Back

Login

Powered By
Pitchero
D14
Matches
Sun 01 May 2022
Clwb Rygbi Cymry Caerdydd CRCC
D14
56
29
Pentyrch
SOS AM FUDDUGOLIAETH

SOS AM FUDDUGOLIAETH

Rhodri Llywelyn

Clwb conjure up a referee, post protectors, and victory over Pentyrch

Gan ystyried nad oedd dyfarnwr na gorchuddion ar gyfer y pyst gyda ni ar un adeg, roedd hwn yn fore arbennig o llwyddiannus.

Neil Cole atebodd yr SOS gydag allwedd ar gyfer yr ystafelloedd newid lle roedd y gorchuddion wedi cael eu cuddio; tra i gyn-gefnwr y tîm cyntaf (amser maith maith yn ôl) Huw Davies ddiosg ei ‘Dryrobe’ a gafael mewn chwiban i ddyfarnu gêm fywiog. Diolch bois.

Goroesodd y Dan 13 ddechrau cystadleuol i agor bwlch sylweddol o 35-6 ar yr egwyl. Sgoriwyd y ceisiau o ganlyniad i drafod slic yn lledu’r bêl, a rhedeg cryf at galon amddiffyn y Tyrchs.

Fe wnaeth yr ymwelwyr ymateb ar ôl troi, tra i CRCC wneud newidiadau cyson er mwyn sicrhau bod pob chwaraewr yn mwynhau amser gwerthfawr ar y cae i ddangos eu doniau.

56-29 oedd y sgôr terfynol, a cheisiau Clwb yn cael eu sgorio gan Rhydian (6) a Harry (2). Gydag anel berffaith, llwyddodd Dan a Gruff Daf gyda phob cynnig am drosiad.

Roedd hi’n arbennig o foddhaol i weld perfformiad amddiffynol styfnig gan bawb, ac ymdrech amlwg i gadw’r bêl yn fyw gyda dwylo melfedaidd greodd argraff ar hyfforddwyr y gwrthwynebwyr. Cafodd symudiad ‘Wcráin’ o’r lein ei gwblhau’n llwyddiannus hyd yn oed.

Diolch yn olaf i bob un chwaraeodd am gyfnod dros Bentyrch heddiw - mae cynrychioli'r gwrthwynebwyr wastad yn brofiad da sy'n magu cymeriad.

Byddwn ni wrthi eto ddydd Sul nesa’ yn St Peters cyn croesawi Nant Conwy wythnos yn ddiweddarach.

…

Considering that we were missing a referee and post protectors first thing, this morning turned out very well indeed.

Neil Cole answered the SOS with the most Holy Grail of Clwb artefacts - a key for the changing rooms where aforementioned protectors had been stashed; while former first-team flyer (a long time ago) Huw Davies ditched his Dryrobe for a whistle, and took charge of a lively contest. Thanks gents.

The Dan 13 weathered a competitive start to open a substantial 35-6 half time lead. Tries came through a combination of slick handling pushing the ball wide, and some strong direct running at the heart of the Tyrchs defence.

The visitors responded with a bright spell after the break, while CRCC rang the changes ensuring that every player enjoyed valuable time on the park to show their talents.

It ended 56-29, with Clwb’s tries scored by Rhydian (6) and Harry (2). Dead-eye pair Dan and Gruff Daf slotted every single conversion attempt.

It was particularly pleasing to see a stubborn defensive performance across the board, and a concerted effort to keep the ball alive with velvet hands which weren’t lost on the visitors’ coaches. We even witnessed the ‘Ukraine’ crack-move from a lineout being executed successfully.

Thanks finally to all those who spent a period playing for Pentyrch today - it's always a good character-building experience to turn out for the opposition.

We go again against St Peters on Sunday before welcoming Nant Conwy a week later.

Ymlaen!

Match details

Match date

Sun 01 May 2022

Kickoff

10:30

Meet time

09:45
Further reading

Team Sponsors

Iau Shirt Sponsor - CPS Homes