Back

Login

Powered By
Pitchero
D14
Matches
Sun 15 May 2022
Clwb Rygbi Cymry Caerdydd CRCC
D14
75
28
Nant Conwy
SOSEJ, CHIPS A LLOND PLÂT O GEISIAU

SOSEJ, CHIPS A LLOND PLÂT O GEISIAU

Rhodri Llywelyn

Clwb sign off the season with a coast to coast win against a touring Nant Conwy

A dyna ni. Mae'r tymor ar ben; ond nid cyn i'r Dan 13 ddangos eu doniau yn ystod gwledd o rygbi ar Gaeau Pontcanna.

Roedd ambell glasur ymhlith y ceisiau wrth i Clwb ledu'r bêl o lan i lan yn erbyn y teithwyr o Glwb Rygbi Nant Conwy.

Croesodd Daniel, Will, Rhydian a Patrick am geisiau; tra i Eifion dirio hefyd am ei gais cyntaf ers ymuno â'r garfan.

Rhaid sôn hefyd am y trosi arbennig gan Gruff Daf a Daniel - dim ond un gic at y pyst oedd yn aflwyddianus.

Mae'n bleserus iawn i weld gwaith caled y tymor yn dwyn ffrwyth. O'r sgiliau trafod i batrymau chwarae a symudiadau mentrus, mae'r datblygiad yn amlwg.

Roedd sosej a chips yn ein haros ni draw yn yr Halfway wedi'r gêm, a chyfle i sgwrsio gyda'n ffrindiau newydd o ardal Llanrwst. Byddai'n braf cynnal y cysylltiad gyda thaith i'r gogledd cyn hir.

Yn y cyfamser, mae Diwrnod Gwobrwyo Adran Iau CRCC ar yr 22ain o Fai yn prysur agosau. Bydd yn gyfle i ddathlu tymor cofiadwy sydd wedi gorffen ar nodyn uchel yn erbyn Nant!

...

And that's it. The season's over; but not before a great show of skilful rugby by the Under 13's on Pontcanna Fields.

A few classic tries were scored as Clwb spread the ball from coast to coast against the tourists from Nant Conwy.

Daniel, Will, Rhydian and Patrick touched down; while Eifion claimed his first try since joining the squad.

The assured converting by Gruff Daf and Daniel must also be mentioned - only one shot at goal was missed all morning.

It's incredibly satisfying to see the hard work paying off. From the handling skills to patterns of play and some enterprising moves, the development is clear to see.

Sausage and chips awaited at the Halfway after the match, and a chance to chat with our new friends from the Llanrwst area. It would be lovely to make the return journey sometime soon.

In the meantime, the CRCC Adran Iau Presentation Day on May 22nd is fast approaching. It'll be an opportunity to celebrate a memorable season which ended on a high note against Nant.

Ymlaen!

Match details

Match date

Sun 15 May 2022

Kickoff

11:00

Meet time

10:15
Further reading

Team Sponsors

Iau Shirt Sponsor - CPS Homes