Pwyllgor Newydd
Yn dilyn Cyfarfod blynyddol 2008 etholwyd y canlynol i'r pwyllgor at gyfer tymor 2008-0:
Geraint 'Mogs' Morgan - Capten XV 1af - geraint.morgan@atkinsglobal.com
Mark Beynon -Capten Ail XV
Ceri Evans - Hyfforddwr
Rhys Ap Williams - Cadeirydd
John Owen - Ysgrifennydd
Geraint Hampson-Jones - Trysorydd
Sion Tudur - Ysgrifennyd Cymdeithasol - siontudur@hotmail.com
Neil Cole - Trefnydd y Daith- coley_874@hotmail.com
Aelodaeth
Er mwyn sicrhau dyfodol CRCC mae pob aelod yn talu £13 y mis. Mae'r arian yma yn cael ei ddefnyddio i dalu am y caeau chwarae, dyfarnwyr, bwyd yn dilyn y gemau, bysus, crysau, peli, 'adloniant hylif' ar y daith ayb.
Mae nifer aelodau CRCC wedi gostwng yn y tymhorau diweddar ac er mwyn sicrhau dyfodol y Clwb ar y cae(ac ar y cwrw!) mae'n bwysig i ni wneud ymdrech i ddenu aelodau newydd. Mae pawb yn nabod chwaraewyr da sydd wedi eu rheibio gan yr afiechyd ofnadwy "siopa ar y sadwrn" neu waeth fyth "Syrffio'r sofa"! Mae hi'n adeg da i ddenu 'ogia tebyg i'r clwb ac mae o'n ddyletswydd ar bawb i wneud ymdrech i ddarganfod chwaraewyr newydd. Os mae modd denu 10 chwaraewr newydd i ymuno dros yr haf mi fydd dyfodol y clwb ar y cae ac yn y bar yn ddiogel.
Yn ychwanegol i hyn mae nifer o chwaraewyr "sefydledig" y clwb yn dal i fod yn chwarae heb dalu! O ganlyniad mae gweddill y clwb yn talu ar eu rhan!!! Dwi'n siwr fod pawb yn cytuno - mae hyn yn sefyllfa gwarthus! Mae Rhys Ap William, trysorydd newydd y clwb, a'i gyfaill ffyddlon Dafydd Shurmer am wneud archwiliad manwl o'r llyfrau i ddarganfod enwau'r dihirod diegwyddor yma. Er mwyn osgoi cael eich enwi'n gyhoeddus fel coc oen cywilyddus cysylltwch hefo Rhys Ap i drefnu eich direct debit: rhysapwilliam@hotmail.com
Noddwyr
Ynghyd a arian aelodaeth mae'r clwb yn ddibynnol ar arian gan noddwyr. Mae'r clwb wastad yn chwilio am noddwyr newydd a mae hi'n adeg ardderchog i wneud hyn dros yr haf. O ganlyniad oes modd i chi ddefnyddio eich cysylltiadau personol a proffesiynol i geisio darganfod noddwyr newydd i'r clwb? Mae modd trefnu pecynau atyniadol iawn i noddwyr (yn cynnwys tocynnau i gemau rhyngwladol, enwau/logos ar grysau'r clwb ayb).Ê Am fwy o fanylion cysylltwch hefo ysgrifennydd y Clwb Jon Owen
CRCC Stash
Mae Rhys Ap William wedi trefnu top "stash" CRCC ar gyfer tymor 2006-07. Mi fydd pawb sy'n talu direct debit yn derbyn shorts, sannau a tei y clwb. Ynghyd a hyn mae modd archebu eitmau ychwanegolÊ megis crysau polo, topiau ymarfer ayb. Am fwy o wybodaeth cysylltwch hefo Rhys Ap: rhysapwilliam@hotmail.com
