Fe ddaeth y daith a rhai atgofion wrth inni aros am frecwast yn yr un lle y buon ni ar ein ffordd i’r Drenewydd, ac rwy’n cofio Gareth a John yn codi atgofion o bwy oedd yn chwarae’r diwrnod hwnnw. Fe gyrhaeddo’n ni mewn amser da, ac ymhen dim, sylweddolodd pawb y byddai’n gem debyg i’r hynny yn Wick neu yng Nghwmtillery cyn hynny, gyda’r gwynt yn chwythu’n gryf ar hyd y cae. Roedd Steve Lloyd wedi teithio i fyny hefyd, ac roedd un eilydd wedi ymddangos - Rob D-J dwi’n meddwl - ond roedd rhaid gobeithio na fyddem yn cael anafiadau.
Fe chwaraeodd y Clwb gyda’r gwynt yn yr hanner cyntaf, a defnyddio hynny i symud rhyw ddau sgôr ar y blaen. Ond wrth i’r ail hanner ddatblygu, ro’n ni dan bwysau, hyd nes i un o’r cefnwyr gymryd tafliad cyflym, ac aeth y bel ar hyd y lein, fel arfer, drwy sawl pâr o ddwylo, a sgoriodd rywun, Eryl neu Angus efallai, i roi ‘chydig o oleuni rhwng y ddau dîm. Ac roedd hynny’n ddigon. Ar ddiwedd y gêm, y Clwb oedd yn fuddugol o 24-14. Cafwyd dathliad byr yng Nghlwb Porthmadog, cyn teithio lawr i Aberystwyth am y noson.
Roedd Gareth wedi trefnu gwesty am y noson, a chafwyd amser reit synhwyrol, ond mwynhaol yna. Er nad oeddwn wedi bod ar y cae yn ystod y prynhawn, roedd hi eto’n deimlad braf llwyddo parhau yn y cwpan hyd nes bod wedi’r Nadolig. Fe orffennwyd y noson a chyrri a subsadeiddiwyd gan y clwb, ac fe aeth y partio ‘mlaen tan yr oriau mân yn y gwesty. Roedd hi’n braf cael darllen y canlyniad yn Wales on Sunday, cyn i Gareth roi ei het gyrrwr nôl ‘mlaen ar gyfer y daith adre’. Cyn diwedd y nos Sul hynny, roedd Steve Lloyd ar y ffôn i ddweud fod gynno’ ni gem adre yn y rownd nesa’, a hynny yn erbyn Hollybush, pentre bach tuag at Dredegar.
Yn anffodus, bu’r tywydd yn ein herbyn yn arwain at y gêm. Doedd neb yn gwybod cweit beth oedd i’w ddisgwyl, ond wrth ystyried timoedd Gwent, roedd hi’n ddisgwyliedig y bydden nhw yn gryf ymysg ei blaenwyr. Roedd gemau fel hyn yn apelio ata’i gymaint, a ro’n i’n rhwystredig iawn pan gafodd y gêm ei ohirio ar fwy nag un achlysur, yn enwedig unwaith ar fore’r gêm. Gyda’r amser yn mynd heibio, bu’n rhaid cytuno chwarae ar fore gem ryngwladol. Doedd hyn ddim yn fy ‘mhlesio llawer, ond doedd dim optiwn arall. Fel y digwyddodd hi, fe ddenodd y gêm lawer mwy o’n dilynwyr ni nag y byddai’r disgwyl, a hynny’n bennaf oherwydd ei bod nhw â bore rhydd cyn mynd i wylio’r gêm yn y prynhawn. Y bore hwnnw, gallai neb ymysg y chwaraewyr fod wedi cwyno am y niferoedd oedd yn gwylio’r gêm. Roedd hi, ac yn wir mae hi’n dal i fod, yn drueni bod cyn lleied o gyn-chwaraewyr a dilynwyr yn troi fyny i estyn cymorth ar b’nawn Sadwrn, ond mae hynny’n fater arall.
Yn ystod y gêm, fe chwaraeon ni cystal ag y gellid fod wedi disgwyl, ond fe gollo’n ni i dîm oedd yn amlwg yn gryfach na ni. Doedd hi ddim fel colli yn y Drenewydd, pan oedd pethau’n reit clos. Y diwrnod hwn, doedd dim cwestiwn mai Hollybush oedd yn haeddu ennill. Ein prif obaith oedd i agor y bel a gobeithio y gallai’r cefnwyr greu ddigon o gyfleoedd inni. Roedd Gareth yn chwarae yn y canol erbyn hyn, ac roedd yn chwarae ar ei orau. Pwrpas y blaenwyr oedd ceisio ennill digon o feddiant iddo redeg atynt. Ond roedd hi fel petai Hollybush wedi’n gwylio ni’n chwarae ymlaen llaw, ac wedi sylwi mae Gareth oedd ein prif arf. Fe’i targedwyd reit o’r eiliad cyntaf, ac fe’i taclwyd yn gyson ac yn galed cyn iddo fedru ennill tir. Ein cyfle gorau oedd cic letraws gan Gareth a fu bron i lanio yn nwylo Sion neu Angus, ond dim cweit, a dim ond ciciau cosb, a gôl adlam gan naill ai Meurig neu Rhidian oedd yn llwyddiannus inni. Sgoriodd Hollybush dau gais, y ddau ohonynt o sgrym neu sgarmes agos wrth i’w pac cryf ennill y dydd. Roedd hi’n siomedig, ond roedd hi wedi bod yn rhediad arall i’w gofio.
Un cyfle arall gefais i am lwyddiant yn y Brewers, ac roedd hwnnw wedi gorffen cyn gynted iddi ddechrau. Derbyniwyd gem adre yn erbyn y Wîg, ac fe welwyd hyn yn gyfle i ddial am ein colled blwyddyn neu ddwy ynghynt. Ond fe berfformio’n ni’n siomedig ac fe gollwyd y gêm yn reit hawdd. Ro’n ni wedi bod ynddi ar yr hanner wrth i Dyfrig hedfan yn gyson i ddal pêl glan â dwy law o’r leiniau. Ond erbyn yr ail hanner, fe ddechreuodd y Wîg sbwylio pob lein heb gael eu cosbi, ac fe ddiflannodd ein ffordd daclusaf o ennill pêl dda.
Fel canlyniad, fe ddiflannodd fy ‘nghyfle diwethaf i o lwyddiant yn y cwpan. Doedd hi ddim yn record dda iawn ar y cyfan, wedi llwyddo lan at Nadolig dim ond dwywaith, a do’n i ddim yn chwarae ar un achlysur. Ond rhaid cofio’r anfanteision hynny o fod mewn pŵl yn Ne-ddwyrain Cymru lle’r oedd y clybiau, ar y cyfan, ‘chydig yn gryfach na’r rhai hynny yn y Gogledd er enghraifft. Wedi dweud hyn, wrth imi geisio cadw cysylltiad â’r Clwb, mi fydd balchder mawr imi pan fydd y Clwb o’r diwedd yn mwynhau llwyddiant mawr yn y naill gwpan neu’r llall, ac wrth ystyried safon bresennol y Clwb, mi fydd hyn yn digwydd o fewn tymor neu ddwy. Rwy’n siwr o hynny.
7. DIGWYDDIADAU BYTHGOFIADWY
Wrth geisio cofio digwyddiadau a chymeriadau dros y blynyddoedd, mae yna rai pethau bach yn aros yn y cof heb fod ryw lawer o stori yn gysylltiedig â nhw, fel ein pencadlysoedd :
Clwb Trydan - Dim Croeso
Y Gyfnewidfa Lô - Croeso da, ond milltiroedd o’r cae.
Cardiff Sports and Soc., Penarth Rd.-Dim lot o groeso, a milltiroedd o’r cae.
Halfway-Not cut out for it. Ro’n nhw am inni waghau’r bar yn gynnar i’r locals ddod fewn.
Clwb Trydan - Dal heb groeso.
Cam - Cartref cyfleus a chroeso da. Bwyd…wel.
Neu rai o’n llefydd ymarfer :
Glantaf- Old faithful, somewhat limited.
Gerddi Sophia- Trud, a neb yn dod ar nos Iau.
Parc Yr Arfau
Cardiff HSOB- Dim yn ddrwg, ond dim ond un golau. Left in disgrace wedi methu talu am fisoedd.
Llys Talybont- Perffaith. Wastad yn sych, cawodydd da, pawb yn hapus.
Morganstown- Potential, ond goleuadau gwan, ac roedd hi wastad yn glawio!
Stadiwm Maindy – Dim golau, dim cawodydd, dim pitch…
Caeau Llandaf- Fel Glantaf, common denominator dros y blynyddoedd pan oedd hi’n olau. Rwy’n dal i gael hunllefau o flynyddoedd o “pre-season training” yno.
Ac yna, mae atgofion fel :
Wynebau chwaraewyr Abercwmboi wrth i’r Halfway roi Ploughman’s (caws a crackers) iddynt wedi gem, a nhw wedi dod lawr am y noson, ac am leinio’i stumogau.
Chwarae yn y glaw lawr yn erbyn CIACS. Gallai’r gêm fod wedi ei chwarae yn Llyn y Rhath, a byddai neb wedi gweld gwahaniaeth.
Toriad coes Huw Jones. Yr anaf gwaetha’ welais i gyda’r Clwb.
Wyneb Nige Harrington wedi iddo ryng-gipio a rhedeg hyd y cae yn erbyn Llanisien tua diwedd ei yrfa.
Chwaraewyr Cathays yn cael taflu o’r ffordd gan Tudor/Scud.
John Shotton yn profi ei fod yn gallu siarad Cymraeg da ar y ffordd nôl o Gaernarfon. “Of course i speak Welsh-‘plygwch dros y basn, ac na’i cymryd chi o’r tu ôl’ means ‘My grandmother has a canary’”, wrth gwpwl oedd yn eistedd yn ddiniwed mewn tafarn.
Huw Atlantic yn taflu planhigyn allan drwy ffenest yn y Grand Hotel ar noson cinio’r Clwb.
John Shotton yn taflu menyn at crowd o fenywod oedd yn digwydd cael eu cinio’r un noson a ni, hefyd yn y Grand Hotel.
Y Clwb yn cael ei wahardd o’r Grand Hotel!
Chwarae yn y glaw ar fore gem ryngwladol ym Mhencoed, ac Eryl yn llithro fewn o ryw 22 metr i sgorio.
Beuno’n gwneud rhywbeth tebyg yn erbyn y Meds yn Llanrumney.
Pawb yn poeni pwy oedd yn mynd i ffonio Babs i egluro nad oedden ni yn mynd i allu mynd nôl i’r Cameo ar ôl gem yn Llanisien, er ei bod hi wedi cytuno gwneud ffagots inni. Y rheswm. Roedd gan Llanisien Cyrri a reis-no contest.
Wyneb Gareth Hall yn gwneud y galwad ffôn uchod.
Gavin Rees yn taflu iâ a menyn yng Nghinio 21 mlwydd y clwb.
Llun a ddefnyddiwyd gan Rhys Lloyd mewn araith cinio oedd yn union fel Steve Lloyd.
Araith y siaradwr gwadd yng nghinio’r dathlu 21ain.
Butchie’n cysgu dros nos dan un o fordydd y Royal ar noson cinio.
Clywed am Rhys Bala’n cael concussion.
Gary Gonc yn gadael y cae yn gynnar mewn gem yn erbyn Bryncethin, ac yn cael ei eilyddio gan un o’i chwaraewyr nhw oherwydd prinder. Hwn oedd y chwaraewr mwyaf drewllyd y bûm i’n agos at erioed.
Marc Edwards, asgellwr talentog a ddiflannodd a’n gwobr chwaraewr mwyaf addawol. Wedi ennill y wobr un tymor, ni welwyd mohono ‘to.
Talu ffortiwn i ymarfer yng Ngerddi Sophia bob nos iau, a dim ond saith neu wyth yn troi lan, felly chwarae pêl droed am awr.
Andy Bowater, druan. Byddai Gavin yn chwarae gyda 14 dyn ag Andy’n eilydd cyn rhoi gem iddo.
David Bishop, tra wedi’i wahardd o rygbi, yn cynrychioli Butetown yn ein herbyn. Rwy’n cofio’r lein “Don’t worry about the ball, just hit the scrum half!!”
Sgôr ein gem yn erbyn Llantrisant yn cyrraedd tudalen gefn yr Western Mail
Chwarae yn erbyn Gogledd Llandaf, gyda phac yn cynnwys Matt Trewella a Martin Powell yn yr ail reng, a finne, John a Gareth yn y rheng ôl. Y pac tala’ ‘rioed inni, sbosib.
Dawn French yn gwylio’r Clwb yn chwarae yn Llandaf. Mae’n bosib mai wind-up oedd hyn, gan nad oeddwn yn gweld dim oddiar y cae heb fy specs, ond y son oedd ei bod hi lawr yn ffilmio yng Nghaerdydd ac wedi dod i’n gweld ni am ryw reswm.
Y gêm yn erbyn y Welsh Academicals, lle cafwyd cyfle i chwarae yn erbyn tîm o chwaraewyr dosbarth cyntaf, a rhai oedd wedi cynrychioli Cymru a’r Llewod.
Rupert Moon yn dyfarnu gem yn erbyn y Politechnig, ac yn bygwth gohirio petai’r ymladd ddim yn stopio.
Gwylio Daf Iolo ar Blind Date mewn tafarn yn Raglan.
Pembers yn canu Ernie ar daith ddirgel i Usk
Ymarfer yn Llys Talybont. Dim ots pa mor ddrwg oedd y tywydd, roedd y cae yn iawn inni ymarfer.
Richard Williams yn penderfynu newid o fod yn asgellwr i fod yn fachwr. Yntau’n chwarae yno yn erbyn Abercwmboi, ac yn gorffen y gêm yn las a du wedi cael ei ddyrnu’n ddi-baid gan ei rheng blaen nhw.
Huw Eurig, wedi’i berswadio fod rygbi yn well na pheldroed, yn cael ei ddewis i’r tîm cyntaf ac yn derbyn “hospital pass, man and ball” yn ystod un o’i gemau cynta’. Roedd ei ddau nostril yn agosach i’w glustiau na chanol ei wyneb.
Ymgais uchelgeisiol y clwb i wneud elw, trwy gynnal Roc-y-Doc, gyda Geraint Jarman a Caryl Parry-Jones. Yn anffodus, bu Roc-y-Doc 2 yn fethiant oherwydd tywydd sâl, ac fe gollwyd unrhyw elw o’r un cyntaf.
Doedd y clwb ddim yn gwneud defnydd mawr o ffugenwau, ond roedd yna rai, gan amla wedi’i dyfeisio gan Meurig. Roedd yna rai â dychymig :
Milky Bar Kid Phil James
Peter Sutcliffe Dyfrig Parry
Agribot Eirian Davies
Mushroom Paul Thomas
Stumpy Andy Thomas
Wiblet Gareth James
Roger Mellie Meurig Phillips
Dr Mengele Ieuan Lloyd(tra’n hyfforddwr)
Henry Ramsay Geraint Jenkin
Rhai oedd yn anodd deall :
Panda Andrew Evans
Bubba Sean Clarke
Gonc Gary Davies
Rhai angenrheidiol :
Huw Bristol Huw Davies
Huw Atlantic Huw Davies
Huw Eic Huw Llewellyn Davies
Butchie Huw Davies
a rhai diddychymyg iawn, fel
Alun Coch Alun Evans
Chris Coch
Wyn Bach Wyn Davies
Terry Bach Terry Jones
Huw Bach Huw Jones
A rhai oedd yn syml yn egluro o le roedd rhywun yn dod :
Dai Kenya
Rob Cathays
Rich Halfway
Rhys Bala
Eilian Gogtwat
Andy Llanhari
8. Dream Team
Fy ngobaith mawr wrth chwarae oedd y gallwn fod wedi llwyddo yn un o’r ddau gwpan mawr, naill ai’r Mallett, neu well fyth, y Bragwyr. Ar y cyfan, do’n ni fyth cweit yn ddigon cryf, yn enwedig ymhlith y blaenwyr, i ddal ein tir yn y rowndiau ola’. Fyddwn yn awgrymu mai’r tîm a deithiodd i’r Drenewydd oedd y tîm cryfa’ y bu efo ni ar un adeg dros y tymhorau diweddar, ond sgwn i ba fath o lwyddiant y gallwn fod wedi ei fwynhau petawn wedi tynnu chwaraewyr o unrhyw flwyddyn dros yr ugain ddiwethaf at eu gilydd i greu un tîm cryf am dymor. Wrth feddwl am hyn, rwyf wedi ystyried dim ond chwaraewyr a’u perfformiadau tra roeddwn i yn chwarae gyda nhw. Mae’n amlwg fod un neu ddau chwaraewr o safon wedi bod yn chwarae rygbi da cyn imi ymuno â’r clwb, a dim ond yn ystod eu tymhorau diwethaf y cefais gyfle i’w gweld yn chwarae. Yn yr un modd roedd yna rai yn dechrau ei gyrfaoedd pan orffennais i, ac sydd wedi blodeuo oddi ar imi roi’r gorau iddi.
Felly, mater o farn yw’r tîm sy’n dilyn. Rwy’n credu imi chwarae efo rhyw 150 o chwaraewyr dros y 12 tymor, ac felly mae dewis 15 o’r rhai hynny yn ddigon anodd. Lle mai dechrau rhywbeth fel hyn? Wel ymhlith y blaenwyr wrth gwrs, a lle gwell i ddechrau na’r rheng flaen.
Pan ddechreuais i nôl yn yr wythdegau cynnar, roedd y rheng flaen yn rhyw closed siop fach. Yn anaml iawn fyddai rhywun arall yno heblaw am Wyn, Brian a Frank Williams. Roedd Frank yn un arall o’r chwaraewyr hynny, ac mae sawl un wedi bod, oedd yn chwarae a gwen mawr ar ei wyneb. Dim ond ar un adeg rwy’n ei gofio’n colli ei dymer ar y cae, a hynny wedi i Beuno geisio pàs y tu ôl i’w gefn wrth chwarae yn erbyn yr Eglwys Newydd, a’r bêl yn gorffen yn ‘nwylo’r gwrthwynebwyr. Roedd Frankie yn ei dridegau canol pan ymunais i a’r Clwb, ond er hynny, roedd yn dal i fod yn ffit - galla’i ddychmygu y byddai wedi bod yn brop gwerthfawr heddiw fel un oedd yn mwynhau trafod y bêl a symud o gwmpas y cae.
Mae’n rhyfedd nad ar y cae mae’n atgof mwyaf o Frankie. Roedd barbecue wedi cael ei drefnu ar y traeth ym Mhorthkerry, ac roedd pawb wedi cael gorchmynion i ddod â’i bwyd eu hunain. Roedd y rhan helaeth wedi dod â selsig neu burgers, ond trodd Frankie lan a hanner mochyn i roi ar y tan. Yn fwy na hynny, roedd y cig wedi rhewi’n galed. Bu’n sefyll wrth y barbecue am oriau maith yn gwylio pawb yn bwyta cyn iddo gael unrhyw gyfle i fwyta’i fwyd. Yn wir dw’i ddim yn berffaith siwr iddo fwyta o gwbl y prynhawn hwnnw. Un peth arall sy’n aros yn y cof yw ei ymroddiad i’r Clwb. Roedd e’n byw yn Llangattog ar y pryd, ond er hyn, byddai’n ymarfer yng Nglantaf yn gyson, ac roedd ar gael i chwarae bron bob ddydd Sadwrn. Roedd e’n esiampl arbennig i unrhyw un oedd yn gysylltiedig â’r clwb ar y pryd.
Yn gwario’r rhan fwyaf o’i amser yn yr ail dîm yn ystod yr adeg hon oedd Keith Thomas. Doedd Keith ddim yn edrych fel prop cyffredin, a doedd e ddim yn cario cymaint o bwysau a phrop cyffredin. Ond gwau unrhyw un oedd yn disgwyl gem hawdd yn ei erbyn. Roedd e gyda’r props cryfa’ galla’i ddychmygu ac er ei faint, yn anaml iawn fyddai unrhyw wrthwynebydd yn cael y gorau ohono. Roedd e’n anffodus ei fod o gwmpas yn adeg Wyn a Frankie, a dim ond pob nawr ac yn y man byddai’n cael cyfle yn y tîm cynta’, weithiau er mwyn bachu, lle fyddai’n mynnu bachu efo’i droed chwith am ryw reswm. Eto, mae atgofion ohono fel un oedd yn fodlon helpu mas. Pan gyrhaeddodd y tîm cynta’, pan fyddwn i yn ei ffonio’n wythnosol i gadarnhau ei fod ar gael, byddai’n ddi-os yn cynnig helpu gyda’r galwadau ffôn - symbol arall, efallai, ei fod wedi bod yn gapten ar yr ail dîm am dymor, ac felly’n gwbl ymwybodol o’r problemau o wario nos iau ar y ffon yn ceisio codi tîm.
Wedi i Wyn a Frankie orffen chwarae, fe ddaeth dod o hyd i flaenwyr yn dasg anoddach, yn enwedig rhai i’r rheng flaen. Gwnaethpwyd mwy a mwy o ddefnydd o ddoctoriaid, ac ymhlith rhain fe gyrhaeddodd Colin Dent y clwb. Roedd Colin yn gweithio gyda Pembers, ac yn un arall o’r chwaraewyr hynny fyddai’n chwarae a gwên ar ei wyneb. Roedd Colin yn brop o’r hen fath, byth yn un oedd yn debyg i fod yn rhedeg o gwmpas y cae a’r bel dan ei fraich. I’r gwrthwyneb, roedd e’n un oedd yn mwynhau sgrym ar un ochr y cae, cyn symud draw, heb ruthro, at ochr arall y cae i ddilyn y bel. Roedd e’n cario digon o bwysau, ac felly roedd ei gyfraniad nôl yn nyddiau rygbi statig yr wythdegau, yn fawr iawn inni. Ond er ei gyfraniad ar y cae, mae ei atgof yn bennaf imi oddi ar y cae, fel un efo hiwmor sych a phendant. Roedd e’n siarad (yn Saesneg) yn araf, ac roedd hi’n anodd gweithio mas os oedd yn siarad yn eironig neu beidio. Rwy’n cofio un Sadwrn, ro’n ni wedi erfyn arno i chwarae, er ei fod yn gweithio’r diwrnod hwnnw. Fe gytunodd y byddai yno, ac y byddai ‘mond yn ffonio os na fyddai’n gallu chwarae. Wrth gwrs, fe gyrhaeddodd 12.30, a ro’n i ar fin gadael y tŷ i fynd i’r Clwb pan ganodd y ffôn. “Hello John, it’s Colin Dent here” daith y llais araf. “Hi Colin” medde fi, yn barod yn dechrau meddwl am ryw contingency plan i’r rheng flaen, a fyddai mwy na thebyg yn meddwl y byddwn i yn propio. “Just ringing to let you know that I’m OK for this afternoon, and I’ll see you in the club in half an hour”
Mae’n anodd egluro’r panic, ac wedyn y rhyddhad y cefais i mewn rhyw 3 neu 4 eiliad ar y ffôn, a galla’i ddychmygu’r wên fyddai ar ei wyneb e wrth sylweddoli ei fod wedi’n weindio fi fyny mor hawdd.
Wedi ymadawiad Colin tua 1990, fe allai’r sefyllfa gyda’r props fod wedi mynd yn anodd iawn. Roedd gweld unrhyw un o’r siâp iawn yn troi lan yn fater pleserus iawn. Roedd hi’n ddiwrnod i’w gofio felly pan ymunodd Kevin Evans a’r Clwb. Rwy’n cofio ymarfer yn Llandaf yn ystod Mis Awst, a Mogs yn troi lan efo Kevin wrth ei ymyl. Manna from heaven. Nid jyst prop, ond prop oedd yn amlwg wedi chwarae rygbi o safon, a gwell fyth, cymeriad da a fyddai’n cyfrannu’n hael at ysbryd y clwb dros y pump neu chwe thymor nesaf. Ro’n i wastad yn teimlo braidd yn flin dros Kevin fel chwaraewr.
