

Doedd hwn ddim am fod yn fore hawdd.
5 cais ar ei hôl hi wedi 15 munud, roedd gan y Dan 13 broblemau oedd angen eu datrys.
Sut allai Clwb atal y Rocks i ledu’r bêl i’w hasgellwyr cyflym?
Beth allai’r bechgyn wneud i gadw amddiffyn ymosodol y tîm cartre draw?
Cafodd cynllun ei lunio wnaeth lwyddo bron iawn yn syth yn ystod ail hanner cystadleuol.
Wrth gadw’r bel yn dynn yn y leiniau cyn rhyddhau i’r olwyr roedd gan ein tri-chwarteri amser i anadlu.
Mi glosiodd y bois at St Peters mewn amddiffyn gan orfodi camgymeriadau.
Nawr roedd gan Clwb lwyfan.
Ar ei ymddangosiad cyntaf, manteisiodd Josh gyda mellten o rediad o’i hanner ei hun yn curo 4 amddiffynwr i groesi yn y cornel chwith.
Yn fuan wedyn, dawnsiodd Dan lwybr yn 22ain St Peters cyn dadlwytho i Noah garlamodd am gais ar y dde.
Gyda chynifer yn absenol, doedd dim coesau ffres, ac fe groesodd y tîm cartre dawnus am gwpwl o geisiau cyflym yn erbyn cyrff blinedig CRCC cyn y chwiban ola’.
Er hynny, mae Clwb yn arbennig o falch o’r garfan drodd lan, a safodd lan, gyda chefnogaeth frwd o’r ystlys.
Diolch i chi i gyd.
…
This was never going to be an easy morning.
The Under 13’s found themselves 5 tries down after 15 minutes away at St Peters. A puzzle needed solving.
How were Clwb going to limit The Rocks’ success in getting the ball to their speedy outsiders?
What could the boys do in possession to check the home side’s aggressive defence?
A plan was forged which brought immediate results during a competitive second half.
By keeping the ball in tight quarters at the lineout before releasing the backs, CRCC’s three-quarters had a little more space to express themselves.
They squeezed the space in defence, forcing a few handling errors and turnovers.
Now we had a platform.
Josh, on debut, took full advantage with a scorching run from his own half, leaving defenders in his wake to cross in the left corner.
Soon after Dan danced a path for himself deep into the St Peters 22 before offloading to a galloping Noah who touched down on the right.
With so many absentees, fresh legs were at a premium and an impressive home side pulled away again from a tiring CRCC before the final whistle with a couple of quick tries.
Nevertheless, Clwb are immensely proud of the squad that not only turned up, but also stood up, cheered on by great support on the sideline.
Thank you all.
Ymlaen!