D10
Matches
Sun 14 Apr 2019
Llandaf/Llandaff RFC
11:00
Clwb Rygbi Cymry Caerdydd CRCC
D10
TAITH HIR Y DAN 10 I...LANDAF

TAITH HIR Y DAN 10 I...LANDAF

Emyr Thomas14 Apr 2019 - 21:07
Share via
FacebookTwitter
https://www.clwbrygbi.com/team

And so hold on when there is nothing in you, Except the will which says to them: ‘Hold on!’

Gemau oddi cartre. Oriau yn y car, amgylchiadau estron ac arferion lleol rhyfedd...arhoswch funud, mae hyn yn teimlo'n gyfarwydd!

Y gair i ddigrifio heddiw yw 'oer' - y tywydd a'r perfformiad. Yn anffodus i'r Dan 10 doedd hynny ddim yn wir am Landaf oedd yn gyfforddus drwy gydol y bore ac ar dân ar brydiau. Diolch enfawr i'r gwrthwynebwyr am drefnu'r gêm ar fyr-rybudd. Mae'n grêt cael clwb â meddylfryd tebyg ar garreg y drws er mwyn gallu chwarae yn ystod cyfnodau tawel.

Fe ddywedodd y dyfarnwr wrtha'i cyn cychwyn ei fod e'n dechrau dod i'r arfer â'r gwaith, ac mi gafodd e ddiwrnod da gan adael i'r gêm barhau pan oedd y bêl yn cael ei bwrw ymlaen gan ddwylo oer. O dan awyr las hyfryd, mi chwaraeon ni bedwar chwarter o 10 munud yr un ar gae pwrpasol gyda physt a llinellau (sy'n beth prin i'r oedran yma). Am y ddau gyfnod cyntaf roedd Clwb yn y gêm er efallai yn methu cyrraedd y safon arferol. Yn debyg iawn i'r wythnos ddiwethaf, roedd yr hyfforddwyr yn rhwystredig bod chwaraewyr mewn tir agored yn cael eu hanwybyddu wrth i ambell un benderfynu rhedeg i mewn i gyrff yn hytrach na'r gwagle. Serch hynny, mi wnaethon ni herio amddiffyn y tîm cartref gan ddelio'n effeithiol gyda'u bechgyn mawr. Yna yn ystod y ddau gyfnod olaf fe fethodd y Dan 10 a chanfod y gêr ychwanegol ry'n ni wedi arfer ei weld. Dy'n ni heb ddadansoddi pam oedd hynny eto, ac mi fyddai'n dda clywed barn chwaraewyr a rieni.

Arwahan i'r ffaith bod rygbi yn ymarfer corff da ac yn llawer o hwyl, ry'n ni'n awyddus i ddysgu'r garfan am gryfder bod yn rhan o dîm. Mae tîm yn sefyll yn gadarn wrth ennill a cholli, yn dibynnu ar ei gilydd ac yn ymddiried yn ei gilydd. Efallai i ni weld eisiau ychydig o hynny heddiw? Mae rygbi yn gêm i bawb - mawr, bach, corfforol, twyllodrus, a rhaid i bawb gael cyfle i gyfrannu. Cryfder tîm yw ei undod, nid yr unigolion.

Mi aeth gwobr Seren y Gêm i Eos Hopkins am lynu at y dasg o ledu'r bêl yng ngwres y frwydr. Wrth i bennau ac ysbryd ddisgyn mae'n gofyn am dipyn o gymeriad i ddyfalbarhau. Rhaid sôn hefyd am Gruff 'Haloholo' dafydd am basio celfydd mas o'r dacl.

Mi wna'i gloi am heddiw nid gyda'r 'Ymlaen' arferol, ond Ymlaen gyda'n Gilydd!

Pasg Hapus.

..........

Away matches eh? Hours in the car, exotic new surroundings, strange local customs .....wait a minute, I'm getting a weird sense of deja vous!

One word can sum up today, cold, the weather and our performance. Unfortunately for D10 that wasn't the case for Llandaff who looked comfortable throughout and pretty hot at times. Particular thanks go out to our hosts today for the impromptu fixture, it's great to have a like-minded club on our doorstep who are up for extra matches during fallow periods.

Before kick off the ref told me he was just getting to grips with handling the matches but I thought the had an excellent day showing sympathy for the cold fingers causing the odd knock-on but letting them go in the interests of keeping the game going. Four periods of ten minutes were played on a properly marked out pitch (quite rare at this age group) under a beautiful blue sky. For the first 2 phases, D10 were in the match though not performing to our usual standards. As with last week, the coaches were frustrated by seeing 3-player overlaps going begging as the ball carriers chose to cut back into traffic, but we challenged their defense and dealt admirably with their big ball carriers. For the last 2 periods, D10 lacked the extra gear that we've become used to seeing. Our post-match analysis has yet to come up with the root cause and it would be great to take any feedback the players and parents.

Apart from the fact that rugby is great exercise and a lot of fun, we are keen to teach D10 about the strength that comes from being part of a team. A team stands together in victory and defeat, they rely on each other and they trust each other, perhaps we lacked that a little today? Rugby is a game for all, big, small, confrontational and elusive, the rapier and the bludgeon and we need everyone to get a chance to play their part in every game. If we play today as individuals, will we ever exceed the sum of our parts?

Seren Y Gêm wet to Eos Hopkins for sticking to her task in the heat of the battle and spreading the ball, when heads are dropping all around you it takes a lot of character to keep going. A special mention also goes out to Gruff 'Halaholo' Dafydd for some lovely passing after contact.

So to sign off today, it's not just 'Ymlaen', it's Ymlaen Gyda'n Gilydd!

Happy Easter.

Match details

Match date

Sun 14 Apr 2019

Kickoff

11:00

Meet time

10:30

Instructions

Mi fyddwn ni’n chwarae ar y caeau rygbi ‘mini’ ar Gaeau Llandaf ger Cafe Castan.

We’ll be playing on the mini pitches near Cafe Castan on Llandaff Fields.
Team overview
Further reading

Team Sponsors

Iau Shirt Sponsor - CPS Homes
Iau/ Panto Sponsor - Orchard Entertainment