Roedd Dafydd Idris wedi gorffen chwarae rhai tymhorau ynghynt, ac roedd Dafydd yn ail reng na fyddai fyth yn cymryd cam yn ôl. Roedd hyn wrth gwrs yn fuddiol iawn i rai fel Brian a Wyn, oedd yn ddigon hapus i weld Dafydd yn ymladd eu cornel pan fyddai’r galw’n dod. Ond Kevin druan? Tu ôl iddo fe dros y blynyddoedd oedd Pembers a finne, neu Matt Trewella, neu Huw Phillips, neu Martin Powell. Fydden ni’n hoffi meddwl ein bod ni gyd wedi cyfrannu rhywfaint, ond mae’n rhaid bod yn onest, doedd yr un ohono' ni’n Olivier Merle neu Colin Meads, ac unwaith fyddai’r nonsens yn dechrau yn y rheng flaen, fyddai ni’n fwy tebyg o ddweud “ there goes the ball over there I’d better chase it as fast as I can” ac yna wrth edrych nôl “Christ, Kev’s taken a right pasting. Still I was the first second row to the loose ball…”
Efallai bod hyn yn eglurhad am un atgof sy’ gen i am Kevin wrth chwarae. Ro’n ni yn Nhrefforest yn chwarae’r Poli, ac roedd Rupert Moon yn dyfarnu. Am y tro cyntaf erioed, yn chwarae yn erbyn grŵp o fyfyrwyr ifanc, ni oedd yn arwain yr ymladd. Rwy’n cofio codi o un sgrym, a dyna lle’r oedd Kevin o ‘mlaen i, gyda bachgen deunaw oed a’i ben dan fraich Kevin(mewn headlock) ac roedd Kev yn rhoi yffarn o wers iddo. Ro’n i bron a bod yn gallu ei glywed wrth i bob dwrn fynd mewn. “This one’s for the one I got against The Buns, this one’s for BP, this one’s for Caerau…”
Doedd Kevin ddim yn un o’r sgorwyr ceisiau mwya’ ‘rioed. I fod yn onest, dw’i ddim yn cofio un cais, ond rwy’n cofio’n glir yr un a fethodd. Ro’n ni wedi teithio ym Mis Medi i ganol Gwent i chwarae Abersychan, a’r disgwyl oedd y byddai’n gem galed yn erbyn pac cryf. Pan gyrhaeddo’n ni’r cae, roedd popeth fel y disgwylid - defaid yn yr ystafell newid, y cae ar ochr mynydd ac yn y blaen. Ond unwaith inni fynd allan i’r cae, fe newidiodd pethau, ac fe chwaraeon ni gem berffaith. Roedd asgellwr de yn chwarae jyst a bod ei unig gêm cyn mynd i’r coleg yn Southampton, ac erbyn hanner amser, roedd e wedi croesi am bedwar cais. Roedd trafod y tîm yn arbennig, a’r blaenwyr a’r cefnwyr yn cyd-chwarae mewn ffordd gofiadwy iawn. Erbyn yr ail hanner, ro’n ni’n rhedeg popeth, yn llythrennol yn dal y bel o’r ail-ddechrau, trafod y bel ymysg y blaenwyr, cyn agor hi i’r cefnwyr dorri trwyddo. Roedd hi’n agos iawn at fod yn rygbi perffaith yn steil traddodiadol y clwb, a buon ni’n fuddugol erbyn y diwedd o 93-0, ac roedd hyn yn y dyddiau pan oedd cais werth 4 pwynt.
Ychydig fewn i’r ail hanner, roedden ni wedi ennill tir trwy basio ymysg ein gilydd, a chyn pen dim, roedd y bel wedi cyrraedd dwylo Kevin. Do’n i ddim ymhell iawn oddi wrtho ar y pryd ac roedd hi’n amlwg nad oedd un gwrthwynebwr yn agos iddo, wrth iddo agosáu at ddwy-ar-hugain Abersychan. Roedd cais yn sicr o ddilyn. Yn sydyn daith llais Mogs, “Kev, watch out… man-on”. Mewn panic, a heb edrych, fe daflodd Kevin y bel i ddwylo Mogs ar ei bwys e, ac fe aeth Huw dan y pyst i sgorio. Roedd wyneb Kev yn bictiwr wrth iddo sylweddoli nad oedd neb yn agos iddo, a’i fod wedi cael ei dwyllo gan ei ffrind agos. Dw’i ddim yn ei gofio’n dod mor agos eto. Er mwyn gwneud pethau’n waith, yr unig atgof arall o’r diwrnod llwyddiannus hwnnw oedd Kevin yn yfed cocktail o bob math o ddiodydd - peint o Guinness gyda’r rhan fwyaf o’r top-shelf wedi cael ei roi ynddi.
Roedden ni’n fryn o brops o ddiwedd yr wythdegau ‘mlaen, ond i fod yn deg, fe allai pethau fod wedi bod yn waith fyth. Roedd Rob Thomas wedi ymuno â’r Clwb fel chwaraewr ail reng a rheng ôl. I fod yn deg, fe fyddai wedi bod yn gyson yn y tîm cyntaf mewn sawl clwb, ond efo ni, roedd y rheng ôl yn rhy gryf, ac felly, roedd ei gyfleoedd yn y tîm cynta’n brin iawn. Ond wedi tymor llwyddiannus yn gapten ar yr ail dîm, fe daflodd Rob ei het fewn i fywyd y rheng flaen er mwyn cael cyfle i fwynhau’r tîm cynta’. Roedd ei siâp yn iawn i’r safle, ac roedd e’n gweithio’n gyson ar ei gryfder, ond roedd ei wddf yn rhoi problemau iddo, ac roedd y teimlad o hyd bod anaf cas rownd y cornel iddo. Ond er hyn, cafodd ddau neu dri thymor o brofi’i hun fel un o gymeriadau pwysicaf a mwyaf poblogaidd y clwb.
Yn dechnegol, doedd e ddim cystal â nifer o’i wrthwynebwyr, ond doedd gan yr un ohonynt galon o’r fath. Byddai’n dal ei dir oherwydd ei fod yn benderfynol o beidio cymryd cam yn ôl. Roedd ganddo’r mentality iawn i fod yn y rheng flaen hefyd. Rwy’n cofio gem yn Raglan, lle’r roedden ni ymhell ar y blaen ac roedd popeth yn gyfforddus. Yn sydyn, o gornel fy llygad, rwy’n cofio gweld Rob yn taflu dau neu dri haymaker oherwydd bod rhywun wedi amharu arno - doedd ddim am i ddim byd sefyll yn ei ffordd. Doedd e ddim gyda’r sgorwyr mwyaf cyson chwaith, ond rwy’n cofio un prynhawn lawr yn Ninas Powis pan dderbyniodd y bel a charlamu hanner hyd y cae er mwyn sgorio.
Dydy Rob ddim yn llwyddo cyrraedd y tîm hwn, ond petawn i’n dewis sgwad o chwaraewyr, does dim dwywaith y byddai yno. Byddai’i bersonoliaeth yn angenrheidiol i ysbryd y clwb. Ei ymadawiad e oedd catalydd newid mawr ymysg y clwb. Fe oedd y cynta’ i orffen, ac o fewn tymor neu ddwy, roedd sawl aelod aeddfed(Meurig, Llyr R,Stumpy, Pembers, John Hayes, Sion Clwyd a finne) wedi gorffen chwarae am ryw reswm neu'i gilydd. Unwaith yn rhagor, roedd hi’n amser ail-adeiladu’r Clwb.
Erbyn hyn, roedd dau brop newydd, ifanc wedi ymuno â’r Clwb. Oni bai am anafiadau, fe allai Robin Ogwen a Dai Owen fod wedi propio dros y Clwb hyd heddiw. Roedd Robin yn llai ond yn gryf, gyda choesau trwchus. Fe gyrhaeddodd y clwb wedi sbel yn chwarae dros Glwb Rygbi Ifor Bach, ac rwy’n cofio’r diwrnod yn glir wrth iddo fe a Phil James, Scott, Grundy a Daf Levi gerdded dros gaeau Llandaf at ein sesiwn ymarfer. Roedd hi’n ddiwrnod pwysig arall inni, wrth i sawl aelod newydd ymuno mewn un diwrnod, a byddai eu cyfraniad nhw dros y blynyddoedd i ddod yn anferth. O’r rhain, Robin oedd y pwysicaf oherwydd ei safle. Er hyn, rwy’n cofio gorfod eistedd gydag e i egluro pam nad oedd yn chwarae i’r tîm cyntaf oherwydd bod dau neu dri hen ben ar gael. Oherwydd hyn, chafodd fawr o gyfle i brofi’i hunan yn y tîm cyntaf.
Yn wir, mae’r ddau atgof sy’ gen i ohono ar y cae yn gysylltiedig ag anafiadau. Roedd y cyntaf mas ar daith yn Llydaw, pan gafodd gwt cas i’w lygad o fewn munudau i’r dechrau, a byddai’r ail yn dod â diwedd i’w yrfa. Ro’n ni’n ymarfer ym Mis Awst yn Llandaf, ac am ryw reswm yn rhedeg hyd y cae. Doedd Robin ddim ymhell ohonof i, pan gamodd ar bêl a throi’i ben-glin. Roedd y sefyllfa’n debyg iawn i’r hynny oedd wedi digwydd i Dyfrig flwyddyn neu ddwy cyn hynny. Ond i Robin, roedd yr anaf yn fwy difrifol, ac fe ddaeth ei yrfa i ben yn sydyn iawn. Bron i ddegawd yn ddiweddarach, fe glywais ei fod wedi ail gydio yn y gêm yn cynrychioli Tongwylais, o bawb, sy’n dangos yn fwy byth y golled i’r clwb. Fe allai fod wedi bod yn y rheng flaen am gyfnod hir inni.
Ar ei bwys drwy’r adeg hyn mae’n siwr fyddai Dai Owen. Rwy’n cofio Dai yn cyrraedd y Clwb fel blaenwr swil ac yn fyr o hyder. Erbyn hyn, mae’r sefyllfa hynny wedi newid rhywfaint. Roedd ei araith cinio wedi tymor o fod yn gapten yng Ngwesty’r Park yn un cofiadwy iawn. Ar y cae, fe aeddfedodd yn gyflym iawn, yn enwedig wedi’r gêm gofiadwy yn erbyn Barry Plastics ac fe ddatblygodd yn aelod pwysig a dibynadwy. Ond dim ond ar ôl imi orffen chwarae y cefais syniad o’i wir ymroddiad i’r clwb.
Nol ar ddechrau’r nawdegau, roedd gemau yn erbyn Barry Plastics, ymhlith eraill, wedi bod yn frwydrau cas, ac wedi llawer o drafod, fe benderfynwyd tynnu allan o gynghrair Caerdydd. Roedd hi’n benderfyniad pwysig, yn ein gadael ni i chwarae gemau cyfeillgar trwy gydol y tymor yn hytrach na pheryglu cyrff ein chwaraewyr. Gyda chwaraewyr y Clwb yn newid yn gyson, pan dynnwyd y Clwb o’r het i chwarae lawr yn erbyn Barry Plastics ar ddiwedd y ganrif, dim ond rhyw un neu ddau o’r chwaraewyr, Neil, Dyfrig a Dai oedd wedi bod yno o’r blaen ac oedd yn gwybod beth oedd i’w ddisgwyl.
Fe fyddai wedi bod yn hawdd i Dai esgusodi ei hun a thynnu allan o’r gêm, ond i’r gwrthwyneb, roedd e yno ac ar flaen y gad. Yr hen hanes, efallai, oedd yn gyfrifol am y wên fawr oedd ar ei wyneb ar ddiwedd y gêm, wedi buddugoliaeth i’r clwb nad oedd wedi edrych yn debygol ar yr hanner. Ond wrth chwarae at eu cryfder, y cefnwyr, fe drodd y gêm rownd, ac roedd y fuddugoliaeth yn felys iawn. O safbwynt Dai Owen, roedd hi’n deimlad o edmygedd i’w wylio yn mynd nôl fewn i ffau’r llewod.
Bu sawl un arall yn gwisgo’r rhif 1 neu 3 dros y blynyddoedd, fel Sean Clarke, Bubba i bawb, prop mawr fyddai’n gwylio’n ofalus ar ôl pob gem i weld canlyniad Blaina. Un arall oedd Ryan Davies, ffrind mawr i Kevin, ac o’r cof, y prop mwyaf bodlon i gynrychioli’r ail dîm yn hapus, ond oedd eto’n ddigon da i lenwi bwlch yn y tîm cyntaf - daeth ei foment pwysica’ inni yn y gêm gwpan 20 munud yn erbyn Caerau. Bu un tymor inni yng nghwmni Morgan Hopkin, cyn iddo ddiflannu i freichiau Cath ar Bobol y Cwm ac un neu ddwy gydag Illtyd James yn ein plith.
Ac wrth gwrs, roedd yna rai a ddaeth yn brops oherwydd ein bod ni mor fyr trwy’r amser. Ymhlith rhain oedd Andy Beale, un oedd wedi gobeithio chwarae fel bachwr ond oedd yn ddigon cryf i lwyddo fel prop, a Bleddyn Rhys. Fe drodd Bleddyn lan yn y Cameo yn ddiniwed ryw ddydd Sadwrn yn egluro’i fod wedi clywed fod y Clwb yn cwrdd yno. Cafodd groeso gan Meurig a finne, a gofynnodd Meurig iddo ba safle’r oedd yn chwarae. “Rheng ôl yn benna’” medde Bleddyn, “ond dw’i wedi chwarae ‘chydig yn y rheng flaen”. Dwi’n cofio llygaid Meurig a finne’n cwrdd, yn amlwg fod y ddau ohonom yn meddwl yn union yr un peth, “Chances of this person playing back row = nil”.
Ac wedi edrych ar rai o’r props mwyaf ifanc, fel Robin a Dai, beth am air bach am y prop hynna’. ‘Dwi ddim yn siwr, ond mae’n rhaid bod Bryn Evans yn ei bedwardegau canol pan atebodd alwad i chwarae yn erbyn ail dim Glamorgan Wanderers. Yn anffodus, roedd hi’n ddiwrnod ym mis Mai pan oedd y Wanderers yn chwilio am fuddugoliaeth i ddyrchafu i’r adran nesa’, ac felly ro’n nhw ar eu cryfa’. Er hyn, ac er inni golli’n drwm, roedd hi’n berfformiad calonogol gan fois y Clwb, ac er ei oedran, roedd techneg a ffitrwydd Bryn yn ddigon iddo ddal ei dir trwy’r gêm gyfan.
Ond os am ddewis rheng flaen i chwarae dros dim select y clwb, mae yna ddau chwaraewr gwbl wahanol ei steil yn dod i’r meddwl. Mae un yn amlwg, y llall ‘chydig yn llai amlwg. Rwy’ wedi trafod rhinweddau Wyn Lewis yn barod. Roedd yn gymeriad ac yn chwaraewr poblogaidd iawn, ac imi fel ail reng ifanc y tu ôl iddo, roedd yn athro arbennig ar y gêm.
Roedd e’n chwarae’r gêm mewn amser pan oedd pwysigrwydd y rheng flaen yn gwbl wahanol i sut y mai’r dyddiau hyn. Doedd dim yn bwysicach i Wyn na’n bod ni’n dal ein tir yn y sgrymiau, ac yn llwyddo ennill ein pêl ni, a sbwylio pêl y gwrthwynebwyr yn y leiniau. Roedd hi’n jôc gyffredin i bawb y byddai, ar yr adegau anaml hynny pan fyddai’r bel yn gorffen yn ei ddwylo rhywsut, yn mynnu ffurfio sgarmes. Dyna beth oedd props yn gwneud adeg hynny, nid rhedeg o gwmpas a’r bel dan fraich. Er ei fod rhywfaint yn llai na’r rhan fwyaf o chwaraewyr yn ei erbyn, roedd y dechneg, a ddysgwyd yn chwarae safon neu ddwy yn uwch na’r clwb, ganddo i ddal ei dir . Byddai neb yn cael diwrnod cyfforddus yn ei erbyn. Yn fwy na hyn oll, efallai, oedd y ffaith fod y Clwb yn meddwl cymaint iddo.
Erbyn heddiw, os oes rhywun yn gapten ar y Clwb am ddau dymor, maen nhw’n gorfod dangos ymroddiad mawr er mwyn cwblhau’r niferoedd o swyddi sydd o’u blaen. Fe ddylwn i wybod, wedi gwneud 3 tymor hir a chaled. Ond fe gwblhaodd Wyn 4 tymor o gapteiniaeth cyn cyfrannu rhyw dri neu bedwar tymor arall fel chwaraewyr, hyfforddwr rhan amser, ac yna fel cadeirydd. Ond er yr holl gyfraniadau eraill, fel chwaraewr y mae’n sefyll mas fwya’ imi, a dyna sut y byddwn i yn ei ddewis yn y tîm arbennig hwn. Mae pethau bach yn dal i ddod i’r cof, fel y sŵn oedd yn dod wrth iddo glirio’i wddf cyn gem, a’r ffaith ei fod yn golchi’i wallt ar ôl gem drwy rwbio sebon trwy’i wallt!
From one extreme to the other, efallai, gyda’r prop arall. Efallai nad Andy Long oedd y prop orau a fu, dw’i ddim yn gwybod, ond pan oedd yno, roedd ei gyfraniad lawer yn fwy eang na rhywun fel Wyn. Roedd Andy yn brop o’r oes fodern, i’r gwrthwyneb i Wyn. Dim ond am ddau neu dri thymor y bu gyda ni, ac eto yn groes i Wyn, doedd e ddim yn un o’r rhai hyn fyddai ar gael bob p’nawn Sadwrn. Roedd hyn yn bennaf oherwydd ei swydd fel doctor, ond i fod yn deg, pan ddaeth y gemau pwysig, fe fyddai yno. Roedd e’n ddyn mawr, ond eto’n athletwr. Roedd y cais a sgoriodd lawr yn Sully yr wythnos cyn inni deithio i’r Drenewydd yn fythgofiadwy, wrth iddo dderbyn y bel yn ei hanner ei hun, cyn ymestyn ei goesau hyd y cae, a sgorio yn y cornel. Fyddai’n hawdd dweud mai yn erbyn Sully ‘roedd e, a’i bod nhw’n wan, ond i fod yn deg, doedd dim gobaith gan ein chwaraewyr ni i gadw fyny gydag e.
Does gen i ddim rhyw lawer o syniad am ei dechneg e, ond rwy’n gwybod y byddai’n cyfrannu’n hael at ein tîm ni, ac fe fyddai fe a Wyn yn creu contrast da yn y rheng flaen - un prop cadarn a thechneg dda, ac un cyflym a rhydd, ond efo mwy o bwysau. Y cwestiwn nesa’ yw pwy i roi rhyngddynt yn y rheng blaen. A two horse race, dwi’n meddwl.
Roedd cyfraniad Tony Vobe yn y Nawdegau yn anferth. Roedd e wedi cyrraedd gyda chriw Clwb Ifor dwi’n meddwl, a chyn bo hir, roedd e wedi derbyn safle’r bachwr, a fyddai’n dal mlaen at y safle hyd nes iddo adael y clwb. Roedd ei ymadawiad yn ergyd fawr inni. Fe adawodd dros un haf, yr un pryd a Rhidian Lloyd. Roedd colli Rhidian yn ergyd, gan ei fod wedi cynrychioli Cymru ar y lefel hon, ond o leia’ roedd cefnwyr yn ymuno’n reit gyson. Ond roedd colli Tony yn ergyd fwy oherwydd y prinder bachwyr. Hyd yn oed heddiw, rhyw 4 neu 5 tymor wedi iddo adael, does neb wedi llwyddo llenwi ei ‘sgidiau. Y peth mwyaf trist ar y pryd oedd ei ddewis clwb(ac yn wir Rhidian). Doedd Pentyrch ar y pryd yn fawr o dîm llwyddiannus, ac er ei bod wedi ennill yn gyson eleni, dy’n nhw ddim yn debyg i fod yn glwb mawr yn yr ardal hon. Roedden ni gyd yn siomedig iawn i’w weld e’n mynd.
Ar y cae, roedd gan Tony bopeth oedd angen i fod yn fachwr da. I ddechrau, roedd ei siâp yn berffaith. Roedd e’n ddigon mawr a chryf i ddal ei dir yn y sgrymiau, ond eto roedd e’n symud o gwmpas y cae yn gyflym ac yn mwynhau cael y bel yn ei ddwylo. Fe ddangosodd hefyd ei fod yn ddigon hapus i wrando a dysgu. Pan ymunodd a ni, roedd ei daflu fewn yn weddol, gyda gwallau o bryd i’w gilydd. Ond ar ddechrau un tymor, fe ymddangosodd ei fod wedi bod yn ymarfer taflu fewn i’r leiniau â dwy law, yn debyg i Sean Fitzpatrick. Yn sydyn iawn, roedd yr un man gwan yn ei gem wedi gwella cymaint iddi ddatblygu’n rhan gref o’i gem. Ond efo’r bel yn ei ddwylo fyddai’n cofio Tony’n bennaf. Rwy’n cofio un diwrnod lan yng Ngogledd Llandaf, pan o’n i eto’n gwylio o’r ochr. Rhywsut neu'i gilydd, fe gyrhaeddodd y bel ddwylo Tony wrth yr ystlys, reit o ‘mlaen i a sawl un o gefnogwyr Llandaf. Yn agosáu ato, roedd un o flaenwyr mawr Llandaf. Os bu erioed ar gae rygbi sefyllfa o’r irresistible force meeting immovable object, dyma oedd hi. Fe aeth Tony yn syth tuag ato’n isel a bu ergyd anferth rhwng y ddau. Er mawr syndod i wylwyr Llandaf, fe syrthiodd ei blaenwr nhw ar ei ben ôl, ac fe aeth Tony ‘mlaen ar ei ffordd, wedi codi ysbryd ei gydchwaraewyr mewn eiliad fer. Mewn ambell safle, byddai rhywun o’r safon hon wedi llwyddo cael ei ddewis i’r tîm hwn, ond yn anffodus iddo fe, bydd rhaid iddo fodloni a safle ar y fainc.
Ymhlith y rhai eraill fu yno yng nghanol y rheng flaen, roedd yna gymeriadau amlwg, fel Huw Morgan. Pan ymunodd Huw a’r Clwb, roedd e wedi’i anafu, a bu fel ‘na am ei yrfa gyfan. Ond trwy gydol hyn, roedd e’n gymeriad cofiadwy, ac yn deithiwr hanfodol. Bu neb yn fwy amlwg ar y fferi yn canu ac yn arwain yr yfed. Ond fyddai ddim yn hir nes inni weld ei lygaid yn dechrau cau, a thra byddai pawb yn symud fewn i’r ail gêr, byddai Huw yn debygol o syrthio i gysgu mewn cornel.
Efallai bod hyn yn rhan o natur Huw. Os bu’r dywediad “work hard, play hard” yn perthyn i unrhyw un, roedd yn gywir i Huw. Roedd e’n gweithio oriau hir yn yr wythnos, ac erbyn y penwythnos, byddai’n mwynhau gem ac yna awr neu ddwy yn yr Halfway ac yna i’r Cameo. Sawl gwaith,’sgwn i, syrthiodd Huw i gysgu yn y Cam? Er hyn, roedd e’n ffyddlon iawn i’r Clwb, ac yn un o’r rhai hynny byddai’n gwneud ymdrech ddifrifol i ymarfer yn gyson. Ar sawl achlysur, rwy’n ei gofio’n cyrraedd Glantaf tua chwarter wedi saith tra’n bo’ ni’n dechrau ymlacio cyn gorffen. Byddai felly’n diflannu i redeg am ryw hanner awr cyn mynd adre. Ar y cae, roedd e’n bachu’n dda ac yn taflu fewn yn…wel hit and miss efallai. Ond fyddai byth yn cyfrannu llai na cant-y-cant. Ond fel cymeriad cymdeithasol fydd Huw yn sefyll mas, yn enwedig imi, ar daith.
A phwy arall bu a’r rhif dau ar eu cefnau dros y blynyddoedd? Nol yn yr wythdegau, roedd Huw Atlantic ac Eifion Rees, dau a fyddai wedi bod yn cystadlu i’r tîm cyntaf oni bai am bresenoldeb Brian, neu Gareth Harries, sy’n aros yn y cof nid yn unig am ei chwarae rygbi, ond am ei drefniant gemau. Fel ysgrifennydd gemau, rwy’n cofio trafod gydag e, a chlywed ei fod wedi trefnu gemau am ryw dri neu bedwar tymor i ddod. Mewn blynyddoedd i ddod, fe fydden ni wedi bod yn ffodus i gael gemau wedi eu trefnu am dri neu bedwar wythnos i ddod. Erbyn diwedd yr wythdegau, roedd Gary Davies(dwi’n meddwl), neu Gonc i bawb wedi cyrraedd y Clwb. Fe fu’n anffodus braidd fod gennym bac gwan ar y pryd, a chafodd fawr o gyfle i brofi’i hunan o fewn tîm da. Yn ogystal, fe gytunodd ar un adeg i bropio mewn gem, ac wrth gwrs fe ddaeth hynny’n fwy cyson wrth i amser fynd heibio. Rwy’n cofio perswadio fe i bropio ar fore Sadwrn ym Mryncethin, ac wedi cytuno’n anfodlon braidd, derbyniodd ergyd i’w lygad yn y munudau cyntaf, ac roedd ei gem ar ben yn sydyn iawn.
