Back

Login

Powered By
Pitchero
D12
Matches
Sun 01 Mar 2020
Treganna/Canton RFC
11:00
Clwb Rygbi Cymry Caerdydd CRCC
D12
PETHAU BYCHAIN GAN Y DAN 11

PETHAU BYCHAIN GAN Y DAN 11

Rhodri Llywelyn

Celebrating St David's Day with Canton and Caerau

Wedi mis heb rygbi, doedd hanner awr arall ddim yn gwneud gormod o wahaniaeth.

Roedd tipyn o ddryswch ar ôl i ni gyrraedd Parc Jiwbili y bore 'ma, a neb yn siwr beth oedd yn digwydd i gychwyn. Ond ry'n ni'n ddiolchgar iawn i Dreganna am addasu eu trefniadau i'n cynnwys ni mewn bore hir-ddisgwyliedig o rygbi.

Ar ôl i Dreganna a Chaerau chwarae gêm ymysg eu gilydd, mi gyfunodd y ddau glwb i herio Dan 11 CRCC.

Roedd Clwb ar dân i chwarae ar ôl gwylio o'r ystlys am 30 munud. Ar Ddydd Gwyl Dewi, y pethau bychain sy'n bwysig, ac mi roedd y sgiliau'n sicr, y pasio'n gywir, a'r taclo'n ffyrnig.

Mae gwir deimlad bod y criw yma'n dechrau chwarae dros eu gilydd. Yr hyn blesiodd yr hyfforddwyr yn arbennig heddi oedd parodrwydd y plant i basio at gyd-chwaraewyr yn hytrach na chadw gafael yn hunanol a mynd eu hunain.

Canlyniad "gadael y bêl i wneud y gwaith" oedd sawl cais cofiadwy gan Clwb.

Mi fydd ymarfer yn Gôl nos Wener. Mae manylion ar y wefan. Nodwch a ydych chi ar gael ar yr app neu'r wefan.
..........
After a month without rugby, another half an hour didn't make much difference.

There was some confusion after we arrived at Jubilee Park this morning. Initially, nobody knew what was going on. So we're thankful to Canton for adapting their plans to include us in a long-awaited morning of rugby.

Once Canton and Caerau had played a match against each other, both clubs combined to challenge the CRCC Under 11's.

Clwb we're like coiled springs having been spectators for 30 minutes. St David's famous sermon was to do the little things, and it was fitting on this of all days that the skills were sure, the passing accurate, and the tackling ferocious.

There's a real feeling that this crew are starting to play for each other. What was particularly pleasing was the readiness of the kids to pass to team-mates instead of clinging on selfishly and going themselves.

By letting "the ball do the work", Clwb scored loads of memorable tries.

We'll be training at Gôl on Friday. Details are on the website. Please state availability on the app or website.

Ymlaen!

Match details

Match date

Sun 01 Mar 2020

Kickoff

11:00

Meet time

10:30

Instructions

Cwrdd am 10:30 ar yr hwyraf - chwiliwch am faner y Dan 11!
Bydd bwyd i ddilyn yng nghlwb Treganna ar Rhodfa Lawrenny.

Meet 10:30 at the latest - look for the Dan 11 flag!
Food to follow in the Canton clubhouse on Lawrenny Avenue.

Ymlaen!
Further reading

Team Sponsors

Iau Shirt Sponsor - CPS Homes