Am chwarae rygbi i glwb cyfeillgar Cymreig, llawn ysbryd sydd hefyd yn cymeryd y gêm o ddifri?
Mae gan Clwb Rygbi Cymry Caerdydd ddau dîm sy'n chwarae yng Nghyngrair
S.A. Brain Caerdydd. Mae;r clwb yn chwarae eu gemau cartref ar Gaeau Llandaf
a pencadlys y Clwb yw Clwb Trydan, Pontcanna.
Mae chwarae i CRCC yn rhoi cyfle i chi :-
- ymarfer ar nosweithiau Llun a Mercher hefo hyfforddwyr profiadol
- chwarae ar lefel cystadleuol iawn neu is yn ôl eich dewis
- gymdeithasu mewn clwb cymdeithasol bywiog a phoblogaidd
- fynd ar deithiau oddi cartref o gwmpas Cymru Lloegr a phellach....
- Archebu tocynnau ar gyfer gemau rhyngwladol
Am fwy o fanylion cysylltch hefo Rhys Ap William: rhysapwilliam@hotmail.com