Yn fwy diweddar, daeth Emyr Morgan a Hefin Jones, ac Andrew Scott(Scott i bawb) i’n plith. Erbyn iddo adael y Clwb, roedd Emyr wedi cyrraedd rhyw “cult status” ymysg ei gydchwaraewyr, wedi derbyn cerdyn melyn cynta’r Clwb am ddyrnu Tommy o’r Plastics. Doedd ganddo ddim cymaint o faint a sawl bachwr arall, ond roedd ei galon yn fawr, ac roedd e’n ddigon bodlon sefyll ei dir yn erbyn unrhyw un, a hynny’n cynnwys chwarae fel prop lle’r oedd angen. Roedd ei daflu fewn yn destun sbort, ond i fod yn deg, fe fyddai’n derbyn popeth â gwen ar ei wyneb. Yn sgil hyn, roedd ei ymadawiad yn 2000 yn golled i bawb.
Doedd Hefin ddim yn fachwr naturiol. Rwy’n cofio fe’n chwarae gem i’r ail dîm, yn taflu fewn un funud, ac yna’r funud nesa’ fe ymddangosodd rhyw ugain metr y tu ôl i’n cefnwr ni i dderbyn cic trwyddo. Roedd e’n fachwr, efallai, yn y ffordd fwyaf modern posib. Roedd hi’n fwy siomedig fyth felly, iddo fe, fel un oedd yn chwarae’r gêm am fwynhad, a dim byd arall, gael ei anafu mor ddifrifol gan esgid un o’i wrthwynebwyr yn erbyn Trelai. Roedd e’n un o’r chwaraewyr hynny na fyddai byth wedi gwneud niwed i unrhyw un arall ar gae rygbi, a doedd anaf fel hynny ddim yn deg arno. Yn ogystal â hyn oll, roedd gen i ddigon o amser i Hefin, gan mai fe oedd yr unig berson i’m dewis i yn ei dim ffantasi nôl yn y nawdegau cynnar!
Problem fwyaf Scott oedd chwarae’n gyson mewn un safle. Roedd e’n un arall o’r rhai hynny byddai yn y rheng flaen i’r tîm cyntaf un wythnos, ac yna’n chwarae fel mewnwr i’r ail dîm yr wythnos ganlynol. Roedd e’n Jack of all trades, ac yn un da ymhob safle hefyd.
Ond mae dewis bachwr i gynrychioli’r tîm hwn yn ddigon hawdd. Efallai mai enw Brian Sullivan fyddai’r cyntaf ar bapur, cymaint oedd ei effaith ar y tîm. Nid dim ond fel chwaraewr roedd yn cael effaith, ond fel un oedd yn gallu ysbrydoli ei gydchwaraewyr, a hyn yn bennaf oherwydd eu hedmygedd tuag ato. Roedd Brian yn gallu gwneud popeth ar y cae. Er nad oedd gyda’r bachwyr mwya’, roedd ei dechneg yn dda, ac anaml iawn fydden ni yn colli’n pêl ein hunain yn y sgrymiau oherwydd hyn. O gwmpas y cae, roedd yn ffit ac yn gyflym, ac yn trafod y bel yn gyfforddus. Ond ei daflu fewn sy’n gofiadwy am ryw reswm. Yn fy nhymor cynta’, ein prif arf yn y leiniau oedd Ieuan Lloyd yn y cefn. Roedd defnyddio Ieuan felly’n dibynnu ar rywun oedd yn gallu taflu’n syth, a gyda Brian, roedd rhywun dibynnol yno i sicrhau hyn.
Fel cystadleuydd, roedd e heb ei ail, ac roedd e’n un o’r rhai hynny oedd yn disgwyl i bawb roi cant y cant yn yr un modd. Roedd yn disgwyl i bawb fod yn gallu cyflawni eu tasgiau’n gywir, boed nhw’n chwaraewyr neu’n ddyfarnwyr. Fe gymerodd amser imi brofi’n hunan yn ei lygaid e, ond rwy’n gobeithio imi lwyddo wedi ‘chydig. Un na lwyddodd hyn oedd ein dyfarnwr rywdro lawr ym Maglan. Roedd yn amlwg nad oedd y gŵr hwn yn gyfarwydd â’r rheolau, a thra bo’r gweddill ohono' ni’n anwybyddu hyn, roedd Brian yn mynd yn benwan. Erbyn y diwedd, cafodd Brian ei hel o’r cae, ond rwy’n dal i gofio’i wyneb wrth iddo adael y cae, yn dal i waeddi ar y dyfarnwr. Wedi inni gyrraedd yr ystafelloedd newid, fe ddechreuodd y trafod o faint o amser fyddai Brian yn cael ei wahardd. Ond nôl yng nghlwb Baglan, fe amlygodd hi nad dyfarnwr iawn mohono, ac felly ni fyddai’r cerdyn coch yn cael ei gyfathrebu i’r district. Roedd hynny mewn ffordd yn gwneud i ymddygiad Brian ar y cae’i ymddangos yn deg - roedd hi’n debyg nad oedd y dyfarnwr yn gwybod ei stwff wedi’r cyfan!
Roedd diwedd gyrfa Brian yn siomedig. Roedden ni wedi cael tymor da, wedi cyrraedd 16 ola’r Brewers yn y Drenewydd, ac roedd y tymor yn tawelu’n braf. Wedi i fis Ebrill gyrraedd, yn draddodiadol byddai safon y tîm yn codi wrth drafod y bel yn yr heulwen ac ar dir sych. Rwy’n cofio gem ddiwetha’ Brian, lawr yn erbyn Newport Saracens(dwi’n meddwl - y clwb nesa at Barc Tredegar). Roedd hi’n sych ac yn braf, a ro’n ni wedi benthyg dau neu dri o chwaraewyr y Medics am y diwrnod. Gallai ddychmygu sut deimlad oedd hi i’r Saracens wrth inni redeg popeth am awr a hanner, mewn perfformiad cofiadwy iawn. Efallai’i bod hi’n beth da i yrfa Brian orffen yn y ffordd hon. Ro’n ni ar y ffôn efo Butchie yn ystod yr wythnos ganlynol yn trafod tîm ar gyfer y Sadwrn, pan eglurodd imi fod disc wedi mynd yng nghefn Brian a’i fod yn mynd i fod ar ei gefn am rai wythnosau. Un peth oedd yn sicr oedd na fyddai’n chwarae rygbi ‘to.
Felly mae’r rheng flaen yn ei le. Cryfder a thechneg Wyn Lewis, maint a chyflymder Andy Long, a sgiliau di-ri Brian Sullivan. Beth am y “powerhouse” y tu ôl iddynt?
I fod yn onest, prin iawn yw’r powerhouses sy’ wedi bod yn yr ail reng - roedd y rhan fwyaf ohono’ ni fel lighthouses. Yn y dyddiau cynnar, fy mhartner i oedd Dafydd Idris, un o’r rhai hynny y byddai’n deg i’w ddisgrifio’n powerhouse. Fe ddysgais lot oddiwrth Dafydd ynglŷn ag ennill pêl yn y leiniau. Doedd Dafydd ddim gyda’r tala’ o neidwyr, ac felly roedd e a Brian wedi datblygu system i lwyddo ennill y bel. Yn syml, y system oedd taflu pêl “fflat” i’r lein. Yn wir, fyddai’r bel fel arfer mor fflat y byddai dim ond yn mynd uwchben Frankie ymlaen y lein. Byddai Dafydd yn neidio ‘mlaen cymaint ag i fyny, ac yn dal y bel o gwmpas ei stumog uwchben Frank. Roedd hi’n dechneg a weithiodd am dymhorau maith, gyda Dafydd ac yn hwyrach i mi . Roedd Dafydd hefyd yn cynnig cadernid i’r tîm. Roedd e’n un o’r chwaraewyr hynny na fyddai’n cymryd cam yn ôl. Roedd rhywbeth yn perthyn i fechgyn y Gogledd, fel Llyr Williams a Rhys Lloyd yn ddiweddarach, oedd yn gwneud iddynt amddiffyn eu hunain yn gadarn iawn. Byddai Dafydd o un tymor i’r nesa’n mwynhau brwydr bersonol flynyddol â rhyw foi pengoch o Canton, ond daeth y frwydr fwyaf cofiadwy yn y gêm honno yn erbyn Baglan pan gafodd Brian ei anfon o’r cae. ‘Dwi ddim yn gwybod be’ ddechreuodd yr ymladd, ond daeth un ail-ddechrau, pan anwybyddodd pob un o flaenwyr Baglan y bel, er mwyn ymosod ar Dafydd. Yn ôl ei arfer, fe ddalodd Dafydd ei dir, ac mae’n siwr gen i iddo lanio ergyd neu ddwy tra’i fod wrthi.
Fy mhartner yn yr ail reng am amser hir oedd Dave Pemberton. Mewn ffordd, ro’n ni’n reit debyg, y ddau ohonom â gobeithion o chwarae yn y rheng ôl, a’r ddau ohonom yn meddwl ein bod ni’n John Eales, yn mwynhau cicio. Ond yn y leiniau, Dave oedd y brenin. ‘Dwi ddim yn meddwl fod sawl un o’r cefnwyr yn gwerthfawrogi cymaint o waith fyddai Dave yn gwneud yng nghanol y lein, ac rwy’n cofio clywed rhai ohonynt yn gofyn iddo gyfrannu’n fwy yn yr elfen glos, yn hytrach na’i fod yn chwarae’n rhydd. Ond dyna sut oedd Dave yn chwarae. Wedi ennill y bel yn y lein, ei fwriad nesa’ oedd i redeg â’r bel yng nghanol y cae, nid cael ei dynnu fewn i sgarmes. Yn y leiniau, Dave oedd y neidiwr gorau imi weld yn cynrychioli’r clwb yng nghanol y lein. Roedd hyn wrth gwrs yn y dyddiau cyn codi chwaraewyr, ac felly roedd techneg gymaint yn fwy pwysig. Mae gen i lun o Dave yn ennill pêl mewn lein lawr yn Nhregaron, ac mae ei dechneg yn berffaith - dwy lygad ar y bel, dwy law yn ymestyn i fyny, a’i gorff, heb unrhyw gymorth, ymhell oddi ar y llawr. Y ffordd gorau o’i ddisgrifio erbyn heddiw, efallai, yw dweud ei fod yn debyg i Chris Wyatt, er nad yw hyn efallai’n deg ar Dave.
Oddi ar y cae, roedd Dave yn gymeriad hoffus, ac mae cymaint o atgofion da sy’n gysylltiedig da fe. Fel doctor, roedd e’n aelod pwysig wedi pob gem hefyd wrth edrych ar ôl y cleifion, neu’i brysio nhw heibio pawb arall yn CRI. Os nad oedd amser i fynd i CRI, wedyn roedd yr optiwn o drin pobl rhywle arall. Rwy’n cofio pwythau’n cael rhoi fewn yn Cardiff Sports(Penarth Rd) ac yn y Cameo. Roedd hi lawer yn fwy cyfleus na mynd i’r ‘sbyty. Dave fyddai hefyd yn gyfrifol am lenwi’r bag meddygol yn gyson, hyd yn oed amser hir wedi iddo orffen chwarae, er erbyn hynny, nad oedd unrhyw ddoctor yno fyddai’n gallu defnyddio’r nwyddau’n gywir. Rwy’n cofio trafod y Clwb efo Dave unwaith, ac yntau’n dweud, er nad yn un oedd yn siarad Cymraeg, pa mor bwysig oedd y Clwb iddo, a chymaint y byddai’n dymuno roi yn ôl i’r Clwb er mwyn diolch am yr amseroedd da ‘roedd wedi mwynhau yno. A dyna sy’ wedi digwydd dros y blynyddoedd. Er yn ddyn prysur, mae e’n dal i fod yn Llywydd ar y Clwb ac yn dal i gynrychioli’r vets yn reit gyson.Mae’i gysylltiad â’r Clwb, felly yn hirach na’r rhan fwyaf ohono’ ni.
Ymhlith y rhai eraill a fu yn yr ail reng oedd yr enwog Arnold James, neu Archie i bawb. Fe’i croesawyd i’r Clwb fel rhyw fab afradlon, ac roedd mawr disgwyl wedi inni glywed ei fod yn symud i’r brifddinas. Rwy’n meddwl inni gyd ddechrau cymryd yn ganiataol na fydden ni fyth yn colli lein eto, cymaint oedd ei maint a’i brofiad yn yr ail reng. Dan yr amgylchiadau hynny, roedd pethau wastad yn mynd i fod yn anodd iddo, a dwi ddim yn credu inni weld y gorau ohono ar y cae. Mae gen i atgof ohono’n anafu yn gynnar yn ystod ei yrfa gyda’r Clwb, a ‘dw’i ddim yn meddwl iddo lwyddo dod dros yr anaf yn gyfan gwbl.
Daith prif gyfraniad Archie i’r Clwb oddi ar y cae. Rwy’n cofio trafod y posibilrwydd ohono’n cymryd drosodd fel hyfforddwr, ac yn cynsidro na fyddai ganddo ryw lawer o ddiddordeb. Ond ar y pryd, roedd cnewyllyn bach o aelodau o Dregaron wedi ymuno â’r Clwb, ac efallai bod hyn wedi cael effaith ar ei benderfyniad. Fel yr oedd hi, roedd y ddau neu dri thymor y bu’n gyfrifol am hyfforddi yn rai o’r rhai mwyaf llwyddiannus, trefnus a mwynhaol o safbwynt ymarfer. Roedd e’n ffodus, efallai, mai’r adeg hyn oedd pan oeddem yn ymarfer yn Llys Talybont, lle’r oedden ni’n ymarfer am 7.30 ar nos Fercher, ar gae sych(dim ots beth oedd y tywydd) gyda chyfleusterau da, a chyda cawodydd twym i olchi. I fod yn deg, doedd dim esgus i beidio ymarfer, ond roedd sesiynau ac ymroddiad Archie ar y pryd yn helpu hyn. Roedd e hefyd wrth gwrs yn un da i fynd ar daith. Roedd ei gyfraniadau ar y cyfandir, a hefyd ar ein trip i Gwmtillery yn rhai cofiadwy iawn. Efallai na fyddai’n ennill ei ffordd i mewn i’r tîm hwn, ond yn sicr fe fyddai lle iddo ar y tîm hyfforddi, ac yn gyffredinol oddi ar y cae.
Ac mae rhai eraill wedi bod. Ymhlith y rhai fu’ chwarae gydag e, pwy fyddai’n gallu anghofio ffrind Stumpy, Tudor, neu Scud fel y cafodd ei alw, wedi gem yn erbyn Cathays, lle y bu’n brwsio chwaraewyr i’r naill ochr neu’r llall fel petaent yn blant bach. Doedd e ddim gyda’r tala’ o chwaraewyr, ond roedd ei gryfder yn ei faint, ac roedd e’n arf bwysig inni fel rhedwr. Roedd hi’n anffodus na lwyddo’n ni ei berswadio i aros yn hirach efo’r Clwb, ond roedd ei safon ‘chydig yn uwch na ni, ac roedd hi’n deg felly i’w weld yn symud i safon yn uwch.
Efallai mai’r bartneriaeth fwyaf effeithiol bu efo ni dros yr amser yn yr ail reng oedd honno o Matt Trewella, a Martin Powell. Martin, mae’n siwr oedd un o’r chwaraewyr talaf i gynrychioli’r Clwb, ac fe fyddwn i’n synnu os bu chwaraewr mwy poblogaidd chwaith. Fe oedd Gentle Giant y Clwb, os bu un erioed, ac efallai nad oedd hyn yn ei ffafrio ymysg chwaraewyr dwl y brifddinas. Prif gamp Martin oedd criced, ac rwy’n credu iddo sylweddoli nad oedd chwarae dros y Clwb yn debyg o wneud unrhyw les iddo. A phwy, wedi ei weld yn chwarae criced dros dîm criced y clwb, allai roi bai arno? Roedd un batiad gwbl gofiadwy, pan oedd y Clwb yn batio’n ail mewn gem o 18 pelawd, ac yn ceisio am ryw 160-170 i ennill. Gydag un belawd i fynd, roedd angen rhyw 20 arall i ennill, ac roedd Martin wedi sgorio tua 110. Wedi sgorio ryw 15 oddi ar y 5 pêl gyntaf, roedd angen un 6 arall i gipio’r gêm. Fe fethodd, ond roedd hi’n fatiad anghredadwy, wedi sgorio tua 130 allan o’r cyfanswm. Ar gae rygbi, doedd e ddim cweit mor ddinistriol, ond roedd ei gyfraniad yn y leiniau yn arbennig yn bwysig iawn.
Ro’n i wedi anafu pan daith sôn fod Matt yn trafod ymuno â’r Clwb. Roedd e’n ffrind da gydag Andy Edwards, ac roedd pawb wedi clywed fod pedigree da gydag e, a’r sôn oedd ei fod wedi chwarae dros Gaerfaddon ar ryw lefel. Mae’n anodd credu felly ein bod ni wedi ei ddewis yn gyntaf i chwarae dros yr ail dîm, a bu yno am rai wythnosau. Dwi’n meddwl i Andy, fel Capten yr ail dîm ar y pryd, gadw pethau’n dawel er mwyn sicrhau iddo gynrychioli’r ail dîm am sbel. Fe ddaeth ei gyfle o’r diwedd yn y tîm cyntaf, mewn gem yn erbyn Cardiff Harlequins. Roedd e’n dal i ddweud ei fod a’i lygaid ar agor rownd y ddinas cyn dewis tîm llawn amser, ac felly roedd taith i’r Quins yn peri digon o bryder. Do’n ni ddim yn chwarae’n arbennig ar y pryd, a’r ofn oedd y byddai Matt yn gweld y cyfleusterau yno, ac y bydden ni yn cael crasfa, felly’n creu argraff sâl o’r Clwb. Byddai hyn yn rhoi esgus da iddo ddiflannu i ymuno â nhw. Ond fel y byddai’n digwydd yn aml, fe gododd y Clwb ei gêm pan oedd ei angen. Nid y cefnwyr yn unig oedd i’w ddiolch y diwrnod hwnnw, ond y tîm cyfan, yn amddiffyn a thaclo o’r eiliad cyntaf. Roedd hi’n deimlad arbennig yn dod oddi ar y cae - roedd curo’r Quins wastad yn bleserus - a dwi’n meddwl fod Matt wedi sylweddoli cymaint o gamp oedd hi. O’r diwrnod hynny ‘mlaen, doedd dim dwywaith mai dros y Clwb y byddai Matt yn chwarae tra yng Nghaerdydd.
Ar y cae, fe ddatblygodd yn chwaraewr ag ymroddiad, byddai yno bob Sadwrn. Roedd e’n gryf yn y leiniau, ac roedd hyn yn ei wneud yn darged hawdd i’w wrthwynebwyr yn y Brifddinas. Ond dim ots faint o brofocio, byddai’n cadw mlaen i neidio a dwyn pêl a chyfrannu rownd y cae. Roedd Matt yn enghraifft o un a allai fod wedi chwarae safon uwch, o ystyried ei sgiliau yn y lein, ond a arhosodd i fwynhau bywyd cymdeithasol a rygbi agored y Clwb. Oddi ar y cae hefyd, roedd e’n gymeriad poblogaidd ac yn deithiwr da, ac roedd e’n golled mawr inni ym mhob ffordd pan ddiflannodd i weithio yn Nhenerife.
Dros y blynyddoedd, fe fu rai eraill hefyd. Roedd sawl un yn chwaraewr reng ôl a ddrafftiwyd i’r ail reng oherwydd bod rhaid. Yn y dyddiau cynnar, roedd y meddyg Dai Gutsy, a chwaraeodd ar daith yn Luxembourg er ei fod yn diodde’ o gout ar y pryd. Roedd e’n athro da ar y cae. Roedd e’n un arall oedd yn dilyn y “Dafydd Idris/Clwb rygbi flat ball to the front”, ond roedd e hefyd wedi datblygu rhywbeth arall. Os fyddai’n dal ei fraich allan pan oedd Brian ar fin taflu mewn, roedd hyn yn meddwl ei fod eisiau “lobbed ball”. Imi, roedd hyn yn rhywbeth ymhell o flaen ei amser er na fyddwn i’n dweud ei fod wedi gwella’n neidio rhyw lawer chwaith. Pwy all anghofio Nef Lloyd, ail reng frwdfrydig yr ail dîm nôl ar ddechrau’r wythdegau? Roedd Nef yn gweld ei hun yn dipyn o Allan Martin, ond does gen i fawr o atgofion o gicio llwyddiannus. A beth am Huw Phillips, brawd hun Meurig a ddaeth a maint a phrofiad i’r ail reng, neu hyd yn oed Jon Green, un o ryw chwe throedfedd a phump, oedd yn pwyso tua deg stôn? Chafodd Jon fawr o amser i brofi’i hun cyn iddo dorri neu ddatgymalu ei ysgwydd un Sadwrn yn Llandaf. Gwelwyd mohono eto, na’r crys ‘roedd e’n gwisgo ar y pryd, os dwi’n cofio’n iawn! Yn fwy diweddar, cafwyd cyfraniadau gan Chris Jones, ac yn fwy byth, gan Rhys Lloyd, a dderbyniodd gyfrifoldeb capteiniaeth yr ail dim am ddau dymor. Byddai Rhys yn un arall fyddai’n estyn ei gyfraniad at fod yn gyfrifol am y tîm criced am dymhorau maith.
Ond wrth feddwl am lenwi’r ail reng yn y tîm dychmygol hwn, mae un gŵr yn sefyll mas, ac un arall yn mynd i fod yno oherwydd ein cryfder yn y rheng ôl, a’r ffaith y gallai chwarae mewn unrhyw safle’n llwyddiannus. Pan dderbyniodd Rhidian capteiniaeth y Clwb yn y Nawdegau cynnar, fe aeth ati i geisio rhoi hwb i’r chwaraewyr drwy ddenu aelod newydd i’r Clwb. Fyddwn i byth wedi mynd ati a’r un faint o ymdrech. Ei brif darged ar y pryd oedd Neil Cole, a oedd yn chwarae dros Landaf. Doedd dim rhyw lawer gyda’r Clwb i’w gynnig heblaw am ysbryd da, a dull agored o chwarae’r gêm. Rwy’n cofio ymarfer ar y pryd drwy’r haf yn bendant y byddai Neil yn diflannu nôl i Landaf wrth i fis Medi gyrraedd. Yn wir, wrth chwarae criced dros y Clwb, rwy’n cofio gweld Neil yn ymarfer efo Llandaf, ac felly doedd y gobeithion ddim yn uchel iawn. Ar y pryd, do’n i ddim yn poeni rhyw lawer - os oedd Neil am aros efo Llandaf, doedd hynny ddim yn broblem. Roedd y Clwb yn fwy nag unrhyw unigolyn.
Diolch i’r drefn, fe ludiodd Rhidian at ei dasg, ac fe ymunodd Neil a’r Clwb. Oddi ar hynny, bu neb a mwy o effaith ar y Clwb, ac edmygwyd neb cymaint gan ei gydchwaraewyr. Roedd ei gemau cynta’n reit ddiddorol. Bu gem yn erbyn Llanrumney lan yn Nhrelái, ac, yn llythrennol, munudau fewn i’r gêm, fe syrthiodd un o’u chwaraewyr nhw ar ochr anghywir sgarmes. Tra roedd y gweddill ohonom yn camu’n ofalus rownd y boi, roedd Neil wrthi’n dawnsio ar ei gefn yn dysgu gwers go dda iddo am fod ar yr ochr anghywir. Ddychmyga’i na welodd unrhyw un o chwaraewyr Llanrumney y fath beth yn eu herbyn ni o’r blaen, ond i fod yn deg, er iddo dderbyn llond ceg gan y dyfarnwr, roedd e wedi llwyddo gwneud ei bwynt.
