Gwahoddwn unigolion sydd â chysylltiadau â'r Clwb i ymuno fel Is-Lywyddion am gost o £30 y flwyddyn.
Rydym yn edrych am is-lywyddion ar gyfer y tymor presennol. Mae'r pecyn yn costio £30 am y flwyddyn ac yn cynnwys –
(i) Tie newydd y clwb
(ii) Gwhoddiad i deithio ir gemau oddi cartref
(iii) Gwahoddiad i fynychu holl ddigwyddiadau CRCC
(iv) Noson Is-Lywyddion.
Syniad newydd yw'r noson yma. Mi fydd canran or £30 yn mynd i goffre'r clwb i dalu am y tie ag ati ond mi fydd swm hefyd yn mynd tuag at "Free Bar" i'r Is-Lywyddion ar y noson. Mi fydd manylion y noson yn cael eu cadarnhau ymhen ychydig. Ond y gobaith yw cynnal 'Gentlemans Evening' yn ystod pencampwriaeth y chwe gwlad.
Argraffwch a dychwelwch y bonyn isod wedi ei gwblhau ynghyd â'r tâl o £30 (sieciau yn daladwy i Clwb Rygbi Cymry Caerdydd) os hoffech ymuno â'r Clwb fel Is-Lywydd.
Diolch yn fawr iawn
- Pwyllgor Clwb Rygbi Cymry Caerdydd
Dychwelwch at: Rhys Jones, 7 Turner Road, Canton CF5 1HS.
Sieciau yn daliadwy i: Clwb Rygbi Cymry Caerdydd