Fel ail reng, ei neidio yn y leiniau fyddai rhywun yn disgwyl i fod yn bwysig. Ond yn y dyddiau o godi yn y lein, doedd e ddim mor effeithiol. Fel dyn mawr, fyddai neb yn mwynhau’i godi fe am brynhawn. Felly fe newidiodd ei gyfrifoldeb i fod yn brif godwr yn y lein, a defnyddiwyd Dyfrig Parri fel neidiwr. Rwy’n siwr fod Dyfrig yn gwerthfawrogi pwysigrwydd a chyfraniad Neil i’w droi’n arwr y leiniau. Yn y sgrymiau hefyd, am y tro cyntaf am sbel, roedd ail reng yn ein plith oedd a’r pwysau yn ogystal â’r dechneg i gyfrannu’n fawr yn yr elfen yma o’r gêm. Dim ond ar ôl imi orffen chwarae y cefais weld cymaint o farc y gallai fod wedi gwneud petai wedi cael cyfle yn y rheng ôl hefyd. Rwy’n cofio gwylio gem yn Nhondu, gyda Neil fel wythwr, ac roedd hi’n ddiddorol gweld pa mor dda’r oedd yn darllen y gêm, a chymaint yr oedd yn amseru ei bas o gefn y sgrym yn berffaith bob tro.
Oddi ar y cae, roedd ei gyfraniad yn anferth hefyd. Roedd e’n un o’r rhai hynny oedd yn mynnu fod pawb, yn enwedig y bois ifanc yn mynychu’r cameo wedi pob gem, ac fe fyddai’n arwain y gemau. Cafwyd un noson gofiadwy mewn tafarn yn St. Mellons wrth ddod nôl o Gasnewydd, lle’r estynnwyd dathliadau’r prynhawn am awr neu ddwy cyn i bawb ddiflannu yn eu cyfeiriadau’i hunain. Roedd e hefyd yn un o’r mwyaf ymroddedig wrth ymarfer. Roedd yn ymarfer yn gyson ar ei ben ei hun, ac yn sicr ar nosweithiau ymarfer y Clwb. Canlyniad hyn oedd lefel o ffitrwydd lawer yn uwch na’i gydchwaraewyr. Wedi tymor neu ddwy, fe dderbyniodd swydd hyfforddi’r Clwb, ac unwaith eto, roedd ei ymroddiad yn ddigon i sicrhau presenoldeb rhai eraill.
Neil yw cymeriad mwyaf pwysig y Clwb dros y saith neu wyth tymor diwethaf, a does dim dwywaith y byddai ei bresenoldeb yn y tîm dychmygol hwn yn werthfawr ar ac oddi ar y cae.
Mae mynd ati i ddewis rheng ôl i’r tîm yn waith ddigon caled fel y mae, ac felly rwy’n caniatáu fy hunan i ddewis Gareth Hall yn yr ail reng yn hytrach nag unrhyw le arall. Y gwirionedd yw y gallai Gareth fod wedi ei ddewis mewn rhyw hanner dwsin o safleoedd gwahanol, naill ai yn y blaenwyr neu’r cefnwyr, ond mae’n haws ei ddewis yn y safle hwn.
Fe gyrhaeddodd Gareth y Clwb yn fachgen ifanc yn dilyn ei frawd i glwb o oedolion. Ro’n i wedi clywed amdano fel un o arwyr tîm ysgol Glantaf a gurodd Llanhari ar ôl imi adael, ond cefais i ddim cyfle i gwrdd ag e nes iddo gael ei ddewis i chwarae mewn gem gwpan yn Nhremorfa yn erbyn St. Albans. Roedd e wedi bod ar daith efo’r Clwb flwyddyn ynghynt, ac wedi creu cryn argraff ar y chwaraewyr hun, ac felly pan ddaeth nôl o’r coleg y Pasg canlynol, fe’i taflwyd yn syth fewn i’r gêm fawr. Mae’n anodd credu nawr ‘mod i wedi siomi gydag e’r noson honno - eto, efallai 'mod i wedi disgwyl gormod. Dros y deng mlynedd nesa’ byddai Gareth yn profi ei safon canwaith a mwy.
Pan ddaeth yn ôl o’r coleg, fe aeth yn syth fewn i’r rheng ôl, ac fe amlygodd hi fod chwaraewr arbennig yn ein plith. Roedd y cyfuniad rhyngddo fe a John Hayes yn berffaith, a byddai’r ddau yn sbarduno’i gilydd i chwarae’n well. Rwy’n cofio un adeg lle’r oedd rhyw hen ŵr, heb gysylltiad â’r Clwb, yn dod lawr i wylio’n gemau yn gyson ar ddydd Sadwrn oherwydd ei fod yn mwynhau a gwerthfawrogi safon a natur ein chwarae. Gareth a John oedd yn benna’ gyfrifol am hyn. Roedd yr hyder a ddaeth i’r tîm oddiwrth y ddau ohonynt yn anferth. Petai’r gwrthwynebwyr yn cicio’n hir, fe fydden yn disgwyl gweld Gareth yn rhedeg nôl i gynnig help i Eryl, neu pwy bynnag oedd yn gefnwr, a ro’n ni’n gwbl gyfforddus i’w weld yn wrth ymosod o’n dwy ar hugain. Roedden ni’n gwbl hyderus y byddai ei awydd i wrth ymosod yn llwyddiannus. Roedd yr un peth yn digwydd wrth inni dderbyn ail-ddechrau chwarae. Byddai’r blaenwyr tynn yn derbyn y bel, ac os oedd hanner cyfle, byddai Gareth yn mynnu derbyn pêl gyflym yn safle’r maswr er mwyn gwrth ymosod. Ar ddyddiau da, pan oedd y math yma o chwarae yn llwyddiannus, roedd hi’n bleser i fod yn rhan o’r tîm, ac mae’n siwr gen i ei bod hi’n bleser i wylio hefyd.
Wrth ystyried hyn, mae’n anodd credu na enillodd Gareth erioed, i’m cof i, wobr chwaraewr y flwyddyn. Dyna gyd gallai ddychmygu yw ein bod ni wedi dewis chwaraewyr am eu cysondeb yn ystod tymor. Roedd Gareth, bron heb os, yn cael rhyw Sabbatical bob tymor, lle byddai’n colli’r awydd i chwarae, a byddai rhyw anafiadau yn codi o rywle. Ar adegau fel hyn, fe fyddai’n dewis pa gemau ‘roedd am ei chwarae, a pha rai ‘roedd am eu methu. Fe fyddai’n hawdd dweud nad oedd am chwarae rhai gemau oherwydd ofn, ac i raddau fe fyddai hyn yn ddealladwy. Ond y gwirionedd yw mai mewn gemau fel hyn, “when the chips were down” byddai Gareth gan amla’n codi ei gem i safon uwch fyth. Galla’i ‘mond meddwl bod y sabbaticals hyn yn dod oherwydd ei ddiflastod a’r gêm o bryd i’w gilydd.
Yr awydd i gael newid bach, dwi’n meddwl, oedd yn gyfrifol iddo benderfynu newid o fod yn flaenasgellwr i fod yn ganolwr. Er mod i ar y pryd yn meddwl bod hyn yn wastraff arno, ro’n i hefyd yn gwybod fod hyn yn ffordd dda o gadw ei ddiddordeb yn y gêm, ac i roi incentive bach arall iddo - i fod yn onest ro’n i’n falch i’w weld yn chwarae yn unman yn y crys coch. Ac wrth gwrs, does dim angen dweud faint o lwyddiant ‘roedd yno. Cafwyd gem yn gynnar un tymor yn erbyn Llanrumney lan yn Nhrelái, pan oedd Llanrumney ar eu gorau. O fewn rhyw chwarter awr o’r dechrau, roedd Gareth wedi bylchu o leia’ teirgwaith ac wedi creu ceisiadau i Angus ac iddo fe. Roedd ganddo’r ddawn i guro dyn, ac wrth gwrs y cyflymder i fanteisio ar hyn, ond hefyd y weledigaeth i amseru’i bas yn berffaith.
Roedd chwarae gyda Gareth yn bleser, ac fe allwn i sgrifennu amdano’n hir. Fe allai fod wedi ei ddewis yn y tîm hwn mewn unrhyw un o ryw bum safle, ond rwy’n caniatáu fy hun i’w ddewis yn yr ail reng oherwydd bod hyn yn gwneud gweddill y tîm yn haws. Fe chwaraewyd un gêm gwpan yn erbyn Rogerstone, lle’r oedd pethau wedi bod yn dynn trwy gydol y gêm, er bod ein cefnwyr ni lawer cryfach na’i rhai nhw. Rhan o’r rheswm oedd nad oeddem wedi llwyddo sicrhau ein pêl ein hunain yn y leiniau. Wrth agosáu at ddiwedd y gêm, cafwyd lein wrth ymyl ein llinell cais, ac fe symudodd Gareth yn bwrpasol iawn o gefn i ganol y lein, a galw i’r bel gael ei daflu yno. Daeth y bel fewn, ac wrth gwrs, fe hedfanodd Gareth i ddal y bel a dwy law - y daliad gorau’r diwrnod hwnnw, ac un a adawodd inni glirio’r bêl yn llwyddiannus, ac inni sicrhau buddugoliaeth. Mae hyn yn helpu dangos y byddai ei gyfraniad yn yr ail reng cystal â neb.
Felly, gyda’r pum blaen allan o’r ffordd, rhaid mynd ati i edrych ar y rheng ôl. Hwn, efallai yw’r dasg fwyaf anodd wrth ddewis tîm, ac mae’n anodd gwybod lle i ddechrau. Un o gymeriadau mwyaf poblogaidd y tîm nôl yn yr wythdegau oedd Dai Lewis. Roedd gen i lawer i fod yn ddiolchgar i Dai. Wedi cael y “drop” o’r tîm cyntaf, roedd yr ail dîm yn chwarae lan yn erbyn Cardiff HSOB(fel ei galwyd ar y pryd). Roedd gem y tîm cyntaf wedi ei ohirio, ac felly roedd sawl un o’r tîm cyntaf yno’n gwylio, ac roedd hi’n gyfle imi brofi pwynt. Roedd pethau’n ddigon agos, ac roedd sawl ergyd at y pyst wedi mynd yn wastraff wrth i Nef Lloyd lanio’r bel yn agosach i’r Tâf na’r pyst. Fel boi ifanc, doedd gen i ddim yr hyder i ddweud mod i wedi cicio chydig yn yr ysgol, ac felly cefais air byr yng nghlust Dai i awgrymu’i bod hi’n bosib y byddwn i’n fwy llwyddiannus. Pan ddaeth y cyfle nesa’ at y pyst, Dai oedd y cynta’ i’r bel, yn gwaeddi rhywbeth tebyg i “Rhowch gyfle i’r crwt ifanc”. Fe aeth hynny’n llwyddiannus, ac fe lwyddais berswadio rai o’r tîm cyntaf fod gen i rywbeth i’w gynnig i’r tîm.
Fel chwaraewr, roedd Dai yn un o gystadleuwyr mawr y Clwb. Dim ots o sawl pwynt ro’n ni’n colli, byddai Dai wrthi’n rhoi cant y cant lan at y funud ola’. Roedd e wastad yn fy atgoffa i o Ian Kirkpatrick, y ffordd y byddai’n rhedeg a’i gefn yn syth a’i ben i fyny. Bu un gêm gofiadwy inni lan yn erbyn yr Athrofa yng Nghyncoed. Ro’n ni gyd wedi clywed sôn bod seren newydd yn chwarae yn rheng ôl yr Athrofa, Cymro ifanc o’r enw Garmon Emyr. Rhyw ddegawd yn ddiweddarach, byddai Garmon yn cynrychioli’r Clwb, ond ar y pryd roedd e’n ifanc, ac yn ei erbyn, roedd Dai, efo’i yrfa fe yn dechrau agosáu at ei ddiwedd. Efallai bod Dai yn meddwl fod ganddo rywbeth i’w brofi’r diwrnod hwnnw, ond fe chwaraeodd fel dyn gwyllt, yn cyrraedd unrhyw bêl rydd yn gyntaf. Wrth gwrs, rhan o’i fwynhad e oedd profocio Garmon. Wrth i bob sgarmes ffurfio, byddai Dai yn disgwyl am Garmon efo, “Nawr wyt ti’n cyrraedd?…dwi di bod ‘ma ers sbel” a “’o’n i ‘di clywed bo ti’n chwaraewr da, ond dw’i, yn hen ŵr, wedi cyrraedd pob bel rhydd cyn ti…” ac yn y blaen. Roedd hi’n enghraifft berffaith o natur gystadleuol Dai, ond hefyd yr hiwmor oedd yn gysylltiedig â’i gem. Roedd e’n un o’r chwaraewyr hynny ro’n i’n falch i’w gael ar fy ochr i.
Ar yr un pryd, roedd Huw Charles yn rheoli materion ar ochr dywyll y sgrym. Roedd Charlie’n fath gwahanol o chwaraewr, oedd yn annhebyg o gael ei weld a’r bel yn ei ddwylo yn carlamu canllath, ond yn fwy tebyg o’i weld ar waelod sgarmes, neu’n tacluso pêl rydd. Canlyniad hyn oedd cyd-chwarae a balans yn y rheng ôl rhyngddo fe a chwaraewyr fel John Shotton neu Huw Hall. Byddai Butchie’n derbyn digon o bêl wael o’r leiniau beth bynnag yn y dyddiau hynny, a gallai feddwl y byddai wedi gweld digon mwy yn absenoldeb Charlie. Bu’n gapten am ddau dymor, ac roedd ei fodlonrwydd i roi ei gorff ar y lein yn ysbrydoliaeth i’r gweddill ohono’ ni i wneud yr un peth.
Roedd e hefyd yn gyfrifol, i raddau, am helpu imi ymuno ag ochr gymdeithasol y clwb. Wedi un gêm, rwy’n cofio fe’n gofyn pam nad oeddwn i byth yn ymuno â’r bechgyn yn y nosweithu. Doedd dim esgus felly ond ymuno gydag e’r noson honno, ac am sawl Sadwrn wedyn. Mae’n siwr gen i 'mod i’n dal i ddioddef o’r nosweithiau hynny, lle byddai galwyn ar ôl galwyn o Strongbow yn diflannu.
Y chwaraewr mwyaf tebyg i Charlie dros y blynyddoedd oedd Llyr Williams, un arall oedd yn ddigon hapus i weld y Glory Boys yn derbyn y clod, tra’i fod e’n ennill y bel caled ar y llawr. Anaml iawn byddai Llyr yn ymddangos y tu fas i’r asgellwr i gymryd pàs i sgorio, ond byddai’n ddigon tebyg mai fe oedd yn gyfrifol am sicrhau’r meddiant yn y lle cynta’. Mae dwy gêm yn dod i’r cof lle mae Llyr yn y cwestiwn. Chwaraewyd gem gwpan lawr yn Nash, lle’r oedd Llyr yn y rheng ôl, a’i le dan bwysau. Fel arfer roedd y rheng ôl yn gryf, gyda John, Gareth, Grundy ac yn y blaen. Cafodd Llyr y diwrnod hwnnw, un o’r gemau hynny lle mae popeth yn mynd o’i blaid. Os oedd NASH yn ymosod, byddai John er enghraifft yn hedfan allan i wylio’r asgellwr, ond heb os y diwrnod hwnnw, fe ddaethon nhw nôl fewn a rhedeg fewn i Llyr. Os oedd sgarmes, rhywsut, Llyr ddaeth allan efo’r bel. Er na alla’i fod yn siwr, fyddwn i ddim yn synnu clywed mai fe oedd yn gyfrifol am ennill rhan fwyaf o’r leiniau’r diwrnod hwnnw hefyd! I fod yn deg, dwi’n meddwl fod Llyr yn methu â chredu’i hunan sut aeth pethau’r ‘pnawn yna.
Daith yr ail atgof hefyd yn y cwpan, efallai hyd yn oed yn y rownd nesa’, pan ddaeth Hollybush i gaeau Llandaf. Roedden nhw chydig yn rhy gryf inni, ac roedd hi’n fater o amddiffyn balchder erbyn yr ail hanner. Ychydig fewn i’r ail hanner, fe enillodd Hollybush gic cosb yng nghanol y cae, ac fe benderfyno’ nhw ei rhedeg hi. Fe dderbyniodd un o’u blaenwyr nhw'r bel, ac roedd e’n mynd fel trên wrth imi sylweddoli ei fod yn dod tuag ata’i. Ro’n i jyst yn dechrau meddwl sut y gallwn i osgoi’r cawr hyn, pan ymddangosodd Llyr o mlaen i i’w daclo. Roedd hi’n sefyllfa o “irresistable force meets immovable object” ac roedd y swn wrth i’r ddau daro’u gilydd yn frawychus. Doedd hi ddim yn syndod i Llyr adael y cae, a ro’n i yn meddwl ei fod wedi derbyn anaf cas iawn. Yn ffodus, roedd e nôl ar ei draed ar ddiwedd y gêm, ac fe aeth ati i fwynhau gwylio Cymru’n chwarae’r prynhawn hynny. Fe fûm i’n ddiolchgar iddo am y penwythnos cyfan!
I’r gwrthwyneb i Charlie a Llyr, daith y Nawdegau a dau flaenasgellwr llai o faint i’r Clwb, ond yr un faint mor effeithiol. Roedd Aled Arch yn anffodus ei fod yn chwarae yn y rheng ôl, gyda safon ei gydchwaraewyr yno. Doedd ganddo mo’r maint i fynd i’r ail reng, ac felly bu’n un cyson yn yr ail dîm, ond roedd hi’n fater o gysur bod chwaraewr o’i safon i’w gael i ddod fewn pan fo’r angen. Roedd Rhys Angell yn debyg; un oedd yn gyson i’r ail dîm, ond oedd yn cyfrannu i’r tîm cyntaf pan fo’r galw. Roedd y ddau yn cynnig rhywbeth gwahanol inni, yn chwaraewyr tebycach i Neil Back na Scott Quinnell. Roedd yna rywbeth am y ddau ohonynt oedd yn sicrhau na fydden nhw’n cymryd cam yn ôl yn erbyn unrhyw un, dim ots pa mor fawr ‘on nhw. Efallai mai hyn oedd gwraidd penderfyniad Rhys i fod gyda’r cyntaf i wisgo skullcap ar ei ben tra’n chwarae.
A phwy arall felly bu yno yn y rheng ôl dros y blynyddoedd? Beth am John Shotton, y Jean-Pierre Rives o’i amser yn hedfan o gefn y sgrym? Bu sawl un yn chwarae’r rhan fwyaf o’u hamser yn yr ail dîm oherwydd safon y tîm cyntaf. Fel Aled a Rhys uchod, byddai sawl un wedi chwarae’n fwy i’r tîm cyntaf mewn unrhyw safle arall. Ymysg rhain, roedd Dai Boobier, Leighton James a Panda(Andrew Evans?). Roedd eraill oedd yn rhai cyson yn y tîm cyntaf, ond oedd yn mynd o gwmpas ei gwaith yn dawel ac yn bwrpasol, heb unrhyw beth ffansi. Ymysg y rhai hyn roedd Rhidian John, oedd fel veteran pan ymunais i a’r Clwb, ac roedd yn dal i fynd rhyw ddegawd yn ddiweddarach. Roedd Rhidian yn esiampl inni gyd o rywun oedd yn mynnu cadw’n ffit er mwyn cadw ‘mlaen i chwarae. A beth am Gareth Wilkins, un o’r rhai mwyaf cyson, ond un o’r tawelaf ar y cae? Roedd Gareth yn un o’r rhai fyddai’n amlygu ei hun ar daith gyda’i Wheel of Fortune. Y ffaith nodedig arall am Gareth oedd na fu’n berchennog ar fag chwaraeon trwy gydol ei yrfa a’r clwb. Byddai’n cyrraedd y Clwb â bag Tesco dan ei fraich, a’i fŵts yn syrthio mas o’r top. Os oedd hi’n ddiwrnod arbennig, roedd hi’n bosib ei weld yn cyrraedd a bag M+S, ond doedd hyn ddim yn aml iawn.
Gareth Hall, efallai, oedd y chwaraewr mwyaf creadigol imi weld dros y Clwb, ac efallai mai Richard Jenkins oedd yr un agosaf i steil Gareth. Fe fyddwn i wedi hoffi gweld Richard nôl ar ddiwedd y Saithdegau, a’r sôn oedd ei fod yn arbennig. Erbyn imi chwarae yn ei gwmni, roedd y cyflymder wedi mynd ychydig, ond roedd ei ddealltwriaeth o’r gêm yn berffaith. Yn debyg iawn i Gareth, roedd e’n un o’r rhai oedd yn gwybod beth i’w wneud ar yr adeg iawn - os oedd angen cicio, yna byddai’n cicio, os oedd angen pàs, byddai’n pasio. Yr atgof arall sy’ gen i yw’r ffaith ei fod yn teimio pethau’n dda. Doedd e ddim yn un mawr ac felly roedd e wedi deall fod “pass before contact” yn mynd i wneud mwy o les iddo na gyrru fewn i’r gwrthwynebwyr. Fel canlyniad, mae’r atgof ohono’n rhyddhau’r bel ar yr eiliad perffaith yn glir.
Yn fwy diweddar, bu sawl un arall yn llenwi bylchau’r rheng ôl. Bu Garmon Emyr efo ni am ryw dymor, a phan fo Garmon yn y mwd iawn, doedd neb gwell yn cario’r bel ‘mlaen. Roedd Andy Edwards, un o’r rhai mwyaf ffit, sy’n dal i fod o gwmpas, a Rob Thomas, neu Rob Cathays inni gyd wedi iddo ymuno â’r Clwb o Cathays. Un arall sy’n dal i fod o gwmpas yw Dave Burrows, neu Eifion Green a fu efo ni am dymor cyn diflannu i ganolbarth Cymru. Ac wedyn, roedd Chrissy Boy. Dysgais i rioed ei enw cywir(roedd e’n edrych fel Chris Evans), ond rwy’n cofio amdano gan iddo sgorio’r cais diwethaf imi gyfrannu iddi cyn imi orffen chwarae braidd yn fwy sydyn nag o’n i wedi bwriadu.
Byddai sawl un o’r chwaraewyr uchod wedi dod â rhywbeth i’m tîm dychmygol i, ac roedd eu cyfraniadau dros y blynyddoedd yn angenrheidiol ac yn werthfawr i gadw’r Clwb ar ei draed. Ond wedi ystyried yr holl chwaraewyr hyn, roedd dewis rheng ôl yn ddigon syml.
Rwy’ wedi crynhoi cyfraniad John Hayes yn barod, a does dim rhyw lawer yn fwy i’w ddweud. Fe allai fod wedi chwarae yn unrhyw safle yn y rheng ôl, yn cyfuno gweledigaeth, cryfder a chyflymder i greu blaenasgellwr perffaith. Roedd ganddo’r un peth oedd yn gwneud iddo ddisgleirio’n fwy byth, sef ei awydd i ennill. Doedd John ddim yn un oedd yn derbyn dod yn ail mewn unrhyw beth ac roedd e’n gystadleuol o’r eiliad cyntaf i’r ola’. Roedd hi’n beth cyson i glywed y waedd rwystredig ar yr adegau pryn hynny pan fyddai’n gollwng y bel, neu’n methu tacl. Er hyn, roedd y rhwystredigaeth hon wedi’i anelu tuag ata fe’i hunan - dw’i byth yn ei gofio’n codi’i lais at unrhyw un arall yn y tîm.
Ar ochr arall y sgrym, byddwn yn dewis yr Hall Williams hŷn, sef Huw. Pan ail-ymunodd Huw a’r Clwb, roedd e’n dal i fod yn asgellwr. Rwy’n cofio’i gem gynta nôl, yn erbyn St. Josephs, Casnewydd, ac fe groesodd am o leia’ dwy gais y prynhawn hwnnw. Roedd bechgyn y clwb wedi bod yn disgwyl yn fawr am ailymddangosiad Huw, ac roedd hi’n amlwg wedi’r gêm hyn paham. Dwi ddim yn siwr pwy oedd a’r syniad cyntaf, ond fe benderfynwyd symud Huw o’r asgell i’r rheng ôl, ac o fewn dim, fe brofodd hynny’n syniad perffaith. Fel asgellwr, roedd Huw yn gyflym, ond hefyd yn rhedwr cryf, ond i fod yn deg, roedd yn rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n gallu rhoi’r bel yn ei ddwylo. Fel blaenasgellwr, doedd dim angen i unrhyw un geisio rhoi’r bel yn ei ddwylo - roedd e’n ddigon cyflym, ac roedd ganddo ddigon o ymennydd rygbi i sicrhau ei fod yn y lle iawn er mwyn derbyn y bel yn gyson. Roedd y cyfuniad hwn yn un perffaith i’w galluogi i hedfan o fôn y sgrym i roi cymorth inni ar ein pêl ein hunain, neu i ddwyn pêl y gwrthwynebwyr. Roedd ei gyflymder yn ei ganiatáu i fod yn “flyer” o flaenasgellwr, ond roedd ei faint a’i gryfder yn sicrhau ei fod yn gallu torri tacl hefyd.
Mae’n anodd ceisio cymharu Huw ag unrhyw chwaraewr presennol - efallai mai Colin Charvis yw’r agosa’ sy’n dod i’r meddwl(fel chwaraewr hynny yw) Fe ddatblygodd yn gapten fyddai eto’n arwain trwy esiampl, a ro’n ni siomedig pan adawodd Caerdydd eto ymhen tymor neu ddwy. Byddai wedi gwneud hyfforddwr da wedi i’w ddyddiau chwarae orffen. Yn ogystal â hyn, ac fel sawl un arall ymhlith chwaraewyr y Clwb, roedd e hefyd yn foi neis oedd ag ochr gystadleuol iddo.
Ac felly at wythwr i chwarae rhwng John a Huw. Dewis digon hawdd ar y cyfan, er imi orfod troi nghof nôl sbel i’w gofio’n chwarae. Roedd Ieuan Lloyd yn wythwr yn fy nhymor cyntaf a’r Clwb, a dim ond am un tymor y cefais y pleser o chwarae gydag e, cyn i anaf i’w ysgwydd ddod â diwedd cynnar i’w yrfa. Efallai mai’r peth gwaetha’ am y diweddglo cynnar i’w yrfa oedd y ffaith iddo dderbyn rôl fel hyfforddwr y Clwb. Ar y pryd, heb fod yn ugain oed, ro’n i’n eitha’ ffit, ond ro’n i’n teimlo’n flin dros rai o’r bechgyn hŷn. Doedd hi’n fawr o syndod i Wyn Lewis ei enwi’n Dr. Mengele. Ar gaeau Llandaf, uwchben y cwrs golff tuag at ysgol Howells, mae 'na riw serth. Ar ddiwedd y sesiynau canol haf, cyn i’r tymor ddechrau, byddai Ieuan yn ein harwain ni yno, ac yn hytrach na gofyn inni redeg lan a lawr y rhiw, byddai’n mynnu’n bod ni’n cario bois ar ein cefnau ni tra’n bod ni wrthi. Byddai’r esgusodion yn llifo cyn cerdded tuag at y rhiw yna.
Ond nid fel hyfforddwr y dylwn ni gofio Ieuan. Fel chwaraewr, welais i neb oedd yn gallu codi o gefn y sgrym a rhedeg trwy bobl yn yr un ffordd. Fel wythwr, byddai John Hayes yn defnyddio’i gyflymdra yn ogystal â’i gryfder i ennill tir. Roedd Ieuan yn fwy direct yn ei steil, ac yn llwyddiannus fel hyn hefyd. Roedd e wedi meistroli rhoi ei ysgwydd yn isel fel nad oedd amddiffynwyr yn gallu ei lorio, ac roedd hi’n bleser godi o sgrym i’w weld yn ennill tir gyda dau neu dri pherson ar ei gefn. O’r safbwynt hyn, efallai y gallwn ei gymharu â Scott Quinnell presennol, er nad oedd Ieuan yn cario’r un faint o bwysau. Un elfen arall lle mae chwarae’r ddau hwn yn wahanol yw ei gyfraniad i’r leiniau. Roedd Ieuan yn feistr wrth gefn y lein, yn y dyddiau pan nad oedd neb yn codi. Roedd e wedi chwarae’n hir i werthfawrogi pa mor fuddiol oedd defnyddio’r inside arm, ac roedd hyn, gyda thaflu Brian yn ffordd dda inni sicrhau ein pêl yn reit gyson.
Os am gymryd y tîm yma o ddifri, byddai un cyfraniad pwysig efo Ieuan, sef “edrych ar ôl” rhai o’i gydchwaraewyr. Gyda rhai o’r pretty boys fyddai’n rhedeg yn bert efo’r bel, byddai presenoldeb Ieuan yn sicrhau na fyddai neb yn cymryd gormod o fantais gorfforol. Roedd e’n un o’r rhai hynny oedd yn benderfynol o sefyll ei dir dim ots beth oedd yn dod tuag ato.
Cyn edrych at y cefnwyr, beth am air bach am yr “all-rounders” sy wedi bod o gwmpas; y chwaraewyr na allai’r Clwb fod wedi cario ‘mlaen hebddynt. Beth am rywun fel Geraint Roberts, neu Skip i bawb? Rwy’n cofio cwrdd â Geraint cyntaf ar bnawn Sadwrn yn gwylio cystadleuaeth 7 bob ochr yn Morganstown. Ro’n i’n hanner meddwl ar y pryd ei fod yn dad i un o’r chwaraewyr newydd. Wyddwn i ddim ar y pryd faint o gyfraniad y byddai’n gwneud fel chwaraewr a threfnwr dros y blynyddoedd i ddod. Bydd y rhan fwyaf yn ei gofio fel trefnydd y Vets am rai tymhorau, neu fel capten yr ail dîm. Fy atgof i ohono yw o un oedd yn fodlon chwarae yn unman os oedd hynny’n caniatáu gem i’w chwarae. Wrth gwrs, efo ni, roedd hynny yn meddwl chwarae prop, a bu wrthi yn gwneud hynny am dymhorau. Hyd yn oed ar ôl imi orffen chwarae, roedd e’n dal i gynnig ei hun i’r ail dîm os oedd prinder.
Ond imi yn bersonol, daith ei sacrifice fwyaf mewn gem yn erbyn Llanrumney. Roedd hi wedi bod yn dymor anodd o safbwynt rheng blaen. Roedd Dai wedi diflannu i Aber am flwyddyn, ac felly roedd hi’n fater o Kevin plus unrhyw un posib. Ond ar y diwrnod hwn, ar ddiwedd tymor yn Nhremorfa, doedd Kevin ddim ar gael a doedd neb arall o gwmpas chwaith. Roedd yr optiwn o ganslo’r gêm, ond roedd hi’n gêm gynghrair, a doedd neb yn siwr be’ fyddai’r gosb. Yn ogystal â hyn, roedd Llanrumney angen buddugoliaeth i symud fyny i’r Glamorgan League. Doedd pethau ddim yn argoeli’n dda.
Felly aed ati i ffonio’r ddau “last resort” props, Geraint, ac un arall o’r “all-rounders” ffyddlon, Clive Waldron. Roedd Clive yn un arall o’r flanker/second row if you’re desperate/prop if it means the game goes ahead, un arall o’r bois poblogaidd na fyddai byth yn ymarfer, ond oedd yn werth galwad ffôn ar y funud ola. Byddai cyfraniad Clive i’r Clwb yn estyn at gyfraniad ariannol yn ddiweddarach, er mwyn noddi’r crysau ag enw Lluniau Lliw. Er mawr syndod, roedd y ddau ar gael a phenderfynwyd chwarae’r gêm yn hytrach na chanslo, er nad oedd rhyw obaith mawr o ennill.
Wrth inni dwymo fyny, cytunwyd bod yn rhaid diogelu ein sgrym cymaint â phosib. Rwy’n cofio cerdded lan a lawr i siarad â phawb fel unigolion, yn mynnu bod dim camgymeriadau mân yn cael ei gwneud. No knock-ons, all lineout throws straight, ac yn y blaen, dyna oedd y bwriad. Fe enillwyd y toss, ac roedd pethau’n edrych yn dda wrth baratoi i ddechrau. Fe chwibanodd y dyfarnwr, ac rwy’n cofio’n glir, Rhidian yn cicio bant, a’r bel yn hedfan allan o’r chwarae ar ei union. “We’ll have a scrum on halfway, Ref” daith y floedd, ac o fewn rhyw 30 eiliad ro’n ni’n sgrymio am y tro cyntaf. Roedd y 79 munud nesa’n rhai hir, ond wrth gwrs, glywais i mo Geraint na Clive yn cwyno unwaith.
Un tebyg iawn i’r ddau yma oedd John Cronin. John, heb os, yw’r prop tala’ imi gofio yn ystod fy ngyrfa, un eto a ddylai fod wedi bod yn ail reng ond a ddatblygodd yn brop cyson wedi cytuno iddi unwaith. Un tebyg eto oedd Paul Thomas, er bod gan Paul mwy o siâp prop efallai. Roedd Paul yn un o’r rhai pryn hynny oedd yn chwarae dros y Clwb pan ddechreuais i chwarae oedd yn dal i fod yno wrth imi orffen. Roedd natur Paul yn un caredig iawn, ac mae’n anodd credu nawr imi’i weld e’n colli ei dymer unwaith sbel yn ôl wrth chwarae i’r ail dîm - dim byd yn ormodol cofiwch, ond yn sicr roedd e wedi gwylltio. Estynnwyd gyrfa Paul rhywfaint wedi iddo benderfynu dyfarnu am dymor. Galla’i ‘mond dychmygu beth oedd yn mynd trwy ei feddwl wrth geisio cadw trefn ar rai o fois Cardiff and District. Doedd hi’n fawr o syndod iddo ail-gydio yn ei fŵts i chwarae eto. Tua’r un adeg roedd Chris Pickles yn chwarae. Dwi ddim yn siwr pa safle ‘roedd Chris fod i chwarae, mewnwr efallai, ond roedd e’n un arall o’r rhai bodlon hynny fyddai’n chwarae yn y rheng ôl neu’r rheng flaen os oedd yn rhaid.
Yn fwy diweddar, daith chwaraewyr amryddawn o safon i’n plith ni. Roedd Martin Grundy wedi ymuno gyda bois Clwb Ifor Bach, ac roedd ei gyfraniad cymaint ag unrhyw un o’r crowd hynny. Roedd e’n flaenasgellwr o’i natur, ond wrth i’r blynyddoedd mynd yn eu blaen, fe ddechreuodd weithio’i ffordd ymhellach fyny’r sgrym. Ro’n i wastad yn teimlo mai un o’m rhinweddau i oedd ‘mod i’n ddigon hapus i roi ‘nghorff ar y lein i’r Clwb - ro’n i’n reit falch o hyn -ond roedd ymroddiad Martin yn fwy byth. Mae’r atgof ohono ar y llawr yn derbyn “shoeing” go dda gan flaenwyr BP yn glir yn y cof. “All in a day’s work” byddai ymateb Martin. Ond fel cyfraniad i’r Clwb, yr atgof mwya’ yw hynny ohono’n eistedd lawr efo fi a chapten y pryd, Meurig efallai, yn cynnig propio am weddill ei yrfa oherwydd ei fod yn sylweddoli fod yr ail reng a’r rheng ôl yn gryf, a bod gwendid yn y rheng flaen. Cafodd gem neu ddwy yno, ac roedd e jyst a bod yn dechrau ymdopi pan symudodd a’i gwaith i America.
Un arall a symudodd, fel Huw Hall, o’r cefnwyr i’r blaenwyr oedd Dyfrig Parri. Roedd Dyfrig wedi bod yn ganolwr da cyn iddo anafu’n gâs tra’n ymarfer ar gaeau Llandaf. Roedd hi’n anaf reit debyg, i’w weld, a hynny ddioddefodd Robin Ogwen. Y sôn oedd bod gyrfa Dyfrig ar ben, a bu allan o’r gêm am flwyddyn neu ddwy. Pan ail ymunodd a’r Clwb, rywsut neu'i gilydd cafodd ei ddewis i chwarae yn y rheng ôl ar gyfer gem yn erbyn Yr Eglwys Newydd ar Gaedelyn. Rwy’n cofio’n glir y prawf cynta’ imi roi iddo. Imi, y disgwyl oedd na fyddai ganddo, fel cefnwr yn ôl ei natur, y dewrder i fod yn flaenwr da. Felly, wedi i dafliad i’r lein hedfan uwch ein pennau, Dyfrig oedd yn agosáu at y bel cyntaf, wrth i un o’u cefnwyr nhw ymestyn i gicio’r bel rhydd. “Cwymp arni” oedd fy ngorchymyn. Unwaith imi’i weld yn taflu’i hyn ar y bel rhydd dan draed ei chwaraewr nhw, ro’n i’n gwybod ar unwaith fod blaenwr teilwng wedi dod i’n plith. Pan ganiatawyd codi yn y leiniau’n, fe ddaeth Dyfrig yn aelod amlwg o’r pac, fel un oedd yn ddigon ysgafn i’w godi ond oedd a dwylo digon da i drafod y bel a sicrhau meddiant da inni.
Am rywun a oedd a’i yrfa ar ben rhyw ddegawd yn ôl, mae e wedi parhau yn arbennig, ac mae e’n dal i gyfrannu hyd heddiw. Yn wir, galla’i mond meddwl amdano fe a Dafydd Emyr a gynrychiolodd y Clwb yn yr wythdegau a hefyd yn y flwyddyn 2000. Y gwahaniaeth yw na chwaraeodd Dafydd o gwbl drwy’r nawdegau! Trwy gydol yr amser hwn, sgwn i sawl pâr o shorts y mai wedi distrywio?
Un arall a fu ar y cyffiniau drwy’r tymhorau diweddar yw Rob Dayton-Jones, a fu yno os oedd yn rhaid. Daith ei gyfle mawr pan aeth y Clwb i Borthmadog ar gyfer ei gem cwpan. Ro’n ni’n fyr o chwaraewyr, a Rob oedd yr unig eilydd. Roedd e’n bownd o chwarae felly. Wrth yr ymyl, roedd Vaseline dros ei wyneb, a thâp rownd ei ben wrth iddo gadw’n dwym. A ddaeth ei gyfle? Na. Roedd hi’n un o’r diwrnodau pryn hynny pan na anafwyd neb, ac fe aeth ei gyfle heibio.
Ond os am chwilio am y chwaraewr mwyaf versatile a thalentog, does dim angen chwilio 'mhellach nag Alun Coch(Evans?) Y tro cyntaf imi gwrdd ag Alun oedd wrth ymarfer yn Llys Talybont. Roedd Alun yn ymarfer, ond doedd e ddim yn chwarae. Ro’n i, fel unigolyn, yn ymarfer yn dawel ac yn “mynd trwy’r motions”, yn enwedig gyda’r gemau semi-opposed ar y diwedd. Wedi’r cyfan, roedd hi’n gallu bod yn oer ac yn wlyb yno. Ond roedd Alun yn cymryd pethau’n ddifrifol iawn, yn ymosod a thaclo’n gadarn iawn. Doedd fy argraff gyntaf ohono ddim yn bositif iawn felly.
Ond fe newidiodd hyn wedi iddo ddechrau chwarae dros y clwb. Roedd yn amlwg ei fod yn chwaraewr o safon, a’r sôn oedd ei fod wedi chwarae dros ysgolion Cymru, neu rywbeth tebyg. Roedd hi’n beth da hefyd ar y pryd ei fod yn fwy na bodlon, efallai’n hapusach, i chwarae i’r ail dîm. O beth i’w gilydd, fe ddechreuodd chwarae’n fwy a mwy i’r tîm cyntaf, ac yn fwy a mwy mewn safleoedd gwahanol. Doedd hi ddim yn syndod i’w weld yn chwarae fel asgellwr i’r tîm cyntaf ar un Sadwrn, ac fel prop i’r ail dîm yr wythnos wedyn, neu’n flaenasgellwr un wythnos, ac yn ganolwr y nesa’. Roedd ei gyfraniad fel hyn yn anferth, a byddai’n cyfrannu’n hael i’r naill dim neu’r llall. A’r atgof fydd gan y rhan fwyaf ohono' ni ohono ar y cae, fydd hynny ohono’n dal y bel. Petai rhywun yn dyfeisio one-handed rugby, byddai Alun yn gapten ar ei wlad. Rwy’n siwr ei fod yn chwarae gyda’r ffilosoffi o “why use two hands when one will do”.
Felly, ‘mlaen a ni at y glory boys, y cefnwyr. I fod yn deg, ac er ei fod yn mynd yn groes i’r graen i’w ddweud, bu sawl adeg pan enillwyd gemau y dylid fod wedi’u colli oherwydd safon y cefnwyr. Roedd pob tîm yn yr ardal yn gwerthfawrogi ein bod ni’n wrthwynebwyr peryglus dim ots pa mor fach a gwan oedd y pac oherwydd y tebygrwydd y gallai’r cefnwyr greu rhywbeth o ddim. Roedd hi’n bleser cael eu gwylio’n trafod y bel, nid dim ond i ni fel blaenwyr, ond mae’n siwr i unrhyw un oedd yn gwylio o ymyl y cae. Roedd hi’n fater o falchder i ni gyd fod enw’r Clwb yn cael ei gysylltu â rygbi da trwy’r brifddinas ac ymhellach. Wedi imi orffen chwarae, fe drafodais efo hyfforddwr Caerau Ely safonau’r ddau dîm, a’i farn e oedd petai ei bac e wedi chwarae gyda’n cefnwyr ni, byddai’r tîm wedi bod mor gryf ag unrhyw dim arall yng Nghymru ar y lefel hon. Gallwn i ddim anghytuno, er nad o’n i’n awyddus iawn i roi go arni!
Ac felly pwy oedd y rhai oedd yn cysylltu’r paciau gwan efo’r bacs cryf. Wrth imi ddechrau ‘da’r Clwb, roedd Huw Davies, Butchie’n, gapten ac yn fewnwr. Asgellwr oedd Butchie yn bennaf, oedd wedi datblygu yn fewnwr, a byddai’n symud nôl i’r asgell yn ddiweddarach yn ei yrfa. Ei brif rinweddau oedd ei gyflymder, a’i barodrwydd i dderbyn ei fod yn debyg o dderbyn digon o bêl wael. Roedd y ffaith ei fod yn adnabod steil y Clwb yn fantais iddo. Byddai mewnwyr eraill yn ymuno dros y tymhorau, yn disgwyl i bob lein cael ei gymryd a dwy law, cyn ffurfio sgarmes symudol i ennill rhagor o dir. Roedd Butchie’n fwy realistig, ac yn gwybod y byddai’n ffodus i dderbyn tapped ball wrth ei sodlau, gyda blaenasgellwr yn ei dargedu. Daith ei foment fawr lawr yn Nhregaron, wrth iddo dorri’n rhydd a sgorio o bell.
Wrth i’w yrfa ddirwyn i ben, cefais y fraint o fod yn gapten ar y clwb tra’i fod yn hyfforddi am ddau dymor, ac roedd ei bresenoldeb yn holl bwysig wrth inni fynd trwy gyfnod o newid mawr. Roedd e’n dal i chwarae ar brydiau’r adeg hyn, ac fe gymerodd y cam mawr o ffurfio tîm y CROCCs, a’i rhedeg am y tymhorau cyntaf. Roedd hi’n drist felly i’w yrfa ddod i ben unwaith ac am byth, gydag anaf cas tra’n cynrychioli’r CROCCs.
Wrth i Butchie orffen chwarae a symud allan i’r asgell, cyrhaeddodd Terry Jones, neu Terry Bach i bawb. Roedd Terry’n fewnwr typical, pass da, digon o gyflymder a digon o chops. Roedd e’n un ifanc, ac fe ddysgais lawer oddiwrtho, wedi symud i’r rheng ôl wedi i Ieuan Lloyd orffen chwarae. Roedd e’n un da i godi ysbryd y tîm, ac yn un oedd yn cyfrannu i’r ochr gymdeithasol ar nosweithiau Sadwrn.
Roedd Terry yn gyfrifol yn bennaf i gynllunio un o’r symudiadau syml hynny a weithiodd tro cyntaf ar y cae. Roedden ni ar ein ffordd lawr i chwarae ail dim Pontiets ar nos Fercher canol tymor dan oleuadau. Roedd Terry a finne’n trafod tactegau, ac fe awgrymodd os y byddai sgrym ar ochr chwith y cae, y dylwn i godi’r bel a mynd yn dywyll, trwy droi nghefn at y mewnwr a’u blaenasgellwr. Wrth wneud hyn a’u cymryd nhw allan o’r gêm, roedd angen pop-pass i Terry oedd yn dod y tu ôl imi, a byddai fe ac Emyr Jones yn glir yn erbyn ei asgellwr de nhw. Roedd y syniad yn iawn, ond do’n i ddim yn disgwyl iddi weithio. Wel wrth gwrs, ychydig fewn i’r ail hanner daith sgrym inni ar linell ddeg Pontiets, rhyw ddegllath o’r ystlys. Fe fachodd Brian yn llwyddiannus, ac roedd y bel wrth fy nhraed. Fe godais i, a symud i’r chwith a chefn i’w amddiffyn, pop-pass bach, ac roedd Terry’n glir. Fe dynnodd Terry’r cefnwr, cyn rhoi pàs i Emyr ac fe ddiflannodd e dan y pyst. Roedd hi’n syml, ond dwi byth ond cofio’r symudiad yn gweithio ‘to. Mae’n od sut mae un symudiad syml wedi aros yn y cof cyhyd - naill ai’n od neu’n drist!
Yn fwy diweddar, un tebyg, ond efo mwy o aggression oedd Steve Wilshaw. Rwy’n cofio gwylio Steve cyntaf yn chwarae i’r ail dîm fel rhywun oedd a rhywbeth i’w brofi, ac yn ymddangos ymhobman ar y cae. Wedi symud i’r tîm cyntaf, roedd ei natur gystadleuol yn holl bwysig ar ein teithiau poblogaidd i lefydd fel Barry Plastics. Ond roedd hi’n amlwg bod Steve yn rhwystredig iawn o’r ffaith nad oedd pac cryf o’i flaen, ac nad oedd yn debyg o ennill dim byd. Roedd hyn yn biti, gan mai Steve oedd y fath o chwaraewr oedd yn ddigon cryf a phenderfynol i lwyddo gyda ni, a ro’n ni gyd yn siomedig pan benderfynodd adael y clwb, ac yn fwy siomedig fyth i glywed ei fod yn bwriadu ymuno a Fairwater.
Fe gyrhaeddodd Phil James y Clwb gyda bechgyn Clwb Ifor Bach, wedi i’w clwb nhw chwalu. Y blaenwyr, fel Robin a Grundy oedd yn bwysig i ddechrau, ond cyn bo hir, fe ymddangosodd y byddai Phil yn aelod pwysig hefyd. Roedd e’n fewnwr trefnus, heb unrhyw frills, ac yn un oedd yn ddigon hapus i roi ei gorff ar y lein a thaclo blaenwyr mawr. Doedd e heb greu rhyw argraff fawr arna’i nes inni deithio i Drefforest i chwarae’r Poli. Am ryw reswm y noson honno, fe sylweddolais i fod ganddo’r rhinweddau i wneud capten da inni, a dyna fel y bu y tymor canlynol. Un tebyg yn ei ffordd oedd Dai Morris. Roedd y ddau’n fewnwyr oedd a digon i ddweud, ond efallai bod Dai’n ‘chydig yn fwy naturiol fel mewnwr - byddai Phil wedi gwneud blaenwr da hefyd. Roedd hi’n drueni fod dau fewnwr da efo ni ar yr un adeg, a doedd hi’n fawr o syndod i Dai adael y clwb wedi i Phil gael ei ethol yn gapten. Roedd ei gyfraniad i St.Peters, ar ac oddi-ar y cae, yn fawr, ac fe welwyd ei golled yn y ffordd yma am amser hir. Roedd hi’n beth da iddo gadw cysylltiad â’r clwb ar daith am sawl tymor wedi iddo adael. Roedd e’n un o’r rhai hynny, fel Neil, Martin Kitchener, Benny ac eraill oedd yn deithwyr cyson, ac roedd croeso cynnes iddynt bob tymor.
Ymysg y rhai eraill, beth am Gareth Harvey, mewnwr taclus - un oedd yn gwneud penderfyniadau call, dim gwell efallai na hynny i roi’r gorau i chwarae wrth ystyried y timoedd oedd yn ein herbyn. Neu beth am Pete Rowlands, meddyg tawel â’r un lliw gwallt a Stumpy, ond eto fel Stumpy’n dwyllodrus o gyflym. Nol yn yr Wythdegau, roedd dau fewnwr gwbl wahanol ei steil a’i maint. Wyn Bach Davies, mewnwr clasurol byddai’n chwarae’n ddi-nonsens yn cyfuno’r blaenwyr a’r cefnwyr, a dim ond yn bylchu ar ambell dro, neu Alun Humphries, neu Huw Chiswell, oedd a maint a chryfder, a natur bwrpasol a phenderfynol ac yn rhedeg a’r bel yn gyson. Efallai y gallwn gymharu’r ddau fel Robert Jones a Terry Holmes y clwb yn yr wythdegau.
Wrth ddod nôl i’r nawdegau, pwy allai anghofio Rhys Jones(Bala), un cofiadwy am fod yn sâl dwywaith. Y tro cyntaf, wedi iddo ennill yard of ale yn erbyn rhyw glwb a phencadlys oddi ar City Rd. Fe yfodd Rhys ‘chydig o’r cwrw, cyn iddo fod yn sâl fewn i’r yard, cyn ceisio ail-ddechrau yfed eto. Doedd hi ddim yn bleserus i’w weld. Do’n i ddim yno’r ail dro pan gafodd concussion ar y cae, ac fe glywais iddo chwydu’n drwm wrth ochr y cae, cyn ceisio dod nôl ‘mlaen. Yn ôl pob sôn bu Stumpy ar fwyaf effro i’w gadw o’r cae. Fel chwaraewr, roedd Rhys yn debyg i sawl un o’n mewnwyr, yn ddigon bodlon delio a phêl wael a’i thacluso cyn dosbarthu. Cyn symud mlaen, rhaid dweud gair am Andy Lade, a drodd lan am ei sesiwn ymarfer cyntaf, a ni’n benderfynol fod prop newydd wedi cyrraedd, hyd nes iddo egluro’i fod yn fewnwr. Nid Andy oedd y mewnwr gorau a welais i dros y tymhorau o chwarae, ond roedd e’n ymroi ei hun i unrhyw gêm cant y cant, boed hynny i’r tîm cyntaf neu’r ail. Fe ddatblygodd hefyd yn drefnydd pwysig o nosweithiau’r clwb, ac roedd ei gysylltiadau yn yr Horse and Groom yn fuddiol am sawl tymor.
Sy’n ein gadael ni a dau fewnwr, ac mae dewis rhwng y ddau’n ddigon anodd. Ar y fainc felly byddai Dave Jones. Dwi ddim yn siwr iawn sut ymunodd Dave a’r Clwb, ond doedd hi ddim yn hir nes iddo brofi ei hun yn aelod pwysig. Roedd e’n fewnwr cryf oedd yn ddigon cyffyrddus yn rhedeg a’r bel, ond eto oedd a holl sgiliau traddodiadol mewnwr - pasio da, cicio, cyflymdra a hunanhyder. Yn anffodus iddo fe, roedd e ‘chydig bach yn rhy ddoeth i fod yn chwarae ar y lefel hyn, a galla’i ddychmygu iddo weld digonedd o ddrygioni’n digwydd o’i flaen. Doedd hi ddim felly’n syndod mawr iddo ddiflannu’n sydyn ar ddiwedd tymor, a mynd nôl i fwynhau chwarae golff ar ddyddiau Sadwrn yn hytrach na theithio i Drelái neu Barri. Ei gyfraniad ddiwetha’ ar y cae oedd ar daith yn erbyn Brest, ac mewn ffordd, mae’n bosib ei fod wedi dewis yr amser hynny fel amser da i roi’r gorau iddi. Roedd hi wedi bod yn daith gofiadwy, a ro’n ni wedi ennill gem agos, a dwi’n meddwl fod Dave wedi mwynhau mas draw. Roedd hi’n amser da i orffen mae’n siwr.
Roedd Dave yn gymeriad siaradus ar y cae, ond lawer tawelach oddi arni. Roedd ein prif fewnwr o’r un fath. Erbyn hyn, mae’n anodd cofio’n union beth oedd rhinweddau Gwydion Lewis. Dw’i ddim yn cofio’r un bylchiad, neu gais neu rediad arbennig. Ond dw’i yn cofio bod yna rywbeth arbennig yn ei chwarae. Roedd e’n dawel ac yn ddiymhongar ond roedd e’n gyswllt arbennig rhwng y blaenwyr a’r cefnwyr. Dim ond am ryw hanner tymor bu’n chwarae dros y Clwb, ond wrth edrych nôl ar ein taith i’r Drenewydd, roedd pob un o’r gweddill ohono' ni’n sylweddoli cymaint o effaith a gafodd ar weddill y tîm. Roedd ganddo’r sgiliau syml. Roedd e’n chwim, roedd ei bas yn hir a chyflym, felly’n helpu bwriad y cefnwyr o redeg y bel, ac roedd ganddo ymennydd mewnwr. Roedd hyn yn ei alluogi i ymateb yn gyflym, ac i ragweld beth oedd yn mynd i ddigwydd iddo gael paratoi’i hun. Roedd ei golled lan yn y Drenewydd yn anferth. Ro’n ni wedi dechrau’n gryf, ac am chwarter awr wedi bod ynghlwm yn ei dwy-ar-hugain. Roedden ni fel pac yn ennill pêl, ac roedd Gwydion yn bwydo Dafydd Emyr mor gyflym, roedd cymaint o amser iddo fe ennill tir efo’i giciau mawr. Ond mewn un eiliad trist, fe drodd y gêm ar ei phen. Anafwyd Gwydion, ac er na sylweddolo’n ni ar y pryd, lwyddo’n ni ddim i gyrraedd safon y chwarter awr agoriadol eto. Fel yr eglurais i, dwi ddim yn gwybod y rhesymau pam, ond does gen i ddim ansicrwydd mai Gwydion fyddai mewnwr y tîm hwn.
Mae dewis maswr wedi cael ei selio ar ddewis y ddau ganolwr. Wedi penderfynu ar ddau ganolwr cadarn, y penderfyniad oedd dewis rhedwr o faswr. Yn sgil hyn, mae Meurig Phillips yn methu â chael lle yn y tîm, sy’n anffodus wrth inni ystyried cyfraniad Meurig dros y blynyddoedd. Efallai inni feddwl am Meurig yn debyg i Neil Jenkins, yn giciwr o fry nad oedd yn gallu rhedeg a’r bel. Mae hyn ‘chydig bach yn rhy syml. Roedd safon ei gicio yn uchel iawn, boed hynny o’r llawr neu o’i ddwylo. Wyddwn i ddim sawl gwaith imi godi o sgrym amddiffynnol ar ein lein ein hunain, a throi i weld y bel yn hedfan o’i droed a glanio hanner can llath lawr y cae dros ben cefnwr syn y gwrthwynebwyr. A sawl gwaith a allwn gofio Meurig yn anelu at y pyst o hanner ffordd i gyfrannu triphwynt arall i’n cyfanswm. Pethau fel hyn, neu’r dyddiau prin hynny pan nad oedd ei gicio ar ei orau, sy’n aros yn y cof, yn hytrach na’r atgofion ohono’n rhedeg a’r bel neu’n gweld cyfle i weddill y cefnwyr redeg a’r bel. Er yn giciwr o fry, roedd e’n un oedd yn deall ethos y clwb o redeg y bel o bobman, neu efallai’n ddigon syml ei fod yn deall mai dyna’r gobaith orau oedd gynno’ ni i ennill y gêm.
Oddi ar y cae, roedd ei gyfraniad yn fawr hefyd. Bu’n gapten am ddau dymor, ac rwy’n cofio’i ymroddiad ar y pryd o arwain sesiynau ymarfer yng Nglantaf yn absenoldeb hyfforddwr. Roedd ei ffitrwydd a’i arweiniad yn ddigon i wneud inni gyd deimlo’n euog. Yn ogystal â hyn, bu na’r un chwaraewr a ddaeth a gwen i ngwyneb i gymaint â Meurig. Roedd yr hiwmor naill ai’n blentynnaidd neu’n debyg i Viz, gyda dychymig eang, ond roedd hi’n ddoniol dim ots at bwy ‘roedd wedi’i anelu. Ond er hyn oll, a dim ots pa mor boblogaidd oedd Meurig, nid fe sy’n mynd i wisgo’r rhif deg!
Maswr gwbl wahanol oedd Huw Jones. Bu Huw nôl efo’r clwb am ddau dymor nôl tua dechrau’r wythdegau, cyn i’w anaf, y gwaetha’ y gwelais i ‘rioed, dod â’i yrfa i ben. Roedd hi’n gêm yn erbyn myfyrwyr Cyncoed lawr yn Llandaf pan dorrodd ei goes, ac mae ehangder yr anaf yn glir wrth gofio i’r gêm gael ei ohirio’n syth. Wrth imi gerdded tuag at Huw yn gorwedd ar y llawr, daith Charlie ataf i awgrymu imi beidio â mynd i edrych oherwydd natur yr anaf. Roedd hi’n ddiwedd trist i Huw.
Ar y cae, roedd Huw yn enillydd arall, nad oedd yn fodlon diodde’ neb yn rhoi llai na chant y cant. Rwy’n cofio’r tro cyntaf imi chwarae gydag e, a fe’n rhedeg at y sgrym i bwyso ar fy nghefn a gwaeddi “plyga dy goesau…ti’n rhy uchel”. I fod yn deg, roedd ei safonau’n uchel, a doedd e ddim am dderbyn llai na’r gorau. Roedd yr un safonau’n perthyn i’w chwarae fe’i hunan, a fe oedd y critig mwya’ o’i chwarae’i hun. Roedd hi hefyd yn fater o fwynhad i wrando ar y ddau frawd, fe ac Emyr yn gwaeddi arnynt ei gilydd, gyda Huw yn frawd hŷn yn dweud y drefn, ac Emyr fel brawd ifanc drwg nad oedd yn fodlon gwrando ar ei frawd mawr.
Ond am ryw reswm, mae un eiliad o chwarae Huw wedi aros yn y cof ers bron 20 mlynedd. Ro’n ni lan yn chwarae yn erbyn Blaenafon Forgeside (am ryw reswm) ac fel arfer, dan bwysau. Ond, ar yr adeg hon, ro’n ni’n ymosod lan ochr dde y cae. Ro’n ni o fewn ei dwy-ar-hugain pan gollwyd y bel, ac fe giciodd un o’i amddiffynwyr y bel tuag at hanner ffordd. Wrth i ni fel pac droi nôl i gynnig help, Huw oedd y cyntaf i gyrraedd y bel, a neb o’n tîm ni’n agos ato, heblaw am rywun, Emyr efallai, ymhell mas i’r chwith. Fe ddalodd Huw'r bel yn agos i’r ystlys dde, ac roedd rhyw dri ymosodwr yn agosáu ato. Fe siapiodd i daflu pàs anferth tuag at Emyr, cyn dal 'mlaen at y bel a thaflu dummy. Fe “brynwyd” y dummy gan y tri ymosodwr, ac fe aeth Huw ar ei ffordd. Mae ceisio egluro’r foment ar bapur yn amhosib, ond mae’r atgof o weld tri chwaraewr Forgeside wedi’u twyllo yn gofiadwy iawn. Byddai’r Western Mail wedi’i ddisgrifio fel “outrageous dummy”, a dyna fel yr oedd hi.
Roedd Steve Lewis ar y llaw arall yn faswr tawel a di-frills, ond oedd yn un a gweledigaeth dda. Doedd e ddim yn un oedd yn debyg o redeg a’r bel ei hunan, yn hytrach roedd e’n gwybod fod cryfder gennym y tu fas iddo fyddai’n dod â’r rheng ôl chwim i mewn i’r gêm. Fel canlyniad, roedd Steve yn fwy o gyswllt na rhywun fel Huw er enghraifft, naill ai’n dosbarthu at y rhai hynny y tu fas iddo, neu’n cicio’n ddiogel. Roedd yna wahaniaeth rhyngddo fe a Meurig yn yr agwedd hon. Roedd cicio Meurig yn bownd o fod yn hir, ond ar brydiau, byddai’n methu canfod yr ystlys. Ar y llaw arall, gyda Steve, roedd y gic yn debyg o fod yn fyrrach, ond yn anaml iawn y byddai’r gic yn methu’r marc. Roedd Steve gyda’r chwaraewyr mwyaf anffodus, wrth iddo chwarae bron pob gem yn ystod y tymor hwnnw â’r rhediad cwpan, ond imi ei adael allan o’r tîm ar gyfer y gemau mawr oherwydd bod Dafydd Emyr ar gael. Roedd Steve yn haeddu mwy na hynny, ac rwy’n dal i deimlo ‘mod i wedi gwneud cam ag ef. Roedd Dafydd wrth gwrs yn chwaraewr gwbl wahanol, a allai fod, er tegwch imi, wedi ennill y gêm honno yn y Drenewydd. Roedd e’n fawr ac yn gryf, roedd ei droed chwith yn saethu’r bel ymhell lawr y cae, roedd e’n siaradus, ac wrth gwrs roedd ganddo gymaint o hyder. Roedd hi’n od wrth edrych nôl, imi ystyried nad oedd calon Dafydd efo’r clwb ar y pryd, efallai oherwydd ei fod yn gwybod fod ganddo’r dalent i chwarae safon yn uwch. Pan gyrhaeddodd tymor 2000, roedd Dafydd wedi ail-ymuno a’r Clwb i gael tymor neu ddwy arall o rygbi, a ro’n i’n sylweddoli erbyn hyn, gyda’i galon yn mynnu cyfrannu 100%, ei fod yn chwarae rygbi gwell nag y gwelais i e’n chwarae ‘rioed.
Pan ymunais i a’r Clwb, maswr y pryd oedd Ieuan Walters. Roedd Ieuan yn debyg i Steve Lewis yn ei ffordd - dim ffrils, un oedd yn hapus i adael i’r rhai oedd o’i gwmpas i wneud y pethau ffansi. Roedd ei gyfraniad i’r Clwb yn amlwg, wrth iddo dderbyn gwobr ar ddiwedd un tymor i’w ganmol am chwarae mwy o gemau i’r tîm cyntaf yn hanes y clwb. Mae’n drist i raddau nad oes neb yn cadw’r math yma o ffeithiau i asesu cymaint o gemau mae rhai unigolion wedi chwarae dros y tymhorau. Wrth i yrfa Ieuan ddod i ben, roedd Wyn Thomas, canolwr neu’n faswr, wedi ymuno. Roedd Wyn yn faswr cyflawn, un arall heb ryw lawer o ffrills, ond yn un oedd yn darllen y gêm yn dda, ac yn dosbarthu a chicio’n ddiogel. Roedd hi’n drist iddo ddiflannu’n sydyn nôl i’r Gorllewin heb gyfle i ffarwelio a’r Clwb.
Rhai eraill a wisgodd crys rhif deg dros y blynyddoedd oedd cymeriadau fel Nigel Harrington a Chris Price, meddyg oedd yn debyg iawn ymhob ffordd i Gareth Rees, maswr Canada. Wedi hynny, daith Caron Iolo am dymor neu ddwy. Roedd Caron yn debyg i Wyn; roedd e’n hunan-hyderus, yn darllen gem yn dda, ac yn ymddangos fod ganddo amser i drafod y bel trwy’r amser, ac wrth ystyried y fath o bêl ro’ ni’n dosbarthu mas iddo fe, roedd hynny’n syndod. Mae’n od fod yr atgof cliriaf sy’ gen i ohono ar gae rygbi oedd ei wylio fe a Stumpy yn rhedeg nerth eu traed a phasio hyd y cae wrth inni ymarfer ar Landaf cyn dechrau un tymor.
Wrth agosáu at y presennol, mae un cymeriad arall yn dod i’r meddwl, un a oedd gan amla’n cael ei ddewis i’r ail dîm, ond na fyddai byth yn gadael y tîm cynta’ lawr pan fo’r galw. Roedd Rupert Jones yn un arall o’r chwaraewyr hynny oedd a gwên gyson ar ei wyneb, hyd yn oed pan mai fe oedd testun yr hiwmor. Fe ddefnyddiodd ei safle fel maswr i’w ddefnydd ei hun yn ystod tymor y tîm ffantasi. Roedd e’n gyson i’w weld yn ceisio ciciau adlam annhebygol iawn gan fod gôl adlam yn werthfawr iawn iddo gyda dull sgorio’r ffantasi. Ond fyddai’n annheg awgrymu na fyddai’n cymryd gemau o ddifri. Dan yr amgylchiadau iawn, a phan fo’r angen, roedd Rupert yn ddigon abl i reoli gêm, ac yn ddigon cyson byddai’r bêl yn diflannu lawr i “cow corner” oddi ar ei droed chwith. Dangoswyd ei ymroddiad i’r Clwb ar ôl imi orffen chwarae, pan drodd Rupert fyny i wylio gem yn ei ddillad cyffredin. Anafwyd Angus, ac fel arfer doedd dim eilydd ar gael, ac felly heb ailfeddwl, fe newidiodd Rupert fewn i unrhyw bâr o shorts a bŵts oedd ar gael er mwyn sicrhau na fyddai’r Clwb yn chwarae’n fyr yn ystod yr ail hanner.
Ond wedi’r cyfan, fy newis fel maswr fyddai Rhidian Lloyd. Roedd Rhidian yn debyg iawn i Huw Jones, a phe bawn i wedi gweld mwy o Huw yn chwarae, mae’n bosib y byddwn wedi mynd amdano yn lle. Roedd chwarae gyda, a gwylio Rhidan yn chwarae yn destun pleserus ar bob adeg. Roedd e’n bwyllog ac yn darllen y gêm yn dda, yn giciwr da o’i ddwylo, ac yn rhedwr twyllodrus. Ar ei orau roedd e’n gallu rheoli gêm a’i redeg twyllodrus. Yn gyson, Rhidian oedd catalydd perfformiad agored a chyflym yn null traddodiadol y clwb. Roedd hi’n drist iddo adael y Clwb pan oedd yn agosáu at ei orau, ond i’r gwrthwyneb i rai eraill, ro’n i’n deall ei resymau. Roedd e wedi bod yn gapten ar y clwb am ddau dymor anodd yn fuan ar ôl i sawl un ohonom orffen chwarae, pan oedd niferoedd y chwaraewyr yn brin iawn. Ond ni adawodd hyn fyth i ymyrryd ar ei ymroddiad cyson i’w gydchwaraewyr.
Rhidian hefyd gododd statws y Clwb, wrth gael ei ddewis i chwarae dros Gymru tra’n aelod o’r Clwb. Anghofia’i fyth y gêm a chwaraewyd wythnos cyn ei gap cyntaf, pan ei anafwyd wrth geisio’i orau i amddiffyn gem lle’r oedd y clwb yn sicr o golli. Fe allai fod wedi peidio chwarae, ond fyddai hynny wedi gadael ei ffrindiau lawr, ac felly fe adawodd y cae y p’nawn hwnnw wedi troi ei ben-glin. Mae’n siwr na ddylai fod wedi chwarae’r gêm ryngwladol, ond fe wnaeth, a dod â chlod i’r Clwb. Yn wir, doedd dim llawer o chwaraewyr y Clwb yn awyddus i chwarae dros ardal Caerdydd, am bob math o resymau, ac felly roedd hi’n braf bod un o’n cydchwaraewyr yn ddigon hyderus i adnabod ei dalent, ac i lwyddo gwneud cymaint o’r dalent yma ag oedd yn bosib. Efallai bod sawl cyn-chwaraewr yn difaru peidio â cheisio ymestyn eu hunain i geisio cynrychioli tîm yr ardal.
Fe adawodd Rhidian er mwyn ceisio chwarae ar lefel uwch. Roedd hyn yn deg. Ro’n ni wedi ei werthfawrogi am sawl tymor, ac roedd pawb yn gwybod y byddai’r Clwb yn parhau i fod yn bwysig iddo. Y trueni mawr oedd iddo ddewis chwarae i Canton, lle na fyddai ei sgiliau rhedeg yn cael ei gwerthfawrogi rhyw lawer. Roedd hi hefyd yn anodd i’w dderbyn i rai ohono’ ni’r hen chwaraewyr, oedd dal yn trin Canton fel yr hen elyn oedd yn chwarae ar y cae ar ein pwys ni. Roedd hi fel pêl-droediwr yn symud o Lerpŵl i Everton!
Ymlaen a ni at ganolwyr y Clwb, ac wrth gwrs, mae digonedd ohonynt wedi bod, os am gynnwys yr “utility backs” sy wedi mwynhau prynhawn neu ddwy yng nghanol y cefnwyr. Mae’n anodd ceisio cofio pwy oedd yno yn ystod y dyddiau cynnar nôl yn yr wythdegau. Roedd y Clwb yn llawn doctoriaid ar y pryd, a chafwyd un adeg pan oedd y ddau Andy, Bradley a James yn gwisgo’r rhifau 12 a 13. Roedd y ddau’n ganolwyr dibynadwy yn fwy na dim, a’r unig atgof o fod mewn gem gyda’n nhw oedd Andy James yn cael ei anfon o’r maes ar gaeau Llandaf. Mae’r atgof ohono’n ymladd o dan y goeden, a’i wyneb syn wrth sylweddoli ei fod yn gorfod mynd nôl i’r cawodydd yn glir yn y cof. Pwy fyddai’n credu y byddai ‘mond rhyw dri neu bedwar chwaraewr yn ymuno â’r criw pryn yma i dderbyn y garden goch dros y 15 mlynedd nesa’?
Rhai eraill o’r adeg hynny oedd cymeriadau fel Nigel Harrington a Mike Evans, a oedd, erbyn i mi gyrraedd, yn chwarae gan aml’ i’r ail dîm, ond a fyddai’n symud fyny i’r tîm cyntaf yn ddigon cyfforddus pan oedd angen. Roedd Tony Morgan a Beuno Hughes yn llenwi ar adegau, er rhyw dymor neu ddwy ar ôl imi ymuno, daith Beuno’n aelod cyson o’r tîm cyntaf. ‘Dwi ddim yn credu i bawb werthfawrogi sgiliau Beuno. Roedd ganddo ddwylo da, a gweledigaeth arbennig. Roedd e’n deall pan oedd hi’n well i gicio yn hytrach na phasio. Rwy’n cofio hefyd pa mor gadarn oedd ei daclo hefyd, er nad yn fawr ei faint. Techneg dda fyddwn i’n awgrymu. Fel un oedd yn deall rygbi’n dda, efallai nad oedd pawb arall ar yr un lefel a fe, ac mae’n bosib y gallai hyn fod wedi achosi problemau iddo. Rwy’n cofio un gêm yn erbyn yr Eglwys Newydd ar Gaedelyn, pan geisiodd Beuno bas nôl y tu cefn iddo. Doedd neb o’n tîm ni wedi disgwyl y pàs, ac fe’i rhyngipiwyd, a chollwyd ‘chydig o dir. Dyna gyd wi’n cofio yw clywed llais Frank Williams “Beuno, you ….idiot….just do the …simple things”.
Gallai feddwl am ddau ganolwr a fu’n anffodus iawn. Ymunodd Matt Bryon a ni yn ifanc iawn, ac roedd ein cefnwyr yn gryf iawn. Roedd Matt yn chwaraewr o safon, ac fe fyddai wedi datblygu’n ganolwr arbennig inni am sawl tymor i ddod. Yn anffodus i ni, roedd e’n awyddus i chwarae rygbi tîm cyntaf, a chafodd fawr o gyfle oherwydd ein cryfder, ac efallai, ein hanfodlonrwydd i ddod â chwaraewyr newydd mewn. Fe oedd y cyntaf y gallwn ddweud efallai “went North”. Wel fe aeth i chwarae peldroed i’r Cymric, beth bynnag. Ein colled ni, yn anffodus.
Un o’m cydoeswyr i oedd Ifer Arch. Roedd Ifer yn un arall o’r chwaraewyr hynny ro’n i’n ei edmygu’n fawr. Roedd e’n ddigon hapus i gynrychioli’r ail dîm tymor ar ôl tymor, dim ots sawl gwaith byddai’n teithio efo nhw gyda thîm o ddeuddeg, neu dîm ifanc, neu dîm heb reng flaen. Fel hen ben, Ifer oedd wastad yn derbyn y cyfrifoldeb o egluro wrth y gwrthwynebwyr pam roedd y tîm yn fyr ac yn y blaen. Fe fyddwn i’n awgrymu hefyd efallai mai Ifer a gynrychiolodd y Clwb yn y rhan fwyaf o safleoedd dros y blynyddoedd. Dwi ddim yn cofio iddo chwarae yn yr ail reng, ond gallai gredu iddo wisgo pob rhif arall. Synnwn i’n fawr i glywed ei fod wedi chwarae yn yr ail reng rywdro, beth bynnag. Fel sawl un arall, roedd Ifer hefyd yn un o’r chwaraewyr a fyddai wedi gallu chwarae’n gyson i’r tîm cyntaf, oni bai am y ffaith bod ein cefnwyr ni mor gryf.
A phwy arall sy’ wedi cyfrannu’n fawr i’r ail dîm dros y tymhorau? Yn ystod dyddiau cofiadwy Gavin yn gapten i’r ail dîm, roedd Dafydd Llyr ac Eirian Davies, Bot i bawb. Cyn hynny, roedd yr Eirian Davies arall, a hefyd Elfed Charles. Estynnodd cyfraniad Dafydd ac Elfed at fod yn gapteiniaid hefyd. Yn fwy diweddar, roedd Gwyndaf Jenkins yn fwy o utility back i’r ail dîm, ac erbyn hyn, mae Jon Owen fel rhyw utlity committee i’r Clwb. Wrth imi orffen chwarae, roedd Jon yn dechrau ei yrfa gyda’r Clwb. Blwyddyn neu ddwy yn ôl, rwy’n cofio Jon yn egluro pwysigrwydd y Clwb iddo fe. Pe na bai’r Clwb wedi bodoli, byddai Jon ddim wedi chwarae rygbi o gwbl wedi dod i Gaerdydd. Fel un oedd yn dod o Gaerdydd, a fyddai wedi ffeindio clwb yn rhywle yn y ddinas yn absenoldeb y Clwb, doeddwn i ‘rioed wedi ystyried pwysigrwydd y Clwb fel hyn o’r blaen.
Erbyn hyn, mae Jon yn aelod holl bwysig o bwyllgor y Clwb. Hyd y gwn i, mae e’n Ysgrifennydd, ysgrifennydd gemau, a hefyd yn gapten ar yr ail dîm, a hyn oll am yr ail dymor yn olynol. Yn ogystal â hyn, mae e’n hyfforddwr ar y CRICC bob bore Sadwrn. Fe, wrth gwrs, hefyd dderbyniodd ar ail anaf gwaetha’ imi’i weld, wedi hynny dderbyniwyd gan ei gyd-athro Huw Jones. Rwy’n cofio gweld Jon yn syrthio o ‘mlaen i dan y goeden yn Llandaf, ac wrth glywed crac enfawr, dychmygais ei fod wedi glanio ar frigau’r coed, a dyna ro’n i wedi clywed yn torri. Wrth gwrs, roedd y gwirionedd yn hunllefus, ac mae’r graith ar ei fraich yn gwneud i mi deimlo’n ffodus!
Mae yna ddau ganolwr arall a fyddai wedi llenwi crysau rhif 12 ac 13 yn gyfforddus imi dros y tîm hwn. Y cyntaf yw Ioan Prydderch, un arall sy’n dal i fwynhau ei rygbi da’r Clwb. Am ei gem gynta’, daith Ioan ‘mlaen fel eilydd mewn gem gwpan, yn erbyn Barry Plastics, dwi’n meddwl, lle’r ro’n ni ymhell ar y blaen ar funud ola’r gêm. Fe gollwyd y meddiant mewn sgarmes, ac fe gyrhaeddodd y bel un o ganolwyr BP. Wrth i’r bel gyrraedd ei ddwylo, fe daclodd Ioan e “man and ball”. Daith chwiban y dyfarnwr, ac fe gosbwyd Ioan. Roedd hi’n amlwg ei fod yn camsefyll. Hyd yn oed wrth ystyried pa mor araf oedd cefnwyr BP, doedd hi ddim yn bosib y gallai fod wedi cyrraedd mewn cyn lleied o amser. Dim ond nôl yn yr ystafell newid, cefais air ag un arall o’r cefnwr, ac roedd e’n benderfynol nad oedd Ioan wedi bod yn camsefyll. Ei gyflymdra oedd wedi ei ganiatáu i gyrraedd mor gyflym. O hynny ‘mlaen, roedd hi’n amlwg fod chwaraewr arbennig yn ein plith. Pan oedd yn hyderus, doedd neb gwell, gyda’i gyflymder yn ei ganiatáu i fynd tu fas i’w wrthwynebwyr. “Deceptively quick” byddai’r ffordd orau o’i ddisgrifio. Yn anffodus, roedd Ioan yn un arall o’r rhai hynny a ddioddefodd o gael ei ethol yn gapten, a’r problemau di-ri sydd ynghlwm i’r swydd hon. Roedd hi’n amlwg ar brydiau nad oedd ganddo’r hyder i roi ei ben yn ôl a mynd - doedd dim cwestiwn, ar ei orau, byddai cystal â neb yn chwarae rygbi yn y brifddinas. Erbyn hyn, mae’n bleser gweld ei fod wedi adennill ei hyder a’i fwynhad yn y gêm, ac mae’n siwr fod safon ei rygbi wedi codi yn yr un modd.
Un arall o’r un math a Ioan oedd Andy Thomas, neu Stumpy i bawb. Doctor arall, fe gyrhaeddodd y Clwb rhyw dymor cyn imi orffen capteinio’r Clwb. Wrth ei weld, a’i wallt llwyd, y meddwl cyntaf oedd ei fod yn rhywun oedd wedi dod i orffen ei yrfa gyda’r Clwb, ac a fyddai’n fuddiol i’r ail dîm. Wedi sylweddoli nad oedd cweit mor hen ag yr oedd yn edrych, cefais gyfle i chwarae yn yr un tîm ag e’, a sylweddolais yn sydyn y byddai ei gyfraniad i’r tîm cyntaf yn fwy na’r ail. Daith ‘mlaen i’r tîm cyntaf am y tro cyntaf lan yn erbyn y Politechneg yn Nhrefforest (am ryw reswm, mae pob gem ar y cae yna wedi aros yn y cof !). Roedd y rhan fwyaf o’n canolwyr ni wedi bod yn gryf a phwerus, yn cymryd “route one”. Roedd hi’n syndod imi felly, pan dderbyniodd Stumpy’r bel tu fas i’w dwy ar hugain a “drifftio” y tu fas i ganolwr y Brifysgol. Doeddwn i ‘rioed wedi gweld un o fechgyn y Clwb yn gwneud hyn o’r blaen, er y byddai’n digwydd yn fwy aml dros y blynyddoedd nesa’ gyda dyfodiad Ioan a Gareth Hall i’r canol.
Er ei faint, roedd e hefyd yn amddiffyn yn gadarn, a dim ond yn anaml iawn byddai’r gwrthwynebwyr yn llwyddo torri heibio fe. Ond yn ogystal â’i chwarae ar y cae, ymroddiad Stumpy i’r Clwb sy’n aros yn y cof cymaint â dim. Fel doctor, fe fyddai wedi bod yn hawdd iddo ddewis ei gemau, a defnyddio’r cerdyn “on call” pan oedd trip i Barry neu Trelai ar y ffordd. Ond na, byddai yno bob Sadwrn, er yn ddigon cyson yn cwrdd â ni yn yr ystafell newid. Yr enghraifft fwyaf cofiadwy efallai imi, oedd fy ngêm ola fel capten y clwb. Roedd hi wedi bod yn dri thymor hir imi, a ro’n i wedi cael digon. Roedd un gêm ola’ wedi ei drefnu ar ddiwedd mis Ebrill, yn erbyn Canton, oedd ar fin esgyn i gynghrair y WRU. Ro’n ni’n cael trafferth codi tîm, ac roedd Stumpy wedi torri ei drwyn. Doedd gen i ddim llawer o awch i ffonio rownd, a byddai wedi bod yn syml i Stumpy egluro’i fod yn methu chwarae. Ond er tegwch, fe dderbyniais alwad oddiwrtho, yn egluro ei fod yn fodlon chwarae os oedd angen, a dyna ddigwyddodd. Chwaraewyr fel hynny oedd yn sicrhau fod y Clwb yn parhau chwarae pan oedd pethau’n mynd yn dynn.
Ond wedi meddwl yn galed am ganolwyr i’r tîm dychmygol hyn, rwy wedi mynd am ddau o’r chwaraewyr cryf, mawr, yn hytrach na rhedwyr twyllodrus. Efallai nad yw hyn yn dilyn natur gyffredin y clwb o chwarae rygbi cyflym agored, ond wedi dewis rhedwr o faswr, ac wrth wybod y cefnwr a’r asgellwyr, rwy’n caniatáu fy hun i ddewis fel ‘dwi’n teimlo sy’ orau. Nid Llyr Roberts fyddai dewis pawb yn y canol efallai, ond roedd ganddo bopeth ro’n i’n ei edmygu wrth chwarae yno. Ei brif werth, efallai, oedd ei fod yn un oedd yn mynnu ennill gemau, a doedd e ddim yn gwerthfawrogi unrhyw un oedd yn rhoi llai na chant y cant. Roedd e’n ddigon bodlon dweud hyn yn blwmp ac yn blaen wrth bobl, ac roedd sawl un na fyddai’n hoff o glywed gwirionedd fel hyn. Ond fel cydchwaraewr, ro’n i’n ddigon balch clywed ei lais yn cyfarth ar y gweddill i godi ei gem. Roedd e’n debyg iawn i Brian Sullivan fel hyn, er nad o’n i’n ei ofni fe yn yr un ffordd a Brian.
Ar y cae, roedd e’n drefnus a chryf, fel arfer yn dosbarthu, neu’n defnyddio’r chwaraewyr y tu fas iddo i greu lle. Anaml iawn byddai’n bylchi, ond roedd e’n un arall oedd a digon o sens i ddarllen gem yn dda. Roedd e wedi ymuno â’r Clwb fel cefnwr ac efallai bod chwarae fel cefnwr wedi helpu iddo ddarllen gem yn dda. Gan nad oedd yn bylchu’n aml ei hunain, does dim atgof o niferoedd o geisiadau, sydd efallai’n od o rywun a gyfrannodd am ddeng mlynedd yn y tîm cyntaf. Efallai mai’r ffaith nad oedd yn gwneud camgymeriadau’n aml sy’n tanlinellu ei gysondeb yn y canol. Er nad oedd yn rhedwr cyson, mae un enghraifft yn gofiadwy ohono’n mynd heibio’i wrthwynebydd, a hwnnw ar y daith i Frest. Roedd hi’n gais clasurol i ganolwr, a oedd yn deilwng o ennill y gêm. Dim ond un peth dwi’n ffeindio’n anodd credu efo Llyr, a hynny yw sut y llwyddodd, mewn deg tymor a mwy, i osgoi eistedd ar bwyllgor y Clwb mewn unrhyw safle o gwbl. Gyda’r pwyllgor yn newid o un tymor i’r nesa’, roedd hi’n anochel y byddai unrhyw un oedd efo’r Clwb am ryw dri thymor yn gwneud stint o ryw fath ar y pwyllgor, ond rywffordd neu'i gilydd, byddai Llyr ag esgusodion di-ri yn ystod pob AGM, a chynigion di-ri o enwau pobl i dderbyn seddu yn ei le.
Mae dewis yr ail ganolwr ‘chydig bach yn haws. Eto rwy wedi mynd am chwaraewr cryf, direct, efallai gallwn ni ddweud “the ultimate route one player”, sef Ianto Hughes. Mae sawl un o’r tîm dychmygol hyn wedi derbyn clod ac edmygedd unrhyw un a chwaraeodd gyda’n nhw, ond greda’i na edmygwyd neb mwy na Iants. Roedd Ianto’n chwarae’r un ffordd yn y funud ola ag oedd yn chwarae yn y funud gyntaf, hyd yn oed os oedden ni ymhell ar ei hol hi, a doedd dim gwell ysbrydoliaeth i weddill y tîm, neu i gapten. Dim ots pa mor galed oedd pethau, neu’r amddiffyn o’n blaenau, byddai Iants wastad yn awyddus a pharod i dderbyn y bel ar ryw switch fyddai’n ei anfon nôl fewn i reng ôl ein gwrthwynebwyr.
I gapten, roedd Iants yn berffaith. Roedd e’n ddigon tawel yn yr ystafell newid, yn ddigon bodlon gwrando ar yr hyn oedd gan unrhyw un arall i’w gynnig. Roedd hi fel ei fod yn derbyn fod pobl eraill yno i wneud y penderfyniadau, a’i fod e yno i weithredu’r dymuniadau hyn. Petawn ni wedi gofyn iddo redeg trwy wal, dwi’n siwr y byddai wedi ceisio gwneud hyn. Mae’n od, roedd y rhan fwyaf o’n cefnwyr ni dros y blynyddoedd yn chwaraewyr amryddawn, oedd yn gallu chwarae mewn sawl safle ymysg y cefnwyr. Nid un felly oedd Iants. Gallai mo’i ddychmygu fel maswr neu fel cefnwr, a byddai ei adael allan ar yr asgell wedi’i wastraffu’n llwyr. Byddai wedi bod yn debyg i’r ffordd mai Llanelli’n defnyddio Salesi Finau.
Eto, mae ceisio cofio ceisiadau cofiadwy ganddo’n reit anodd. Rwy’n ei gofio’n rhyng-gipio, a rhedeg hyd y cae mewn gem gwpan yn erbyn Llanrumney rhywdro blynyddoedd yn ôl, ond heblaw am hynny, does yr un arall yn dod i’r cof. Dyna gyd galla’i ddychmygu yw taw fe oedd yn gyfrifol am dorri’r lein a sugno rheng ôl y gwrthwynebwyr fewn, cyn inni’r blaenwyr sicrhau ail-feddiant er mwyn i un o’r cefnwyr eraill derbyn y fraint o sgorio. Ta beth, does dim dwywaith y byddai Iants gyda’r cyntaf i gael ei enw ar bapur yn y tîm hwn.
Ac felly at y glory boys ei hunain, yr asgellwyr. O feddwl fod dau ohonynt yn chwarae bob dydd Sadwrn , does dim rhyw lawer o asgellwyr yn dod i’r cof dros y blynyddoedd. Mae hyn naill oherwydd bod unrhyw un yn gallu chwarae ar yr asgell, ac felly mae sawl un wedi cael ei nodi mewn safleoedd eraill, neu’r ffaith ei bod nhw’n chwarae mas ar yr asgell dawel heb ofn derbyn anaf, ac felly mae rhyw fath o longevity naturiol yn gysylltiedig â’r safle. Dwn i ddim. Mae’n anodd cofio pwy oedd yno reit ar y dechrau. O’r rhai cynta’ sy’n dod i’r cof mae Malcolm Rees, yr antithesis i Jonah Lomu. Roedd Malcs yn rhedwr chwim a thwyllodrus, ac yn sicr ddim yn un oedd yn mynd i redeg trwy’r amddiffyn. Mae cais cofiadwy yn erbyn y Meds yn Llanrumney’n dod i’r cof am ryw reswm, er mai efallai fel ysgrifennydd gemau am dymhorau maith y bydd sawl un yn ei gofio.
Fe ddaeth ac fe ddiflannodd asgellwyr drwy’r wythdegau. Enwau fel Gary Pashley, Pete Rees (Chwaraewr 7s orau’r Clwb mae’n siwr), Huw Eurig a Huw Hall wrth gwrs, Sion Hughes, Geraint Jenkin, a David Davies, neu Dimmo i bawb, a oedd yn asgellwr da, ac yn gricedwr arbennig. Bu pob un o’r rhain o gwmpas am dymor neu ddwy, yn yr un ffordd a Marc Edwards, asgellwr ifanc a chyflym a chwaraeodd yn gyson am dymor ar ôl iddo orffen coleg. Y disgwyl oedd y byddai’n gwisgo crys rhif 14 trwy gydol y nawdegau, ac fe’i barnwyd yn chwaraewr ifanc y flwyddyn y tymor hwnnw. Wrth gwrs, fe ddiflannodd i weithio o Gaerdydd, a gwelwyd mohono fe na’r wobr hynny eto!
Erbyn diwedd yr wythdegau, fe gyrhaeddodd Richard Williams fel asgellwr. Roedd Rich yn asgellwr naturiol, ond roedd yr awydd ganddo am fwy o waith nag oedd e’n ei fwynhau ar yr asgell. Wedi tymor ar yr asgell fe newidiodd ei safle i fod yn fachwr, ac er tegwch iddo, wrth geisio’r newid hyn, fe ddaliodd at ei dasg. Ond imi, fel asgellwr y dylai fod wedi aros. Yn ystod y nawdegau, bu sawl un arall yn gwisgo’r crysau 11 a 14. Un o’r mwyaf poblogaidd, sy’n dal i gynrychioli’r ail dîm o bryd yw gilydd oedd Angus McFarlane. Roedd Angus yn asgellwr cryf, a ddenodd yr enw “Crazy horse” gan rai o’i gydchwaraewyr. Ro’n i wastad o’r farn y byddai’n gwneud blaenasgellwr da, ond roedd Angus o’r farn y byddai’n achosi problemau trwy chwarae yno oherwydd na fyddai’n gwybod be fyddai’n ei wneud. Fel canlyniad, mas ar yr asgell yr arhosodd, ac yno bu’n sgoriwr cyson, yn rhedeg trwy’r amddiffyn yn hytrach nag o’u cwmpas. Mae’n od cofio, wrth ystyried cryfder ei redeg, iddo anafu wrth chwarae un Sadwrn, drwy syrthio dros welltyn o wair hir ar y cae, heb fod neb arall o’i gwmpas!
Ar yr asgell arall i Angus trwy flynyddoedd cynnar y nawdegau, oedd Sion Clwyd. Heb os, Sion oedd y gorffennwr orau (best finisher) bu efo ni mas ar yr asgell. Fe ddatblygodd ddealltwriaeth arbennig efo Iants a Llyr a Meurig, a byddai’n gyson yn ymddangos yn y lle cywir ar yr eiliad iawn. Roedd y siarad rhyngddynt yn dda, ac ar sawl achlysur byddai Sion yn diflannu i “cow corner” i dirio cic trwodd gan un o’r chwaraewyr y tu fewn iddo. Roedd ganddo hefyd ymennydd rygbi da, a byddai i’w weld yn aml y tu fas i John neu Gareth, yn disgwyl am y briwsion ar ôl i’r naill neu’r llall fylchu. Bu achlysuron cyson pan fyddai’r Clwb wedi ennill o 50 o bwyntiau, a heb imi sylweddoli, roedd Sion wedi sgorio 3 neu 4 cais. Roedd e hefyd yn un arall o’r rhai hynny oedd yno’n gyson o un Sadwrn i’r nesa’. Os nad oedd ar gael ar ‘bnawn Sadwrn, roedd yn rhaid bod yna reswm da. Byddai dewis Sion i’r tîm hwn wedi bod yn ddigon naturiol, ond, fel Graham Henry, rwy’n caniatáu fy hun i ddewis asgellwr mawr ar un ystlys yn ei le.
Cyn hynny, un neu ddau arall sy’ wedi’n cynrychioli dros y tymhorau. Yn eu plith, roedd ‘na rai fel Darren Phillips, y chwaraewr mwyaf ymroddedig dros y blynyddoedd na werthfawrogwyd fel chwaraewr efallai cymaint ag y dylai fod wedi. Yn ystod y nawdegau hefyd oedd Dafydd Levi, asgellwr cyflym, a enillodd wobr “chwaraewr mwyaf gwerthfawr” yn ystod cystadleuaeth ffantasi’r clwb, ond a oedd a enw o fod â dwylo ansicr. Hefyd am dymor, roedd Rhodri, un arall a llawer o dalent a sgoriodd ceisiadau cofiadwy inni yn y Wîg ac yn Morganstown, a Gwyndaf a Dafydd Iolo, dau o’n cyfeillion o Dregaron.
Ond at y tîm ei hun, mae un dewis digon hawdd, ac un arall ychydig yn llai amlwg. Roedd Emyr Jones yn asgellwr swnllyd a siaradus, ond prin iawn o chwaraewyr y Clwb oedd a chymaint o dalent. Y ffordd orau o’i ddisgrifio yw i gofio cais cyntaf Jason Robinson dros y Llewod yn 2001, wrth iddo fynd heibio’i wrthwynebydd heb fod ganddo fwy na medr neu ddwy i gyflawni hyn. Emyr, am wn i, fyddai unig aelod y Clwb oedd â’r gallu i wneud rhywbeth fel hyn. Roedd e’n asgellwr oedd yn gwybod be oedd ei allu, ac yn un oedd yn dibynnu lawer ar ei hyder. Rwy’n cofio trafod gydag e unwaith, ac yntau’n dweud ei fod e’n gwybod petai’n derbyn pêl “one-on one” unrhyw le o fewn llinell 10 medr y gwrthwynebwyr, byddai’n cefnu ei hunain i sgorio. Unrhyw beth ymhellach na’r llinell 10 medr, roedd e’n debyg o redeg allan o wynt! Dyna oedd ei farn e, a fyddwn i ddim wedi anghytuno o gwbl.
Er ei fod yn gwbl ffyddlon i’r Clwb ar b’nawn Sadwrn, fyddwn i byth yn awgrymu ei fod yn un o’r rhai hynny oedd yno bob nos Fercher yn ymarfer. Yn yr un ffordd, os oedd cawr o wrthwynebydd yn dod tuag ato, yr atgof yw y byddai’n symud o’r ffordd er mwyn diogelu ei iechyd a’i good looks. Mae hyn efallai’n ategu at ba mor dda’r oedd a’r bel yn ei ddwylo. Roedd hi’n hawdd derbyn ei amddiffyn bregus wrth gofio faint ‘roedd yn cyfrannu yn ymosodol. Heblaw am ei gais lawr ym Mhontiets, does dim un arall yn dod i’r cof, ond eto mae’r atgofion ohono fel rhedwr twyllodrus yn glir. Fel un neu ddau arall yn y tîm hwn, efallai mai ei brif rinwedd inni oedd ei benderfyniad i fod yn fuddugol ac yn llwyddiannus. Roedd hyn ar y cyfan yn beth positif, er inni ar brydiau weld yr ochr negatif, mewn sefyllfaoedd efo’i frawd, ac yn fwy cofiadwy byth, ei syrthio mas efo DH yn ystod hanner amser mewn gem yn erbyn Pyle, a arweiniodd at ymddiswyddiad DH fel hyfforddwr. Er gwaetha hyn, byddai Emyr yn aelod arbennig o’r tîm hwn.
Ar yr asgell arall byddwn yn dewis Tudor Young. Mae dewis Tudor yn debyg i’r ffordd imi ddewis Andy Long yn y rheng flaen. Does gen i ddim rhyw lawer o atgofion ohono’n chwarae, ond mae’r atgof yn glir ‘mod i’n ei barchu’n fawr ar y cae. Roedd Tudor yn asgellwr mawr, cryf, ond oedd yn ddigon chwim unwaith iddo fynd heibio’i ddyn. Roedd Emyr a fe’n cynnig gwrthgyferbyniad(?) da ar y naill asgell, gydag Emyr yn fach ac yn dwyllodrus, a Tudor yn gryf, ac yn hapus i redeg trwy yn hytrach na rownd ei wrthwynebydd. Yr unig atgof ohono ar y cae, yw honno lawr yn Nhregaron, ac yntau’n ennill tir gyda chwaraewyr Tregaron rownd ei ysgwyddau. Er bod yr atgofion yn fyr, maent yn ddigon clir imi fod yn siwr taw Tudor fyddai ar yr asgell chwith yn y tîm hwn.
Ac felly at grys rhif 15. Digon syml ar y cyfan. Llenwyd y safle hwn yn gyson gan chwaraewyr ‘dwi wedi’u trafod yn barod, fel Llyr Roberts a Meurig. Yn anaml iawn cafwyd chwaraewyr oedd yn gefnwyr, a dim ond yn gefnwyr. Yn eu plith, blynyddoedd maith yn ôl, roedd pobl fel Huw “Bristol” Davies, ac Owen Jenkins. Roedd chwarae’r ddau hwn yn debyg iawn i’w gilydd. Roedd y ddau yn gefnwyr “soled” nad oeddent yn debyg o wrthymosod o’u dwy-ar-hugain, ond oedd yn arbenigwyr dan y bel uchel, ac, i’r gwrthwyneb i Emyr, oedd yn ddigon bodlon taclo’n gryf lle bo’r eisiau. Un arall o’r un math oedd Gareth James, neu Wiblet i bawb. Roedd Wib yn aelod dibynadwy o’r ail dîm, a ddaeth yn un o drefnwyr pwysig a ffyddlon tîm criced y clwb - yr unig left-arm spinner oedd i’w weld ar gaeau Llandaf fel arfer.
Ond imi, daw neb yn agos at Eryl Jones fel cefnwr. Ro’n i wedi chwarae gydag Eryl yn yr ysgol, ac felly’n gwybod yn iawn sut chwaraewr oedd e. Fe gyrhaeddodd, fel fi, yn syth o’r ysgol, a chafodd ei ddewis i’r tîm cyntaf o’r dechrau. Bu yno am ddau neu dri thymor digon llwyddiannus, cyn iddo dderbyn anaf cas i’w goes, tra’n chwarae yn erbyn Prifysgol Abertawe. Fel un oedd wedi cadw cysylltiad â sawl ffrind ysgol, daith yr egwyl o chwarae yn gyfle i newid tîm ac ymuno â rhai o’i ffrindie ysgol yn Rhiwbeina.
Fe aeth rhyw dri thymor heibio, pan gwrddais i ag ef, a chlywais ei fod yn considro ail-ymuno a’r clwb. Cafodd wahoddiad i ymarfer, a chyn pen dim, roedd e nôl yn y tîm cyntaf. Roedd Rob Thomas yn gapten erbyn hyn, ac fe gymerodd lawer o berswâd imi sicrhau Rob y dylai roi cyfle i Eryl yn syth. Y noson honno, wedi ei gem gyntaf nôl, rwy’n cofio Rob yn diolch imi, a chytuno fod cefnwr arbennig wedi ail-ymuno a’r Clwb.
Ac wedi dod nôl, cafodd sawl tymor oedd yn well hyd yn oed na’i dymhorau cynnar. Fe ddatblygodd berthynas da gyda Meurig, Llyr a Stumpy, ac roedd ei amseru fewn i’r lein yn berffaith. Roedd ganddo ddigon o gyflymder, roedd ei ddealltwriaeth o gêm yn dda, roedd e’n cicio efo’r ddau droed, yn ddiogel dan y bel uchel…roedd ganddo bopeth oedd yn ei wneud yn berffaith i’n dull ni o chwarae.
Ac felly dyna hi. Tîm wedi ei ddewis a fyddai, efallai, wedi dod â llwyddiant inni petawn ni wedi llwyddo tynnu pawb at ei gilydd ar yr un pryd. Mae’n ddiddorol nodi bod saith o’r tîm hwn wedi teithio i’r Drenewydd, yn cadarnhau’r teimlad mai hwnnw oedd y tîm cryfa’ i marn i, a gynrychiolodd y Clwb ar un p’nawn Sadwrn.
15 Cefnwr Eryl Jones
14 Asgell dde Tudor Young
13 Canolwr Ianto Huws
12 Canolwr Llyr Roberts
11 Asgell Chwith Emyr Jones
10 Maswr Rhidian Lloyd
9 Mewnwr Gwydion Lewis
8 Wythwr Ieuan Lloyd
7 Blaenasgellwr Huw Hall Williams
6 Blaenasgellwr John Hayes
5 Clo Gareth Hall Williams
4 Clo Neil Cole
3 Prop Wyn Lewis
2 Bachwr Brian Sullivan
1 Prop Andy Long
Byddai’r tîm hyn wedi bod yn llwyddiannus, dw’i ddim yn amau hynny o gwbl. Ond beth am hyn fel ail dim, i gadarnhau’r teimlad bod cymaint o chwaraewyr da wedi bod yn ein plith ers 1983.
15 Cefnwr Meurig Phillips
14 Asgell Dde Sion Clwyd
13 Canolwr Andy Thomas
12 Canolwr Ioan Prydderch
11 Asgell Chwith Angus McFarlane
10 Maswr Huw Jones
9 Mewnwr Dave Jones
8 Wythwr Gareth Wilkins
7 Blaenasgellwr Dai Lewis
6 Blaenasgellwr Llyr Williams
5 Clo Dave Pemberton
4 Clo Dafydd Idris
3 Prop Frank Williams
2 Bachwr Tony Vobe
1 Prop Kevin Evans.
Byddai’r ail dîm hwn yn rhoi digon o gêm i’r tîm cyntaf. Byddai aggression pum cefn y pac yn sicr o gystadlu’n frwd efo bois y tîm cyntaf, yn enwedig efo Grundy, Dyfs a Rhidian John wrth gefn.
9. Y diwedd a’r dyfodol
Daith fy ngyrfa chwarae i ben ar brynhawn Rhagfyr nôl ym 1996, ar gaeau Caedelyn. Wedi derbyn dros 75 pwyth i ngwyneb dros y blynyddoedd, roedd un galwad ffôn arall o’r CRI yn un gormod, a chytunais ei bod hi’n hen bryd i roi’r ffidil yn y tô(neu’r bŵts yn y bin). Ar y pryd, roedd hi’n anodd gweld be fyddai dyfodol y Clwb, gan fod sawl aelod selog wedi gorffen chwarae dros y tymor neu ddwy cyn hynny. Fel y disgwyliwyd, cafwyd tymhorau heb lawer o lwyddiant i gapteiniaid fel Rhidian, Ioan Prydderch a Dai Owen. Ond erbyn y ganrif newydd, mae gweddnewidiad wedi dod dros y Clwb mewn sawl ffordd. Fe ddechreuodd hyn gydag etholiad Neil Cole yn hyfforddwr. Fe ddaeth hyn a chymeriad mwyaf poblogaidd a dylanwadol y Clwb i safle lle fyddai ei gydchwaraewyr yn gorfod ymateb i’w ymroddiad, ac fel canlyniad, fe gododd ysbryd a safon y chwaraewyr.
Fe gyd-ddigwyddodd hwn ag un digwyddiad arall. Roedd tîm ieuengtud y Clwb, Y Criccs, wedi cael ei ffurfio gan DH, Wyn Lewis a rhai eraill rhyw ddeng mlynedd a mwy ynghynt. Roedd hi’n amlwg mai budd-dal hir dymor oedd hyn, ac er inni dderbyn un neu ddau chwaraewr fel Llyr Evans a Gareth Skelding, pryn oedd yr aelodau newydd i’r Clwb oedd wedi bod yn wreiddiol efo’r Cricc. Ond yn sydyn, fe ddechreuodd y Cricc dalu ffrwyth, ac fe ymddangosodd sawl chwaraewr newydd ar yr un pryd, ac nid jyst chwaraewyr cyffredin, ond chwaraewyr o safon arbennig. Byddai chwaraewyr fel Rhodri Llywellyn(gyda Huw, yr unig mab a thad imi chwarae yn yr un tîm a nhw dros y tymhorau) Gethin Jones a John-Paul Barker yn pwyso’n galed am le yn fy nhîm dychmygol petawn nhw wedi bod yn chwarae ar yr un adeg a mi. Erbyn hyn, mae’n bleser gweld ffrwyth bechgyn Glantaf, yn ogystal ag ambell Gymro sy’ wedi ymuno o’r Gorllewin neu’r Gogledd, ac wedyn yr hen campaigners fel Dafydd Emyr, Dyfrig a Llyr Williams, sy’ wedi bod wrthi am flynyddoedd.
Gallwn ni ddim gor-bwysleisio pwysigrwydd y CRICCS. Fe fûm yn ddigon ffodus i helpu hyfforddi am dymor, a chefais olwg clir o sut y mae’r clwb yn cael ei redeg, ac i werthfawrogi be fydd dylanwad y bechgyn hyn i’r Clwb dros y blynyddoedd i ddod. Mae proffesiynolrwydd pobl fel Dafydd Hampson-Jones, ac ymroddiad yr hyfforddwyr fel Huw Jones a Jon Owen yn wers i bawb sy’n gysylltiedig â’r Clwb cyfan. Fel y dwedais i, doedd gen i ddim cysylltiad ag unrhyw glwb pan o’n i’n ddeunaw oed, ac felly dim ond trwy hap a damwain yr ymunais i â’r Clwb. Erbyn hyn, mae ffynhonnell naturiol o chwaraewyr a fydd, gobeithio, yn dod â chwaraewyr atom dros y blynyddoedd i ddod. Wrth i hyn godi safon y Clwb, mae’n debyg y bydd hyn yn arwain at fwy fyth o ddyfodiaid Cymraeg i’r Brifddinas benderfynu ymuno â’r Clwb, fel canlyniad yn codi’r safon yn uwch fyth.
Mae’r pwyllgor presennol yn un uchelgeisiol iawn, ac mae hyn yn ganlyniad o’r cynnydd uchod. Cyn bo hir, mae’n bosib y bydd gobeithion DH o ddyfodol y Clwb yn mynd i gael ei wireddu. Erbyn 2002, roedd aelod arall o’r Clwb ar fin cynrychioli’i wlad, ac fe ddewiswyd 4 i chwarae dros y District. Gwelwyd mo’r fath am flynyddoedd, os o gwbl yn y gorffennol. Mae dyfodol y Clwb yn disgwyl yn fwy braf nag erioed.
John Parry-Jones Ionawr 2002
ÔL YSGRIF
Ryw 15 mis ar ôl imi orffen yr atgofion uchod, fe wireddwyd y freuddwyd honno o ryw fath o lwyddiant i’r Clwb, ac fe’i gwireddwyd yn y ffordd ore bosib, trwy ennill y Brewers. Er y gobeithion trwy flynyddoedd cynt, yn bersonol byddai llwyddiant wedi cael ei gyflawni trwy gyrraedd 8 ola’r Brewers, neu rownd derfynol y Mallett. Doeddwn i ddim wir yn credu’i fod yn bosib y byddwn i ‘rioed yn tystio’r Clwb yn cael ei goroni’n bencampwyr y wlad ar gae y mileniwm. Ond, ar Ebrill y 12fed, 2003, dyna ddigwyddodd, ac roedd hi’n ddiwrnod i’w gofio i bawb oedd yno.
‘Dwi ddim am fanylu’n ormod ar y tymor. Roeddwn i fel “fair weather supporter” i fod yn deg. Ar ôl i’r bechgyn guro’r Eglwys Newydd yn reit gyfforddus, fe allwn i fod wedi teithio i Blackwood ar gyfer y rownd nesa’. Mae’n rhaid bod yn onest, doeddwn i ddim yn gweld mawr o obaith iddynt, ac felly fe benderfynais aros yng Nghaerdydd am y diwrnod. Fyddwn i’n difaru’n fawr yn ddiweddarach wrth glywed am y perfformiad. Wedi clywed y canlyniad, yr unig beth ar fy meddwl ar y pryd oedd y gobaith na fyddent yn gwastraffu’r cyfle euraidd yma. Erbyn imi gael cyfle i’w gweld yn chwarae eto, roeddynt wedi llwyddo yn Aberbargoed hefyd, ac roedd gem fawr yn erbyn Trefil o’u blaenau. Wrth sgwrsio efo rhai ohonynt yn ddiweddarach, hwn oedd y gêm fawr, ac i raddau, yr un allweddol. Calon ac amddiffyn y tîm oedd mwyaf amlwg wrth iddynt ennill.
Erbyn y daith i Bont-y-pŵl, a’r rownd gynderfynol roedd hi’n amlwg for hyder yn rhedeg trwy’r tîm. Roedd perfformiad y cefnwyr y diwrnod hwnnw yn syfrdanol wrth ystyried y tywydd, ac fel blaenwr, byddai’n esgeulus imi beidio crybwyll perfformiad y pac, yn erbyn pac anferth Girlings. Roedd hi’n fuddugoliaeth gwbwl haeddiannol eto, ac yn fy marn i, roedd y Clwb yn debyg o fynd i Gaerdydd fel ffefrynnau.
I rhai fel fi, roedd yr wythnosau hynny yn arwain at y ffeinal yn rhai llawn rhwystredigaeth. Fe fyddwn i wedi gwneud unrhyw beth i gael bod yno yn chwarae. Bûm yn e-bostio Llyr Roberts yn Awstralia, ac roedd ei deimladau fe yn debyg i mi. Roeddwn i’n genfigennus iawn o’r chwaraewyr, yn enwedig wrth ystyried for un neu ddau yr un oedran a mi, neu hyd yn oed yn hun.
Roedd y diwrnod mawr yn un berffaith ymhob ffordd. Tywydd da, torf fawr, digonedd o gyn-chwaraewyr, a chanlyniad cywir. Eto, roedd hi’n ganlyniad teg, ag eto fel yn y gemau cynt, y Clwb yn llwyddo trwy sgorio ceisiadau a chwarae gem agored yn erbyn pac cryf y gwrthwynebwyr. Roedd hi’n ddiddorol gweld faint o bwyntiau a sgoriwyd ar y ffordd i’r rownd derfynol drwy geisiadau yn hytrach na chiciau cosb. Prin iawn oedd y cicio, eto’n cadarnhau nad oedd steil y chwarae wedi newid rhyw lawer dros y blynyddoedd.
Bu noson gofiadwy i bawb yn Yates wedi’r gêm. Roedd hi’n ddiddorol trafod â rhai o’m gyn cyd-chwaraewyr safon y tîm presennol, a hefyd sut oedd y tîm hwn wedi llwyddo lle’r oedden ni wedi methu yn y gorffennol. Roedd sôn wedi bod, ac roedden i ymysg y rhai oedd yn trafod, nad oedd safon WDRU cystal heddiw ag yr oedd hi wedi bod yn y gorffennol. Byddai hyn yn rheswm syml i egluro sut ‘roedd y bois wedi cyrraedd y ffeinal. Ond wrth imi feddwl yn fanylach, roedd hi’n amlwg nad oedd y safbwynt yma’n un teg. Mae’n wir, mae safon timoedd Caerdydd wedi gostwng wrth i dimoedd fel Fairwater a St.Albans symud i chwarae yn cynghreiriau’r WRU. Ond os oedd safon Caerdydd wedi gostwng, yn sicr doedd timoedd Gwent a chanol Morgannwg heb waethygu, ac roedd y Clwb wedi curo pedwar ohonynt ar y ffordd i’r ffeinal, a thri o’r gemau hynny y tu hwnt i gaeau Llandaf. Doedden nhw ddim wedi manteisio ar gêm gyfforddus yn erbyn tîm o’r gogledd i’w helpu, ac yn ogystal â hyn oll, roedden nhw wedi curo deiliad y cwpan oddi cartref yn yr ail rownd. Na, roedd llwyddiant y Clwb eleni yn gwbwl haeddiannol, ac i’w weld yn ganlyniad o waith caled ac ysbryd da.
Felly’r canlyniad yw mai hwn yw’r tîm gorau sydd wedi cynrychioli’r clwb. Mae’r canlyniadau wedi sicrhau fod hynny’n ffaith. Ond eto, wrth i’r cwrw llifo’r noson hwnnw yn Yates, bûm yn trafod â rhai o’m cyd-chwaraewyr dros y blynyddoedd faint o’r tîm presennol fyddai wedi cael lle yn fy dream team dychmygol. Mae hynny’n anoddach. Mae unigolion da wedi bod efo ni ‘rioed. Ein methiant yn y gorffennol oedd i drawsnewid yr unigolion i greu tîm da. Dyna’r oedd Neil Cole a’i griw wedi cyflawni trwy’r tymor hwn. Rhaid gobeithio bydd y llwyddiant hwn yn parhau am dymhorau i ddod, er mwyn imi, a’m cyd cyn-chwaraewyr gael y cyfle i fanteisio ar esgus i gwrdd â thrafod yr hen ddyddiau, a’u cymharu â’r presennol.
John Parry-Jones Haf 2003
GORAU CHWARAE, CHWARAE TEG by Mel Davies
The following article was taken from March 1976 edition of 'Welsh Rugby Magazine'.
Daw'r erthygl canlynol o rifyn Mawrth 1976 o 'Welsh Rugby Magazine'.
During the 1967-68 rugby season, fresh seeds were sown in the fertile field of rugby in our capital city of Cardiff. The seeds were very much "seeds of Welshness" which have now grown into the strong roots of "Clwb Rygbi", a primarily Welsh-speaking rugby club. This club plays its home matches on Pontcanna Fields and the after-match get-togethers take place at HTV's Social Club in the grounds of the television studios.
There are two parallel philosophies involved in the life of "Clwb Rygbi" and they are firstly to play rugby according to the laws of the Welsh Rugby Union and secondly to further foster the Welsh language amongst Club members. While Welsh is the first language of the club, there is no ban against non-Welsh speakers, as indeed there are a few players who are English nationals and who are very happy in the club.
Of the founder members, only three still remain D.W. (Doc) Jones, Alun Charles and John Richards who is a P.E. teacher at Llanrhymney and who was capped by the Junior W.R.U. in 1969/70. Other founder members have become missionaries of the Union code by going to remoter parts of Wales, as far as rugby is concerned, where they have started other clubs such as Llangefni in Anglesey where ex-Clwb Rygbi man Lyn Davies has introduced our national game. Bethesda has benefited by the efforts of Buckley Wyn Jones while Tregarron have been indoctrinated by Alun Breck Jones.
Problems
THE FACT THAT only three of the original members still remain, even though other former members are spreading the gospel, does in fact highlight the inherent problem of a club such as "Clwb Rygbi" and that is, because it is made up almost entirely of members who have come to work in Cardiff, mainly in the teaching profession , who have no real roots here and therefore the majority will not remain here indefinitely. It therefore resembles a college side but with the added disadvantage of having to see to its own chores such as putting the flags up before games, seeing to the teas after games while having to pay for the privilege of playing so that the overheads such as laundry and hire of HTV's Social Club are covered. Costs incurred on away matches have also to come out of the pockets of players. The "perk" that most clubs enjoy and yet take for granted, which "Clwb Rygbi" greatly miss, is the invaluable contributions made by the 50-and 60-year old members who see to the pitch before a match by doing such jobs as placing of flag posts, and making sure the tea, soup and beer is ready afterwards.
Players in the majority of clubs certainly do not realise how lucky they are when they only have to concentrate their minds on playing. Nevertheless, for all the problems this happy club has a very important factor going for it and that is their unshakeable Welshness, which cannot possibly be explained to the majority not involved with the language. To attempt to do so would only antagonise the situation unnecessarily and we all know, to rephrase an old saying, there are none so deaf as those who will not hear, but to hear these boys at a get-together is a joy to behold. They have a fine choir of voices and for a pleasant change, they all know the words, whether the renditions are of well known hymns or modern folk songs.
Ambition
FROM HUMBLE BEGINNINGS in 1967/68 when their one and only team had a string of uninteresting fixtures, this club have gained in status and stature. They now run three teams with the second XV playing the fixtures that the first XV were playing a couple of seasons ago. The club is a member of the "Cardiff & District" Junior Union and qualifies to enter for the "Welsh Brewers Cup" and the "Mallet Cup" while the Second XV enter the "Ninian Stewart Cup".
Last season "Clwb Rygbi" won the Cardiff and District Sevens for the second time by beating Rhiwbina in the final after having previously won this competition in 1970/71. During last season they reached the last eight of the "Mallet Cup" and after getting to the finals of the Welsh District Sevens they lost 20-16 to Pontypridd Athletic which included three of their first team players.
Naturally enough "Clwb Rygbi Caerdydd" is very keen to have its own ground and clubhouse and is striving desperately hard to make money from various schemes to build up a fund which might one day make this dream a reality. One very ambitious scheme underway is that during the National Eisteddfod this year at Cardigan, they have hired the main pavilion for one night for a "Noson Lawen" which will include entertainers like Max Boyce and Ryan Davies plus possibly a well known international star. Add to this the harmonious offerings from major groups in Wales and maybe the Polyphonic Choir of Cardiff and Pontarddulais Male Voice Choir and the scene is set for a "Noson Lawen" to be remembered for all times.
The total cost for setting this up will be £3,500 so let's all hope the pavilion will be filled to overflowing with Welshness which has paid for the privilege and by doing so help bring the ambitions of "Clwb Rygbi" a little nearer to becoming a reality. It is also hoped that it will attain full WRU status in the not too distant future.
Personalities
UNLIKE OTHER CLUBS, this club does not have a history or tradition to draw on or even laurels to rest on. It has to capitalise on the strength and characters within the existing club and in this it is indeed fortunate. To begin with its former and present presidents are none other than those famous men of rugby for Llanelli, Wales and the Lions, R.H. (Rhys) Williams and Carwyn James respectively. The teams also have a healthy sprinkling of players of no mean repute. Captain of the first XV is Huw (Ike) Davies at scrum half, of present HTV fame but formerly successor to Carwyn James at Llandovery College where he was head of the Welsh Department and in addition coached rugby. During his days at Cardiff University he was captain for the seasons 1967/68/89. He played twice for the Welsh Universities and also played for his home team Cwmgorse when they won the West Wales Cup and became their captain for the following two season. Last year's captain and prolific points scorer is full back Alun (tids) Jenkins a Brynaman man who has scored just on 200 points this season so far. He is a former reserve for the Wales Junior WRU side but is best known at the moment, apart from scoring points, for his masterly control at social occasions. Everyone responds to him as one and apart from being a fine singer he is also know for his fanatical enthusiasm for quiz-games. So good is he at this that he now has his own quiz programme on BBC's "Good Morning Wales" every Wednesday morning. Doc Jones is another tremendous character who is well known for his oratory powers, questionable ability as sponge-man, but fantastic at organising club dances which are held at the Territorial Army Hall every Friday evening before home international matches. These dances bring together old and new friends who are visiting Cardiff for the big match, while they could well be fortunate enough to hear Doc's excellent and much applauded rendering of Myfanwy.
Outstanding Players
FROM THE OUTSIDE-HALF FACTORY in Cefneithin, where you-know-who comes from, another fine outside-half has emerged by the name of Dai Davies. Dai is primarily a scrum half but is such a good player that moving to outside-half offers no problems to him. This is indeed fortunate as the captain Huw (Ike) Davies, the scrum half, also picks the team so the predicament is settled instantly!!!
Of the other players, the majority have played for the first XV of their college or university, such as Graham Bowen (Aberystwyth University), at centre, Dorian Rees (Swansea University), at centre, Beuno Hughes (Swansea University). In the pack "Clwb Rygbi" must be better blessed with hookers than any club, for it has no fewer than three ex-first class players. Returning to Cardiff this year from London where he played for Saracens is Amman United man Roley Davies, while another Amman United player who also played for Bridgend for one season is Howell Evans. Howell was last season's vice captain. The third hooker is Gwyn Williams from Bargoed, who was regular hooker for the Welsh Universities and British Universities when his prop was Fran Cotton of England. Gwyn also played for Pontypool when his props were none other than Bobby Windsor and Charlie Faulkner. He has also played for Cross Keys and Glamorgan Wanderers. From Haverfordwest in Pembrokeshire (to blazers with Dyfed) comes prop Wyn Lewis who was a Welsh Schoolboys' final trialist and second row man Peter (Rocky) Morgan. There is also a North Wales player John Humphreys who has unfortunately been plagued with cartilage trouble throughout this season. Another North Walian is Owen Eames playing at wing three-quarter. A further player with first class experience is prop forward Gwyndaf Davies who apart from having played for London Welsh, is also the son of Wil Davies of Jack and Wil who are the ever popular singers of Welsh folk songs and who can be heard on Welsh radio's record request programmes every week without fail. In the back row there is Dai Lewis at No.8 while the flankers are chosen from Meirion Jones of Ammanford, John Griffiths who played for Caerleon training College while the number one flanker is Alun Charles, wanted by Pontypridd, and one of the three remaining founder members.
Future Hopes
"CLWB RYGBI CAERDYDD" is now a rapidly improving rugby club running three sides but it still suffers from the nomadic tendencies of its players although this has settled down greatly during the past year. The real hope for the future lies in increasing support from boys leaving the Welsh schools at Llanharry and Rhydfelin where Arwel Owen, the 2nd XV vice captain and fixture secretary, is a PE master. He can obviously keep an eye on good prospects. Richard Jenkins is just such a player, who at 18 years of age plays for the first or second XVs as required, in the second or back row.
The future of this club is also assured as long as they retain administrators like secretary Wyn Williams and Martin Williams, now on the BBC production ladder and expense account, whose commitment to training has deteriorated to being just in time to join the boys at the bar!
One thing that Huw Ike Davies has learned will not pay off in the future is that shrewd referees cannot be fooled even when they don't understand the language. During last season's Sevens match against Rhiwbina, one of "Clwb Rygbi's" players was having trouble with his bootlaces so Huw suggested in Welsh, that one of the other players should go down with a feigned leg injury. This the player did, but to the amazement of Huw and his team-mates the referee awarded a penalty against "Clwb Rygbi" for wasting time. The referee stated that he did not understand what was said but he read the situation right enough. Rhiwbina went on to score from the penalty kick. The moral from that must be - "you can fool some of the people some of the time but not all of the people all of the time."
Now that there are so many people in Cardiff who are Welsh language orientated, "Clwb Rygbi" would welcome their support in the future. They could also do with more female support both on the touchline where they can see the boys winning most of their matches and with much needed help after the games. There is already a small nucleus of support from wives and girlfriends plus the dedicated support from beautiful Angharad Anwyl-Thomas. So come on girls give the boys your support and enjoy a friendly atmosphere with fine singing thrown in for good measure. They really have an "uncompromising" lot!
With so many rugby clubs having now reached or about to reach one hundred years of existence, it is exiting to see a young club which has so many characters, players of quality, freshness and ambition and whose motto could well be "Gorau Chwarae, Chwarae teg", which assures a healthy future for the game of rugby and the beautiful Welsh language. Pob lwc I chi gyd yng "Nghlwb Rygbi Caerdydd".
